Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
-,,-.-I YCYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I YCYNWYSIAD. Yr Wytbnoa 1 William y Gorchfygwr 2 Cynghorau Sirol 3 Newyddion Cyffredinol 3 Truraau Everfcon n. 4 Brithdir 4 Dinas Mawddwy-Bala .n 4 Dolgellau 5 Kefyllfa Wleldyddol dinas Birmingham 5 Cenedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 5 Y Calan yn Nolgellau 6 Garddwriaeth 6 Lllth o'r Peheudir 6 Y Prif Erthyglau 8 Cyfarfodydd Chwarterol Mon ac Arfon 10 Barddoniaeth 11 Hysbysiadau .12,16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE Dirprwyaeth Parnell y dyddiau diweddaf wedi tynu cryn sylw a chreu cyffro lied gyffredinol, a dysgwylir y bydd i ddatguddiadau y dyddiau nesaf beri mwy o syndod fyth. Y mae Mr. Labouchere wedi derbyn oddiwrth Mr. Patrick Egan fwndel yn cynwys llythyrau gwreiddiol a dderbyriwyd ganddo ef oddiwrth Mr. James Carey tra yr oedd efe yn aros yn Ffrainc. Y mae efe yn awdurdodi Mr. Labouchere i osod y llythyrau at reolaeth y Ddirprwyaeth, ac awgryma yn mhellach ei fod yn barod i ddyfod drosodd, ac i osod ei hun dan archwiliad y barnwyr, us bydd iddo gael ei wysio i hyny. Dys- gwyliai y Twrnai Cyffredinol gael Mr. Pigott i'r box heddyw (Mawrth) cyn y gohiriad o flaen bytbryd, neu yn union- gyrchol ar ol hyny.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FEL yr oedd prawf Mr. O'Brien yn inyned yn mlaen yn Tralee, ddydd Llun, gorfuwyd ei ohirio o dan amgylchiadau o gyffro gwyllt. Dywedodd Mr. Healy nas gallai Mr.C. Roche, yr ynad llywyddol,gydn gweddusder, eistedd i farnu yr achos, wrth gofio y dull y deliNyd ato yn yr United Ireland. Dywedodd Mr. Roche fod ganddo ddyledswydd gyhoeddus i'w chyflawni, a'i fod yn bwriadu ei chyflawni er gwaethaf unrliyw beth all gael ei ddweyd yn ei erbyn yn y newyddiaduron. Wrthgroes- holi un o'r tystion, cyfeiriodd Mr. Healy at Colonel Turner fel "Turner." Pywedai Mr. Koche ei fod ef yn meddwl y gallai Mr. Healy ei alw yn Colonel Turner. Dywedodd Mr. Healy ei fod ef yn deall nad oedd gan y boneddwr hawl i'r blaen- ddod, a dywedodd Mr. Roche fod. Gwrth- atebai Mr. Healy ar hyn fod Colonel Turner yn llechgi yn rhyw fodd pa byiiag, Wedi gwrthod tynu yr ymadrodd yn ol na gadael y llys, symudwyd Mr. Healy o'r adoilad, drwy orchymyn Mr. Roche, gyda gorthresh. Anerchodd Mr. O'Brien y llys yn fyr, a gohiriwyd y gweithrediadau, Bu Syr Henry James yn anerch Undeb- wyr Northampton nos Lun, a gwadai fod Mr. W. O'Brien wedi ei euogbrofi o drosedd gwleidyddol. Yn y gwrthwyneb, tra yr ydoedd yn wirionedd iddo gael ei euog brofi o dan Weithred 1887, copïwyd geiriau y Weithred hono o Act Mr. Glad- stoae am 1882. Llongyfarchai Mr. I Balfour ar gadernid ei weithrediad, a chymerai arno ofidio am fod cyfleusdra mawr wedi ei golli gan Mr. Gladstone ar ol etholiad 1885 drwy y cwrs a fabwys iadodd efe. Nid oedd ef yn ofni dim fm y dyfodol, am y credai y byddai i'r bobl ddal yr orsedd i fyny yn ddisigl, ac hefyd eu hawdurdod eu hunain. Y mae pob gair a ddywedodd efe ar y canlyniadau drwg o lacau rbeolau y carchar yn ffafr Mr. O'Brien, yn gondemniad amlwg ar Mr. Balfour, yr hwn y cymerodd efe gymaint o drafferth i'w wyngalchu.