Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AFXILLADBNAU YSGYFEINTIAWL DR. LOCOOK -(yr uoythnos hon)- Ysgrifena Mr. STEAD, Chemist, High St Lees, Manchester:—Yr wyf yn sicr pe byddai cich Afrlladenau yn fwy adnabyddus, y byddent yn fwy o les i'r cyhoedd. Y mae i mi gwsmeriaid a siaradant yn uohel iawn am danynt." Rhydd Afrlladenau Dr. Locock esmwythad dioed, a gwellhad cyflym i'r Diffyg Anadl, Darfodedigaeth, Bronchitis, Peswch, Anwyd, Anadl fer, Llysnafedd, Poenau yn y ddwyfron, Cryd Cymalau. Y maent yn anmhrisiadwy i gantorion a llefarwyr cyhoeddus er clirio a nerthu y llais; mae eu bias yn ddymunol. Pris ls. lie., 2s. 9c., 4s. 6c., ac lis. y Blwcb. Ar werth ganyr holl Gyffyrwyr.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
i ==================== Cenetiisaetijau. Modi 19, priod Mr. John Rees, 2 Marine Terrace, Barmouth, ar fab-cyntafanedig. Medi 18fed, priod Mr, Griffith Owen, Post Office, Dolyddeleo, ar fab. Medi yr 22ain, priod Mr. Robert Evans, Pen-y- gongl, Pen-cae-newydd, ger Pwllheli, ar fab. rtob a gian. Medi y 25ain, yn aidoldy Aberhosan, gan y Parch. J. R Roberts, Hugh Edward, ail fab Mr. Edward Davies, Dolcaradog, a Catherine, merch ieuangaf Mr. G. Jones, Cefngwyddgrug, Peaegoes. Medi y 28ain, trwy drwyd ied, yn nghapel y Rhos, Rbuthyn, gan y Parch. Wiliiitn Evans, yn mhres- enoldeb p cofrestydd, Mr. David Lloyd, gvnt o Maes-tyddyn-isaf, Olocaenog, ger Rhuthyn, a Mrs. Sarah J. Wiiliame, Tre lan Farm, Cilen, ger y Wyddgrag. Medi 27aiil, yn nghapel y Methodistiaid Calfin- aidd, Gwyddelwern, gan y Parch. D. Jones, Mr. Ralph Morgan, Oldham, ag Elizabeth, merch hynaf Mr. Henry Hanaam, got, Gwyddelwero, ger Corwen. Iflattoolaetijati. Medi 20fed, ya 42 mlwydd oed, Mrs. Ellen Hughes, 14, Lord Street, Fourcrosses, Ffestiniog. d Dyoddefodil gystudd maith yn amyneddgar. Heb- ryngwyd ei gweddillion marwol i fynweut Sc. Michael, Ffestiniog. Medi 24ain, yn 18 mlwydd oed, Edward David Pugh, mab y diweddar Mr. David Pugh a Mrs. Pugh, Tyddynbach, Trawsfynydd. Medi 26ain, ya ddau ddil.rnod oed, Sarah Catherine, baban Mr. David Owen, Builder, Idris Terrace, o'r dref hon. Medi 27ain, ar ot cystudd matth, y Cadoen Wynne-Price, o Blas Llanrhaiadr, ger Dinbych
DREM FRYSIOG AR FY NHAITH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yno ddim achos Cymraeg, ond y mae yno ryw haner cant o GYlnrymewnamgylchiadau da, a hoffent gael gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol. Gwelais ddigon o'r ddinas, er fy mod yn ei gadael yn foreu, i ganfod ei bod yn un nodedig o hardd a glan. Saif yn ymyl Canada. Oddiyno aethum i Gomer, O. Cwrddwyd a fi gan berth- ynas i'm plant hynaf, sef Mr. H. J. Jones, o Lanbrynmair. Cyrhaedd i dl Dr. Jones (mab yr enwog Jones, Tawelan), ei gael ef a'i chwaer garedig, grefyddol, a synwyrol yn iach a chroes- awus. Daeth y Parch. D. Jones a 'Llew o'r Llain' yno i'm cwrdd—pob un o honynt yn dy- oddef oddiwrth y cryd. Daeth yn wlaw trwm. Trefnu i newid Sabbath a Mr. Jones wrth ddychwelyd. Aethum oddiyno i YaxxlWest, sef- ydliad perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd. Cefais dderbyniad gwir garedig gan y Parch J. P. Morgan a'i bobl. Gwelais yno lu