Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
PORTHMADOC.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTHMADOC. Dyrchafiad Eglwysig.—Yr wyf yn dealt fod y Parch. Mr. Thomas, Curad y lie hwn, wedi cael Personoliaeth yn Meirion, a'i fod ar symud yno. Tcimla cyfeillion yr Eglwys yn y lie yn chwith ar ei ol; oblegid y mae Mr. Thomas yn ddyn o ysbryd addfwyn a clirefyddol, Hawn awydd i wneud lies yn y cylch y mae yn troi ynddo. Ei olynydd yma fydd Mr. Morgan, Pwllheli. Marwolaeth ddlsymwth.- Y 4ydd cyfisol, ar ol deu- ddydd o gystudd, bu farw Mrs. Lloyd, priod Mr. W. Lloyd, Draper, a mam y Parch. D. Lloyd, Margate. Yr oedd yn un o wragedd mwyaf rhinweddol ein tref, ac yn liynod am ei ffyddlondeb gyda chrefydd. Ni welid un amser ei lie yn wag yn Salem; ac fel y crybwyllwyd nos Sabbath gan y Parch. W. Ambrose, yr oedd yn hyn yn deilwng i'w hefelycliu gan boll grefyddwyr y dref. Bu yn ddiwyd gyda phethau y bywyd hwn; ni fwytaodd 'fara seguryd,' ac nis gwn am neb mor debyg i'r wraig hono y sonia Solomon am dani yn y bennod olaf o'r Diarhebion. Heddwch i'w llwch, a modd i'w pherthynasau a'i chyfeillion trallodedig ymdawelu yn ngwyneb y brofedigaeth annysgwy liad w y. LL YG ADOG.
ABERYSTWYTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERYSTWYTH. Damwain angeuol.-Fel yr oedd Mr. Alexander Richards, mab liynaf Cadben Richards, Penyglaise; yn dychwelyd o gymydogaeth Llanrhystyd, tua naw o'r gloch nos Lun, y 4ydd o'r mis hwn, mewn cerbyd yn nghwmni ei wraig a'i frawd ieuanc; deuent gyda phob hwylusdod nes dyfod trwy y Turnpike Pen- parkau; ond wrth yru i lawr tua'r dref hon, dygwyddodd rhywbeth i ddychrynu'r ceffyl, yr hwn oedd anifail gwyll ac afly wodraethus, heb fod mewn cerbyd ond ychydig o weithiau, os erioed o'r blaen, a ffwrdd ag ef fel llew a fuasai ar ol ei ysglyfaeth, ac wrth i Mr. Richards dynu yn y reins, torodd y cyfryw, ac felly tynwyd yr anifail i'r clawdd, a moelwyd y cerbyd gan daflu y rhai oedd ynddo i'r ffordd galed; yn anffortunus syrthiodd ar-ei ben, a' tlirodd y cerbyd arno ar y llawr, pryd y taflwyd Mrs. Richards latheui lawer i'r ochr arall i'r ffordd gan y force oedd arnynt, a thorodd ei braich mewn dau fan, ac ysigodd ei hunan yn fawr; diangodd brawd ieuanc Mr. Richards heb gael dim niwed. Pan ddaeth rhai o bobl Penparkau i'r Ile, cawsant fod Mr. Richards bron yn hollol ddideimlad; a'r ceffyl wedi dianc i dref Aberystwyth heb ddim ond shaft y cerbyd i'w ganlyn. Cludwyd y boneddwr adref yn ddioed, a gweinyddwyd ar gan Dr. C. Rice Williams, ond bu farw cyn y boreu; oud nid cyn siarad ychydig o eiriau, yn holi am ei wraig os oedd hi yn fyw, ac os cawsai lawer o ddolur. Cymerodd y cynhebrwng le dydd Sadwrn, yr oedd o ymddang- osiad tra pharehus. Gwelid holl denantiaid ystad Penyglaise yno gyda hatbands, a phedwar o geffylau duon yn cludo yr hearse i fynwent Llanbadarn. Y mae yn dda genym glywed fod y wraig ieuanc yn troi ar wellhad.
