Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Y GYMRAEG YN Y CYNGHORAU SIROL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GYMRAEG YN Y CYNGHORAU SIROL. BYDD y pwnc uchod yn rhwym o gael sylw neillduol yn nghyfarfod nesaf Cy- nghor Sirol Meirion, yr hwn a gynelir yn y Bala ddydd Iau, Chwefror 28ain, gan fod y cwestiwn o gyfreithlondeh arferiad y Gymraeg wedi cael ei godi yn y cyfarfod diweddaf vn Uolgellau. Yr ydym yn ar. graffu barn Sir Richard Webster,y Twrnai cyffredinol ar y mater, mewn, atebiad i fynegiad o'r achos a anfonwyd gan Mr Pope ar ol Cyfarfod Dolgellau. Dyma ydyw yn fyr,-fod yn lhaid cario allan weithrediadau y Cynghor ar y cyfan, ac ysgrifenu y cofnodion yn y Saesoneg, ac nad ydyw cadw y cofnodion yn yr iaith Gymraeg yn gyfreithlon. Anfonodd Mr Pope gylchlythyr yn cyn- wys copi o'r isod at aelodaa Cynghor Meirion ar y 14eg o'r mis hwn; a sylwa er fod y ddeddf, yn hen er amser Harri yr Wythfed, ei bod wedi cael sylw y senedd a'i chadaruhau yn 1887, ac hefyd ei fod yn barnu nad ydyw y ddeddf fel y mae yn cau allan yr arferiad o'r Gymraeg yn achlysurol gan y Cynghorwyr, ac na wnai unrhyw gadeirydd sydd yn gwybod am y teimlad sycld yu. bodoli yn Nghymru bet- rusD caniatau i umhyw un siarad yn Gym- raeg, ond gofalu fod ei araeth yn cael ei hegluro i'r aelodau hyny nad ydynt yu deall Cymraeg. CASE. A claim is influentially made that all proceed- ings in County Councils in Wales should be iu the Welsh language. This is not limited to occasional speech in debate in Welsh, but extends to a claim that all minutes, resolutions and orders should be reoo del in the Welsh language. The possible difficulties which might arls3 if such minutes or resolutions or orders required review either by the Local Government Board or by any of our Courts of Law are obviows. Mr Pope, Provisional Chairman of the County of Merioneth, ilesires advice as to the legality of such a claim. The County Council of Merion- eth consists of 42 Councillors and 14 Aldermen, of whom probably six can only speak English, three can only speak Welsh, and the remainder, being the great majority, fjpoak both Englia h and Welsh fluently, but prefer to speak Welsh as the language of their da;ly life. There is little doubt that, if legal, that majority will sanction thA claim put forward. The same is true of almost all the Walsh Counties. Attention is respectfully directed to Statutes 25 Hen VIII. o. 26 s. 20. 4 Geo. II c. 26 ss. 1 and 2. 6 Geo. II. c. ]4 ss. 3 et seq. Local Government Act, an. 3, 28 and 78. Advice is desired,- 1. Whether under theBe or any other St! tutes or by Common Law, proceedings in County Councils are required to be in English. 2. Whether the admioistrative business of Quarter Sessions, which it is assumed must conduct its proceedings in English, is so far separable from judicial business that its transfer to County Councils with the obligations of so. 28 and 78 of Looki Government Act, does not c rry with it the obligation to tr 'na"ct it in English. 3. Whether the claim put forw-rd to keep records of minutes and other resolutions or orders can be admitted as legal. OPINION. 