Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
LLAWER MEWN YCHYDIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLAWER MEWN YCHYDIG. Gwylia rhag y peth a welych yn wrthun mewn eraill. Nid doeth, ond doeth er ei les ei hun. Nid doeth ond a ddarlleno. Rhaid dysgu byw yn gynnil cyn dysgu byw yn hael. Cadw yn mhell oddiwrth achlysuron pechod. 0 ddau dda, dowis y mwyaf; o ddau ddrwg, dewis y lleiaf. Enw da sydd ail i fywyd. Helpa Duw yr hwn a helpo ei hun. Teg pob chwedl na byddo iddi wrthwyneb. Teg y dywed pawb wrth geisio. Hir y bydd anghenog yn dweyd ei neges. Nac ymddiried i wenieithwr. Geill y march farw tra bo'r gwellt yn tyfu. Nid tywydd, ond gwynt. Addaw yn deg, a wna ynfyd yn llawen. Gwell hwyr na hwyrach. Fel y gwnaeth ei botes, yfed. Mwyaf trwst, llestri gweigion. Yn araf yr â. gwr yn mhell. Ysgafn gared a glud goed. Yn araf i fyny yr allt. Cadw y nodwydd ddur, a cholli trosol haiarn. Ennill y gronyn, a cholli y can' cymaint. Nid gogyhyd esgeiriau y cloff. Gwell dau nag un. Llunier y gwadn fel y byddo y troed. Anhawdd gwneud hugan uniawn i wr cam. Mae gohilion i'r gwenith goreu. Mewn cyfyngder y gwelir cyfaill. Cyfaill cywir, yn yr ing y gwelir. Nid ydyw geiriau hynaws yn costio dim, ond y maent yn werth llawer. Hwy y parha, clod na golud. Cyn i'r defaid fyn'd allan o'r gorlan y mae cau. Haws cadw nag olrhain. Ni ddelir hen adar a pheiswyn. Nid da RHY o ddim; rhy uchel a syrth; rky dyn a dor; rhy lawn a gyll drosodd. Dilyna clod yr hwn a'i gwrthoda. Odid fenthyg na bydd waeth.
I i Wk t-APt L LEU AD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I i Wk t-APt L LEU AD. Boreu dydd Hun. MR. GOL.,—Yr wythnos ddiweddafcefaisham- dden i bicio i lawr i'r pentref bychan hwnw a elwir genych chwi yn
N) LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
N) LLUNDAIN. Mae hwn yn bentref digon cyfleus, ar y cyfan. Mae yno, fel yn mhob pentref arall bron, nant fechan yn rhedeg drwyddo, yr hon a elwir gan y trigolion yn Thames; ac fel pentrefi eraill, y mae yno felin neu ddwy, a rhai siopau, a gefail bedoli, a chrydd neu ddau, yn nghydag amryw deilwriaid, ac felly yn y blaen. Mae yno hefyd Senedd-dy bychan, fel yn mhob pentref arall. Nid oes yr un pentref yn Nghymru na Lloegr nad oes rhyw ystafell neillduol ynddp, lie yr ym- gyferfydd cynnrychiolwyr y gwahanol deulu- oedd, a'r gwahanol opiniynau, a'r gwahanol gymeriadau sydd yn yr ardal o gwmpas, i lunio mesurau, (i fesur pawb, o ran hyny), ac i basio cyfreithiau i'r deiliaid o gwmpas. Nid oes odid o noson nad yw y Petty Com- moners hyn yn ymgyfarfod, oddieithr ar adegau gwyliau neillduol, megys 'lladd mochyn' yn y ty nesaf, neu adeg 'cwrdd misol' yn y 'capel mawr,' neu adeg noson ffair Llan-y-ffyliaid, neu rywbeth hynod o neillduol felly. Wel, yn debyg i hyna y mae hi tua