Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Eirgafion,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eirgafion, PENNOD IV.-MR. JOHN JONES 0 EDEYRN. GAN Y PARCH. E. DAVIES, TBAWSFYNYDD. (Parhad.) YR oedd ryw dro arall yn pregethu yn y Bala; nid ydym yn gwybod ei destun y tro hwnw; ond dygwyddodd ryw dro yn ei bregethgynwrddagathrawiaethyrlawn. Dywedodd, "Nisgwn pa gymhariaeth a gaf i osod allan lawn Crist. Y peth goreu a wn i am dano yn bresenol ydyw yr haul, ond y mae hwnw yn llawer rhy fychan. Golygwch fod dyn yn codi o'i wely y boreu, ac yn gweled yr haul, ac yn dywedyd, Dacw fy haul i etto yn ymddangos, a fy haul i ydyw i gyd hefyd; a chyda hyny, dyma ryw un arall yn dweyd, Dyma fy haul innau yn codi, a fy haul innau ydyw i gyd. Beth," meddai, "oes yna ddau haul yn ymddangos 1 Nac oes, dim ond un. Wel," meddai, "cewch ef yn haul cyfa bob un yn bersonol. Yr oedd yn haul cyfa i'r rhai a fu o'ch blaenau chwi, a bydd yn haul cyfa i'ch olynyddion." Yr oedd pethau fel hyn yn gymeradwy y pryd hyny, ond daeth amser wedi hyny ar Gymru y byddid yn condemnio pethau fel hyn yn haerllug a didrugaredd iawn. Ond erbyn hyn y mae pethau wedi cyfnewid er gwell. Yr oedd un- waith mewn Cymdeithasfa yn rhyw fan, ac yn y cyfarfod brodyr yr oedd y pwnc o dreio dangos fod Paul a Iago yn gyson a/u gilydd ar gyfiawnhad. Mae yn debygol mai Mr. Jones oedd y cadeirydd y tro hwn. Ar ol i bawb ddweyd yr hyn oedd ganddynt ar y mater, gofynwyd iddo yntau ddweyd ei feddwl. Cynnygiodd yntau ymesgusodi, trwy ddywedyd, "Ni byddaf fi yn gwneud dim gar- tref ond edrych tipyn ar ol yr hogiau acw." Ond ni wnai hyny y tro ganddynt, yr oedd yn rhaid iddo ddywedyd ei feddwl. "Wel," r iedc meddai yntau, "os rhaid, rhaid ydyw." Yna dechreuodd trwy ofyn, "A welsoch chwi erioed wneud llong? Ond pa, un bynag a. welodd pawb o honoch ai peidio, mi ddywedaf fi wrthych pa fodd y byddant yn gwneud. Byddant yn gyntaf peth yn myned i'r goed- wig, ac yn tbri coedr rhai ceimion a-rhai union, ac yn eu cludo i ryw 1e.cyfieus i ymyl y dwfr; ac yna yn eu naddu ac yn eu llifio, ac yn eu gosod wrth eu gilydd, nes y byddo yn barod i'w llonghyffio ('launch'); ac yna i'r dwfr & hi. Yna gosodant hwylbrenau, rhaffau, a hwyliau arni; ac yna bydd yn barod i fyned o lfaen yr awel. Yn awr, dyna oedd Paul yn ei osod allan, dangos pa fodd yr oedd gwneud Hong, a. Iago yn dweyd pa fath ydoedd yn ei gwaith ar ol -ei gorphen. Dangos yr oedd Paul pa fodd y mae Duw yn cyfiawn- hau pechadurT a.'Iago yn: dangos. pa fath ydyw pechadur" wedi ei gyfiawilhau'Canys y% hwn jydd.yn_gwneuthur cyfiawndj§E_sydd gy&awn,megy8ymaeyRtauyngy&a;wny J'" ;c. Yr oedd Mr. J. yn pregethu unwaith ar loan v. 14: "Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag dygwydd i ti beth a fyddo gwaeth." "Yr oedd Iesu Grist," meddai, "yn hoff iawn o fyned i blith y cleifion bob amser. Ar