o Faldwyn a adwaenwn, ac yn eu mysg Mrs. Evans, merch fy hen gyfaill serchog, Davies, Tynyfawnog, a Mr. Whittington, ewythr i'r Parch. R. Rowlands, Treflys. Oddiyno, aethum i Chicago. Daeth y ffyddlon a'r boneddigaidd frawd, y Parch. David Harries, i'm cyrchu i'r orsaf. Adwaenwn amryw yno, ac yn eu mysg Mis. W. Roberts, diweddar o Liverpool, ac wyrea i'r hen Capt. Lloyd, Bootle; aethum i letya i'w thy. Dranoeth, aethum i Racine, Wisconsin. Yr oedd y Parch. J. P. Williams (diweddar o Maentwrog) yn fy nysgwyl yn yr orsaf. Cyrchu x'w dy, a gweled ddarfod iddo fod yn ffodus iawn i gael ailgydmar bywyd; ac y mae yn hynod barchua yn ei wein- idogaeth. Pregethais yn Pike Grove boreu Sabbath, lie y mae wyres i 'Sian Howell,' Ty Mawr, Llanuwchllyn, a chyfnither i'm gwraig, yn wraig i'r gweiniciog gonest a duwiol, y Parch. J. H. Griffiths. Cwrdd yma a Mr. Hugh Griffiths, Llanegryn, llon'd ty o ymgomiwr, yn nghyda Mr. R. Griffiths, un o gor Salem, Le'r- pwl, 25 mlynedd yn ol. Yr oeddwn yn Racine erbyn dau y prydnawn. Ymunodd y Method- istiaid gyda ni yn yr hwyr. Dechreuwyd gan y Parch. W. Hughes (Llanrwst gynt) ac yr oedd y Parch. T. Roberts yno. Cyfarch llu. yma a adwaenwn-mab i'r Parch. H. James, Llansant- ffraid, a chwaer i'r Parch. E. Evans, Llangollen, y mae yr un ffunyd ag ef, a mab iddo hefyd, a chwaer i Mr. Richard Jones, Argraffydd gyda Mr. Saunderson, yn y Bala-un o lenorion mwyaf addawol y Bala, pan oeddwn i yn hogyn, yr hwn a gwympwyd ar faes brwydr waedlyd Cettyaburgh, pan oedd byddin y Cadfridog Lee yn ceisio gwthio i'n talaeth ni. Yn wir, nis gallaf gofio yr oil a gwrddais yma, ond dylwn nodi dau a dderbyniais yn Birkenhead, Mr. a Mrs. Evan Roberts oedd yn byw yn agos i ni pan yn Exmouth Street. Daeth y Parch. J. P. Williams gyda fi dranoeth i Milwaukee. Trefn- wyd cerbyd i mi, ac yntau, a'r Parch. Enoch Jones, gweinidog y lie, gan Mrs. Bryan (gynt o Lanuwchllyn), i fyned gyda hi i weled bedd y Parch. David Price (Dinbych gynt). Dichon y caf well hamdden i ddweyd eto am hyn. Gadawyd fi wrthyf fy hun am enyd, yn ymyI bedd un o'r pregethwyr hoffusaf genyf yn y byd pan yn llencyn. Ni cheisiaf ddarlunio fy nheimlad-coflo ei ergydion ffraeth, cofio ei wen ddifalais, cofio ei fraieh chwareuai fel tarian, cofio ei wyneb llawn a graenus, cofio ei chwys perlog, a'i don glochaidd, cofio hyn a chofio arall; yn wir, nid rhyfedd i'r awel gario fy ochenaid, a'r briddell dderbyn fy nagrau. Bwriedir ei symud o'i fedd benthyg, a chael cofgolofn iddo. Pwy o'i hen edmygwyr a etyl y geiniog a ddolefa o'r logell am gael helpu i wneud hyn? Pregethais i gapelaid llawn, a dechreuwyd y cwrdd gan y brawd derbyniol gan bawb, y Parch. Nowells (T.C). Cyferchais lu o feirdd a llenorion, megys 'Dwyfor, Moriog, a Gwilym Eryri,' ac eraill. Y mae priod y gwein- idog Mr. Jones o ymyl Llanerchymedd, ac yn anrhydedd i'r hen gymydogaeth. Dyma fi yn ffarwelio a. Mr. Williams, ac yn cydgychwyn gyda Mr. Jones i Waukeshaw; yma y cwrddais &'r hen gymeriad brwydfrydig y Parch. Cadwal- adr D. Jones (Llanfair gynt). Pan yr ydoedd yn Llangollen yn weinidog, y pregethaisgyntaf yn Nghogledd Cymru, ar fy ffordd o'r Bryn- mawr i'r Bala, sef yn hen