Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DOLGELLAU -"Y GLOOH N A W."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLGELLAU -"Y GLOOH N A W." UN o hynodion y dref hon ydyw ei chlobhdy uchel, a'i chlychau mawrion a soniarus; ac y mae y rhai hyn yn un o'r pethau anwylaf gan bawb sydd wedi eu magu yn yr 'hen dref'- nid yw pob clychau eraill i'w clustiau hwy, ond megys efydd yn seinio, neu symbal yn tincian, o'u cymharu & chlychau Dolgellau. Yr oedd rhyw hynodrwydd yn perthyn i gloch y plwyf pan fu yr haneaydd hwnw heibio ganoedd o flynyddoedd yn ol, yr hwn a ddywedai ei fod yn dyfod i'r aref dros ddwfr (dros y Bont Fawr), a myned allan o honi dan ddwfr (dan gafnau y Felin Isaf, y rhai a ddeuent y pryd hwnw. dros y ffoidd), a bod cloch yr Eglwys yn tyfu; hyny yw, ar ben coeden yscawen yr oedd wedi ei sicr- hau, ac fel yr oedd hono yn tyfii yr oedd y gloch yn myned yn uwch. Ond ei distadf- edd oedd ei hynodrwydd y pryd hwnw, tra mai ardderchogrwydd y clychau preaenol sydd yn gosod hynodrwydd arnynt. Ond, nid at y clychau fel y cyfryw, yr oedd- wn yn bwriadu cyfeirio; ond at eu gwasanaeth cyffredin. Y maent yn hynod wasanaethgar i alw praidd y gorlan Esgobaethol yn nghyd, ac i greu tipyn o fywiogrwydd pan fyddo rhai o'r "upper-ten" yn dyfod i'w hoed, neu yn priodi; ond nis gellir cyfrif hyny yn wasanaeth cyffred- inol, oblegid tra yp galw praidd un gorlan yn nghyd, gall eu bod yn aflonyddu ar braidd corlanau eraill; a thra yn datgan clodydd un dosbarth, dichon eu bod yn dolurio teimlad- aii y eyffredin sydd yn cas&u rhodres, pomp, ac arddangosiadau allanol bostfawr. Ond y mae tair o'r clychau yn gwneud gwasanaeth mawr i'r cyhoedd bob dydd, hyny yw, i'r dosbarth llafurawl,—y gloch chwech, y gloch un, a'r gloch naw. Ychydig, mewn cymhariaeth, yw nifer y rhai hyny y mae y gloch chwech yn y boreu yn cael effaith arnynt-nid oes ganddi yr un gen- adwri at y lluaws mawr; er byw yn ei chlyw trwy y blynyddoedd, ni chlywsant hi ond ych- ydyg weithiau, os enoed yn eu hoes, a galwed- igaeth gyfyngol yw ei galwedigaeth. Y mae hon yn cael ei chanu yn rheolaidd bob dydd, ond cenir hi yn ystod misoedd trymaf y gauaf am saith, ac ni wnawd fawr o gamgymeriad yn nglyn a hi yn ein cof, canwyd hi ryw ddwywaith am bump, a dyna'r cwbl ydym yn ei gofio. Y mae galwedigaeth y gloch un gryn lawer yn fwy cyffredinol na'r gloch chwech, am ei bod yn galw pawb at eu gwaith fyddo wedi myned i geisio ciniaw am ddeuddeg. Deuddeg ydyw yr awr giniaw gyffredinol yn y rhan hon o'r wlad, ond fod rhyw ychydig yn tybio ei bod yn fwy respectable ac uncommon ynddynt i giniawa am un, wedi i'r boblach dlodion, druain, ddarfod. Y mae cymaint o awn yn y chwareuyn y "Mar- ian Mawr," fel y rhaid cael cloch i alw y bech- gyn, a'r dynion o ran hyny at eu gwaith, a llaw- er o drin erioed sydd wedi bod ar hon, Ond .t!)' "t. ,'J. '[1 mae galwedigaeth 7 'gloch naw' yn 'alwedig- aeth gyifredmoI/My mae hefyd yn un effeith- 101..4 0. toal gajfwadj ^{>0(14 er's talm i bawb roddi i fyny eu masnach aru gwaith i radd- au byphav y uKjie telly yu a.wr. ^u amsernad oedd nel) gweithwyr yn meddwl noswylio, na'r un masnachdy yu mteddwl caUi cyn fcftniad y gloch naw; ond y mae yr hen oruchwyliaeth haiarllaiddhono wadi tnyned heibio, acy mae yr holl weithwyr yn darfod a'u gwaith cyn naWw a'r holl fasnachdai bron yncau, ond ar nos