Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
I Y CYNWYSIAD. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I Y CYNWYSIAD. I Zr Wythnos 1 Sen«dd Ymeredrol 2 ■^udyfg Uwobriddol i Gymru 3 Golofn Wyddonol 4 Ji°lgellau 5 ^archn adoedd 5 rJ°wyddion Cyffredinol 6 7 yr Eisteddfod Genedlaethol 8 Parcb. Canon Lewis, Dolgellau, yn gwrthod r !Je i gofadail yn Mynwent y Plwyf 9 ^ohebiaethau 10 f/estin'og 11 ^enedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 12 **ysbysiad&ti 12,16
__ \v mmno®.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
\v Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth &v*n Mathew Richards, Ysw., Y.H., Moor- lands, Abertawy, yr hyn a gymerodd le yn hynod sydyn nos Sadwrn, drwy ymosodiad ° f apoplexy. Bydd yn. golled ar ei ol, Did i Abertawy yn unig, ond i Gymrn. Yr oedd yn un o'i meibion goreu, ac ymladdodd yn ddewr mewn brwydrau dros ryddid politic- aidd a chrefyddol Ymneillduwyr. Ymladd- odd dros Ryddfiydiaeth yn sir Aberteifi yn 1868, ac enillodd fuddugoliaeth Iwyr, a bu yn cynrychioli y sir yn y Senedd hyd 1874, pryd Y gorohfygwyd ef gan Mr. Lloyd. Yr oedd Mr. Richards yn meddu tueddiadau hynod grefyddol, ac yr oedd yn aelod yn nghapel Walter's Road, Abertawy. Gwnaeth lawer dros ei genedl a'i dref, ac nid oedd neb yn fwy ei barch yn Abertawy. Magodd feibion euwog, ac y mae un o honynt yn gadeirydd Bwrdd Ysgol Abertawy, ac mae dweyd ei a fod yno, yn ddigon o brawf fod y dref yn edrych i fyny ato. Yr oedd y diweddar Mr. Richards yn 60 mlwydd oed, ac yr oedd hyd yn ddiweddar iawn yn cymeryd dyddordeb neillduol mewn materion lleol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ceisiodd Mr. Dillon, A.S., alw Mr. Forster i gyfrif nos Lun, yn Nhy y Cyffredin, am ddweyd fod ei araeth ef yn yr Iwerddon yn ddiweddar, nid yn unig yn ddrygionus, ond hefyd yn hynod o lwfr, drwy ei fod yn cymhell tyrfa frwdfrydig i dori yr heddwcb; ac eto, cadw ei hunao rhag dialedd cvftaitb. Gofynodd Mr. Dillon a oedd Mr. Forstor yn nieddwl yr byn a ddywedodd am dano ef a'i araeth. Mr. Forster a gododd ar ei draed, a dywedodd nad oedd efe yn myned i dynu dim a ddywadodd yn ol; ond yn hytracb, ei fod yn barod i ddweyd yr un peth eto gyda mwy o bwyslais nag o'r b!aen. Eglurodd i'r Ty yn nghanol cymeradwyaeth fyddarawl y Rhydd- frydwyr, y rhesymau oedd ganddo dros ddweyd yr hyn a wnaeth. Dywedai fod Mr. Dillon, a rhai o gyffelyh feddwj, yn gwne-jd tnwy o niwed i achos y Gwyddelod nag oedd yn tybio, ond rboddodd ar ddeall na fyddai i'r Llywodraeth laesu dwylaw yn eu hym- drechion i lesteirio eisieu ffermwyr bychain yr Iwerddon, o herwydd ymddygiadau Mr. Dillon ac eraill. Beblaw hyny, dangosodd fod y Llywodraeth yn bendetfynol, os bydd raid, i roddi darrpariaethau eithafpl y gyfrait4 mewn grym i gadw beddwch; ond nid oeddynt yn tybio fod angenrheidrwydd am ddeadfwr- iaeth neillduol i gyfarfod sefyllfa bresenol yr Iwerddon.