Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
jgarirtwmajetjj*
jgarirtwmajetjj* Maggie, Merch fechan Mr a Mrs Hughes, Aberystwyth. Un ewynol Hawn tIysineb-yw Maggie Myg berlyn o bnrdeb; Gwanwyn ddarlunia ei gwyneb Ail iddi 'n wir welodd neb.
Y Dyn Dauwynebog.
Y Dyn Dauwynebog. Gwaloh i'i pen bob pryd 'n gwenn-a dieflig Nwyd aflan o'r fagddn Hyf adyn cas diras da Yw a dichell bradyohn.
Lizzie.
Lizzie. Rbian deg fwyn ddiwegi-a hoenus Ei hanian yw Lizzie;- Od o swil- ail i'r lili Greodd Ion yw ei grudd hi.
DOS DITHAU A GWNA YR UN MOBD.
DOS DITHAU A GWNA YR UN MOBD. Mni GOL -A.r ol darllen y rhifyn diweddaf o'r Gwyliedydd, ystyriais fod ei gymeriw l yn rhagoro., yn enwedig y Leader (ys dywed y bobl) o dan y penawd "Deohreuad Adfywiad,"—ertbygl hynod bri. odol i'r amser presenol. Clywaifl ddywedyd yn ddiweddar nad ydoedd cylchrediad y Gwyliedydd yn agos gymaint ac a ddylasai fod, ao hefyd a allasaifod; a meddyliais mai fy nyIedawydd ydoedd gwneuthar yr hyn a ailwa o blaid newyddiadur sydd wedi profi o gymaint Ilea i'n Cyfundeb, a phenderfynais fyned i bentrcf iieu ddan i gasglu enwau derbynwyr newydd, a gallaf
Er Cof
Er Cof Am* Mr Thomas Jones, Breichiau'r Gauiau, ger Aber. dyji. Nofio wnaeth i dangnefedd-o ganol Ei gyni a'i lesgedd 'N awr yn glud o hyd mewn hedd Lwch golwg nych a gwaeledd Pennal. GWILnl Dyfi.
Penillion Buddugol
Penillion Buddugol l'r Gwaith Toddi, Dee Bank, Bagillt. Fy awen, ymddyrchafa, Cydymaith wyt i'm bron; A rho dy gymorth imi 'n awr, I lunio canig Ion Mae genym destyn buddiol, Sef eang waith f Dee Bank" Yn wir, mae hwn yn haeddu clod, Gan bob hen wr a llanc. Mae rhagoriaethau lawer Yn perthyn i'r gwaith hwn Ei holl reolau sydd mor deg I A hawdd en dwyn, mi wn; Fel gwaith am sefydlogrwydd, 'Does dichon oael ei well; Am hyn mae iddo nchel glod Yn agos ac yn mhell. Hwn ydyw'r gwaith cadarnaf! 0 holl weithfeydd ein bro, Fe ddaliodd hwn, heb syflyd dim, Mewn ami gyfyng dro; Yn wir, ni buasai Bagillt Ond llaneroh wael ddidrefn, Heb fawr wasanaeth y gwaith plwm, Fod iddi 'n asgwrn cefn. Pan oedd olwynion masnach Yn sefyll bron i gyd, A phrinder gwaith, a thlodi mawr, Yn Nghymru ar ei hyd Mae gwaith Dee Bank, er hyny, (A phobpeth ddaeth i'w gwrdd), Yn galln myn'd yn eithaf rhwydd Heb droi y dyn i ffwrdd. Mae'r meistriaid a'r holl weithwyr- Bob amser yn gytun; Cyfiawnder, a phob chwareu teg A roddant i bob dyn Ni chlywir y mwn doddwyr- Yn cwyno mewn un modd, Ond golwg siriol sydd ar bawb, Fel pe baect wrth eu bodd. Boneddwyr, mewn gwirionedd, Iw owmni gwaith Dee Bank," A chymwyuaswyr heb eu bath; Yn mhell bo dydd en tranc; Da ydynt i'w hen weithwyr, Fydd bron ar ben