Llundain yna,-mae dynion o wahanol deuluoedd, a gwahanol fanau o'r wlad o gwmpas, yn d'od yna i setlo cyflyrau eu cymydogion, ac i lunio rheolau a mesurau (ond fod rhai o'r mesurau heb eu mesur yn rhyw fanwl iawn felly) i bawb fyw wrthynt. Mae hen wrachod sydd dipyn yn glebrog, wyddoch, yn gofalu am reportio gweithred- iadau y Senedd-dai sydd yn y pentrefydd yn gyffredinol; ac y mae y papyrau clebrog yma yn gofalu yn lied dda hefyd am reportio gweithrediadau ac ysgogiadau y Senedd a ymgyferfydd yn Llundain, oblegid ar ryw glebr o'r fath y maent yn ymddibynu am eu cynnaliaeth. Dygvyddais fod yn y lie hwnw a elwir y (Palace Yard' un diwrnod, pan oedd ys
CYFARFOD LLENYDDOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
soddiad yr ymgeisydd a eilw ei hun 'Prudd' yn gwasgu yn bur agos ar sodlau 'Pathos,' etto o du 'Pathos' mae'r fantol yn troi wrth gymerydpob peth i ystyriaeth. Pathos bia'r wobr. Sef Gwentwyson. II. Am y Gill oreu er Coffadwriaeth am yr Aelodau hyny sydd wedi marw yn Ebenezer, Sirhowy, yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Ni dderbyniwyd ond un cyfansoddiad, sef eiddo 'Brondrist' yn unig i'r gystadleuaeth hon. Mae y gan hon yn un led faith a chynnwysfawr. Er nad yw y bardd yn dywedyd llawer am amryw sydd wedi marw o'r aelodau yn Ebenezer yn ystod y 10 ml. diweddaf, etto mae y gan yn cynnwys tua 260 o linellau. Mae llawer o deilyngdod yn perthyn i'r gan hefyd; a chan mai efe yw yr unig ym- geisydd, efe bia'r wobr. Sef William Williams (Ehedydd Wyn). III. Am y pum' Pennill goreu, ar fesur Llwyn Onn, i Gapel a Vestry newydd Ebenezer, Sirhowy. Ni ddaeth ond dau gyfansoddiad i'r gystadleuaeth hon i law, sef eiddo 'Myrddin Ddu' a 'Juvenius.' Am bennillion Myrddin Ddu,' nis gellir dywedyd nad oes teilyngdod cymharol yn perthyn iddynt; etto y mae eu diffygion o ran cywirdeb iaith, priod- oldeb ymadroddion, gwendid yr odliaeth mewn rhai enghreifftiau, a gormodiaeth eithafol mewn enghreifftiau eraill, yn nghyda pheth cymysgedd yn y darluniadau, yn sefyll yn ffordd y pennillion hyn i fod yn fuddugol yn y gystadleuaeth. Am bennill- ion 'Juvenius,' y maent i raddau mawr yn rhydd oddiwrth y gwallau uchod, ac yn meddu gradd ucbel o ran chwaeth dda, cyfaurwydd y cyfansoddiad, a chywirdeb ei arluniadau. Jurenius biau y wobr. Sef Gwentwyson. IV. Am y 4 Englyn goreu i Geincganwyllyr (Chan- delier) Ebenezer. Dau gyfansoddiad a dderbyniwyd i'r gystadleu- aeth hon, sef eiddo 'Asaph MynMy a 'Will o' the Wisp.' Mae y ddau yn gyfansoddiadau o gryn deilyngdod. Cadwant eu dau at y gyughanedd yn dda. Etto, er teilyngdod uchel yr englynion hyn, Did ydynt mwy na'r limul ei hun heb ryw fan frychau ar eu gwyneb. Yn englynion Will o' the Wisp' canfyddir mewn mwy nag un man rywbeth fel gwall-ffugr, hyny yw, ffugrau anmhriodol, megys yn