Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y FASNACH FEDDWOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y FASNACH FEDDWOL. MAE cyfeillion yr egwyddor wirfoddol yn unol yn y gred nas gellir drwy rym cyfraith newid calon pechadur. Peth hollol anefleithiol i seiydlu edifeirwch yn y meddwl fyddai gweithred seneddol i'r perwyl hyny. Gall dynion drwy gyfraith gael eu newid mewn proffes, ond nis gall cyfraith newid eu calonau. Sut ynte y mae cyfeillion yr egwyddor wirfoddol dros gyfraith i roddi pen ar y fasnach feddwol 1 Yr ateb yw, mai nid dwyn dyn i edifeirwch am bechod yw yr unig ddaioni sydd i'w gyr- haedd. Os bydd lleidr yn yspeilio, nid goruchwyliaeth i ddi- wygio y lleidr yw carchar, yn gymaint a nawdd i'r deiliaid rhag ymosodiadau'r yspeiliwr. Gobeithiry bydd y gosb yn ei argy- hoeddi o'i ddrwg; ond rhaid ei gweinyddu er mwyn diogelwch, pa un a edifarha'r lleidr neu beidio. Y dyn nad yw'n gymhwys i fod yn rhydd, rhaid ei roi yn rhwym er mwyn eraill. Ar yr un egwyddor, er mwyn diogelwch cymdeithas, y mae'n iawn i'r Uywodraeth ymyraeth i reoleiddio 'r fasnach feddwol, o herwydd y perygl y mae hi yn ei achosi i gymdeithas. Nid ydym, ar un cyfrif, am i'r llywodraeth ymyraeth gormod, i'r hyn y mae llyw. odraethwyr wedi bod yn ddigon tueddol. Nid doeth fyddai i'r llywodraeth erlyn pob math o gyflawnwyr castiau anonest. Ond pe cedwid ty gan neb o'r deiliaid i dderbyn eiddo lladrad, ac i gefnogi meibion a merched, gweision a morwynion cymydog- aeth i ddilynllwybrau anonestrwydd, byddai yn bryd i'r ynadon roi pen ar y fath fasnach anonest yn uniongyrehol drwy rym cyfraith. Mae meddwdod y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd yn gwneud llawer mwy o ddinystr ar eiddo a bywyd na lladrad y wlad. Os yw yn iawn rhoddi terfyn ar ladrad, o herwydd ei anghyfleusdra i'r deiliaid, mwy o lawer y mae'n gweddu trefnu mesurau i roddi terfyn ar feddwdod, yr hwn sydd yn achosi llawer mwy o golled i'r deiliaid mewn eiddo, ac hefyd yn lladd miloedd o honynt bob blwyddyn. Dywedir fod dros driugain mil o bobl yn flynyddol yn cael eu lladd drwy anghymedroldeb yn y Deyrnas Gyfunol. Pe cyflawnent hunanladdiad yn unrhyw ffordd arall, attelid hwy gan y gyfraith. Ond y mae'r gyfraith gyda ni yn trwyddedu'r hunanladdiad yma, drwy gefnogi'r fasnach feddwol, fel y mae triugain mil o fodau dynol yn cael eu hyrddio yn anamserol i fyd arall bob blwyddyn, ac y mae'r llywodraeth yn cael yn bur agos i hanner ei chyllid oddiwrth y fasnach feddwol. Y mae'r myglys a'r diodydd meddwol yn rhoi i'r llywodraeth dros hanner ei chyllid, sef 32 miliwn, a'r cyllid ynr'62 miliwn. Mae pethau yn bur anghyson yn ein byd dyrys- lyd. Mae'r llofruddion yn cael eu crogi, a'r rhyfelwyr sydd yn lladd eu miloedd yn cael eu hanrhydeddu a'u talu 'n dda, er fod ami i un o honynt yn llawer mwy llofruddiog na'r llofruddion. Y mae gwyr y fasnach feddwol yn dinystrio mwy o ddynion na'r rhyfelwyr a'r llofruddion gyda eu gilydd, ac y maent yn talu rhan dda or yspail i'r llywodraeth, yr hyn yn ddiau sy'n