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae Caernarfon y dyddiau hyn yn cynal i fyny freichiau hen sefydliad Cymreig anrbyd- eddus, sef yr Eisteddfod Genedlaetbol. Mae rhywbeth yn ddyddorol yn y man y cynelir hi. Y mae sir Fon yn y golwg dros yr afon, gwlad v beirdd a'r pregethwyr. O'r tu cefn iddi y mae ardaloedct gwyngalchog y chwarel- au, lie y mae glewion Eisteddfod wedi eu magu, ac yn cael eu magu yn flynyddol. Cynaliwyd llawer Eisteddfod yn Nghaernar- fon erioed; ond yn sicr, ni fu rhagolygon yr un o honynt haner mor ddysglaer a'r un bresenol. Cawn fod masnachwyr cyfrifol y dret wedi ymaflyd yn y gwaith Q ddifrif, nes Ilwyddo i gael Eisteddfod fydd yn sier o fod yn glod i'r oes mewn cynyrcbion, a datgudd- io talentau oedd yn angbyhoedd o'r blaen. Cynelir yr Eisteddfod yn y Pavilion eang, yn yr hwn y mae eisteddleoedd i chwe' mil o bobl. Mae y prif destynau yn hollol hysbys i'n darllenwyr. Yr hyn oedd yn tynu sylw y diwrnod cyntaf oedd y Brif Gystadleuaeth Gorawl, am yr hon y rboddid gwobr ogant a I haner o bunau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gobebydd o Lundain a ddywed fod teimlad dwfn yn cael ei ddang09 yn mysg yr aelodau Rbyddfrydol, o bettbynas i ymddygiad amryw o foneddwyr a wnaed yn bendefigion (peers) yn ddiweddar gan Mr. Gladstone. Pan anfonwyd Mr. Lowe a Mr. Knatchbull Hugesaen i Dy yr Arglwyddi, yr oeddynt yn credu eu bod yn ychwanego dwy bleidlais gadarn i'r blaid RyddfrydoJ. Pafodd bynag, pan ddygwyd Mefcur Ad-daliad yr Iwerddon i Dy yr Arglwyddi, darfu i'r ddau bleidleisio yn ei crbyo; ac yn awr, y mae yr olaf a enwyd wedi anghofio yn hollol ei fod yn Rhyddfrydwr; ond cofia yn unig ei fod 'yn un o gyfarwyddwyr OwmnT" y Rheilffordd, a bwriada arwain y blaid sydd yn wrthwynebol i Fesur Cyfrifoldeb Meistradoedd, pan y dygir ef i Dy yr Arglwyddi. Bwriada gynyg fod y Ty yn gwrthod yr adran a roddwyd i mewn ar gynygiad Mr. Samuel Morley, sef fod i swyddogion a gweision y rheilffordd i gael yr un fantais a gweithwyr o dan gwtpniaa a meistradoedd eraill. Dyma y diolchgarwch a ddyry i Mr. Gladstone am ei ddyrobafu.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 herwydd ei wrtbodiad o Fesur rbee- ymol Ad-dbliad Tenantiaid Iwerddon, ymae Ty yr Arglwyddi wedi tynu gwg pobl y dayrnas; ac yn awr, y mae symudiad ar droed i ddiddymu Ty yr Arglwyddi, a'i wneud yn Dy etholiadol fel y Cyffredin. NOB Lun, ymwelodd dirprwyaeth a Mr. O'Connor, A.S., yn Westminster, i'w gymhell i wthio ei benderfyniad yn mlaen, o berthynas i Dy yr Arglwyddi i ymraniad, a chyflwyno anerchiad iddo, yn mha un y dadleuir dros ddifodiad Ty yr Arglwyddi, Dywedtdyc yp anerchiad fod gwrthodiad y Mesur gan yr Arglwyddi, wedi