eu taith, Cant wneyd rhyw orchwyl wrth eu pwyø, Ar faarth mawr y gwaith, Mae'r owmni hwn yn talu I'w gweithwyr bob dydd Ian, Er mwyn i'r gwragedd brynu, bwyd Cyn i'r masnachdai gau Pan ddel yr boll ddydd Sadwrn Fe g&n y gloch fawr, un, Y gweithwyr gant orphwyso 'n lion Hyd chweoh ar foreu Llun. Er fod y cwmni 'n Saeson Mor bwysig yn y byd En gweithwyr a'r swyddogion sydd Yn Gymry glan i gyd Ac 0, mae rhain yn meddn Teimladau da a ffawd A pharod ydyut ar bob pryd, I gynorthwyo 'r tlawd. Os bydd y tan yn difa Ein heiddo yn ei wane, Mor dda fydd cael gwasanaeth mawr Gwych beiriant dur ft Dee Bank j" Pan fydd ein nian awrleisiau Yn rhwystro ar eu taith, Dangosir iddynt yr iawn ffordd Gan awrlais mawr y gwaith. Wei llwyddiant i'r gwaith toddi, A'i berchenogion cu, Boed olwyn mawr rhagluniaeth lor Yn dal i droi o'u tu; Tra codir plwm i fyny— 0 grombil unrhyw wlad, Bydd enw 'r hynod waith Dee Bank Yn aros mewn coffhad. Bagillt. T. GRIFFITHS (Tachweddog).
DAM WAIN ERCHYLL YN" NHALYSARN.
DAM WAIN ERCHYLL YN" NHALYSARN. DAU DDYN "VVEDI EU LLADD. Oddeutu haner awr wed: dau prydnawn Sadwrn 81n y diweddaf, bu damwain ddifrifol, drwy yr hon j lladdwyd dau lafurwr yn ddisymwth, yn Nghlodd. fa BIaen'y Cae, rhan o chwarel Talysarn, eiddo Mr John Robinson, o Bias Talysarn. Hon yw y drydedd ddamwain sydd wedi dygwydd yn ystod y pythefnos diweddaf. Ar y 7fed, cynaliwyd trengholiad i ymn ehwilio i amgyIchiadau y ddwy ddamwain angeuol, y naill wedi cymeryd lie yn Chwarel Dorothea, a'r llall yn Chwarel Tanyrallt. Ar y 12fed, cynaliwyd trengholiad mewn perthynas i farwolaeth baohgen aeuano trwy ddamwain ar y rheilffordd, a dydd Llun bli yr ytnchwiliad yn Swyddfa Chwarel Talysarn, gerbron Dr Hunter Hughes, y trengholydd, mewn cysylltiad a'r drydedd ddamwain drwy yr hon y collodd dau eu bywyd. Blaenor y lheithwyr ydoedd Mr Elias Jones. Ymddengys fod y ddau drancedig sef William Davies, 59 mlwydd oed, dibriod, llafnrwr, yr hwn oedd frodor o ardal Penmorfa, ond yn ym- gartrefu yn Methesda; a John Roberts, 30 mlwydd oed, priod, a chanddo wraig a thri o blant bach, ac yn preswylio yn Snowdon-street, Penygroes, yn nghyda thri eraill, sef John Owen, Llewelyn Pierce, a Owen Owens, yn ngwaelod y gloddfa yn dilyn au I gorchwylion, a thiwy i bin dori yn drop pulley oedd yn codi ac yn gostwng y gwageni i ao o'r pwll, hyrddiwyd gwagen wag i lawr, a disgynodd ar y ddau druan a enwasom, gan eu malurio yn arswydua a'u lladd yn y fan. Y tystion holwyd yn yr ym- chwiliad oeddynt Owen Owens, Llewelyn Pierce, John Owens, James Smith, a Michael Redmond. Nid oedd y dystiolaeth gan y naill na'r llall yn gwahaniaethu rhyw lawer. Dywedodd