ryw foreu Sabbath yn Jeru- salem, cyn amser dechreu y moddion cyhoeddus yn y deml, aeth lesu Grist at lyn Bethesda, lie yr oedd lluaws mawr o gleifion. Sylwodd ar un yno oedd yn ymddangos yn waelach a mwy diymgel- edd na neb o'i gydgleifion, a gofynodd iddo, A fyni di dy wneuthur yn iach?' Yna dechreuodd y dyn adrodd ei hanes; 'Bu fy nhad yma yn hir yn fy llusgo, ond erbyn y byddwn i yn ymyl y dwfr, byddai rhywun wedi myned o'm blaen; ac o'r diwedd bu farw yr hen wr. Daeth fy chwaer yma wedi hyn, a bu yn aflwyddiannus; ond o'r diwedd cododd rhywun ei fys ar hbno, ac ymaith a hi, a gadaw- odd fi i gymeryd fy siawns; ac felly nid oes genyf neb i'm bwrw i'r llyn.' Gwrando, ddyn, a sylwa," meddai, "y mae y cwestiwn yn un syml (' simple') iawn, A fyni di dy wneuthur yn iach V Dywed dithau y myni, neu na fyni ddim. Dylem sylwi yn fanwl ar yr !hyn y mae y gair yn ei ddweyd wrthym, ac nid dweyd ein hahea, a meddwl am gael iachawdwriaeth yn ein trefn ein hunain. Yna, meddai yr Iesu wrtho, 'Cyfod, cymer dy wely i fyny, a rhodia.' Yna amcanodd y dyn wneud, yn ol y gorchymyn, a chafodd nerth i wneud ei ddyledswydd. Felly y dylem ninnau wneud bob amser; ,beth bynag y mae Duw yn ei orchymyn, ein dyledswydd ni ydyw ufuddhau; oblegid ni osododd Duw amom yr un gorchymyn na rydd nerth i ni i'w gyflawni. A dylem gofio mai ein dyledswydd ydyw gwneud pob peth a fedrom, ac na orchymynodd Duw erioed i ni wneud dim ond a fedrom. Dygwyddodd i'r amgylchiad hwn Igymeryd lie ar y Sabbath, a chododd y dyn i fyny, a lapiodd yr hen wely, ac ymaith ag ef heb gofiotalu diolch i'r hwn a'i gwnaethai yn iach. Bob yn dipyn dyma rai o'r Phariseaid yn dyfod i'w gyfarfod, acyn dywedyd, 'Y creadur anystyriol, beth yr wyt ti yn cario yr hen wely yna ar y Sabbath?' 'Cariodd ef lawerarnaf ii, cariaf fin- nau beth arno yntau y tro hwn beth bynag. Prydnawn y Sabbath hwnw, aeth y dyn i*r deml i'r addoliad, er na bu yno er's deunaw mlynedd ar hugain o'r blaen, os bu yno erioed cyn hyny. Ceir pawb a fyddo wedi bod dan law yr Iesu, yn ymwneud yn barchus a moddion gras; ac os bydd ar ddynion eisieu cael ail olwg ar Iesu Grist, yn moddion gras y mae debycaf iddynt gael hyny. Cafodd y dyn yma ail olwg ar Iesu Grist, a dywedodd wrtho, 'Na phecha. i mwyach, rhag dygwydd i ti beth a fyddo gwaeth.' Effaith rhyw bechod oedd wedi peri fod y dyn yma wedi gorfod dyoddef yn y fan yma am gymaint o amser a deunaw mlynedd ar hugain, heb allu codi; ond yr oedd peth gwaeth na hyny o ddilyn pechod. 