un rheswm da paham y maent yn cael cystal llonydd i wneud eu gwaithr Golyga llawer y geiriau uchod, mae'n debyg, yn eiriau celyd. Ond pan gofiom fod y fasnach feddwol yn costio i Brydain Fawr yn bur agos gymaint o fywydau a brwydr Waterloo bob blwyddyn, y mae'n anhawdd defnyddio geiriau tyner i osod allan weithrediadau mor waedlyd. Deng mil » thriugain o fywydau a gostiodd brwydr fythgofiadwy Waterloo; ac y mae'n agos i'r un nifer yn cael eu lladd bob blwyddyn gan feddwdod yn y Deyrnas Gyfunol Nid ydym yn awr am ddadleu ai cyfreithlawn neu beidio yw gwerthu diod feddwol yngymedrol i ddynion. Gwyddom am rai tafarnwyr na werthant ddiod o gwbl ar y Sabbath, ac ni werthant ddiod feddwol o gwbl i ddyn a fyddo wedi cael gor- modedd. Pob parch i'r gofal yma am reolau moesol a chrefyddol. Ond anaml iawn y ceir y fath bobl rinweddol. Yr arfer gyda thafarnwyr yw gwerthu tra dalio pocedau y prynwyr i dalu. Gwelsom y dideimladrwydd mwyaf anfad yn cael ei ddangos, a dideimladrwydd mawr yw gwneud masnach o bechod a gwendid dynion. Mor ddideimlad mewn tafarnwr, er mwyn ychydig arian, yw rhoddi diod i'w gydgreadur i'w feddwil Gwelsom dafarnwyr yn gwerthu diod i ddyn blysig cyn hyn, ac angen bwyd ar ei gylla, a dillad am ei gefn. Mae'r tafarnwr yn cyf- ranogi o bechod y dyn. Gwae a roddo ddiod i'w gymydog," &c., Hab. ii. 15. Dideimladrwydd ysgeler yw derbyn arian gan feddwyn, a gwybod fod y wraig a'r plant eu heisieu gartref. Gwrthodai yr Iuddewon wneud dim åg arian yr Iscariot, am eu bod yn werth gwaed, ond yn unig prynu & hwynt Aceldama yn gladdfa dyeithriaid. Mae arian llawer tafarnwr yn werth dagrau 'llawer gwraig, a dillad lUwer plentyn, a thangnefedd llawer teulu, yn werth bywyd llawer meddwyn, ac yn werth enaid llawer dyn sydd wedi damnio ei hun drwy feddwdod. Anaml iawn y gwelir llawer o fendith ar arian wedi eu gwneud drwy'r fasnach feddwol. "Bendith yr Arglwydd sy'n cyfoeth- ogi." "Arian sy'n cyfoethogi," meddai'r tafarnwr anfoesol. Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuw- iolion lawer," meddai 'r Ysgrythyr. Arian difendith Maent yn fwy o farn na chysur i'w cael. Arian drwg! arian diwerth ydynt; nid ydynt yn werth grot y peg. Y tafarnau man sydd i'w cael yn ddirifedi yn mhob pentref, nid ydynt ond magi i rwystro gwlad. Y maent yn hollol ddi- angen, ac yn felldith a rheg lie y byddont. Cydnabyddwn fod angen tai cyhoeddus er mwyn teithwyr a phobl a driniant fas- nach. Ond y diottai a soniwn am danynt; nid ydynt ond lleoedd i lygru, i dlodi, i wenwyno cyrff, a dinystrio eneidiau dynion. Nid oes gan neb hawl i fasnachu mewn pechod ac anfoesoldeb. Y mae mawr angen cyfnewidiad buan ar fasnach feddwol y wlad. Y mae hi yn bur anfoesol a hynod lofruddiog. Dylai wyneb cymdeithas, a chyfreithiau ein teyrnas, fod yn erbyn tafarndai llygredig (ac ychydig iawn sydd heb fod felly), fel yn erbyn caethwasiaeth, neu yn erbyn puteindai, neu yn erbyn tai i dderbyn eiddo lladrad; oblegid y mae masnachu mewn pob math o anfoesoldeb yn myned o dan seiliau cym- deithas.

[No title]