gapel y Trefor. Edrycha yr hen gymeriad mor hoew a gwisgi ag ydoedd 22 mlynedd yn ol, pan y daeth i America. Cefais gioesaw mawr ganddo ef a'i briod. Daeth un o ystormydd erchyll y Gor- llewin y noson yr oeddwn yno. Anfonwyd fi dranoeth mewn cerbyd hyfryd gan Mr. Jones a'i briod i Pewaukee, a chyrhaeddais yn brydlawn i Watertown. Yr oeddwn yn lletya yn nhy Mrs. Davies, (Rahel o Fôn). Cymerodd ei phriod fi drwy ranau prydferthaf y dref. Y mae y capel newydd gael ei ail agor. Bydd y teulu yma yn gefn da i'r achos os cerir ef yn mlaen. Nos dranoeth yn Oshkosh. Y Parch. B. J. Evans, ar ol bod yn llafurus a llwyddianus i godi capel newydd, da, yn son am ymadael. Hydera yr eglwys yr ail erys. Cael cyfarfydd- iad hapus yma ag un o'ta haelodau o Pittsburgh, oedd yma gyda ei frawd, yr hwn sydd ffarmwr llwyddianus. Gadael dranoeth i Rosendale, yn ngherbyd Mr. Morgan, un o'r Cymry goreu, er mai yn y wlad hon y ganwyd ef, ac y mae ei blant yn Gymry da. Myned i'r fynwent at fedd 'Rhisiart Ddu o Wynedd;' cofio am ei gwmniaeth ddyddorol yn Ninbych a'r Bala. Dyma ei fedd a'i gofgolofn—man dymunol i gysgu hyd ganiad yr udgorn. Dyma fardd, lienor, a phregethwr, na chafodd gorff digon cryf i gario ei athrylith a'i yni. Beth pe buasai fyw i'm derbyn? Nid oes dystawrwydd fel dystawrwydd y bedd. Pregethu i gapelaid nawnobobl. Yma ymae y Parch. H. Parry, brodor o Ddolgellau, yn gweinidogaethu. Codi yn foreu dranoeth i fyned i Randolph. Fy nerbyn gan y Parch. R. Roberts (gynt o Pen- machno). Cwrddyd fy hen gyfaill Mr. Griffith Jones (gynt o Birkenhead)-edrycha yn dda, ond fodyr aelodau yn stiffio. Galw yn nhy ei ferch Jane—un o'r plant anwylaf yn Ysgol Sabbathol Oliver Street, a dyna William ei fab, a fu yn ddiweddar am fisoedd yn Nghymru, a dau fab arall i mewn. Wedi pregethu, myned i Macumber, cartref llawn Mr. a Mrs. Jones— dylaswn ddweyd ei bod hithau yn cadw ei hoed yn dda. Dyna hi yn Birkenhead a sirFon, nea yr oedd yn bryd myn'd i'r gwely. Preg'ethu yn Randolph drachefn y boreu, acyn Cambria am ddau a chwech. Dacw un a adwaenwn, Mr. Owen Edwards, un o hen ddiaconiaid Salem, Le'rpwl. Y mae wedi bod yn wael iawn, ac yn agos i angeu. Daeth yma at ei frawd Dr. Wil- < liams, a thrwy ei fedrusrwydd ef, ac iachusrwydd ( yr awel, y mae yn gwella yn dda. Cyfarch ar ol yr oedfa y Parch. J. Ap. Jones, yr hwn a adwaenwn er pan ydoedd yn efrydydd yn Athrofa y T. C. yn y Bala, ac y lletyai gyda fy ly Y mrawd John; a'r Parch. J. Pentyrch Evans a fa yn ein Hathrofa ni (cyn yrhelynt), acyr ydoedd yn lletya gyda fy nith Jane. Drwg genyf ddweyd fod ei iechyd ef yn ansicr lawn. Anog- ir ef i dalu ymweliad &'i fam wlad. Pregethu y nos yn nghapel y Methodistiaid, tyrfa fawr fel pe buaswn yn Llangeitho. Dyma ll3 mae teulu y Parch. J. Jones, Talysarn--methais weled ei hybarch frawd William Jones. Wedi galw gyda, ac ymgomio a llawer dranoeth, megys W. Ap. Williams, englynwr penigamp, a lienor a ymgyfenwa yn 'Hen Lane,' brodor o ymyl » Ily y Bala; cychwynais gyda yr Anrhyd, E. 0. Jones (nai Jones, Talysarn) i Portage City. Arosais yno rai oriau, a gwelais hen Indianes, a'i brawd, a dau o blant y bego. Bu Mr. Jones yn garedig i mi ar hyd y ffordd