Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
- Y " DBYCH BLYNYDDOL."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DBYCH BLYNYDDOL." Gadewais enw Mr. Howell allan o'r Drych eleni, am nas gwyddom yn mha le yr oedd ei bres- wylfod. Gwyddwn ei fod wedi ymadael a Chaer- Ileon ond oddiar eglurhad diweddarach oddiwrth y Parch. J. P. Williams, Rhulllni, deallwyf fod Mr. Howells yn awr yn aelod yn ei eglwys ef, ac yn pregethu yn aclilysurol yno ac eglwysi cym- mydogaethol. Y mae rhai gwallau ereill wedi dygwydd yn y "Drych," drwy i ni gael ein cam-arwain gyda golwg ar symudiadau bwriadedig gweinidogion, megys Mr. Rowlands, Cwmaion, Mr. Roberts, Tabor, &c. Yr eiddoch, &c., Glyn Nedd. AWDWR Y DRYCH.
PREGETHAU Y PARCH. MR. HUGHES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PREGETHAU Y PARCH. MR. HUGHES, PFNMAIN, AR FEDYDD. Nos Sadwrn, y 7fed o Ragfyr, pan yr oeddwn ar fy nhaith o ddwyrain Swydd Fynwy i Ferthyr, a phan gyrhaeddais i Dreuegar, dywedodd cyfaill wrthyf, fod y Parch. Mr. Hughes, o Bcnmain, yn pregethu ar Fedydd yn nghapel Moriah, Rumni. Cychwynais o Dredegar oddeutu chwarter wedi saith o'r gloch, a chefais gyfleusdra i wrandaw y rhan ddiweddaf o'i bregeth. Yr oedd gan y gwr parchus ddwy o bregethau wedi eu cyfansoddi ar y "Pwnc o Fedydd;" a thraddododd y naill nos Wener, y 6fed, a'r llall nos Sadwrn, y 7fed, fel y nodais o'r blaen, ac wrth gwrs, yr oedd y naill a'r llall o'r pregethau yn ardderchog, yn ol ei dyb ef a'i frodyr taenellyddol. Wedi i Mr. Hughes ymboeni yn medydd y Mor Coch, a methu a phrofi ei osodiad, trodd yn ddi. synimwth at Fedydd loan. Dywedai mai trwy daenellu yn unig yr oedd loan yn bedyddio, o ganlyniad, fe fyddai yn well i Mr. Hughes i alw loan, yn loan Daenellwr, ac nid loan Fedyddiwr. Dygodd y pregethwr y rhan ganlynol o'r ysgrythyr i hrofi ei osodiad, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi a dwfr i edifeirwch. Aeth Mr. Hughes dros yr un geiriau amrywiol weithiau, gan bwysleisio yn annghytfredin ar yr A, fel pe buasai y llythvren fach a'r acen wrth ei phen, yn dangos yn eglur iddo yn mha ddull yr oedd loan yn bedyddio. Yr oeddwn I yn credu mai at yr elfen yr oedd loan yn cyfeirio, ac nid at y dull o fedyddio ond wele Apostol mawr y Taenellwyr wedi cael allan, mai at y dull o fedyddio yr oedd loan yn cyfeirio. Y mae Mr. Hughes wedi myned tuhwnt i'r awdwyr dysgcdicaf yn ol ei dyb ei hunan. Dywed Mosheim fel y canlyn am Fedydd loan, —" Y ffurf o gychwyniad a fahwysiadodd ef (loan) tuag at bawb o'r rhai hyny a addawent ddiwygiad buchedd, ydoedd eu suddo yn yr afon. lesu ei hunan, cyn iddo ddechreu ei weinidogaeth. a ym- ddarostyngodd i gydsynio a'r ordinhad hon, ac a fedvddiwyd yn barchusgar. loan ynyr lorddonen." Dywed Dr. Gill.— Y Cristionogion yn amser Crist a elwid gan yr luddewon, mewn ffordd o ddirmyg, Gwrthgilwyr, a dderbynient athrawiaeth, ac a drochid yn yr Iorddonen.Ex. Math. 3. 