1 & 2. The questions raised in this case cannot be regarded as free from difficulty, but upon the whole I am of opinion that the proceedings in County Councils must be carried on and recorded in the English language. The Act 27 Henry VIII c. 26, s. 20, as amended by 50 and 51 Vict. c. 55 is in force. The great part of the business to be performed by the County Conncil was previously performed by the Justices in Quarter Sessions assembled and inlmy opinion the section of the Act of Henry VIII above referred to make it necessary that that business should be transacted by the Justices prior to the Act, in English, and the provisions of the Local Government Act, 1888, transferring such business of the County Council have not removed the obligation. 3. The claim to keep records of Counties and other resolutions or orders in the Welsh language cannot in my judgment be admitted as legal. {Signed) RICHARD E. WEBSTER, 2, Pump Court, Temple, E.G. ASXH FEBRUARY, 1889.
r SENEDD-DYMHOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gymhorth y Toriaid; ac mewn gwirionedd nid yw y Toriaid yn gwneud aberth yn y bvd o'u hegwyddorion wrth bleidio yr Undebwyr papyr hyn, canys y maent yn gymaint Toriaid i bob amcan ymarferol a neb sydd yn Nhy y Cyffredin. Ni raid ond cymeryd sylw o'r hyn sydd wedi digwydd yn nosbarth Bossendale ei hun, dros yr hwn yr eistedda Arglwydd Har- tington, mewn cysylltiad a'r etholiadau i'r Cynghor Sirol, er canfod yn eglur a digamsynied pa fodd y mae y gwynt ya 0 chwythu yno. Yn ddiamheuol y mae ei eisteddle et ei hun yn beryglus, er fod holl nerth Toriaid y dosbarth o'i du; ar tebygrvydd yn awr, meddir, yw y bydd y pendefig hwnw yn debyg o sefydlu ei lygad ar eisteddle a ddichon fod yn ddiogel i ido. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd Mr Chamberlain yn Glasgow yn ceisio rhoddi hywyd newvdd mewn Undebiaeth yn y lie, ac nid heb fod eisieu, debygid, canys y mae yr hyn oedd yno o fywyd yn prys- ur ddrifftio i ffwrdd, os gellir cymeryd etholiad Govan yn brawf, ac y mae hono yn brawf lied gywir. Nid ystyrir fd llwyddiant Mr Chamberlain yn yr ym- drech wedi bod yn nodedig. Y mae rhyw hoffder ynddo ef i dynu allan raglen newydd o'i eiddo ei hun; y mae hyn yn wybyddus er yr amser gynt; ac y mae wedi bod wrth y gwaith yn Glasgow. Wrth gyfeirio at ddeddfu ar faterion cymdeithasol, efe a ddywed:—' A pha V eth yr wyf yn ei feddwl with ddeddfwr- iaeth gymdeithasoH Y peth wyf yn ti feddwl ydyw deddfwiiaeth sydl a'i hatn- can i ddyrchafu sefy11fa gyftrp.dinoly bobt, wedi ei bwriadu i wellhau yn gorfforol a deallol gorff y boblogaeth.' Ac y mae cystal ag awgrymu mai ychydig y mae Mr Gladstone yn ei feddwl ac yn ei am- canu at hyn. Ond gwyr pawb morannheg ac mor annheilwng ydyw hyn. Pwy a wnaeth fwy fel gwladweinydd yn y cyf- eiriad hwn nag efe? Y ffaith ydyw, nad oes gan Mr Chamberlain ei hun ond y nesaf peth i ddim hawl i gael ei rifo yn mysg gwladweinwyr Prydain, c=\nys y mae yr oil a wnaed ganddo yn y ffordd hon yn gynwysedig yn nygiad yn mlaen fesur y Methdaliad, taint bynag o deil- yngdod neu fethiant a berthyna iddo. Modd bynag, proffesa Mr. Chamberlain ei fodyn bryderus am fyned yn mlaen er dwyn oddi amgylch ddiwygiadau angen- rheidiol. Dywed nad