y tyst blaenaf iddo glywed yr alarm o'r table bank gan Smith, ac yn y fan canfyddai y wagen wedi disgyn ar y ddau druan anffodus. Yr oedd pen Roberts mewn rhan wedi hollti. Yr oedd ei law hefyd wedi ei thori yn llwyr ymaith. Mewn ffos bedair troedfedd o ddyfn- der yr oedd Davies, ac mewn gair, wedi ei chwilfriwio. Wrth gwrs, yr oeddynt yn hollol farw. Disgwyl yr oeddynt am y wagen i lawr i'w llwytho, ac yr oedd- ynt i symud pan glywid yr alarm, ond ni obawsant amser i wneyd hyny, gan i'r ddamwain fod mor hynod sydyn. Yr oedd disgyniad y wagen yn ugain llath both bynag. Mynegodd Smith fod y pin yn newydd bron, wed ei gosod yvo ryw fis yn ol. Mae yr amgylchiad wedi taenu prudd-der dwys yn yr ardaloedd. Symudwyd gweddillion William Davies, i Bethesda, a'r eiddo John Roberts i'w gartref, yn Mhenygroes, yr un pryd, ar warrant y trengholydd. Y rheithfarn oedd a ganlyn :—Fod y ddau dranc- edig wedi cyfarfod a'u marwolaeth yn ddamweiniol, trwy i'r pin dori yn y pulley bach, ac i'r wagen syrthio arnynt. Yn ychwanegol, rhoddodd y rheith. wyr y dadganiad a gaulyn yn nglyn a'u dedfryd-Eu bod hwy yn annhymeradwyo Twll Blaen-y-Oae yn ol y dull y mae yn cael ei weithio yn bresenol-ac yn awgrymu fod dyn o hyn allan yn cael ei nodi i edrych ar ol y cadwyni, &c., bob mis, a hwnw yn gyflogedig a'r rheswm dros hyny am fod y lie yn rhy gyfyng, gan fod y cadwyni ar eu hyd.
Y LLOFRUDDIAETH AR LINELL…
Y LLOFRUDDIAETH AR LINELL BRIGHTON. LLAWDDRYLL LEFROY WEDI EI DDARGANFOD. Gohebydd o Croydon a ddywed fod y llawddryll oedd ar goll, a'r hwn y dywedid y saethwyd Mr Gold gan Lefroy, wedi ei gael boreu ddydd lau diweddaf gerllaw y llinell yn Earleswood. Yr oedd wedi ei dallu i laswellt hir a dyfai yn y fan. Mae yn Haw- ddryll pedwar baril; yr oil yn weigion, ac wedi rhydn. Arno y mae ystaeniau tebyg i waed. Anfon. wyd ef yn ddioed i ofal yr heddgeidwaid yn Llundain, pa rai nad oes ganddynt yr amheuaeth lleiaf mai hwn oedd yr un y Haddwyd Mr Gold Ag ef. Fe gofir fod olion tair ergyd wedi eu canfod yn ngherbyd y rheilfforddj tra yr oedd y belen arali yn ngwddf Mr Gold. Mae hyn yn cyfrif am fod y dryll yn wag. Mae yr ystaeniau gwaed sydd ar y dryll yn cadarn. hau tybiaeth y meddyg a archwiliodd archollion y llofrudtliedig, sef iddo gael ei guro gan stock y llaw- ddryll. Mae y dynion a roddasant eu tystiolaetk yn nghyloh Lefroy yn gwystlo y llawddryll yn sicrhau mai y llawddryll hwn oedd hwnw. Ymwelwyd a'r condemniedig gan rai o'i berthyn- asau, ond ni wnaeth un cyfaddefiad o'i euogrwydd. Ymddengys ei fod yn aros adeg ei ddienyddiad gyda thawelwoh; a chredir cyn diwrnod y dienyddiad y daw rhyw wybodaeth i law.