englyn 1,— 'Ha! lawen nwyoleuydd.' Nis gellir dywedyd fod na thristwch na Uawenydd yn perthyn yn briodol i'r I nwyoleuydd;' ond gall ei wasanaeth beri llawen- ydd i'r rhai a fyddo yn mwynhau ei oleuni. Yn yr un englyn a ganlyn etto,—'Rhydd elw i'r addoliad beunydd.' Os wrth 'elw i'r addoliad' y golygir gweinyddu goleuni er goleuo yr addoldy yn yr hwyrau wedi iddi dywyllu, yna nis gall fod y cyfryw yn I elw beunydd;' canys nis cynnelir addoliad I beunydd,' neu bob dydd, yn yr addoldy. Yn englyn 2, dywedir am y Ceincganwyllyr ei fod yn 'hulio goleuni.' Hulio,' yn ol Dr. Pughe, yw I to cover'- to spread over,' yr hyn nid yw yn bur briodol i'w ddywedyd am y Ceincganwyllyr. Am englynion 'Asaph Mynwy,' nid ydynt hwythau yn rbydd oddiwrth ryw fan frychau. Yn englyn 2, ceir y llinellau canlynol:- 'Archwaeth a hwyl gynnyrcha,— Y deml dderch a deimla'i dda.' 'Archwaeth a hwyl' at beth a 'gynnyrcha' y Ceincganwyllyr? Y deml dderch a deimla'i dda,' -onid anmhriodol yw dywedyd fod y demt' ei hun yn teimlo' mewn un modd? Gallai y bydd y gyn- nulleidfa a fyddo ynddi yn addoli yn teimlo'i dda' yn llewyrch goleuni a weinydda ceincganwyllyr iddynt. Etto, gwendid yn y cyfansoddiad yw gor- fod galw y nwy (gas) yn achosydd' er mwyn cadw i fyny y gynghangedd. Ond wedi'r cyfan, er y man frychau uchod, y mae Ilawer o ragoriaethau uchel yn perthyn i'r ddau gyfansoddiad. A chan mai rhyngddynt hwy yn hollol y mae y dorch, a'r ddau mor gydwastad, rhaner y wobr rhyngddynt. Asaph Mynwy allan o gylch y gystadleuaeth. Goreu, Will o' the Wisp, sef Gwentwyson. V. Am y Gin oreu i Blaenycwm, Sirhowy. Derbyniwyd tri chyfansoddiad ar y testun hwn i'r gystadleuaeth, dan y ffugenwau Trcfwr wyf o'r Trifil,' I Shon Sheffre,' ac Eryr o'r Graig.' 1. Trefwr wyf o'r Trifil. Mae yr awdwr yn ameanu darlunio llawer o wahanol wrthddrychau yn y Cwni, yn y gan hon; ond mae'r cyfan yn bur anghelfydd a bratiog o ran iaith. Nid oes yma nemawr iawn o'r hyn a elwir yn farddoniaeth. 2. Shon Sheffer. Can fer, lied anymhongar, dipyn ar ddull balad, yn amcanu manylu cryn dipyn ar neillduolion y Cwm; ond etto yn ddigon darllen- adwy. Er hyny nid oes fawr o ysbrydiaeth yr awen yn rhedeg drwy y llinellau, na dim o'r uchelaidd yn yr holl gyfansoddiad. 3. Eryr o'r Graig. Mae hon yn gan brydferth a darilenadwy dros ben, yn cymeryd bras-olwg ar y Cwm, gan ei ddarlunio gyda nawseiddrwydd dymun- ol barddoniaeth. Mae y cyfansoddiad hwn yn arddangos barn gref a chwnetb goeth, a medr neill- duol i gyfansoddi yn esmwyth a thlws. 