Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CARTREE AC YSGOLDY BECHGYN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CARTREE AC YSGOLDY BECHGYN Y CENADON. Pwy bynag a dderbynio y bachgenyn hwn yn fy enw I, sydd yn fy nerbyn I; a phwy bynag a'm derbynio I, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd I."—IESU GRIST. NID oes odid i Gymro, efallai, yn gwybod am y sefydliad thagorol yma, ac o herwydd hyny nid yw erioed wedi cael y pleser o dderbyn un o'r bechgyn yn enw lesu, drwy fwrw ei geiniog i'r drysorfa. Dyma ddarlun o'r adeilad ag sydd yn awr ar waith, sylfaen yr hwn a osodwyd gan larll Shaftesbury, Tachwedd 27ain, 1856. Byddai yn dra dyddoruwl i'r Cymry gael meddiant oryw hysbysrwydd am ddechreuad y sefydliad yma, yr hwn sydd, nid yn unig yn ysgol dda i'r plant, lie y derbyniant addysg bur a gwasan- aethgar, ond yn Gartref iddynt hefyd. Y plant hyny nad oes ganddynt yn y wlad hon yr unrhyw gyfaill i'w derbyn, ac i ofalu am danynt yn ystod y gwyliau, a gant aros yn ddi- draul yn y ty, a gwneir eu gwyliau mor gysurus iddynt ag y byddo amgylchiadau yn caniatau; mewn gair, y mae y lie, dros yr amser ag y byddout ynddo, yn GARTREF mewn gwirionedd iddynt. Dechreuwyd y sefydliad yn 1842, a chyfarfu a llawer o iwystrau am y deng mlynedd cyntaf, ond cyrhaeddodd i'w sefydlogrwydd presenol er ys pedair blynedd. Teimlai y cenadon fod angen mawr am sefydliad o'r fath. Yr oedd dylanwad llethawl yr hinsawdd drofanol, a dylanwad gwaeth arferion ac eilun-addoliaeth y pagan, yn nghyd a r tfaith nad oedd yn y gwledydd hyny yr un ysgol lie gallent gael hyfforddiant i'r plant,.yn galw am iddynt gael eu han. fon tra etto yn ieuainc i Brydain. Y mae yn rhaid ei bod yn gysur mawr i'r rhieni fod ganddynt yn awr gartref dy- munol i ddyfod iddo, lie y mae ysgrifenwyr a ehyfeillion y prif gymdeithasau crefyddol yn cymmeryd y gofal mwyaf tadol o honynt, gan ymdrechu, mor bell ag y medrant, i lanw lie rhieni iddynt. Y mae'r ysgol, &c., hyd yma, wedi bod yn Mornington Crescent ond penderfynodd y pwyllgor, drwy fod galw am ragor o Ie, i adeiladu t^ pwrpasol yn Blackheath, yr hwn fydd yn ddigon eang i gynnwys cant o blant. Bydd traul pryniad y tir ac adeiladu tua ^4,000, llawer o'r hyn sydd wedi cael eu casglu eisoes; ac os gwel darllenwyr y llinellau hyn yn dda i danysgrifio. rhywbeth, derbyviia y pwyllgor y swm gyda diolchgarwch. Ar osodiad y sylfaen, rhoddes Dr. Tidman fyr-hanes arp ddechreuad a chynnydd y sefydliad, gan ddangos natur yr addysg ag oedd yn cael ei gyfranu i'r plant; sylwai hefyd fod y sefydliad yn hollol ansectaraidd, ac yn agored i blentyn unrhyw genadwr efengylaidd, o unrhyw barth o'r byd. Nid sefydliad elusenol ydyfr ychwaith, yn ystyr gyfyngaf y gair, canys y mae traul fwyaf er addysgu y plant yn disgyn ar y rhieni; end os bydd rbywbeth yn fyr, telir hyny drwy danysgrifiad blynyddol. Y mae'r rhieni yu cael eu cynnorthwyo mor bell a byna ond y prif bwne ganddynt hwy yw, fod yr ysgol yn GARTREF. Y mae Cym- deithas Genadol Llundain wedi rhoddi 4- 200.