Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAMS Largest Stock in Wales. 22ct Gold Wedding Rings. 18ct Gold Keepers. ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. p acles Brazilian Crystal Spectacles 29, CASTLE STREET, SWANSEA.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
WILLIAMS Watchmaker & Jeweller. 29, CASTLE STREET SWANSEA. G-ymry hoff! dfewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd Gwres-fesurydd, cwmpawd m6r, Geir gan WILLIAMS, Heol-y Castell, Trowch i mewn i weld ei st8r
NODIADAU WYTHNOSOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODIADAU WYTHNOSOL. -0- DYDD Iau diweddaf gQhiriwydy Senedd hyd Tachwedd ISfed mewn enw, ond gan nad oes fwriad i gael eisteddiad Hydrefol, diau na 'i chyferfydd y senedd eto hyd Chwefror. H Yn yr etholiad diweddar addawai y Toriaid wneud pobpeth, ac y maent yn parhan i addaw yr un fath o hyd; ond yr aflwydd yw nad ydyut yn gwneud dim ond addaw. LL Mynegir fod y Geri Marwol wedi tori allan ynbur ddrwg meTvn rbanau o China, a bod tua dwy fil yn marw o hono yn ddyddiol yn Pekinynunig. Mae yr ymchwiliad i'r ymosodiadau ar y "gorsafoedd cenhadol yn parhau i gael ei ddwyn yn mlaen yn mhresenoldeb cynrychiolwyr Prydain ac America. Gan fodei fawrhydi, y Twrc, yn parhau yn ystyfnig- acyn gwneud pob math o esgusodisn drosbeidio cydymffurfio a chais galluoedd Ewrop am ddiwygiadau priodol yu nglyn a Uywodraethiad Armenia, credir y gwna Arg. Salisbury, anfon rhybudd terfynol iddo bellach, ac yr anfona y Llynges i fyny i dueddau Twrci yn barod i dan-belenu Oaercystenyn ar unwaith os na cheir atebiad boddhaol. ..1 Pur ranedig ydyw y Blaid Wyddelig yn bresenol. Ychydig yw rhifedi y Parnelliaid, ond mae y Gwrth-Barnelliaid yn lluosog. Erbyn hyn y mae y Gwrth-Barnelliaid yn ymladd a'u gilydd. Mr. Justin M'Carthy yw yr arweinydd awdurdodedig, ond y mae Mr. Tim. Healy yn ffurfio plaid o ganlynwyr iddo yntau. Tr wythnos o'r blaen bu etholiad yn South Kerry rhwng un or ganlynwyr M'Carthy ac un o ganlynwyr Healy, pryd y cafodd yr olaf gurfa druenus. Mae M'Carthy yn awr yn galw at bob rhan o'r wlad i fod yn ffyddlon fel South Kerry er mwyn dysgybl- aeth a chydweithrediad. Raiblynyddoeddyn ol aeth Sais o'r enw Mr. Stokes allan i ardal y Congo yn Affrica yn genhadwr Ueygol dan y Gymdeithas Genhadol Esgobaethol. Mae y Congo er ys deng mlynedd bellach yn deyrnas ynddi ei hun ar lan afon o'r un enw. Meddienir y deytnas hon gan Belgium. Qddi yno y llywodraethir hi, a brenin Belgium yw ei brenin hithau. Yn mhen amser trodd Mr. Stokes allan yn faenachwr, a bu yn llwyddianus iawn yn ei fasnach. Yn mysg pethau eraill yr oedd yn gwerthu gynau a phylor. Lladratawyd llawer o'r gynau hyn gan y brodorion. Tybiodd Cadben Lothaire fod Mr. Stokes wedi gwerthu y gynau i'r brodorion, yr hyn sydd yn groes i gyfraith y wlad; a gorchymynodd ei ddal fel troseddwr, a chrogodd ef yn ddi-seremoni. Y mae llywodraeth Lloegr yn gwneud ymchwiliad maowl i'r helynt, ac ni wyddys beth fydd y diwedd. Mewn colofii arall gwelir ysgrif ar sefyllfa y Rhyddfrydwyr yn Nghymrn, fel yr amlyg- wyd hi yn nghyfarfod mawr Llandrindod. Y mae adroddiad Mr. B. G. Evans genym mewn liaw, ond gofod a balla i ni eigyhoeddiyr wythuos hon. Gwyddom am rai lleoedd