Sad- wrn, cynyr awr hono. Ac eto y mae gwasan- aeth y 'gloch naw' yn dal yr' un mor gyffredinol; ac er mwyn i bawb ei ehIywed, -cenir y 'gloch fawr'—y fwyaf o'r holl glyohau. Y mae y gloch naw i bobl Dolgellau, fel math o linell derfyn rhwng hwyr a chynar, rhwng adeg i fod allan,. ac adeg i fod gartref, rhwng adeg i fod yn effro ac amser cysgu-rhwng yr amser gweddaiddi fod allan, a'r amser anwedd- aidd. Cynar fydd hi oni chano y gloch naw, ac wodi hyny ystyrir hi yn hwyr iawn; a dywedai y di- weddar David Jones, coffa da am dano, wrthym er pan ydym yn cofio dim, fod y diafol yn cy- meryd meddiant o'r ystrydoedd ar ol i'r gloch naw ganu. Y mae dyeithriaid yn methu deall beth all fod ei hamcan, ac y mae y Dolgelliaid yn methu deall aut na fuasai cloch naw yn canu yn mhob tref; ac nid oes arnynt hiraeth am ddim byd mwy na chlywed y gloch naw. Ie, dyma gnulchwareaadifyrwch y plant ar hirddydd haf, y mae pob rhieni yn dyagwyl i'w bechgyn fod yn y ty yn union wedi i'r gloch naw ganu trwy y flwyddyn; dyma fare pellaf ygenethod arnos- on flair, neu nos Sul, a pha mor ddifyr bynag fydd y gyfeillach, rhaid rhoddi terfyn ar bobpeth, a chymeryd y goes tuag adref. Llawer rhedegfa dda mae'r merched wedi gael i fod yn y ty cyn y tine olaf, a'r bechgyn hefyd, o ran hyny. Y mae hon fel hyn, trwy y blynydd. oedd, Sul, Gwyl, a Gwaith, yn ein hadgofio bob nos o'n dyledswyddatt-yn galw y plant i fyned at eu rhieni, y merched at eu meistresi, y lletywyr i fyned i'w Ilety, gwyr i fyned at eu gwragedd, &c.,—ac yn dwoyd nad ydyw yn weddaidd bod allan ddim yn Irfry y noson hbno. Ac yn y diwedd, rhydd rifedi y dydd o'r mis, gan awgrymu fod ei rhybuddion y dydd hwnw wedi darfod, ac na fyddai dim a wnelo a ni hyd boreu dranoeth. Ac yn y cyffredin, y mae hon yn alwedigaeth effeithiol—ceir gweled pawb yn troi tuag adref ar ol y cano; ac ychydig a welir ynrhodio ar hyd yr heolydd yn y nos wedi hyny, hyny yw, os bydd ganddynt fymryn o barch iddynt eu hunain, yn enwedig ymerched. Da fyddai pe rhoddid gorchymyn mwy pendant yn mhobman-yn mhob cylch—i bawb fod gar- tref ar alwad y'glochnaw.' Pe llwyddidi hyny, byddai Dolgellau yn lie mwy paradwysaidd nag ydyw; a da fyddai i bob tref ddilyn ei hesiampl yn hyn, a mynu cloch i ganu pawb i'w cartref- leoedd am naw o'r gloch. 0 bobpeth, dyma y path anwylaf genym, a'r peth y bydd arnom fwyaf o hiraeth am dano, os byddwn oddicar- tref am noson neu ddwy—elywed y 'gloch !;law.' Gap fod gwasanaeth y gloch 6, y gloch 1, ac yn neillduol y 'gloch naw' mor gyffredinol, onid ydyw y neb sydd yn gofalu am eu canu yn gwneud gwasanaeth pwysig i'r cyhoedd? Ac oni ddylid ei ystyried yn gwasanaethu y cy- hoeddi Dylid yn ddiau, a chredwn pe na buasai am gysylltiady clychau A'r eglwys, y bu- asai yn cael edrych arno felly. Ond gan ei fod fel hyn deirgwaith yn y dydd-am chwech y boreu, bydded y tywydd a fyddo; am un, ac am naw, yn gwasanaethu y cyffredin, bydded i'r eyffredin ei gydnabod am ei lafur a'i ofal; ac yr ydym yn cynyg fod iddo gael tysteb hardd am ei lafur, ao fod casgliad cyffredinol i gael ei wneud yn mhob gweithdy, swyddfa, a thy, yn y dref, y Sadwrn olaf yn y flwyddyn, i'w troa- glwyddo i'r hen was ffyddlon hwn. Gwnawn sylw dro eto ar yr 'Hen Gloc Mawr;' y mae yn perthyn i hwn wasanaeth dyddorol. v S :• jr.: •• DoLGBIXFAB. ■r#ri v •?(»• .tM

[No title]

Y WYDDFA A'R ERYRI. %