Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAMS Watchmaker & Jeweller. 29, CASTLE STREET SWANSEA. Gyjnry ikoff dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyan aur Oriaduron ac awrleisiau, Genftu, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd Gwres-fesurydd, cwmpawd m6r, Geir gan WILLIAMS, Heol.y Castell, Trowch i mewn i weld ei stor
OYFAROHIAD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OYFAROHIAD I LIZZIE, merch newydd-anedig y Parch. E. James, Ehiwfnwr, Angyles serch yn nghol swyn—a wena YD dyner fel gwanwyn, Boed beddfyd bywyd addfwyn A donian Duw yn ei dwyn. Bi lion yabryd yn liawn asbri-ionane, A newydd ei hyni; Rbyw am o aur yw i mi. Y ddelaf i'w haddoli. Hanfodion pob gwyntydau-oleuo Yn lewyreh i'w llwybrau, A gwiwfad ddylanwadau Pur o byd fo yn parhau. Dibleser oedd byd beb Lizzie—dirion, Yn dorneth o dlysni. Boed gwenau hedd byd gwyi iddi, A nefoedd wen fo iddi hi Coleg Bala-Bangor. J. OWEN (Dyfnallt).
NODIADAU .WYTHNOSOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODIADAU WYTHNOSOL. 0 Yw ol y newyddion diweddaraf o China nid yw sefyllfa tramorwyr yn gwella dim yno. Dywedir mai nid gelyniaeth at Gristionogaeth fel y cyfryw sydd wrth wraidd yr erledigaeth, ond mai casineb at dramorwyr o bob math ydyw. Mae masnachwyr tramorol wrth gwrs yn byw gan mwyaf yn y trefi porthladdol sydd yn agored i bawb, ond y mae y Cenhadon yn ymwthio yn bellach i'r canol- barth, ac felly yn fwy agored i ymosodiadau. Cwynir gan Brydeinwyr yno nad yw Lloegr yn dangos digon o benaerfynolrwydd i hawlio ymchwiliad trylwyr i'r achosion o'r ymosodiad llofruddiog yno. ac ofnir y bydd yno ragor o derfysgoedd eto oni wneir rhywbeth yn fuan i argyhoeddi John Chinaman nad yw i gael ei ffordd ei hun heb ei alw i gyfrif a'i gospi yn ol ei haeddiant. :> Tra y mae Cymdeithas Genhadol Llundain yn teimlo yn bryderus am sefyllfa y Cenhadon oil yn China, mae' Cymru yn teimlo dyddordeb neillduol yn amgylcniadau ein Cenhadon Cymreig. Da genym eu bod hwy hyd yms yn teimlo yn galonog ac hyderus am •a dyogelwch, er has gwyr neb pa mor gynted y gall terfysg eto dori allan. Oddi wrth lythyrau y Parchn. William Owen a Dr. Griffith John, mae yn bur eglur mai swyddog- ioa y Llywodraeth yno lydd^yn cynhyrfu y werin, mewn modd llechwraidd, i ymosod ar y dyeithriaid. Rhaid i deyrnasoedd Ewrop ac America hawlio fod tramorwyr yno i gael eu hamddiffyn gan y wladwriaeth tra fyddont yn ymostwng i ddeddfau yr ymerodraeth a rhaid i'r tramorwyr hefyd ddysgu parchu teimladau y brodorion yn mhob modd, gan fod yn ofalus i beidio rhoddi achos tramgwycld i neb, Mae perthynasu foesol agos rhyngom a Madagascar, gan mai dau Gymro o Sir Aberteifi oedd y Cenhadon cyntaf yno. Nid o«8 genym fawr i'w ychwanegu am y wlad hono heddyw mewn ffordd o newyddion. Mae papyrau xwyddogol Ffrainc wrth gwrs yn paentio pob peth yn ffafriol i'r Ffrancod, ond mae llythyrau teithwyr oddi yno yn dangos pethau mewn lliw pur wahaROl. Er hyny cytunir yn weddol gyffredinol fod prif-weinidog Madagascar yn dra anghymwys i lywyddu mewn adeg mor gynhyrfus. Fe gonaein darllenwyr mai dynes gydmarol ienanc-tua 35 mlwydd oed—yw y Prenhines, ac iddi ddod i'r orsedd tua 12 mlynedd yn ol. Yn fuan wedi hyny priododd a'r prif-weinidog, dyn mewn gwth o oedran. Bn. yn wlad- weinydd