LEFROY A LLOERUDDIAETH YR…
LEFROY A LLOERUDDIAETH YR IS-FILWRIAD ROPER. Gohebydd o Lundain a wefreba ddydd Gwener, i ddweyd fod y gair ar led yma na bydd i Lefroy gael ei grogi ddydd Mawrth, ond y bydd iddo gael ei ohirio er mwyn dwyn Lefroy yn mlaen ar y cyhudd- iad o lofruddio yr Is-filwriad Roper. Chwanegir ei fod yn wybyddus ei fod yn Chatham ar noson y lofruddiaeth, ac iddo ddychwelyd adref a gwaed ar ei ddillad, pa rai a symudodd ymaith. Mae ymdrechion yn cael eu gwneyd i sicrhau meddyg arall i arcfewilio sofyllfa. feddyliol y con- demniedig; haerir nad ydoedd yn gyfrifol am ei weithredoedd, lite oblegid hyny na ddylai ddyoddef cosp eithaf y gyfraith.
HELYNT OFNADWY AR LANAU AFFRICA.
HELYNT OFNADWY AR LANAU AFFRICA. PEDWAR 0 FORWYR WEDI BODDI. Cyraeddodd yr agerlong MaZemba i Lerpwl ddydd Iau, o borth!addoedd gorilewinol Affrica. Dygai y Maiemba hanes am ddyoddefiadau ofnadwy pump o ddwylaw y Guiding Star, llong berthynol i Lerpwl. Boddodd pedwar o'r dynion ar ol myned trwy y caledi mwyaf dychrynllyd. Ymddengys fod nifer o frodorion ar y 15fed cyfisol wedi dwyn dan ddyn gwyn i law-weithfa yn Opobo. Yn ol adroddiad Augustus Cerutti, un o'r ddau, aeth owcb perthynol i'r Guiding Star, yn cynwys pedwar o forwyr a'u prif swyddog, allan o'r afon Nun, lie yr oedd y llestr wedi angori er cael pilot. Fel yr oedd y pilot Taylor a hwythau yn dychwelyd i afon Akassa, gwelsant fod perygl mewn ceisio glanio yn herwydd y surf, ac felly penderfynasant ddychwelyd. Pan oedd y cwch yn cael ei droitarawyd ef gan don fawr,a dymchwel- odd, a thaflwyd y dynion i'r dwfr, a bn yn ymdrech. fa galed arnynt am eu bywydau. Llwyddodd yr oil i gyraedd y cwch, a glynasant wrtho. Ar ol bod yn y sefyllfa hon beth amser, mentrodd dau nofio i'r lan, ond boddwyd hwynt. Cariwyd y cwch a'r pedwar arall gan y Ilif i gyfeiriad Bonny, a disgwyl. ient yn ofer am ymwared gan longau allent fod yn myned heibio. Prin yr oedd gapddynt ddillad o gwbl am danynt, a chan fod gwres yr haul mor danbaid, yr oedd eu dyoddefiadau yn angerddol. Tranoeth aeth nn o hoaynt yn wallgof, neidiodd i'r mor, ac aeth golwg yn fuan. Troai y cwch i'w sefyllfa briodol ar brydiau, ond dymchwelai eilwaith gan fawr ychwanegu perygl y morwyr druain. Darfu i'r swyddog, dyn mewn gwth o oedian, roddi ffordd o dan y mawr galedi hwn fel y bu farw, gan syrthio yn sydyn i'r mor. Ni chafodd y dynion an- ffodus lIa thamaid na llymaid ar ol gadael y Hong, ac felly yr oedd eu dyoddefiadau o herwydd newyn a syched yn angerddol. Ni lefarodd un o'r ddam ddyn air wrth y llalI, ond edrychent at en gilydd gyda llygaid ysglyfaethus. Darfu i Taylor ymsuddo i chwilio am gorff ei gydymaith, ond ni lwyddodd i gael gafael ynddo. Deallent wrth lygaid eu gilydd fod y naill fel y llall yn cyfrif y buasai y corff yn foddion i leddfu pangfeydd newyn a syched. Ar y pedwerydd dydd effeithiodd cyfeiriad gwahan- ol y