0 ran iaith a chyfansoddiad, y mae yn ddiwall hynod, os nad yn hollol felly; ac o ran llaw-ysgrifen, y mae yn dlws a dillyn iawn. Nid oes ammheuaeth nad yr 'Eryr' yw y buddugol o lawer yn y gystadleuaeth, ac eiddo ef y wobr. Sef Gwentwyson. VI. Am y 3 Phennill goreu, ar fesur Difyrwch Gwyr Harlech. Dau gyfansoddiad a dderbyniwyd ar y testun hwn i'r gystadleuaeth, sef eiddo Dechreuwr a Gronwy Gwent.' Mae'n lied amlwg mai Dechreuwr' gyda bardd- oniaeth yw yr hwn a eilw ei hun I Dechreuwr' yma. Er nad yw y penniliion hyn wedi ymgodi uwchlaw gwallau orgraff, cystrawen, a chyfansoddiad cyff- redin, etto amlwg yw y gall ei hawdwr ymberffeitliio trwy ymarferiad; canys y maearwyddionganuyn y pennillion. Am Gronwy Gwent,' y mae wedi cyfansoddi yn dda, ac y mae ei bennillion yn hynod bwrpasol a miniog ar y testun. Efe biau y wobr. Sef Ehedydd Wyn. VII. Am y 5 PCllnill goreu i'r Hen Lanc, i rai na ennillasant o'r blaen. Derbyniwyd pedwar cyfansoddiad i'r gystadleu- aeth hon, yn dwyn y ffugenwau 'Cymro Cloff,' 'Ymgeisydd y waith gyntaf,Adoniah,'a'LIwyd- fab.' 1. Cymro Cloff. Yr unig feddylddrych o'r bron yn y pennillion hyn yw, fod yr Hen Lane yn dwyn ei ddelwedd ei hun yn mhob cylch y byddo yn troi. Rhydd iddo y parch o fod yn gryno a destlus, &c.; ac etto y mae yn proffesu tosturi tuag ato. 2. Ymgeisydd y waith gyntaf. Penniliion pur ffel, yn gosod allan annedwyddweh yr Hen Lane. Mae tipyn o dalent yn y pennillion hyn, ond y mae eu gwisg o ran iaith a chyfansoddiad yn hynod fratiog ac anhygar. Mae awdwr y pennillion hyn yn ym- geisydd gobeithiol. 3. Adoniah. Pennillion lied ddawnus ar y pwnc, ond nid yn rliyw naturiol iawn o ran eu trefniad na'u syniadau. Yn gyntaf gosodir yr Hen Lane allan yn cwyno o herwydd ei gyflwr yn dost, yr hyn. a. dywedyd y lleiaf, sydd beth tra anaml, ac yn sefyll, efallai, yn fwy amo ei hun o ran yr achos o hono na neb arall. Wedi gosodir ef allan yn ei drybini hen Janciaidd, ac yn ddiweddaf, darlunia y bardd ei wir sefyllfa. 4. Llwydfab. Pennillion tra naturiol, yn darlunio helynt a chyni yr Hen Lane yn dra medrus. A chymeryd pob peth i ystyriaeth, nid oes achos ammheu nad Llwydfab yw y buddugol ar y pwnc Sef Griffith Bebb. VIII. Am y 5 Pennill gorell ar y Pwysigrwydd i hawb feindio eu busnes eu hunain. Derbyniwyd pum' cyfansoddiad i'r gystadleuaeth hon, set eiddo 'Mab y Daran,' 'Cymro Llwyd,' 'Paleinws,' 'Gilpin,' ac 'Ysbryd Twm o'r Nant.' 1. Cymro Llwyd. Cyfansoddiad I!ed ganolig. 2. Paleinws. Pennillion rhagorol ar y pwnc, ond mewn gwisg neillduol o garpiog o ran llaw-ysgrifen ac iaith. 3. Mab y Daran. Cyfansoddiad pur dda, rhai penniliion rhagorol, a rhai llawer gwaelach. 4. Gilpin. Penniliion tra tharawiadol; yr ysgrif- enydd yn dychymygu gwahanol enghreifftiau er egluro ei bwnc. 5. Ysbryd Twm o'r Nant. Pennillion gwir dda bob un, tra chynnwysfawr; y cyfansoddiad a'r meddyliau yn deilwng o'u gilydd, a'r cyfan yn deilwng o'r pwnc. 'Ysbryd Twm o'r Nant'yw'r buddugol, ac eiddo ef y wobr. Sef Gwentwyson. Ar air a chydwybod, yr eiddoch, JJ. iiUGHEs, B.A., Tredegar. W. LuKM (Mynwyfab), Ysgrifenydd.