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. Cyfarfod yn y Blaenau.-Nos Fercher, Ebrill 6ed cynnaliwyd cyfarfod ystormus arall yn y lie hwn ar bwnc Addysg. Wedi myned drwy y seremoni o ddarilen a gweddio, fel y gwneir yn ami yn y dydd- iau hyn yn nglyn a chyfarfodydd o'r fatli gan yr Eglwyswyr, galwyd ar y Parch. Mr. Davies, parson y Blaenau, i g\ meryd y gadair. Wedi ychydig o sylwadau ganddo ef, daetli y Parch. D. Evans, Vicar Corris, yn y blaen i anerch y cyfarfod. Nid oes eisieu dweyd beth oedd ganddo, am fod yr hell wlad erbyn hyn yn gwybod er's misoedd mai swm a sylwedd ei araetli ef yw ceisio dangos rhagoriaeth y Manchester Union ar gynlluny Birmingham League. Siaradodd am dros awr yn nghanol llefau o Time, time, a Phwnc., pwnc Ar ei ol siaradodd Mr. Ed- wards, Vicar Caernarfon. Treuliodd yntau dros awr o amser: ychydig a lefarodd ar y pwnc; ond difrtodd weinidogion yr Ymneillduwyr, yn nghyda'r gwahanol enwadau, yn y modd mwyaf annhrugarog, yn nghanol banllefau o anghymeradwyaeth. Erbyn hyn yr oedd braidd yn anmhosibl cael dystawrwydd Gvda'i fod wedi eistedd, dyma y Parch. Taliesin Jones ar ei draed, a dywedodd fod chwedl yn bod am Wirionedd a Thwyil yn myned allan unwaith i ymdrochi-i Dwyll ddyfod allan o flaen Gwirionedd, a gwisgo am dano ddillad Gwirionedd; ac felly, meddai, yr oedd hi yma, y ddau vicar yn gosod allan Dwyll yn ngwisgoedd Gwirionedd. Yna aeth yn mlaen i ddangos yr anghyfhwnder oedd Vicar Corris wedi ei wncud a'r Birmingham League. (;;¡\l,),ld areithiau y ddau yn dipiau man, ac eisteddodd i lawr yn nghanol taranau o gymeradwyaeth a 'Go on, Go on, Taliesin.' Yna cyfododd y Parch. Owen Jones, Tabernacl: siaradodd yn ei ddull tawel arfer- ol, ond yr oedd pob gair yn archolli i'r byw, a'r parsoniaid erbyn hyn yn gwingo; ond yr oedd yn rhaid dyoddef y fflangell. Siaradwyd hefyd gan y Parch. Roberts, Rhiw; Mr. Evans, Viewfield House; a Mr. Jonathan. Yr oedd amryw barsoniaid ar yr esgynlawr heblaw y siaradwyr. Ceisiodd y ddau vicar amddiffyn tipyn arnynt eu hunain, ond nid oedd modd cael dystawrwydd gan y dorf. Felly terfynodd un o'r cvfarfodydd rhyfeddaf a fu yma erioed.— GonEBYDD.
DOLGELLAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOLGELLAU. Mae genym air neu ddau i'w ddweyd mewn perth- ynas i'r hyn sydd wedi cymeryd He yma yn ddiw- eddar.
CYFARFOD Y WESLliYAID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD Y WESLliYAID. Ar y 7fed a'r 8fed cyfisol, cynnaliodd yr enwad parchus a lluosog uchod eu cyfarfod blvnyddol yn y dref, prvd y pregethwyd gan y Parchn. John Jones, Robert O ven, a John Evans. Yr oedd y pregethau o nodwedd uchel, ac yn cael eu traddodi gyda dylan- wad a nerth mawr. Yr oedd y tyrfaoedi mawrion wrth eu bodd yn gwrando.