llif i gario y cwch i'r lan. Ymlusgodd y ddan ddyn i'r traeth trwy yr ymdrechion mwyaf poenus, ac yma ymollyngasant yn ddinerth i'r ddaear. Cysgasant am beth amser, ond deffrowyd hwy gan bigiadau y mangroae fiies. Poenai y creaduriaid bychain hyn y dynion i gymaint graddau fel yr oedd eu cyrff yn orchuddiedig â gwaed. Yna cyfododd y dvnion a cherddasant dros y traeth, ond yn anmhen- derfynol pa ffordd i fyn'd. O'r diwedd daethant at luey a'i ben yn gafniog, a gynwysai ychydig o ddwfr gwlaw, yr hwn a yfwyd yn awyddus gan "y truein- iaid. Yna cerddasant eto, nes y syrthiodd Taylor i lawr gan wendid, ond aeth ei gydymaith yn ei flaen. Yn mhen enyd gwelodd Cerutti rai o'r brodorion yn dyfod tuag ato. Cafwyd allan mai deiliaid Ja Ja., penaetb Opobo, oeddynt. Rhoisant deisen ac ych. gig i Cerutti, ond yr oedd ef erbyn hyn mor eiddil fel nas gallasai eu. bwyta. Llwyddodd Cerutti trwy arwyddion i beri i'r brodorion ddeall am ei gydym. aith, a mynasant hwythan gael gafael ynddo. Cymerodd y brodorion y ddau i gweh, a dygasant hwy i law-weithfa Mr Johnstone, marsiandwr Seis- nig, yr hwn a fu garedig wrthynt. Yr oedd Taylor yn gwbl noeth, ao nid oedd gan Cerutti ddim ond crys am dano. Galwai Ja Ja yn fynych i'w gweled, ac anfonodd iddynt 26p mewn arian i'w ranu rhwng gweddwon a theuluoedd y dynion a foddwyd.. Hefyd anfonodd nifer o'i ganlynwyr i chwilio am y cwch oedd ar goll, yr hwn a gawsant ac a anfonasant i fyny i Ahassa. -<
NODION O'R DDARLLENFA.
NODION O'R DDARLLENFA. v. Canmolir cymaint gan fynychwyr y ddarllenfa yma ar yr areitbiwr dirwestol enwog, R. T. Booth, ei waith a'i lwyddiant fel y maent wedi creu rhyw awydd cryf yn mynwes Hugo i fynu gweled a chlywed y dyn rhyfedd, a barnu drosto ei hun. Gwelwn yn ol y papurau ar y byrddau yma. mai yn Abertawe y mae y gwron yn gweithio y dyddiau yma. Nodweddir ei ymdrechion yma, fel yn mhob man arall, gan ddifrifoldeb braidd anghydmarol, a chan lwyddiant tu hwut i ddim a welodd yn un o faesydd blaenorol ei lafur-yn yr Amerig nag Ewrop. Dros 6,000 o ardystiadau newyddion mewn pedair noson Dywedir gan y rhai sydd yn adnabod Booth yn dda, nad yw y mawr lwyddiant yma i'w briodoli i areithyddiaeth y dyn, nag i unrhyw fath o allu dynol uwchraddol a ddadleuir ganddo, yn gymaint ag i'w ddifrifoldeb neillduol gyda'i waith, a'i ffydd ddiysgog, fod y mudiad o Dduw ac yntau yn offeryn etholedig i'w gario allan. Hwyrach, os caniata am. ser i ni ag y gwena ffawd arnom, y mynwn weled a chlywed y dyn cyn bir; bydd genym wed'yn ryw. bsth mwy i'w ddyweyd am dano. # Gwawdia'r Western Mail; ymresyma y Daily News; syna'r Seren; rhyfedda'r. Tyst; cynghora'r Gwladgarwr; ac ymofidia'r Darian yn fswr arfyrdd- au y Ddarllenfa yma y dyddiau hyn, uwohben yr ymdrafodaeth helbulus yn hen goleg parchus y Bodyddwyr yn Mhontypool. Dau ar bymtheg o fyfyrwyr wedi eu diarddel am ymddygiadau an- nhoitwag Pa buasai