Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

EDWIN POWELL, NEU, YR ARWR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EDWIN POWELL, NEU, YR ARWR CYMREIG. GAN john LL. JAMES (Clwydwenfro). PENNOD III. Ti, blentyn amddifad, nac ofna gydlwybro A throion rhagluniaeth-hwy ddeuant er gwell; Un ris gydag arall esgyna fel delo, Y wawr a ymegyr, er edrych yn mheil. Hrc yn hyn nid ydym wedi rhoddi nemawr o hanes Edwin Powell cyn ein eyfarfyddiad ag ef ar lan y mor, yn am- gylchiad hynod achubiaeth Elen, &c. Gan y gall rhai o'n darllenwyr fod wedi tybied ei fod mewn amgylchiadau cy- fyng, amcanwn roddi bras ddarluniad o'i helyntion blaen- orol. Edwin oedd yr henaf o ddau o blant, a'r unig fach- gen i Ddafydd a Jane Powell; a'r llall, sef merch, oedd o'r un enw a'i mam, o dref Caernarfon. Bu eu mam farw pan nad oeddynt ond ieuanc, a phriododd eu tad yr ailwaith, ag un Margred Jones. Cadben llong oedd Mr. D. Powell wrth ei gelfyddyd, yn byw mewn amgylchiadau lied gysur-' wrth ei gelfyddyd, yn byw mewn amgylchiadau lied gysur-' us a thrwy farwolaeth perthynas iddo, wedi dyfod i gryn gyfoeth er nid digon i'w ddenu i adael ei alwedigaeth, ac, fel y dywedir, i fyw ar ei arian. Fel ag y mae bywyd mor- wr yn un peryglus, yn agored i greulonderau ystormydd, ongddrylliadau, &c. felly, pan oedd yr ieuengaf o'i blant ond oddeutl1 chwech mlwydd oed, collwyd Cadben Powell a'i long pan ar fordaith i'r India Ddwyreiniol, fel na chIywwyd son am danynt byth eilwaith, a daeth y ne- ydd adref ei fod ef a'r dwylaw oil wedi boddi. Mewn oddeutu pedair blynedd ar ol hyn, priododd Margred, ei weddw, agun Robert Williams, cyfreithiwr wrth ei alwedig- aeth ac felly cafodd y ddau blentyn eu taflu ar ofal Ilys. a dyn nad oedd ganddynt un hawl ar ei garedigrwydd. r oedd Mrs. Powell wedi ymddwyn yn lied garedig tuag at ei Ilys-blant hyd ei huniad a Mr. Williams, acynatrodd y fantol; collodd ei serch tuag atynt, ymddygodd yn fwy 'sylw a chreulawn, ac yn fwy felly pan ganlynwyd ei phri- odaz « genedigaeth merch iddi ei hun nes, mewn ychydig soedd, yr oedd wedi myned mor ddrwg iddynt, fel ag y arfu Edwin ei gadael, ac ymgrwydro o fan i fan, gan ym- ddll'led yn hytrach i dosturi ewyllys da haelioni nag i un oedd dan rwymau i'w amddiffyn, ei wylio, a'i garu ac yn Y cyflwr hwn y cafodd y darllenydd ef gyntaf. Fel hyn y inae Ilawer o blant wedi cael eu taflu yn ddiymgeledd, yn Qiddifaid crwydrolar draws y byd, a'u gwneuthur yn agor- ed i bob caledu ac eisieu. Ond y mae Tad yr amddifaid yn gweled y cwbl, ac fynychaf yn darparu ar gyfer y cyf- l'yw, gan dalu yn ol yn y diwedd bwyth ei anfoddlonrwydd ar orthrymwyr didrugaredd. Felly, ni chafodd Edwin ei wyr adael, er ei fod wedi dyoddef caledu nid bychan, a'r oU" yn ddigon tywyll; canys bu yramgylchiad a'i dyg. 1 gyfarfyddiad a Mr. A. Morgan yn agored i'w ddwyn 1 sefyllfa ddinodded ac annedwydd. Wedi rhoddi cym- maint a hyn o hanes amgylchiadau Edwin, ni a awn yn lIllaen. Cyoamerodd Mr. A. Morgan ef i'wletty yn y R-d L-n, angosai y parch a'r caredigrwydd rnwyaf iddo, cynnyddai fwy yn ei ffafr bob dydd, cymmerai Elen ef fel brawd, ac ytoddygid tuag ato fel un o'r teulu ac wedi treulio ych- ydlg ddyddiau yn ychwaneg ar lan y mor, troisant eu gwy- nebau tuag adrcf, gan gymmeryd Edwin gyda hwy. Yr oedd eu ffordd yn gorwedd rhwng bryniau cribog, a mynyddoedd serth, swydd Feirionydd; ac er bod llawer milltir faith ganddynt cyn cyrhaedd Bron