Y V EST HI BLWYFOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y V EST HI BLWYFOL. Nid oeddem ni yn bresenol yn yr olaf, ac nis gallwn ychwaith fod yn y nesaf—ein colled ni yw hyny, ac nid neb eraill. Ond er yn absenol o ran y corff, byddwn yn bresenol yn yr ysbryd. Gobeithio y daw y ddadl i derfyniad heddychol. Ond os yw Juda am i Ephraim beidio cenfigenu, rhaid i Juda beidio cyfyngu ar Ephraim. Mae'r bai mwyaf, a dweyd y goreu, ar y rhai sydd yn cyfyngu ar ryddid eu eyd-ddynion, ac nid ar y rhai sydd yn amddiffyn eu hiawnderau ar dir teg. Pa bryd y daw ein swyddogion yn heddychol a'n trethwyr yn gyfiawn, a phawb i wneud i eraill fel yr ewyllysient i eraill wneud iddynt hwythau? Ni fuasai yn angenrheid- iol i'r plwyfolion ymyraeth yn nghylch dewisiad Chumh-warden, gan nad oes treth Eglwys, oni b'ai fod y Church-wardens hefyd yn Trustees y Marian mawr,' a'r Marian yn feddiant trefol, a'i ardreth flynyddol i fyned i leihau beichiau y trigolion. Y rheol fawr gyffredinol drwy y deyrnas yw, fod y parson i ddewis un, a'r plwyfolion y llall; lie y mae yn wahanol, eithriad yw liyny, ac eithriad wedi eyfodi naill ai drwy ormes neu esgeulusdod; a dywedir, os mai yr eithriad sydd wedi bod yn rheol yn Dolgellau, mai gormes oedd yr achos o hyny; a'r plwyfolion, am y carent heddwch, neu yr ofnent eu harglwyddi, neu am eu bod yn ddifater sut y dygid pethau yn mlaen, wedi rhoi ffordd. Os felly, mwy anrhydeddus fyddai i'r Rector syrthio i fewn a rheol fawr gyffredinol y deyrnas, na sefyll ar eithriad sydd a'i wraidd mewn trahausder, a'i ddiogelwch mewn twyllymresymiad sylfaenedig ar technicalities. Nid ydym yn gweled nerth yn ei ddadl; mai felly y cafodd bethau, a'i fod am eu gadacl yr un fath.' Yn gyntaf, Nid oes pråwf eglur mai felly y cafodd bethau. Ymddengys nad yw y Minutes yn profi y naill ffordd na'r llall. Nid yw y prawf, gan hyny, ond prawf nacaol ar y goreu. Yn ail, Yn ol yr egwyddor o adael pob peth fel y mae, nid oes lie i gael gwelliant byth. Nid yw y byd etto yn ddigon perffaith i fod yn anffacledig. Yn drydydd, Onid oes cyfnewidiadau wedi eu gwneud gan y Rector mewn pethau eraill? Os nad yw dyn yn rhwym o fod yn gyson ag eraill, dylai fod ag ef ei hun. Mae cyfnewid pethau er gwell yn arwydd er daioni; ond cyfnewid pethau er gwaeth yn arwydd er drwg.
Y BOARD OF GUARDIANS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BOARD OF GUARDIANS. Nid ydym ar hyn o bryd yn myned i ymholi pa un ai priodol ai anmhriodol i weinidogion yr efengyl fod ar y Board of Guardians, ond gwyddom fod hyn yn gosod dylanwad annheg yn Haw rhai cnawdol (u teimlad, cut eu hysbryd, ac uchelgeisiol eu calon; a bod y dylanwad hwn wedi ei arfer er mantais plaid lawer gwaith. Ond tra yr ydym yn gadael hwna yn gwestiwn agored, goddcfed y Board of Guardians i ni daflu awgrym iddynt mewn perthynas i gael gwasanaeth crefyddol yn y Workhouse. Buom yn byw yn Merthyr flynyddau, ac yn cymeryd ein tro yn y Workhouse; yr un fath gwnai gweinidogion eraill o bob enwad. Bum hefyd yn byw yn nghylch Undeb Llanymddyfri am flynyddau-yr un fath y gwneid yno. A gwyddom am ddegau eraill o leoedd y gwneir yr un peth. Byddai yn hyfr3'dwch mawr genym gynnal gwasanaeth crefyddol, yn ein tro, yn Workhouse Dolgellau; a diau genym y gwnelai pob gwnelai pob gweinidog yr un peth, a'r cwbl yn rhad ac am ddim—ond yn unig y tal sydd yn nglyn a gwneuthur hyn i'r tlodion, sef bendith yr hwn sydd ar ddarfod am dano. Byddai ymddygiad boneddig- aidd agored y gwahanol enwadau at eu gilydd-ad- nabyddiaeth helaethach o wir deitnladau eu gilydd- a chydweithrediad sylf..enedig ar gydraddoldeb a brawdgarweh crefyddol rhyngddynt—yn sicr o ddy- lanwadu yn dda arnynt hwy eu hunain, ac ar y rhai sydd etto heb adnabod Duw. 0 hyfryd ddydd, pa bryd y daw! Glanaran. E. AERON JONES.