y rhai hyn fyfyrwyr ar gyfer galwedigaethau cyfrredin bywyd, ci baasai ein syndod mor ddwfn, na'n gofid mor fawr. Ond mae y ffaith eu bod oil yn fyfyrwyr ar gyfer gwaith mawr y weinidogaeth yn peri i ni ofyn mewn dychryn- Pa beth a ddaw o hyn oil ?" Fod y cyhuddiad o ymddwyn yn anweddns a ddygir yn erbyn y person. au hyn yn gywir, sydd ballach tu hwnt i bob amhen. aeth. Y mae llythyr y junior students yn y .South Wales Daily News am dydd Mawrth, yn penderfynn y cwestiwn ar unwaith, os yw haner hwnw yn wirionedd, ac y mae yn fwy na thebyg ei fod oil, nis gallwn ddyweyd dim gwell na gwarthus! cywil. yddus!! » Glan Dyfi wedi troi yn Fedyddiwr ? nag yw yn enw pob rheswm Gwir ei fod wedi bedyddio trwy drochiad un o aelodau ei eglwys mewn llyn cyfagos i Ystumtuen y dydd o'r blaen, ond nid yw hyny yn ei wneyd yn un mymryn llai o Wesleyad nag oedd o'r blaen. Os proffesia rhyw berson ei fod yn ar. gyhoeddedig mai trochiad yw y bedydd iawn, ao nas gall fod yn ddedwydd aelod o eglwys Crist oni chai ei drochi, gall gweinidog Wesleyaidd gyflawni ei ddymuniad yn yr ystyr helaethaf, ac oto fod y ddau mor Wesleyaidd a Wesley ar ol cyflawni y gorchwyl yn gystal a chyn hyny. Felly y bu ac felly y mae gyda gweinidog dewr Ystumtuen, a'r gwr a fedydd- iodd. Y mae y Cyfarfodydd Diwygiadol am y gauaf ar droed, neu yn cael parotoi ar en cyfer, mewn amryw fansu yn y Dalaeth Ddeheuoly dyddiau hyn, ac hyd y clywsora ae y darllenasom, ant yn mlaen yn llwydclianlls iawn. Yn wir, Mri Gol., y mae eich erthyglau arweiniol galluog ar Adfywiad crefydd- ol," wedi cael cryn sylw. cryn afael, a chryn ddylan- wad mewn amryw fanau—manau hwj'rach na buasech yn disgwyl fawr cyffro, fawr o ymysgwyd, na fawr o adfywiad byth i gymeryd lie ynddynt. Un galon yn mhob eglwya—jn dan gan sel, ac yn llawn o ffydd fyddai yn ddigon i roddi Cymru ar dan! "0 anadl tyred ;{; ;'« Lefroy. Y llofrndd—y lleidr—y celwyddwr a'r twyllwr. Percy Lefroy Mapleton y bai'dd—y Drama• tist-y Nofelydd a'r hanesydd. Yr adyn crenlonaf -yr bawddaffw anwylu—y mwyaf sur ei olwg-y mwyaf difyr ei gwmni. Cyfiawnheir, ni i gymhwyso yr holl dermau a'r nodweddau hyn at yr adyn troen. us yn ngbarchar Lewes, os yw un ran o bedair o'r hyn a draetha y papurau yma am dano yn wirion. edd. Darlunia rhai o honynt ef yn genxus, eraill yn ynfytyn. Cydymdeimla rhai ag ef, gwawdia eraill ef. Arllwysa anrbell UD ffrydiau o ddigllonedd ar ei ben, eraill a'u hesgusodant hyd y mae ynddynt. Ond er hyn i gyd, ymddengys y bydd yn breswylydd byd arall cyn nemawr ddyddiau. Nid rhyw Jawer o fardd yw Hugo, ond meddliai fod Gwr y Siop Isaf wedi taro ar y wythien iawn pan ganodd mor swynol i'r Pendil yn y GwyUedydd diweddaf. Yn siwr i chwi, mi fu Hugo ei hun mewn cystndd blin yn ddiweddar, ond ni buasai yn ei ystyried haner mor galed, pe gallai farddoni tra ynddo. Dyna beth yw yr eaboniad goreu welsom ar Job xxxv. 10. HUGO.
