Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

TRAETHODAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAETHODAU. EDWIN POWELL, W NEU, !R ARWR CYMREIG. can JOHN LL. JAMES (Clwydwenfro). PENNOD VII. 'Rol geirwon dymhestloedd y gauaf, Tra hyfryd yw gweled y dydd Yn gwawrio, pan nodau gogoniant Yr haf a ymledant yn rhydd. Y bronau hiraethlon yn awr llawenychwch, Am ennyd cymysgwch eich dagrau yn nghyd. Gellib meddwl weithiau fod dedwyddwch y byd yn gy- fyngedig i'r dospeirth uchaf, a'i bod yn anmhosibl mwyn- llan bywyd heb gael digenedd o arian a phleserau nid yw hyn ond camgymmeriad mawr-y mae yn bosibl treulio dydd ein byr ymddangosiad yn y byd yn ddedwydd, ond gwneuthur y goreu o'n gwabanol sefyllfaoedd, os bydd ein liamgylcbiadau uwchlaw noethni a newyn. Er nad oedd un gwychder, moethau, na phleserau (o'r cyfryw a eilw y byd felly) yn nhy Pegi Thomas, etto yr oedd hi yn edrych mor gysurus & brenines yn ei phalas mwyaf ardderehog, yn amgylchynedig gan rwysg a mawredd daearol. Yn awr, yr oedd ei horiau ychydig yn ysgafnach a mwy llawen nag arferol; eanys yr oedd Jane wedi gadael ei gwely cystudd, gwrid iechyd yn dychwelyd i'w gruddiau, a'i haelodau yn ei galluogi i rodio yn ol ac yn mlaen, ac i gynnorthwyo ychydig ar Pegi yn ei gwahanol fan orchwylion, ac felly yn ei gwneuthur yn gydymmaith dyddanus. Gwraig weddw oedd Pegi, yn byw wrthi ei bun, heb na mab na merch, ac yn ennill ei bywioHaeth drwy gyflawnu man orchwylion i'w chymmydogion; megys, gwau hosanau, nyddu gwlan, gwnio, &e. Daeth Jane a Pegi yn fuan yn hoff o'u gilydd, a chyfod- odd cariad mynwesol rhyngddynt. Nis gallai Jane byth ddiolch digon i Pegi am ei thiriondeb a'i gofal; ac mor hyfryd oedd eu gweled y nos yn eistedd wrth dan bychan cynhes, wrth oleu canwyll fain; yn dwyn yn mlaen eu gwaith—yn ateb eu gilydd mor serchog, tra yn dysgwyl crochan bychan i ferwi, yn yr hwn yr oedd eu swper; er nad yn cynnwys danteithion, etto yn iaehach i'rcyfansodd- iad na. seigiau breision y cyfoethog. Pryd hyny, dywedir eu bod yn ymddyddan—ymddyddan am beth? Nid am chwedlau gwrachaidd a cbleber-darddusy cymmydogion— nid am bethau nad oetldynt yn dal un perthynas a hwynt eu hunain—nid am ofergoelion v genedl, nac am bethau gwag a difudd j ond pethau crefyddol. Rhaid dywedyd fod Modryb Pegi o gymmeriad gwir grefyddol, mewn parch gan bawb o amgylch, ac yn cael ei chyfrif yn siampl o dduwioldeb; darllenai lawer ar y Beibl, a mynych oedd y cyfeillachau rhyngddi a Duw mewn gweddiau dirgel. Wedi dyfod o Jane dan ei gofal, teimlai nas gallai ddefnyddio ei hamser yn well nag i dreulio am- bell adeg i ymddyddan a hi yn nghyleh pethau ysbrydol, ac i'w hegwyddori yn ngwirioneddau sylfaenol Cristionog- aeth. Yr oedd yr eneth yn medru ychydig ar ddarllen, ac felly yn rhwyddhau yr ymdrecliion ac fel yr oeddyirt, yn cydeistedd, gwelii Jane yn darllen darnau o'r ysgrythyrau (yn sillebu rhai, wrthreswm), a'r hen wraig hithaua drychwydrau (spectals) ar ei llygaid yn syllu, ac yn barod i roddi pob cynnorthwy ag oedd o fewn ei gallu nid ed- rychodd athraw duwinyddol erioed yn fwy liybarchus, a dianmeu fod ei hathrawiaethan hefyd yn gwbl mar bar. Cyn myned llawer o amser heibio, yr oedd yr eneth wedi myned trwy hanes Joseph, Moses, Abïah bach, y ferch yn nhir Assyria, lesu Grist, a Timotheus ieuanc; a gallai ateb unrhyw ofyniadau o berthynas iddynt, gyda