Dewi (canys dyna enw y lie) yn swydd Drefaldwyn, yr oedd golygfeydd harddwych a swynol natur o'u hamgylch yn ddigon i dde- nu eu sylw rhag gweled yr oriau yn faith, tra y cludoi y cerbyd hwy gyda chyflymdra i orsaf eu preswylfod. Di- ammeu fod y rhan lion o dywysogaeth Cymru gyda'r rhan fwvaf ardderchog o honi mewn golygfeydd naturiol; yma mae y materion godidocaf i ddenu sylw y teithiwr a'r ymwelydd;—mynyddoedd uchel, creigiau crogedig, llyn- oedd mawrion, afonydd dolenawg, dyffrynoedd ffrwythlawn, dolydd gwyrddlas, palasau gorwycli, ae anifeiliaid breision tra fry, yn y rhan ogleddol o honi, y mae mynydd uchel Cader Idris fel llywydd ar y cwbl. Pan ddynesai Mr. Morgan a'i deulu at Bron Dewi, yr oedd yr haul draw yn y gorllewin, yn taflu ei belydraudys- glaer ar y wlad o'i ol, nes yr ymddangosai holl natur fel yn gwenu mewn llonder; ceinciai yr adar yn nghangau y gwigoedd, a llamai yr anifeiliaid mewn hyfrydwch tra yr oedd teimladau y teithwyr hefyd yn cydguro mewnllawen- ydd wrth syllu ar wlad eu cartref, a'u bod yn dychwelyd yn ddiogel yn ngwyneb y dygwyddiad a fygythiodd dori ar draws dedwyddwch y teulu. Nis gallai Mr. a Mrs. Mor- gan ddim llai nag anadlu allan ddiolchgarwch i'r Duw a'u dygodd yn ol yn ddianaf, am ei wyliadwriaeth drostynt, a'i ofal am danynt ac, yn wir, oni bai y Duw sydd yn parhaus sylwi ar ein hoi, diammeu y byddai i lawer ewmwl tywyll, du-dew, a thymhestlog, dori uwch ein pen, gan ar- llwys ei gynnwysiad o drallod i waered o awyr ein mwyn- iant, nes difodi ein holl bleserau daearol. Saif Bron Dewi mewn lie hyfryd a thawel, wrth droed bryn bychan yn gwynebu i'r deau, ac felly yn derbyn gwen- au haul y nef braidd drwy y dydd cylchynir ef gan blanigfa o goed gwyrddlas, unigedd pa rai yn ddiammeu a hoffid gan lawer bardd o'i flaen y mae dol wastad, yn llawn rhodfeydd prydferth, yn ymgroesi drwy eu gilydd tra wrth ei godrau y mae afon yn ymdreiglo gyda churiad- au sisialawg yn erbyn y ceulenydd tua'r mor a pherthyna iddo helaethrwydd o dir ffrwythlawn. Y mae y He hwn yn meddiant yr un teulu er ys oesoedd rhy bell i'w hol- rhain yn cael ei gyfrif gyda'r mwyaf anrhydeddus yn y gymmydogaeth a'i breswylwyr yn cael en hynodi am eu caredigrwydd a'u haelfrydedd. Yr oedd y cwbl yma yn newydd i Edwin teimlai hyfrydwch wrth syllu arnynt, a rhyw londer annarluniadwy wrth sangu am y tro cyntaf ar drothwy ei noddwr ond yn ami gwelid rhyw brudd-dcr yn ymdaenu ar draws ei ruddiau, nas gellid cyfrif am dano. Y gwasanaethwyr oil oeddynt Gymry, oddieithr yr athraw- es (governess) oedd yn addysgu Elen, a'i chymhwyso i gymdeithas Cymry hefyd oedd y gweithwyr dewr-galon a drinient amaethyddiaeth y lie ac arferion Cymreig a gof- leidid ganddynt oil. Yma, wedi treulio ychydig amser, enillodd Edwin serch a ffafr yr oil yn. ac o gylch y lie ymhoffai pawb ynddo, o herwydd ei ymarweddiad mwynaidd, ei dueddiad cyfcillgar, ei ymddygiad gonest, a'i barodrwydd diflino i ymdrechu cynnorthwyo pawb, a gweled yr oil o'i gylch yn ddedwydd. Y mae rhywbeth mewn plentyn amddifad ag sydd yn tynu cydymdeimlad o galon unrhyw ddyn sydd a dynoliaeth yn ei fynwes a gellir gyda phriodoldeb ddweyd am y dyn na ehyffry-ci deimlad wrth syllu ar blentyn didad a difam, fod ei galon wedi ei chaledu fel yr adamant ei hun. Golygfa hyfryd iawn oedd gweled pawb oddeutu Bron Dewi yn ymdrechu ennill serch, If dedwyddu Edwin hyd y nod Cati (hen forwyn oedranus y teuki), a Wil Morris,—gwnelai