LLOFFION O'R "DRYCH,"
LLOFFION O'R "DRYCH," Cynelir arddangosfa ynJ, Vienna, A wstria, y flwyddyn nesaf, yn perthyn i bob arlunwyr, cerflun- wyr, cynllunwyr, ac archadeiladwyr, a rhoddir y gwobrwyon i'r goreu. Hysbysir fod nifer yr arwystlwyr {pawnbrokers) yn Mhrydain yn 4,372, a'r flwyddyn ddiweddaf rhodd- wyd allan 200,000,000 o docynau ar nwyddau a wystlwyd. Rhoddir ar ddeall fod New Zealand yn talu yn flynyddol i Loegr 18.50 o ddoleri y pen ar ffurf trethi a Ilogau, ac mae Canada yn talu 12.70 o ddoleri yr un; gan hyny credant y. dylant ymdrechu am anni- byniaeth. Yn ystod mis Hydref, daeth 493 o longau i New York o borthladdoedd tramor, fel y canlyn: Prydain, 223; America, 110; Germani, 14; Norway, 32; Itali, 29; Awstria, 11; Ffrainc, 9; Belgium, 7; Holland, 5 a'r gweddill o fan wledydd eraill. Yn Awst diweddaf, diangodd Augustus D. Wheelock, clerc banc J. C. Waloott & Co., New York, i Loegr, wedi lladrata 65,000 o ddoleri, a dydd Mercher diweddaf dygwyd ef yn ol ar fwrdd yr agerlong Wisconsin," yn ngofal y swyddog Cos- grove. Er ei fod wedi lladrata 65,000 o ddoleri goll- yngwyd ef yn rhydd ar feichiau am 5,000 o ddoleri. Rhwng Gorphenaf a Hydref aeth 64 o deithwyr i ben y mynydd Mont Blanc, yn Savoy, Ewrop, yr hwn sydd yn 15,668 o droedfeddi o uchder, yn cyn- wys 17 o Seison, 16 o Americanaidd, a 17 o Ffrancod. Yr oedd y gweddill o wahanol wledydd. Yn Massachusetts, y mis diweddaf, oymerwyd athrawes ysgol ddyddiol i fyny am guro bachgen bychan yn ddidrugaredd, a dedfrydwyd hi gan y llys i dala iawn o 25 o.ddoleri, a rhoddi meichian o 300 o ddoleri am iawn-ymddygiad yn y dyfodol. Rhoddir ar ddeall fod :pob agerlong o Ewrop ft gyraedda Panama, ar y r adeg bresenol, yn cynwys swm mawr o offerynaa, arfau a nwyddau at wasan- aeth y gamlas o'r Werydd i'r Tawelfor. Awgryma hyn y dechreuir y gwaith yn fnan. Yn yr arddangosfa gotwm yn Atlanta, Georgia, yn ddiweddar, derbyniwyd 3,000 o blanhigion to oddiar nn ffarm yn Shermanville, South Carolina; ac yr oeddynt yn 18 modfedd o uchder, yn gryfion ac iraidd. Codwyd te da arnynt eleni. Yr haf diweddaf aeth Dr E. R. Heath i flaenori mintai o archwilwyr i fyny yr afon Beni, yn Bolivia, America Ddeheuol, a chanfyddasant lawer o goed- wigoedd gwerthfawr, a goludoedd metelaidd. Ar ol hyny aeth dros 10,000 o archwilwyr i'r lie! Gwrthododd awdurdodau trefol Cedar Rapids, Iowa, werthu trwyddedau i'r tafarnwyr, ac yn awr mae y bobl yn cwyno fod eu trethi yn afresymol o nebel, o herwydd diffyg arian y trwyddedau, a meddwdod heb ei atal. Gwerthir diodydd meddwol yn Marion, chwe' milltir o ffordd, ac mae pobl Cedar Rapids yn myned 9!U harian yno! Achoswyd cynwrf anarferol yn Nyffryn y Wyom- ing, Pa.; yr wythnos ddiweddaf, yn enwedig