oeddent yn bwriadu sefydlu canghenau o Gyngrair Cymru Fydd er ys tro, ond gan i'r gyngrair hono gael ei suddo yn y. Gyngrair Genadlaethol oedwyd gwneud dim ar y pryd er mwyn rhoddi cyfleusdra i Gyngrair y De a'r Cyngrair Genedlaethel i gytuno a'u gilydd. Ar ol cyfarfod Llandrindod teimlwn ein bod yn rhydd i gychwyn eto. Nos Sadwrn diweddaf cyflawnwyd llofrudd- iaeth erchyll yn Llundain. Foreu dydd Sul cafwyd corff dynes ar yr heol, a'r pen bron wedi ei dori ymaith. Yr oedd yn amlwg fod yddynes wedi ei baeddu hefyd yn dost, gan fod asgwrn y penglog wedi ei guro i fewn. Dydd Llun rhoddodd dyn ei hun i fyny i'r heddgeidwaid, gan gyfaddef, mai efe oedd y llofrudd. Mae efe wedi ei gymeryd i'r ddalfa er nad oes gyflawn sicrwydd ychwaith mai efe oedd yllofradd. Cymerodd damwain ddifrifol leyn More- cambe, Gogledd Lloegr, dydd Llun diweddaf. Yr oedd y dref yn llawn o ymwelwyr am y dydd, ac yr oedd torf fawt yn y porthladd yn barod i gychwyn allan am trip mewn agerfad. Yn sydyn ymollyngodd y piler a hyrddiwyd tua haner cant o bersonau blith-draphlith i'r dwfr pan oedd y llanw yn dod i mewn yn gyflym. Cafddd lIawer, o honynt eu niweidio a'u harcholli yn fawr, a chollodd dwy ddynes eu bywydau, ac Ofnir am adferiad rhai o'r lleill hefyd. Mae yn hys%s i Inaws o'n darllenwyr fod y firm W) un y perthynai Syr William Davies, diweddar Aelod Semeddol dros Sir Benfro, wedi methu. Cynhaliwyd cyfarfod o'r echwynwyr dydd Uun diweddaf i ystyried yr amgylchiadau. Ymddengys fody dyledion tua £ 67,000, a'r eiddo yn werth tua £ 23,000. Penderfynwyd ar bwyllgor i wneud ymchwiliad pellach, agohiri wydycyfarfod ant fythefnos. Digwyddodd dwy ddamwain ,flin yn Nglofeydd Morganwg dydd Liun diweddaf, pan y collwyd haner dwsin o fywydau yn inhob un o honynt. Yn mhwll Tynybedw, Cwm Rhondda, torodd y rhaff ar ben y pwll. Dygid y glowyr i fynv drwy ffordd arall yny prydnawn, onddigwyddodd damwainynowedynpryd y dymchwelwyd y cerbydyn cynwys chwech o bersonau y rhai a hyrddiwyd i dragwyddoldeb ar unwaith. Ger Aberdare Junction y digwyddodd y ddamwain arall, yn hwyr yr un dydd. Suddo, pwll newydd yr oeddid yno. Dygid chwech o bersonau i fyny mewn cerbyd cyffelyb yno hefyd. Tarawodd y cerbyd rywfodd yn erbyn yr ochr nes ei ddymchwelyd, a thaflwyd y chwe' dyn i lawr i'r gwaelod—dyfoder o 750 troedfedd. Mae y ddwy ddamwain mordebyg i'w gilydd ar yr un dydd wedi taenu tristwch cyffredinol dros yr holl ardaloedd.
MARWOLAETH Y PARC a. W. JONES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH Y PARC a. W. JONES, TREDEGAR. Bu farw y Parch. William Jones, gweinidog Elim, dydd Sadwrn diweddaf, a bydd y corff yn cael ei gtaddu dydd Iauyn Cefngoleu am haner awr wedi tri o'r gloch. Yr oedd yr > ymadawedig yn enedigol o Sir Pon. Ganwyd ef yn Bodedeyrn yn 1815. Dechreuodd bregethu yn 16eg oed. Urddwyd ef yn weiutdog yn Lerpwl yn 1841. Bu am dymor drachefn yn Aberystwyth; ond symudodd yn 1853 i Tredegar, He y bu yn weinidog am y tymor hirfaitho 42 mlynedd mewn parch cyffredinol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y ddau fardd cadeiriol, Hwfa Mon ac Elfet Lewis, yn nghyda'r Parch. J. G. Jones, Cwmogwr, fu yn gwasanaethu yn nghyfarfod blynyddol y Wern, Aberafon, y Sabboth a'r Llun diweddaf. i 11