Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

♦;.. EDWIN POWELL,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

♦ EDWIN POWELL, "YR ARWR CYMREIG. SAN JOHN LT. JAMES (Clwydwenfro). PENNOD VI. Mor hynod cyferfydd dygwyddiad Ag arall ddygwyddiad o bwys, Gap ateb i'w gilydd mor gywir, Nes ffurfio un gadwen wiw lwys Ond, beth ydyw bywyd yn amgen Na llawer dygwyddiad yn nghyd Er pob rhyw ddygwyddiad ddaw'n unol A threfniad Llywyddwr y byd. ER cymmaint o gyfnewidiadau sydd wedi, ac yn cymmeryd lie yn nghymmeriad ein cenedl, y mae rhai o'i hynodion yn aros yn ngwyneb pobpeth. Bu ein cenedl yn un ryfel- gar iawn ac y mae caerog ddinasoedd yr Yspaen, Por- tugal, gwastadedd Waterloo, rhyfelgyrchoedd diweddar y Dwyrain, neu fythgpfiadwy diriad y Ffrancod yn Aber- §waen, yn profi nad yw yr ysbryd milwraiddacanturiaeth- ns wedi ymadael o Gymra etto. Y mae ysbryd barddonol, ymchwilgar, a darllengar, ein cenedl hefyd yn parhau o oes i oes ond nid a'r pethau yna y mae a wnelom yn bre- senol, eithr a.'i haelionusrwydd a'i Hettygarwch. Anfyn- ] ycny ymaith yn waglaw, y I cardotyn crwydrol, o diroedd lwerddori ae Ysgotland, yn cael ei adael i ddyoddef eisieu, a'r amddifad i gwyno, heb i galon rhywun gynhesu tuag ato ond fel y sylwodd amryw, y mae'n rhaid i'r fymro gael hpli i bawb ddeuant ar ei Sbrdd,—" 0 ba le, ac i bale?" Felly, ar y nos dan sylwj yn Mron Dewi, ni annghonwyd y ddefod hon mewn perth- ynas a Robert Hugh (y dyn dyeithr y soniwyd am dano yn y bennod flaenorol). Crynhoai y teulu oil o'i amgylch, gan edrych yn ei wyneb, a gwrandaw ei hanes, gydachymmaint 0 ddyfalwch a phe byddai yn rhagfynegu eu tynged ac yn Oil plith, erbyn hyn, yr oedd Edwin ac Elen. Wedi cael annogaeth y cwmni, dechreuodd Robert fel y canlyn :— Morwr ydwyf wrth fy ngalwedigaeth, fel yr ydych oil Ys deall; ymserchais yn y m6r er yn fore, ac arno y treul- lais fy mywyd er yn bedair ar ddeg oed bftin ar fordeith- lau mawrion, yn mhell ac agos, o foroedd rhewllyd y gog- ledd hyd at ynysoedd pellaf adnabyddus y pegwn deheuol ond buais yn llwyddiannus bob tro, diolch i'r Mawredd, hyd at y fordaith olaflion. Nid oes ennill heb anturiaeth, morio y tonau heb ddygwyddiadau aflwyddiannus, yn Systal ag mewn pethau ereill. Gadaweis L'erpwl gyda'r long Mary Ann yn y flwyddyn 18—, ar fordaith i'r India '"T°wyreiniol; a chofiaf yn hir am y dydd hwnw, y gadaw- hen draethau Cymru o'm hoi; llawer anffawd gyfarfu a 1111 wedi hyny. Ni chychwynodd Hong fwy prydferth erioed ? borthladd na'r Mary Ann-pe byddech ond ei gweled yn *ylio ar wyneb y tonau, yr oedd yn morio mor rhwydd a ac edrychai dan ei llawn hwyliau mor foneddig- 'dd a'r alarch ar lyn Tegid. Cawsom dywydd hyfryd, ac j^yliasoai yn hwylus hyd Benrhyn Gobaith Da, lleygorfu aros am oddeutu pythefnos, o herwydd y tywydd an- afriol; ond buan y cliriodd i fyny, a chodasom yr angor, fyned yn y blaen i'r Cefnfor Indiaidd eithr yma y ^ytarfuom 8g ystorm ddisymmwth, yr honaanafoddy llong raddau helaeth, a gorfu i ni droi i mewn, ar ol amryw ddiwrnodau trallodus, i Batavia, yn ynys Java. Yma gor- fu i ni aros dri mis o herwydd afiechyd y crew, ac anallu- ogrwydd y saer i gyweirio y Hong ond daethom oddiyma oil yn fyw, ac wedi gwella yn o lew. Yn mhen rhai diwr- nodau, cyrhaeddasom Banjarmassin, i'r hwn le yr oeddeni yn bwriadu myned (tref