chryn gywir- deb. Yr oedd Jane mor hoff o'i llyfr ag oedd Modryb Pegi i'w dysgu a chyfrifa hyn fwy am ei llwyddiant na dim arall. Gwynfyd na fyddai cymmaint o ymdrech yn merch- ed Cymru yn gyffredinol-na fyddent yn treulio rhagor o'u horiau hamddenol i wrteithio eu meddyliau, ac i ychwan- egu eu gwybodaeth Gwynfyd na fyddai cymmaint o grefydd yn mysg y dosparth uchaf ag sydd yn mysg tlodion ein gwlad, a byddai gwedd newydd i'w chanfod yn dra buan ar ein hynys. Ond, cofier, nad ydym wrth hyn yn barnu ei bod yn ol a gwledydd ereill; 0 na, y mae lower yn lies yn mlaen nag un deyrnas dan haul yn ystyr helaethaf y gair. Nid oedd Jane i fwynbau cysuron aelwyd Modryb Pegi yn hir: wedi gwella digon, gorfu iddi edrych allan am le arall. Ni chafodd ond annogaeth wan i ddychwelyd i Rhif 8 eithr dywedodd Mrs. Williams wrthi, Y mae ar eich Haw chwi eich hunan i ddyfod neu i bei'lio meddyl- iaf ei bod yn llawn cystal i chwi edrycli allan am le yr ydych mewn oedran rwan i ennill eicb bwyd eich hun." Yr oedd rhyw dueddiadau yn sisial yn nghalon Jane i ddychwclyd; ondgwnaetheiphenderfyniad i fyny i dreio drosti ei hun. Fel ag y mae Tad yr amddifaid yn parhaus wylio dros ei blant, pan glywodd Mrs. Warlow hyn, gosod- odd ei hun ar waith yn uniongyrehoJ-yn lie gadael Jane i fyned allan i wasanaetbu, cymmerodd hi i'w gofal ei bun, dan yr esgus o'i bod mewn angen o honi ond darfu ych-* ydig ddiwrnodau egluro mii nid morwyn oedd Jane i fod canys yn lie ei gosod i weithio, anfonodd Mrs. Warlow hi at berthynas ychydig allan yn y wlad. Derbyniwyd Jane yn Nghoed-y-Meudwy gyda phob hyfrydwch, ac ymddyg. wyd tuag ati yn y modd tirionaf. Yr oedd y lie hwn yn nghanol coedwig aiMlir gwastad ar lan afon A-lol ych- ydig o'r tu cefn iddo yr oedd moelydd ucbel a clireigiog, ar ba rai nid oedd boll yatormydd creulonafamser wedi gwneu- thur dim amgenach ol na dadguddio eu hysgerbwd caled o dro i dro. Yr oedd rhywbeth yn henafiaethol tu hwnt o'r tu allan iddo, yn y ty ei hunan, a'i ddodrefn; ond mwy fyth yn y perchenog oedranus a'i preswyliai. Edrychai Dafydd Owen oddeutu pedwar ugain mlwydd oed; hong- ianai ei wallt, oedd yn awr yn wyn gan henaint. yn gyd- ynau arianaidd i waered ar ei ysgwyddau; eisteddai ef fel patriarch parchus yn ei hen gadair freichiau ac er ei fod yn awr dan yr angenrheidrwydd o wisgo drychwydrau ar 11 el ei lygaid, ac yn gorfod ymddiried llawer iawn o ofal y 110 i'w fab henaf (Henry), etto yr oedd yn hynod gyflym ei ys- gogiadau, ei leferydd, a'i ffraethegau Cymreig, ag ystyried ei oedran. Yr oedd Nansi ei wraig rywbeth yn ieuengach, ac yn llawn caredigrwydd a haelioni fel ei gv'vr. Wrth fyned i mewn i'r ty hwn, gellid meddwl ein bod wedi cael ein trosglwyddo ddwy genedlaeth yn ol i'r eesau Cymreig, neu i genedlaethau y patriarchiaid Iuddewig. Yma y syrthiodd coelbren Jane am beth amser, ac ni chafodd dim achos i achwyn, oni achwynai ei bod yn ormod o bet gan yr hen bobl. Yn ystod yr amser hwn, yr oedd Cadben,Morgan red gadael Bron Dewi, ac ail ddechreu ar ei alwedigaeth for- wriaethol. Teimlai Edwin gryn hiraeth ar ei ol; ond nid yw y cymmylau niwlog o hiraeth sydd yn dyfod dros awyr- gylch ieuengtyd ond o fyr barhad gan hyny, daeth Edwin i'w le yn o t'uan. Cafodd ein harwr ar ddechreu y gwan- wyn ei anfon i'r ysgol ddyddiol i dref M--th, dan ofal John Humphrey. Yn awr, ni a awn heibio i ddeunaw