4 Wei, mewn gwirionedd,' meddai y dyn, 'dyma y gwr a'm gwnaeth i yn iach;' ac morwir a hyny, dyma finnauwedi dyfod at fy nhestun. Onid ,ydyw yn rhyfedd, a chyhyd y buom oddiwrthof Erbyn sylwi, yr oedd wedi bod am awr yn rhagymadroddi, ac heb fod neb yn meddwl nac yn blino wrth wrando arno, gan mor ddifyr yr oedd yn ymadr- 'oddi. Yr wyf yn cofio ei fod unwaith yn pregethu ar Esec. vii. 9, y rhan olaf: "A chewch wybod mai myfi yr Arglwyddi sydd yn taro." Yr oedd yn dywedyd ei bod wedi myned yn ymrafael rhyngddo & Pharaoh, brenin yr Aifft, a bod yr Arglwydd yn taro Pharaoh 4'i Ifys yn lied ysgafn ar y dechreu, ond yn taro dipyn yn drymach fel yr oedd yn myned yn mlaen bob tro, ac yntau yn ffyrnigo, ac yn dangosei ddannedd fel ci; ond o'r diwedd cododd yr Arglwydd ei ddwrn, a tharawodd fel na chyfododd byth mwy. Yna cynghorodd ei wrandawyr i ymostwng mewn pryd, rhag rr Arglwydd eu cymer- yd ymaith Ali ddyrnod, fel na byddai modd eu gwaredu. Yr oedd Mr. Jones yn un o'r rhai mwyaf parod ei ateb o neb braidd a ellid ei gyfarfod. Yr oedd yn dygwydd unwaith ei fod yn myned dros y Rifl, (mynydd uchel rhwng Llanaelhaiarn a Nefyn), ar ddiwrnod tymhestlog iawn o wynt; ac yn rhywle ar y ffordd, dyma bregethwr yn ei gyfarfod, ac yn ei gyfarch, gan ddywedyd, "Wei, gyda mi y mae yn gweithio heddyw." "Paham?" meddai yntau. "Am fod y gwynt yn chwythu gyda mi, a chwithau yn gorfod myned yn ei erbyn." "Ho," meddai yntau, "y mae he.ddyw fel arferol; canys o flaen y gwynt y bydd yr us yn myned bob amser." Yr oedd un- waith yn pregethu yn Nefyn, ac yr oedd y gynnulleidfa yn ym- ddangos yn lied gysglyd. Dywedai wrthynt, "Yrwyfyilarfer a dyfod yma i bregethu i chwi er's llawer blwyddyn bellach, a dyma y 'compliment' a gaf genych: bowio i mi, siwr. Cerddwch allan, a gadewch eich hetiau yma; ni waeth gen i bregethu i'ch hetiau na phregethui chwithau, Onibyddwch yn effro." Yr Oedd yn pregethu unwaith yn ardal Chwilog, a dywedodd ryw dro ar yr oedfa, "Mae pregethu wedi myned y dyddiau hyn yn debyg iawn i gosi moChyn. A welsoch chwi fel y mae T——m y g6f yn ymollwng dani hi." Yr oedd unwaith yn pregethu yn Nghaernarfon,, ac ar ddiwedd rhyw bwnc, dywedodd, "Y mae y peth yr ydwyf yn ei ddweyd wrthych yn awr mor wir a bod y dyn acw yn cysgu." Ar ol dyfod allan o'r oedfa, aeth i dy ei fam; cododd hithau y bwyd iddo, a dywedodd yn lied sarug wrtho, "Dyna i ti fwyd, os oes arnat ei eisieu." Dywedodd yntau, "Nafynaf fi ddim o dy fwyd; yr wyt yn edrych yn front iawn arnaf, ac y mae y Beibl yn gwahardd 'bwyta bwyd y drwg ei lygad,' Pa beth sydd arnat, fy mam?" Dywedodd hithau fod ganddi luaws o adnodau yn profi y mater oedd ganddo yn y capel; ac yn lie enwi un o honynt, yr oedd yn rhaid i ti gael dywedyd ei fod mor wir a bod y dyn yn cysgu. "Wei," meddai yntau, "yr oedd hyny mor wir agunadnod oedd genyt; ac heblaw hyny, yr oeddwn iyn dywedyd mor sobr a phe buaswn uwchben dy fedd." -eyfarfyddais âg ef-unwarith wedi iddo fod yn glaf, a dywed- ais, Wel, dyma. weddill angeu yn dyfod etto oddiamgylch. "Ip meddai yntau; "peth g'oo^feddjonide, fodgwr;i>'i fath.ef yn 9' dim ar ol." Yr oedd hen -bregethwr tfr^wlsmael Jonep Dfefaldwyiiwedi'cymeryd mewn Haw i geryddii Mf. JoJ1' )

CREIGIAU CYMRU A'U PRESWYLWYR.