fasgnachol yw hon, yn Ynys Bor- neo) yma cymmerwyd y Cadben Powell yn glaf am rai wythnosau, ond adfeddiannodd ei iechyd, ac yn mhen ychydig yr oeddem wedi Uwytho llongaid o reis. Yr oedd- em oil yn falch iawn i gael gwynebu adref erbyn hyn ond nid ein ffyrdd ni yw ei ffyrdd ef; ar ol dyfod allan i'r cefnfor Indiaidd, cawsom ystorom arw drachefn. Yr ^yf yn cofio o'r goreu, yr oedd oddeutu canol nos pan gododd y gwynt, pan oeddwn I a Ben Rogers ar y watch. Yr oedd genym ein hofnau er y boreu fod rhyw gyfnewidiad i gymmeryd He yn y tywydd; ond ni feddyliodd neb o hon- om y deuai i ystorom mor grealon. Pan oedd yr haul yn machludo, hofrai eymylau duon, llwydion, cochion, ac o bob lliw, yn yr wybren, gan ymffurfio ar luniau anferth a dychrynadwy, nes yr oedd yr olwg arnynt yn ddigon i ddychrynu un enawd. Ar yr amser y cyfododd y"gwynt, nid oedd na lleuad na seren yn y golwg, gan gymmaint y tywyllweh-edrychai fel y fagddu ei hunan. Clywetn ein dau ryw s-(Vn ofnadwy draw yn rhywle; a chyn i ni gael amser i edrych o amgylch, dyma'r ystorom ar ein pensu rhoddodd y llong naid mor erchyll, fel nas gwyddemyn iawn pa un ai yn y nefoedd ynte yn y dyfnder yr oeddym ond wedi dyfod ychydig i'm cof, gwaeddais nerth fy ngheg, Ben, down foresail;' yr hyn a wnawd mewn tic. Wedi hyny, brysiais i rybyddio'r first mate fod storoia wedi'a dal, am gael cymhorth uniongyrchol. Erbyn hyn, yr oedd y dwylaw oil ar y bwrdd ond prin y cawsom amser i dynu'r hwyliau i lawr, cyn i dwrf nerthol rwygo'r awyr uwch ein penau, a chyn pen dwy fynyd, dyma fellten ya taraw yn gywir ar ben blaen y llong, nes tori'r hwylbren blaen ymaith mor grwn a phe byddai wedi ei llifio. Cyn i ni gael amser i wybod ein cof, y peth cyntaf welem oedd, y cadben ar y bwrdd, heb ddim am dano ond ei drowsers. Crynhoiem o'i amgylch fel pe yn ddiwedd byd pawb yn dysgwyl ei orders, ac yn ymdrechu cymmaint a phe byddai ein diogelwch yn ymddibynu ar bob anadliad chwythem allan yn eu cyflawniad. Teimlem y llong yn trymhau bob mynyd, ac yn suddo yn ddyfnach ond ni feddyliai neb o honom lai nad oedd y cyfan yn all right, hyd nes y daeth y saer i fyny, gan waeddi,—' Sprung a leak ac yn hys. bysu na ddaliai y Hong ddim mwy nag awr cyn suddo, gwnelem a fynem iddi; fod y pen blaen hefyd wedi hollti yn echrydus. Edrychai Cadben Powell yn llawer mwy tawel nag y dysgwyliem yn ngwyneb yr anffawd. Wecli sefyll mewn synfyfyrdod am rywfaint, gorchymynodd i m gymmeryd y ddau gwch allan. Wedi gwneuthur hyn, a gosod rhwyfau, bwyd, dwfr, a inan bethau ereill, ynddynt, aethom iddynt, gan dori y rhaffau rhag i'r llong ein tynu gyda hi i'r gwaelod. Ni chawsom braidd ddigon o amser i rwyfo i bellder digonol, cyn i'r llong roddi tro ar ei hochr, a suddo o'n golwg am byth. Hawdd i chwi ddeall ein teimladau yn awr, ar wyneb y tonau geirwon y gwynt yn ein gyru o'i flaen dim ond y cefnfor llydan o'n hamgylch am gannoedd o fiiltiroedd dim ond dau gweh bychan i'r- eadw rhag cael ein claddu o olwg llygad dyn ac yn dys- gwyl bob mynyd am y canlyniadau truenusaf. Cadwasom ein cychod efo eu gilydd am gryn amser, gan drefnu pa fodd oedd gwneyd y goreu o'r gwaethaf. Wedi gweled mai ofer fyddai treio eu cadw yn h&y efo eu gilydd, ac y gallem gael ein gwasgaru yn mhell y naill oddiwrth y llall, cyfododd y cadben i fyny, ae anerchodd ni fel y canlyn ,j—