6. Dywed Dr. Macknight.—" Efe (Crist) a ym- ostyngodd i'w fedyddio, h.y., i gael ei gladdu dan y dwfr gan loan, ac i gael ei gyfodi allan. o hono wedy'n, fel darlun o'i farwolaeth ar ol hyny, a'i adgyfodiad.Note on Rom. 6. 4. Nid yw yr uchod ond ycbydig o dystion o ddegau a ellir gael; canys y mae y rhan amiaf o'r dysgedigion penaf gyda phob enwad yn cyfaddef, mai trwy drochiad yr oedd loan a'r Apostolion yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd. Dywedai Mr. Hughes hefyd mai trwy daenellu yr oedd yr Apostolion yn bedyddio. Cyfeiriodd at y tair mil hyny a ddwysbigwyd, ac a fedyddiwyd ar ddydd y Pentecost. Dywedai fod yn anmbosibl i'r Apostolion drochi cy nuifer a tliair mil o eneid- iau mewn mor Ileied o amser, set yn ngliorff y di. wrnod hwnw. Dyma yr unig brawf oedd gan Mr. Hughes dros ei haeriad, mat en taenellu gafodd y tair mil hyny. Nid oedd y rhif uchod ond dau cant a hanner i bob un o'r Apostolion i weinyddu arnynt. Credaf fod amryw o we nidogion yn Nghymru a tedrant drochi dau cant a hanner yn weddus ac yn ddiesgenlus, a dechreu am naw o'r gloch y boreu, sef yr un amser ag y dechreuodd yr Apostolioll daeuellu y tair mil, yn ol dywediad Mr. Hnghes. Credaf fod Mr. Hughes yn (idigon gtlluog i wneyd yr un gorchest; ac y niae yn ddigon tebyg y gwnelai hyny hefyd, pe buasai rhyw un yn cynnygiddo chwe cheiniog yr un am ei lafur. Pe buasai Mr. Hughes yn darllen ei Destament yn ddiragfarn, gwelsai yn eglur, nad oedd trochi tair m 1 o bersonau ond gorchest fechan iddynt; canys Uefara y Testament fel y canlyn A thrwy ddwy- law yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfedd- odau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddynt oil yn gytun yn mhorth Solomon." Bydded i'r gwr parchedig ddarllen ei Destament yn ofalus, ac yna, fe fydd yn sicr o gael gweled fod yr Apostol- ion wedi gwneyd mwy o wyrthiau na throchi dau cant a hanner o bersonau yr un. Ni soniodd Mr. Hughes air mewn perthynas i'r dull y cafodd yr Eunuch ei fedydd 6 gan Phylip; na, canys y mae banes bedydd yr Eunuch yn dra hallt iddo ef a'i gefnogwyr. Diweddodd ei bre- geth mewn perthynas i'r pwnc oedd gydag ef mewn Haw, trwy ddweyd, fod yn aniiihosibl i genadon i fedyddio trwy drochiad yn Lapland, ynys yr la, ac yn nhiriogaeth yr Exquimaux, trwy fod y lleoedd byny mor oerion. Lied dda, yn wir, Mr. Hughes; profasoch eich pwnc yn rhagorol, oni do ? Yr oedd y capel yn orlawn o wrandawwyr oddeutu wyth o'r gloch nos Sadwrn, a chafodd y dyn rhagfarnllyd ei foddloni yn fawr ond yr oedd y dyn dirugfarn yn mhell o fod felly. Gorphwysaf yn breseno), gan obeithio y caf hamdden i brofi y posiblrwydd y gellir bedyddio trwy drochiad yn Lapland, yuys yr Ia: ac yn nhir- iogaethyr Exquimaux. Nid wyf yn gwybodyn mha le y cododd Mr. Hughes ei destunau, os cododd destunau o gwbl. Yr eiddoch, &c., S. TYNDALB.