yw yn foddlawn i sefyll yn llonydd. Dymuna sefydlu addysg rydd, i benderfynu yr hyn a elwir yn gwestiwn sobrwydd, ac i roddi rhyw gyffroad i gyniJdeb a diwydrwyud trwy luosogi nifer tirfeddianwyr. Ond pa faint o bwysau ellir ei roddi ar yr hyn a ddywed mewn cysylltiad a'r pethan hyn? Ai trwy gefnogi y Lly wodraeth Dorïaidd y mae y diwygiadau hyn i'w cael? Pwy ond y Diwygwyr anfoddog trwy gynorth wyo y Toriaid a wrthwynebodd ddeddfu yn nghyfeiriad sobrwydd:yn y senedd-dymor diweddaf? Gall Ardalydd Salisbury fforddio gwenu yn wyneb yr hyn a ddy- wedai yr arweinydd o Birmingham ar bethau o'r natur yma, o herwydd y mae y diweddaf wedi gofalu am ddywedyd ei fod 0 y yn barod i nofio, neu i suddo gyda'r undeb a'r Undebwyr. Ar bwnc gorfpdaeth yn yr Iwerddon, dystaw iawn a fu Mr Chamberlain yn Glasgow. Onid yw hyn dan yr amgylchiadau, yn dra arwyddoca- ol? Yn Dundee, pa fodd bynag, mewn cyfaifod mawr o'r Undebwyr nos Iau aeth Mr Chamberlain mor isel ag amddiffyn gweithrediadau creulawn y Llywodraeth a Balfour tuag at Mr O'Brien ac eraill o'r aelodau Gwyddelig' Dywedai cfod Mr Balfour wedi ymddwyn tuag at Mr O'Brien fel at blentyn wedi pwdu nad oedd yn gyfrifol am ei weithredoedd. Yn ddoeth iawn tybiai Mr Balfhur nad oedd yn werth gwneud rhywbeth mawr o gwestiwn dillad carchar Mr O'Brien—ac oblegid hvny ei fod wedi trefnu ar iddo gael ei gymeryd i'r clafdy.' Dyna eiriau Mr Chamberlain ei hun. Mor llawn o ddynoliaeth ddyrchafedig a mawrfrydig ydynt! Ond tra yr oedd Mi Chamberlain yn ymfflamychu yn ffafr Mr Balfour a'i greulonderau yn yr Iwerddon, yr oedd Radicaliaid Dundee ddeng mil o honynt yn cynal eyfarfod yn yr awyr agor ed yn Albert Square A chyn dechreu ar y gweithrediad iu yn llosgi gwr gwellt yn cynrychioli Mr Chamberlain, ac yn pasio penderfyniadau, yn ei gyhuddo ef o fod yn wrthgiliwr, ac hefyd o gydym- deimlad ag O'Brien a chondemniad ar Mr Balfour. Pan y daw y senedd yn nghyd, diau y gwneir ymosodiad penderfynol ar weith- rediadau y Llywodraeth yn yr Iwerddon, ac yn enwedigol ar y driniaeth y mae carcharorion gwleidyddol yn ei gael gan Mr Balfour a'i edmygwyr. Pan y siarad- ant am hyny yn awr mewn gwahanol barthau o'r wlad, yn Doriaid a Hhydd- frydwyr enciliedig, tueddu y maent i gymeryd y driniaeth yn ysgafn a gwawdio y sefyllfa y bu O'Brien ynddi. ond y mae eu gwaith yn sicr o fod wedi ei dori allan iddynt, pari yr egyr y Ty, a chant weled y bydd rhywbeth yn amgen na gwawdiaith yn angenrheidiol er am- ddiffyn y safle y maent wedi ei chymeryd yn yr arhos hwn. Os nad yw y deffroad trwy y wlad yn gyffredinol ar y mater hwn wedi agor eu llygaid i weled pa fodd yr edrychir ar eu hymddygiadau yr oil a ddywedwn ydyw, y rhaid eu bod yn ddeillion iawn; oblegid o'r braidd y rhodd- wyd ar utirhyw adeg ddadganiad mwy eglur o deimladau y bobl nag y gwnaed ar y mater yma yn yr wythnosau diweddaf. Pe buasai dadgorfforiad y senedd yn y golwg, diamheuol y buasai euton yn turwahanol; ond gan eu bod yn credu y gallant gadw y trychineb hwnw draw am flynyddoedd eto, y maent yn ymhyfhau yn eu camwedd. Ond y mae pethau pwysig yn digwydd yn annisgwyliadwy weithiau; ac, hwyrach, fod dadgorfforiad yn nes nag y breuddwyd- iant hwy. Boed felly.