Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MANION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MANION. Dywed y Press fod Arglwydd John Russel yn Y8- grifenu hanes bywyd Charles James Fox. Y mae bynt ymchwiliadol yn Demerara wedi dargan- fod aur, platina, a haiarn, yn y tiriogaethan Prydeinig. Y mae Miss Nightingale er ys peth amser yn Vienna, a thelir y parch mwyaf iddi. Y mae yn ymweled &'r ysbyttai yn fynych. Dywed y newyddion o Paris fod swm yr aur anfatn- edig sydd yn Ariandy Ffrainc yn cyrhaedd i 9 miliwn o bunnau. Nifer y llongddrylliadau ag y cafwyd adroddiad am danynt ag sydd wedi cymmeryd lIe yn ystod y mis di- weddaf ydoedd 163. Dywed y newyddion diweddaf o New Zealand fod y cloddfeydd aur yn y wlad hono yn myned yn mlaen yn llwyddiannus. Anfonir y mails cyntaf o Lundain i'r India o dan y trefniadau newyddion, ar yr 2il o'r mis nesaf (Ionawr) trwy Marseilles. Y mae y Ilywodraeth F'frengig wedi llwyr bender- fynu anfon 3,000 o filwyr tir i China yn ddioed, mewn canlyniad i lytbyr a dderbyniodd oddiwrth y Hynges- ydd Ffrengig yn y dyfroedd Chineaidd, yn taer ertyn am adgyfnerthion. Dywedir y bwriedir cynnal cynnadledd o brif allu- oedd morawl Ewrop yn fuan yn Llundain, i ddadleu cynllun ymfudol Affrica, a'i ddylanwad ar y gaethfas- nach Affricanaidd. Y mae y swyddogion yn Woolwich wedi agor sef- ydliad milwraidd, Ilytrgell, ystafell i ddarllen, acystaf- elloedd i gael ymborth, at wasanaeth y milwyr, i'r dyben o geisio eu denu i ymgadw o'r tafarndai. Tarawyd y Hong Howadji, yn rhwym o Boston i Lyn- lleifiad, gyda llwyth gwerthfawr o gotwm a chywarch, gan fellten ar y 3ydd o Daeh wedd, ac yn mhen ychydig oriau, llwyr losgwyd hi. Dywed y newyddion diweddaf o Lisbon, fod yr haint ag sydd wedi bod yn gwneyd y fath ddinystr yn mblith y trigolion wedi lleihau. I fyny i'r l7eg o Dachwedd, yr oedd 10,556 wedi bod yn dyoddef o dano, a 3,350 wedi meirw. Dywedir mai sefyllla frwnt y dref fu yn achos i'r dwymyn dori allan. Y n ddiweddar, darganfyddodd heddgeidwaid Berlin ladd-dy, yn mha un y lleddid cwn i'r dyben o werthu eu cig. Coleddid ammheuaeth am fodolaeth y eyfryw sefydliad er ys peth amser mewn canlyniad i nifer ogwn mawrion fyued a'r goll. Dywedir fod lly wodraethau Lloegr a Ffrainc yn cario gohebiaeth ddirgelaidd yn mlaen ar gwestiwn y Tal- eithiau Danubaidd, a bod yn rhaid i'r Divans roddi y drychfeddwl am dywysog trainor i fyny. Yn ddiweddar, cafwyd Mr. Smithers, dyu ieuanc a gyflogid fel ysgrifenydd yn y Consul Office yn Ariandy Lloegr, yn nghyd â'i fam, a'i frawd, wedi meirw yn eu gwelyau oddiwrth wenwyn, yr hwn a weinyddwyd iddynt gan Mr. Smithers yr hynaf, yr hwn mewn can- lyniad i golledion a gawsai, oedd yn bur isel ei feddwl. Teimlir yn erwin o herwydd prinder arian yn Ham- burg. Mae y Senedd wedi pleidleisio 30,000,000ff. tuag at linarn ychydig ar y wasgfa, drwy gynnorthwyo rhai o'r cwmnÏOll methedig. Cawn hanes o'r Yspaen fod y Tywysog ieuanc wedi ei fedyddio. Yr enwau a rhoddwyd i'r tywysog oedd- ynt Alfonso Francisco de Asis Fernando Pio Juan Mariano de la Concepcion Jaime Pelayo. Y mae dipyn yn hynod," ebe y Morning Herald, fod y tri pregetbwr Ymneillduol a gasglant yn nghyd y cynnulleidfaoedd lluosocaf ar y Sabbothau, yn y tair treffwyafyny deyrnas, yn perthyn i'r Bedyddwyr; sef Mr. C. H. Spurgeon, yn Llundain Mr. Arthur Mursell, yn Manchester; a Mr. Hugh Stowell Brown, yn Llynlleifiad," Dywed Dean Swift, fod pobl gydag eneidiau bychain yn debyg iawn i gostrelau gyda gyddfaucyfyng-pa leiaf fyddo ynddynt, mwyaf i gyd .y twrw a wnant wrth ei dywallt allan. EGLURHAD P AROD. Sam," ebe boneddiges wrth fachgen oedd yn gwerthu llaeth, "yrydwyf yn casglu oddiwrth olwg dy laeth fod dy fam wedi rhoddi dwfr budrynddo." "Naddo," atebai y bachgen, "canys gwelais hi yn ei godi yn lan o'r ffynnon."

NEWYDDION TRAMOR.