AT WEINIDOGION, DIACONIAID,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT WEINIDOGION, DIACONIAID, AC AEL- ODAU Y BEDYDDWYR YN GYFFRED- INOL. ANWYL FaOlJVR,- Yn yr un SEREN a'r llinellau hyn, (gwel. tud. 32) y gwelwch benderfyniad pwyllgoro weinidogion, y rhai agyfaifuasantyn niwedd y flwyddyn ddiweddaf yn y lie hwn yr hwn benrlerfyniad a alIas- ech ei weled yn y Freeman, y Cambria Daily Leader, a'r Neatla Gazette; a gellwch ei weled etto, yn nechreu y m;s dvt'oool, yn y Bedyddiwr, a'r Greal, ac feallai yn y Gwyliedydd. Y n gyssylltiedig a'r pen- dt'rfyniad hwn, yr wyf wedi anfon cylchlythyr i lawer o honoch, yn y Do a'r Go^ledd, ar gais y pwyll- gor uchod, yn eich hyshysu fod cy far fod neillduoli gael ei gynnal yn vestry y Tabernacl, Caerdydd, i ddechreu am ddex o'r gloch, boreu dydd Llun, y 3ydd o'r mis nesaf—Chwefror, er ymdrin a'r pwnc a gynnwysiryny penderfyniad. Gan nas gallaswn anfon (ac nid oedd y penderfyniad yn caniatau hyny hefyd) y cylchlythyr i'r holl wein- idogiou-chwaethaeh i'r diaconiaid a'r aelodau yn gyffredinol—heb fyned i dratil a thrafferth gormodol, myfi a'i gwasgerais ef mor gyffredinol ag oedd yn allu- adwy, fel ag y gall y naill o honoch, os byddwch cyn fwyned, ei ddangos i'r llail, a thrwy hyny, ni bydd achos i nemawr fod yn amvybodnso'rpivnc mewn llaw, ac hefyd, y galiant ddyfod i'r cyfariod uchod, neo anfon eu meddylian iddo mewn llythyrau. Yn awr, anwyl frodyr, goddefweh i mi osod dau neu dri o bethan o'ch blaen, a hyny dros y pwyll^or crybwylledig, er mantaia ac hwylusdod i'r cyfarfod dyfodol. 1. Na fydded i chwi, neb o honoch, adael v peth hwn i ereill, ond byddweh gystal a meddwl eich hunain am y ffordd, y dull, neu y cynilun goreu i gario yr amcan i wdthred iad, Yn nesaf, byddweh gystal a gwneyd pob ymdrech i ddyfod i'r cyfariod eich hunain ond os na ellwch ddytodyn bersonol, gwelwch yn dda i anfon eich medd- yliau yn eglur a phendant trwy lythyrau. Na fydded i neb feddwl y bydd i\v awgrym ef fod yn annerbyniol, hyd y nod pe byddai ond awgrym yn unig, o herwydd trwy awgrymiadau o'r fath y deuir i wybod y ffordd oreu, ac nis gwyddis pa grybwylliad a wna fwyaf o lea. Bydd rhyw fantais o hyn i hyny, sef y 3ydd o Chwef., gan y bydd wn yn gwybod beth fydd Committee y Baptist Union wedi ei wnenthur o'r pwnc, gan eu bod yn cyfarfod at hyn ar yr 16eg o'r mis hwn. Os gall amryw o honoch ddyfod i'r un pendeifyniad, goreu oil -gwneler hyny yn hysbys. Y gair olaf a gaf ei grybwyll wrth yr eglwysi yw,— Gan nad oes trysorfa, fel y mae gwaethaf y modd, at bethau fel hyn genym ni yCyniry, a chan y carai ainry W o weinidogion pellenig ddylod iddo, ond yn sicr hwy a attelir gan y draul, oddieithr i chwi gynnorthwyo. Efallai y meddyliwch am hyn, Ychydig fydd hyn rhwng llawer. Yr eiddoch oil yn efengyl Crist, Penydref House, JVeath. B. EvANS.