galluog iawn yn ei ddyddiau goreu, ond yn awr yn ei henaint nid yw yn medru cyflawnu ei ddyledswyddau yn briodol, er ei fod yn parhau yn brif-weinidog. Parhau yn gyndyn ymae y Twrc. Mae yn foddlon ymgynghori yn dragywydd er mwynlladd amser, ond nid yw yn foddlon gwneud dim arall. Mae teyrnasoedd Lloegr, Ffrainc, a Rwssia yn hawlio fod Armenia i gael ei rheoli gan gyngbor o seithwvr da eu gair, a bod tn o'r cyfryw i gynrychioli y tair teyrnag uchod. Nid yw hyny yn cytnno dim ag archwaeth y Twrc, ac y mae yn gwneud cuchiau cat. Pe bnaeai. efe ychydig yn gryfach, baasai yn debyg o droi at y galluoedd hyn i'wgorcbymyn i. ofalu am eu busnes en hunain, a dweyd 'y maddyg iacha dyhun' wrth bob nn o honynt, oblegid y mae eu dwylaw hwythau yn llawn Q waed cenhedloedd goresgynedig. Mae Cyngres Undeb y Crefftwyr i'w chynal yn Nghaerdydd yr wythaos hon. Mae dosbarthiadaa canol, ae yn neillduol ddofbarthiadau ucbaf, cymdeithas yn ceisio anwybyddu y oyfarfodydd hyn, ond credwn ni mai m«wm cjfarfodyid o'r UAh jma y mu ieohyd a dyogelwoh cymdeithas yn Mhrydain. Mae y gweithwyr gorthrymedig yn iachach wedieaelcyflei ollwng. allan eu teimladau mewn areithiau tanllyd, yn He drwy gyfrwng tftn-belenau a dynameit; ac y mae y cyhoedd yn eael eu dysgu yn sicr, er yn araf, fod gan y gweithwyr gwynion tega rhesymol. Da iawn genym fod rhai aelodau seneddol yn perthyn i'r Gyngres: byddai yn ddoeth i'n harweinwyr gwleidyddol oli dalu y sylw manylaf i weithrediadau undeban y gweithwyr yn mhob man. Nid ydyw rhaglen y Gyngresyn Nghaer- dydd wrth law genym pan yn ysgrifenu, ond credwn y bydd Blwydd-dal i'r gweithwyr yn debyg o gael sylw yno. Gwnaeth y CELT ei ran yr wythnos ddiweddaf i owed y mater gerbrony.cyboedd.Bu D. E. Williams, Ysw., Y.H., Hirwain, yn dadleu o blaid hyn am flynyddoedd. Cof genym am lythyrau crynon oddi wrtho yn y S.W. Daily News er Financial Reformer yndaagos pa fodd y gellid eael arian i sicrhau -Blwydd-dal rhesymol i holl weithwyr y di-yrnas yn eu henaint. Nid ydym ni yn proffesu ein bod yn ddigon hyddysg yn y manylion i egluro ei gynllun yn gyflawn, ondgwyr pawb mai treth ar y ground rents a'r royalties oedd un ffynhonell, beth bynag, o ba nn yr oedd yr arian i ddod. Pob llwyddiant i'w ymdrechion ef a phawb eraill. Dydd lau diweddaf taflwyd iref Aber- ystwyth i dristwch prudd gan y newydd blin fod dwy foneddiges oedd yno ar ymweliad wedi boddi. Eu henwau oedclynt Miss Poole, o Lerpwl, a Miss Randle, o Newbridge, Aethant hwy a dau foDeddwr gyda hwy allan mewn ewch pysgota dan ofal Mri. John ac Evan Davies. Yr oedd ygwyntyn bur uchel, a gwnaeth t6n gref dipyn o niwed i'r eweh, fel y penderffnwyd dychwelyd i dir yn union; ond wrth groesi y bar dymchwelodd y eweh. Suddodd Miss Poole yn union, ac ni chafwyd y corph hyd tranoeth. Gwaredwyd Miss Randle, ond yr oedd yn anymwybodol a bu farw yn fuan. Cynhaliwyd trengholiad ar y cyrph a dychwelwyd y rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn Tabor, Brynoaws, pregethwyd gan y Parchn. J. Davies, Cadle; a B. Rees, Boct, Cwmafon, y Sal a'r I4sd diweddaf.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAMS Largest Stock in Wales. 22et Gold Wedding Mngs. 18ct Gold Keepers. ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. Brazilian Crystal Spectacles 29, CASTLE STREET, SWANSEA.