yn nghylchoedd Pittston, o herwydd ymddangosiad y frech wen yn mhlith y bobl. Cyhoeddwyd hanesion brawychus yn newyddiaduron New York, nes creu ofn cyffredinol ar bawb i fyned ym agos i'r lie. Dywed y meddygon er hyny fod y freoh wen yno o natur arafaidd ac ysgafn. Credir hefyd na fydd iddi lod yn heintus i raddau helaeth. canys defnyddir pob moddion adnabyddus i atal yr anhwyldeb. Yn mis Awst diweddaf rhoddwyd brech y fuwch ar 6,000 o bersonau, yn y cymydogaethau. Pasiodd Deddfwrfa Massachusetts, ddeddf amser yn ol i orchymyn i bob bar lie gwerthir diodydd meddwol, gael ei osod, fel y bydd yn weledig o'r heol; ac ni oddefir i neb osod gorchudd, neu unrhyw gysgod rhwng y bar a'r heol. Bu raid i lawer symad y bar i le amlwg, goleu, a thori ffenestri a drysan yn y muriau, er eu gwneyd yn weledig o'r heolydd, ac mae y ddeddf yn cael ei rhoddi mewn grym yn fanwl yn y prif ddinasoedd. Dywed y Boston Retailer nad yw y cynllun wedi lleihan dim ar yr yfed, ac nad yw hen yfwyr yn gofalu pwy a'n gwel yn yfed. Yn mis Mai diweddaf, daeth James Sheehan drosodd o'r Werddon i America, drwy gynorthwy Cymdeithas Ymfudol y Gwyddelod, gan adael gwraig a 12 o blant yn Castle Town, Werddon, ac ni allai siarad gair o Saesonaeg—dim ond y Wyddelaeg. Anfonwyd ef i weithio i'r mwngloddian yn Llyn Superior. Bu mor ddiwyd yno fel yr enillodd arian i'w hanfon adref i gadw ei deuln, a 100 o ddoleri tuag at dalu eu cludiad i America; ond yn fuan ar 01 hyny cymerwyd ef yn glaf, drwy orlifiad gwaed o'i ysgyfaint, a'r wythnos ddiweddaf dychwelodd adref at ei deulu. Nis gall neb o'i deulu siarad gair o Saesonaeg! Dywed uu o brif feirniaid Germani fod tuedd yn nysgedigion duwinyddol ei wlad i ddybysbydda pob pwnc, iel nas gellir dweyd dim psllach arno, ao wrth wneyd hyny y maent yn dyhysbydda eu hunain yn ami, gan syrthio i'r darfodedigaeth, yn enwedig wrth ysgrifenu ar y Beibl. Wele engreifftiau Areithiodd Proff. Haselbach, o Urdd Ysgol Yienua, 22 o flynydd- oedd ar y benod gyntaf yn Isaiah, ac nid oedd wedi gorphen pan fu farw Ba Dr Ulrich bedair blynedd yn traddodi 312 o areithiau ar y Proffwyd Daniel; ac wedi hyny traddododd 1,509 o areithiau mewn 25 mlynedd ar y Proffwyd Isaiah. Mewn saith mlyn- edd drachefn traddododd 459 o areithiau ar y Proff- wyd Jeremiah, a bn farw yn 80 mlwydd oed cyn gorphen ei waith.
Nid ydym 2?h gyfrifol am syniadau…
Nid ydym 2?h gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr. CAPEL NEWYDD LLANDYBIE. MRI GOL,-Wrth son am y capel uohod, yn eich rhifyn diweddaf, ceir nodiad sydd braidd yn amwys gan eich gohebydd "Arianfryn." Dywed fod 11 j Parch H. E. Thomas, Ystalyfera, wedi rhoddi ei enw am 50p." Ei enw i gasglu 50p ddylasai fod.—Yr eiddoch, &c., H. E. THOMAS.