i Bangor. Disgyn yno yn A y nos, a gwyr a lanternau yn fy nghwrdd i'm croesawu. Cadw cwrdd mawr yno fy hunan dranoeth-pregethu y boreu, a dau, a darlithio y nos. Cynulleidfaoedd mawrion trwy y dydd. Seibiant ddydd Mercher. Lletya gyda y Parch. O. M. Jenkins-ei briod yw 'Claudia' sydd yn enwog yn y wlad hono fel barddones athrylith- gar iawn-chwaer ydyw i'r Parch. Josiah Jones, Machynlleth. Bwriada Mr. Jenkins fyned i orphen ei efrydiaeth i Athrofa Chicago. Dis- gwylia allu i fyned trwy y cwrs mewn dwy fiynedd. Rhydd ei briod bob cefnogaeth iddo i fyned. Y mae ef yn un o bregethwyr mwyaf addawol ein gwlad. Cefais gwmni y Parch. — Pugh (T.C.)-ni chlywais neb yngallu dynwared y Parch. Joseph Thomas, Carno, yn well erioed. Wedi yfed te, ymgom maith, ac yna yn ol i dy Mr. Jenkins (Mary Davies, Woodchurch Road, Birkenhead gynt), yma y mae hi a'i phriod yn byw ao yma y gwelais Mr. Williams (mab i modryb Jane o Deerfield) y tro cyntaf. Cadwa ef ysgol ddyddiol y rhan fwyaf o'i amser. Gadael y He hwn am bedwar o'r gloch y boreu. O! awr ddiflas i godi. Cyraedd yn gynarol i Columbus. Lletya yn nhy Mr. R. Griffiths y soniais i mi ei gwrdd yn Pike Grove. Y mae efyn cadw ystor fawr o bob math o gelfi. Gyda y T.C. yr oedd- wn yn pregethu yma, a chefais dderbyniad mor groesawgar a phe buaswn yr aelod anrhydedd- usaf o'r Corph. Cyraedd i Gomer, O., erbyn y Sabbath, hindda hyfryd y tro hwn. Gweled yr ardal wedi diwygio yn fawr er pan y bum yma naw mlynedd a haner yn ol. Capel newydd ysblenydd, a phinacl arno, a darlithfa y tu ol. Tai yr ardalwyr yn newydd gan mwyaf, ac fel palasau. Cyijulleidfa odidog, fel ar ddydd cy- manfa, a'r ffermwyr yn d'od yn eu cerbydau— teilwng o ysweiniaid a'u tuluoedd. Y mae yr hen fardd 'Josiah Brynmair' yn fyw etc, acyn cyhoeddi mor wresog a chlochaidd ag erioed. Canu braidd digymar yma, o dan arweiniad Dr. Davies, Llanbrynrnair; America yw y lie yma cofiwch. Gweled lie amryw yn wag—yr hen gymeriad gwreiddiol William Jones, Tawelan, a 'Malen' ei wraig, Mr. Williams, Pentremawp, gwr nodedig am ei svnwyr cryf, a'i bwyll, Edward Peat, Braichodnant, a Mrs. Jones oedd yn cofio Mr. Breese, Caerfyrddin, yn traddodi ei bregeth gyntaf; ond y mae yma lu eto o garedigion crefydd, megys Thomas Roberts, W. W. Williams, a Ellis Francis, ac eraill, na raideu henwi i bobl Llanbrynmair, nalchynyrch- ant adgofion lu. Dyma fi yn gynarol yn Lima, yn ngherbyd Mr. Williams sydd yn cadw ystor yno, ac fel y gwyr y pregethwyr yn flrynd parod iddynt. Cyraedd adref. Cael y cryd wedi gadael y Parch. D. Jones, a deall ei fod wedi cael hwyl ardderchog y Sabbath, ac yn Birming- ham nos Lun. Myned i'r capel nos Fawrth i glywed y Parch. Morris Cadwaladr Jones— methodd gyraedd yn brydlon, a phregethodd Mr. Jones, Gomer. Ffarwelio a Mr. Jones yn yr Union Depot, am unarddeg y nos, a throi adref gyda Mr, M. Cadwaladr Jones, yr hwn oedd ar ei ffordd i Landsford erbyn y Sabbath. Dyma fi yn eich talu agos yn gyfartal mewn meithder. Nid yw hwn ychwaith ond y rhan gyntaf. Yr wyf yn parotoi i gychwyn i gyman- fa Iowa—taith o ddwy ifl o filldiroedd. Bydd- wch wych ac amyneddgar hyd y tro nesaf. Pittsburgh, Pa, Medi 4, 1879. H. E. THOMAS.