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR oedd Mr. John Morley yn anerch torf fawr o Ryddfrydwyr yn Portsmouth yr wythnos ddiweddaf; ac fel y llefarwyr gwleidyddol oil, aeth yntau ar ei union i wlad y Gwyddel, a dywedodd fod y cwestiwn Gwyddelig yn cymeryd gwedd newydd-fod llanw teimlad yn cyfodi yn Mhrydain Fawr oedd yn dangos fod y Saeson yn ymddeffroi i ddiffuantrwydd y camlywodraeth yn y Werddon. Con- demniai y Ceidwadwyr am wneud capital allan o achos y saethu yn Gweedore, yr hyn na fuasai wedi cymeryd lie pe y I Llywodraeth wedi arfer pwyll. Mynai Mr. Morley na feiddiai y Llywodraeth apelio at y wlad ar bwnc gorfodaeth, am na fyddai i'r wlad gefnogi gwlad weinydd- iaeth Bow-st. Fod triniaeth Mr. O'Brien wedi bod yn greulon a cisynwyr. Y mae Mr. Morley wedi taro yr hoel ar ei phen pan yn dweyd fod y Werddon yn grudd- fan o dan gamreolaeth, a bod yn rhaid ei symud cyn dwyn dylanwadau eraill i'r chwareu.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DADGENIR yn gyffredin yn bresenol mai amddiffynfeydd y wlad fydd yn cael sylw blxenaf a phenaf y senedd-dymhor nesaf; oblegid y mae y segurswyddwyr pendefigol sydd yn hongian wrth y fyddin am damaid, wedi bod wrthi am fisoedd yn ceisio dycbryn y wlad drwy eu daroganau, ac i raddau helaeth wedi llwyddo. Cyhoedda un newyddiadur Torïaidd am yr wythnos hon, mewn erthygl orlawn o ryfel, fod program amddiffynol y Llywodraeth yn cynwys treuliau o gan' miliwn o bunau ( £ 100,000,000). Qud y mae un arall yn sierhau mai am naw miliwn o bunau ( £ 9,000,000) y gofynir. Gwelir fod gwahaniaeth mawr rhwng y ddau swm, ac y mae yn amheus a fydd i'r olaf dori gwanc y cwn sydd yn dyheu ac yn cyfarth er's cymaint o fisoedd—ie mwy, blynydd- au yn wir.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y MAE rhy fach o ochelgarwch yn cael ei arfer gyda stoves fyddo mewn gwely- ystafelloedd. Bore Sadwrn diweddaf, cafwyd pedwar o breswylyddion ty bychan yn Penrallt, Whitford, sir Fflint, mewn cyflwr o auymwybodolrwydd, mewn canlyniad i'w gwaith yn anadlu mwcy stove oedd yn eu hystafell-wely. Y mae un o honynt, sef Ellin Roberts, wedi syrthio yn aberth pan ydym yn ysgrifenu; ac y mae Elizabeth Roberts yn parhau mewn cyflwr peryglus. Y mae eughreifft- iau lawer o hyn wedi cymeryd lie mewn gwahanol leoedd, a dyleut fod yn rhybudd i'r cyhoedd i arfer gofal a gochelgarwch.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR oedd cefnogwyr addysg rydd ac an- enwadol wedi tybied eu bod i gael llonydd am beth amser, o leiaf, gan yr hunlle sectaraidd ar ol i Syr William Dyke tlaflu dros y bwrdd adroddiad mwyafrif y ddir- prwyaeth ar addysg; ond ymddengys, erbyn hyn, fod rhyw wystl dirgelaidd wedi ei roddi i blaid yr Eglwys ar ol eu taflu drosodd fel hyn yn Nhy y Cyffredin, y byddai i amcanion y blaid Eglwysig gael eu hyrwyddo drwy foddion llai tebyg- ol o dynu sylw na thrwy ddeddfu yn Nhy y Cyffredin. Yn unol a darpariaethau y Weithred, gofynir i'r Is-gadeirydd bob blwyddyn adolygu Code Addysg, a'i osod ar fwrdd Ty y Cyffredin yn fuan ar ol dechreu- ad y Senedd-dymhor. Dywedir fod Syr William Dyke, yn groes i'w farn ei hun, wedi ei orfodi i dynu. revised code, yr hwn, mewn amrywiol Syrdd—rhai o bwysig- rwydd cyrnedrol, enill yn ddifrifol,— fydd yn anfia<riol i'r ysgolion byrddol, a hyny er budd y sefydliadau enwadol. Gofaled Y mneilldnwyr ein gwlad fod a'u llygaid yn agored i wylio symudiadau y Jesuitiaid Eglwysig, ac i wrthdystio yn erbyn eu cynllwynion.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR oedd yn etholiad Seueddol ddydd Mawrth yn Nwyreinbarth swydd Perth, Ysgotland, mewn canlyuiad i farwolaeth yr hen aelod. Syr John Kinloch, Rhydd- frydwr Gladstonaidd, a Mr. Boase, Ceid- wadwr, oedd y ddau ymgeisydd. Dechreu- odd yr etholiad yn dawel yn y bore, a bywiogodd yn raddol fel y daeth i'r dydd. C. Yr ymgeisydd llwyddianus oedd Syr John Kinloch, yr hwn a gafodd fwyafrif o 1,716 ar Mr. Boase. Nid oedd neb yn petruso am y eanly niadati o'r dechreu.