dwyn yn adnewyddol i sylw y wlad yr anmhosiblrwydd i gydweithio sydd yn bodoli cydihwDg buddianau achyddol a chynrychiol- aeth etholiadol; ac hefyd, yn gofidio oblegid annoethineb y genedl yn goddef i gael eu rheoli gan Dy nad yw o ddewisiad y bobl i rwystro gwaith priodol y Senedd yn mlaen, a gwneud eu goreu i loddias effeithiolrwydd. gwaith Ty y Cyffredin. Mewn atebiad, dywedai Mr. O'Connor fod yr ymdrech yn awr yn myned yn mlaen i'r bobl gael eu cydnabod ar eu tir eu hunain. Gwadai fod Ty yr Arglwyddi yn cynrychioli teimladau trigolion y wlad. Dy- wedai mai y rhai oedd ar ffordd yn Nhy y Cyffredin a anfonid i'r Ty Uchaf, megya Mr. Bruce, Mr. Lowe, a ^natchbull Hugessen.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ceisiwyd eleni eto gael presenoideb rhai o'r teulu brenhinol i'r Eisteddfod Genedlaethol, ond yn aflwyddianus fel arfer. Y mae Tywya- og Cymru wedi gwrthod lawer gwaith cyn eleni, ac yn sicr, nid yw 'Poor little Wales' yn tetlyngu hyn oddiar ei law. Gall fentro cIedo. nad oes yma neb am ei fwyta, nac ychwaith am ei addoli; ond os yw efe am beidiorhoddi ei bresenoldeb mewn man y gall wybod teimlad teyrngarol y-Cymry taag ato ef a'i tam, arno ef v mae y bai. Pe huasai rhedegfa gyflym ar bare Castell y Penrhyn, nid oes amheuaeth Iaa fuasai yn dyfod yno mewn rhwysg a mawredd, ac aros yno am ddiwrnod- au; ond ni. gall fforddio rhoddi ei 'drwyn i mewn' i'r Ei-iteddfod; ond iddo ef yn sier y mae y golled. Gall y Cymry fyw hebddo, y maent wedi gwneud hyd yn hyn, ond nis gall ef fyw hebddynt hwy yn hawdd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y newyddion diweddaraf o Afghanistan a ddywedant fod yr holl orsafoedd milwraidd cydrhwng Qaetta'b a Chaman, wedi cael eu cadarnhau er amddiffyniad, a gellir ymddiried ynddynt i wrthsefyll unrhyw ynooBodiad o eiddo y llwytbaa mynyddig gwrthryfelgar. Adroddiadau a ddywedant foci Ayoub wedi anfen byddin fecban, a nifer o ynau, i gyn- orthwyo y llwythau i luddias taith ein milwyr taa Candahar. Dy wedir eu bod yn ymgasglu ar godiad tir yn Toba. Anfonwyd ymchwilwyr i'r gymydogaetb, a cheir gwybod cyn hir a ydynt yno ai peidio.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gohebydd o Edinburgh a enfyn i'n hysbysu fod y peiriant oedd yn llusgo y gerbydrea anffodus a aeth i lawr gyda phont y Tay, o'r diwedd, wedi cael ei chodi o'r afon, a mawr oedd yr edrych arni yn dyfod i mewn i orsaf Edinburg, prydnawn dydci Llun. Ar ol bod wyth mis yn y dyfnder, llwyddwyd i'w chodi i fyny. Ni dderbyniodd fawr niwed, onide, ni allasai redeg y rheiliall fel arferol. Gyda theimladau hynod yr edrychid ar y peiriant, a llusgai y fath lwyth o fodau dynol i dragwyddoideb. Dyma weddill y gerbydres fawr hdno a aeth i lawr ddiwedd Rhagfyr diweddaf, ac nid oes ond y peiriant mud 1 ddweyd yr hanes.