AT Y PARCH. T. PRICE, ABERDAR.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn awr, y mae yn yr ardaloedd hyn amryw eglwysi Bedyddiedig, ac yn ddiweddar, daeth yma ddvn ag oedd wedi bod yn aelod am flynyddau lawer efo'r Independiaid, i ymofyn aelodiaeth yn un o'r eglwysi hyn, ac wrth gwrs, derbyniwyd ef yn llawen, wedi cael tystiolaeth ganddo ei fod yn ar- gyhoeddedig ar y pwnc o Fedydd, end gwrthodwyd iddo (rymmeryd un rhan yn y moddion cyhoeddus, hyd lies y derbynid ef yn aelod cyflawn o'r eglwys trwy Fedydd a Swper yr Arglwydd. Etto, daeth un arall ag oedd wedi bod yn aelod am flynyddau efo'r Wesleyaid, i un arall o'r eglwysi Bedyddiedig hyn i ymofyn am aelodiaeth, a'r un modd derbyn. iwyd hwn etto wedi clywed ei farn ar Fedydd, ond yma cymhellwyd y dyn i gymmeryd rhan ya y moddion cyhoeddus, megys gweddio, &c., cyn iddo ufyddhau i fedydd, nac ychwaith derbyn o'r or- dinhad arall. Yn awr, syr, dyna y ffeithiau, ac y maent yn ym- ddangos i ni yn annJaHadwy; a chyfyd y gofyn- iadau a ganlyn yn naturiol oddiwrthynt, sef, Yn laf, pa un o'r ddwy eglwys hyn oedd fwyaf cysson a'r Ysgrythyr, ac ag ymarferiadau a threfn Eglwysig y Bedyddwyr Neillduol. 211, Ar ba seiliau y gellir gwrthod i bersonau heb eu bedyddio i gymmeryd rhan gyhoeddus yn y moddion. 3ydd, Os caniateir hyn iddynt cyn eu bod yn ael- odau cyflawn, ar ba sail y caniateir hyn i aelod a fyddo wedi bod allan o gymmundeb am fis neu ddau, hyd oni fyddo mewn cyflawn gymmundeb drachefn. 4ydd, Onid yw y caniatad hwn yn rhyw ledagor- ydd drws ein heglw ysi i gymmundeb cymmysg, ac os felly, yn galw am sylw uniongyrchol. Eich rueddwl ar y pethau hyn a rydd foddlon- rwydd mawr i lawer heblaw Yr eiddoch yn serchog, Yn agos i Nantyglo. GWYLIEDYDD. ATEB. fleb fanylu ar hyn, cymmerwch a ganlyn :— 1. Yr eglwys gyntaf oedd y mwyaf cysson a r mwyaf ysgrythyrol yn ei gweithrediadau. 2. Am y rheswm nad yw, ac nis gall personau fod yn aelodau yn eglwys Crist cyn iddynt g-ael eu bed- yddio ar broffes bersonol o ffydd yn Mab Duw. A glywsoch chwi son fod Saul o Tarsus, Apolos, Tim. otheus, neu Titus, wedi cymmeryd unrhyw ran gy- hoeddus yn yr eglwysi, cyn iddynt gael eu bedyddio a'u dwyn at Fwrdd yr Arglwydd. Yr oedd y dyn- ion yna wedi ymadael a'r cyfundebau crefyddol y perthynent iddynt o'r blaen,ond heb eu derbyn gan y Bedyddwyr, ac yu y cyfwng ynao gwrs, nid oedd- ent yn aelodau mewn unrhyw eglwys. Am hyny, ni ddylent gymmeryd rhan gyhoeddus yn ngwasan- aeth y Ty. Gwell bob amser i ni ddilyn rheol eglur a syml y Testament Newvdd yn hyn fel pob peth arall. Symud o un eglwys i eglwys arall oedd yr Iuddewon pan yn dyfod i'r eglwysi Cristionogol, ond ni ehlyw. soch eu bod yn cymmeryd rhanau cyhoeddus yn y gwaith cyn eu bedyddio.