CLADDEDIGAETH RISIART DDU…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLADDEDIGAETH RISIART DDU 0 \V\NEDD. DYDD Iau, y 10 o Fawrth, daeth torf luosog i d' el rieni, yn Rosendale. yn Americaniaid ac yn Gymry. Yn y ty, cyn cychwyn i'r addoldy, darllenodd y Parch. H. Powell, (A.), a chrybwyllodd am ymddy- ddan a gymerasai le rhyngddo a'r ymadawedig ychydig cyn ei farw, pryd y datganai ei olid yn wyneb ei fod wedi treulio ei oes fer i barotoi ar gyfer cylch pwysig y weinidogaeth, a chyda ei fod yn barod i'r maes, fod angeu yn bygwth claddu ei holl obeithion a'i ddysgwyl adau dyfodol: ond, os mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd, ei fod yn hollol foddlawn iddi. Wedi hyny cychwynodd yr orymdaith tua Soar, dan lywyddiaeth Mr. J. W. Morgan. Yn yr addoldy, ar ddymuniad y teulu, cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr. J. R- Roberts; Parch. J. Williams, (T.C.); Parch. J. Jones, (W.); a'r Parch. T. Foulkes, (T.C.) Sylw- odd yr olaf fod y nefoedd yn galw y prif ddynion o fysg ein cenedl; cyfeiriodd at amryw fu farw yn ddiweddar yn Nghymru, a dywedai mai nid y lleiaf o honynt oedd Risiart Ddu o Wynedd, oedd i gael ei osod yn ei fedd yn Wisconsin. Wedi hyny cymer- wyd yr hyn oedd farwol o'r ymadawedig i'w osod i orwedd yn mynwent Soar; ac yno y gadawyd ef yn ei 34 mlwydd oed.—O'r Drych, Sylwa Gwyneddfardd, yn AlaneT America, fod y ffaith fod Risiart Ddu, Goronwy Owain, Gwenffrwd, Gwilym ap loan, &c., wedi cael meddiant beddrod yn y Taleithiau Unedig, yn gwneud y wlad yn anwylach yn ei olwg; a thcrfyn y syiw gyda'r toddaid tlws a ganlyn:- Ai'r da Awenwr—ai'r Du o Wynedd I ddaear oerlwyd yrwyd i orwedd! Ein lienor enwog-un llawn o rinwedd- Bardd a gadeiriwyd a brudd gydorwedd A llu'r byd yn llawr bedd—etto'n iach, Gelwir e'n wynacli i wiwglaer annedd.
LIVERPOOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
arwyddnodi a phlacards argraffedig Cymreig gwyn- ion, y rhai sydd o bob tu i'r ystlysbost. Sylwer, y drws cyntaf ar y ddehau, yn mhen gogleddol Nevin Street, yr hon yw yr ail heol ar y llaw dde o ben gorllewinol West Derby Road. Y mae ar yr ochr arall i'r ffordd, a bron ar gyfer y Necropolis, Low Hill. Cysegrwyd hi ar brydnawn Sabbath, drwy draddodiad pregeth hynod o'r efengylaidd ar 'Ym- arfer dy hun i dduwiolaeb,' gan y Parch. W. Rees, D.D., ac anerchiad cynlies ar 'Ftiddioldeb yr Ysgol Sabbathol' gan y Parch. S. R. Er yr adeg hÙno, y mae Mri. P. M. Williams ac Elias Evans wedi bod gyda phob ewyllysgarwch yn traddodi y Gair i gyn- nulleidfaoedd yno. Dysgwylir y bydd un o weinid- ogion y Methodistiaid yn efengylu yno nos Iau nesaf. Anwyl gydwladwvr yn y rhan hono o'r dref, y mae gwahoddiad cynhes a chroesaw calon i bawb o honoch o bob enwad, gradd, ac oedran, i fynychu y lie; ni ddysgir ac ni heuir yno unrhyw ddaliadau nac opiniynau enwadol, ond y Beibl yn ei burdeb, a'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Am hyny, er cynnal breichiau y brodyr, er mwyn eich cysur a'ch cyfleusderau eich hunain, mynychwch y lie, o her- wydd fod y gweithwyr yno hyd yn hyn yn anaml. Cyfarfod Chwarterol Capelau Grove Street a Park Road. Cynnaliwyd hwy yn y ddau ar yr un pryd ryw Sabbath neu ddau yn ol. Cyfleusderau neill- duol ydynt a drefnir gan y gweinidogion a'r blaen- oriaid i'r aelodau ac eraill o'u heglwysi i gyfranu at leihau dyledion eu haddoldai. Y mae yn byfryd meddwl, ac y mae yn llawenydd genyf hysbysu, fod y trefniadau yn ddieithriad hyd yn hyn wedi ateb eu dybenion. Gwasanaethwyd yn Grove St., capel Dr. Rees, gan y Parch. E. Evans, Caernarfon; yn Park Road, yr ciddo N. Stephens, gan y Parch. T. Davies, Llandilo. Yn y moddion prydnawnol, newidiasant bulpudau,-Evans yn y Park, a Davies yn Grove Street. Yr oedd y casgliadau ar y oyfan yn dra boddhaol, ond nid o ryw ychydig i fyny a dysgwyliadau y bugeiliaid. Yr oedd y pregethau yn dda, a'r traddodiad o honynt yn hwylus a hwyliog. Darlith gan y Parch. W. Rees, D.D.-Ei destun oedd, 'Luther, y Babaeth. a Pio Nono.' Ar daer erfyniad y traddodwyd hi. Myn, o herwydd ei henaint, fod ei amser ef i ddarlithio wedi myned heibio; ond nid yw y cyhoedd am ei golli. Yr oedd y dorf ddaeth yn nghyd i Hope Hall neithiwr (nos Lun) i'w wrando yn profi liyny. Yr oedd yn ol ei arfer am y ddwy awr y bu yn traddodi yn dda, ac yn ddifyrus dros ben. Yr oedd yr elw oddiwrthi i gael ei ranu cydrhwng eglwysi Park Road a Grove Street, er lleihau dyledion eu capelau. Yn ol y gras a roddwyd i mi, yr wyf yn methu cydweled a'r drefn joint stockaidd yma mewn pethau eglwysig. Onid ydyw yn tueddu i greu difaterwch ac i leihau ymdrechion aelodau gyda'r tocynau yn y Daill a'r Hall o'r eglwysi? Onid ydyw i raddau yn taflu sarhad hollol ddiangenrhaid ar ddoniau a galluoedd unrhyw ddarlithydd fod dwy eglwys yn casglu cyn- nulleidfa iddo? Onid ydyw yn naturiol i ryw rival feelings gyfodi oddiwrtho yn ddystaw ac yn ddiar- wybod yn mynwesau yr eglwysi fel cyfan-gyrff at eu gilydd? Cadeirydd y ddarlith gymeradwy hon oedd David Roberts, Ysw., Hope Street. Ar gyn- nygiad y Parch. John Jones, Caernarfon, a chefnog- iad gwresog y Parch. M. Morgan, Abertawe, diolchwyd i'r darfithydd; felly hefyd cyn ymadael i Mr. Roberts am ei wasanaeth.