Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
YR HYN A GLYWAIS YN VICTORIA.
YR HYN A GLYWAIS YN VICTORIA. Sabbatli, Mawrth 1, am ddau yn y prydnawn, daeth Ysgol- ipp-Sabbothol Caersalem a'r Cwm yo ngbyd, yn llu mawr ig^n," er adrodd gwahanol ddarnau, rhyddiaethol a chyngan. -ft<Hdol, Cymraeg a Saesonaeg, gan henae ieuainc, o'r ddau ryw. Gan ein bod yn cael ein blino yn rhy ami wrth ddarllen y S^REN wrth weled enwau yr adroddwyr, a pbob darn bychan A-fidroddir ganddynt, fel pe byddant yn rhy debyg i grug o us yn cadw lIe y gwenith, ni wnawn yn bresenol ond dywedyd y gwir am yr oil gyda'u gilydd. Yr oedd y darnau oil yn by nod goethedig, ac yn dangos cryn dalent yoeu dewisiad a pba lyfedd, gan fod cewri wedi eu dewis at hyny ac yr oedd yr adroddwyr, yn ddieithriad, yn sefyll ar yresgynlawr reI rhai oedd yn deall y pynciau yr ymdrinient a hwy, yn neiilduol y Ddadi ihwng y Crefyddwr a'r Gwrthgiliwr," o waith y Parch. W. E. Jones, ein gweinidog, gan T. Davies a T. Williams, a'n barn yw y dylai hon gael ei hadrodd yn holl gynnulleidfaoedd Cymru. Yr oedd y cor yn gweithio yn ardderchog dan lyw- yddiaeth Mr. W. R. Davies, a chanasant amryw ddarnau yn dra meistrolgar; a'r Parch. W. E. Jones, yn edrych yn hynod Aomely yn y gadair, pan yn eu llywyddu. Gallem feddwl fod xliifedi yr ysgolion yn unig tua 150, a'u bod oil yn adnabod eu gilydd, ac yn parchu eu hathrawon. Am 6, cawsom y fraint Mr. Jones yn traddodi pregeth angladdol i "Eben Fardd," a chawsom wledd wrth ein bodd, oblegidyr oedd y ddau wedi cael eu magu yn yr un ardal, a'r blaenaf wedi bod gyda*-r olaf yn ei ysgol 5 mlynedd, fel yr oedd ganddo lawer o fantais ar ddyddiau boreuaf y Bardd, a charem yn fawr weled ei sylwndau yn argraffedig yn y SBREN. Maw. 10, dydd priodas Tywysog Cymru, rhoddodd y cbwi- orydd da de a bara brith i'r ysgolion uchod, hyd eu diwallu, ya rhodd ac yn rhad." Cyfranogodd oddeutu 300 o bono. Am 7 yn yr hwyr, dyma y ddwy ysgol a enwasom etto i'r ym- drechfa adroddiadol, ac fe awd trwyddi llawn cystal a'r tro o'r blaen, fel y gwelwn fod yma fechgyn a merched g-ir addawol aty gwaith canmoladwy hwn. Yr oedd Mr. Jones wedi cyn- nyg gwobr (llyfr) i'r hwn a gyfansoddai yn oreu ychydig ben- nillion ar briodas Tywysyg Cymru,,a daeth dau i law, pan y barnwyd Ab Edmund" yn oreu. Da genym weled yr achos da yn ymgodi o'r iselder i'r fath uehder ag y mae er dyfodiad y Parch. W. E. Jones i'r lie. Y mae yr eglwvs oil fel pe byddent wedi myned i lw y mynant wneyd argraff dda ar y lie polling hwn.—BRAWD.
ARDDANGOSTAD MAWR 0 GYDYMDEIMLAD…
ARDDANGOSTAD MAWR 0 GYDYMDEIMLAD A PHOLAND. by'dd Mawrth, y I7eg o'r mis hwn, cynnaliwyd cyfarfod mawr yn y Guildhall, Llundain, er dangos cydymdeimlad a Pholand. Cyrntnerwyd y gadair gan y Sirydd Lawrence, yn absenoldeb yr Arglwydd Faer, am ddal--i o'r gloch acyr oedd y neuadd fawr yn orlawn o bobl banner awr cyn hyny. Yr oedd yn wyddfodol rai o brif foneddigion y deyrnas. Cynnygi-vd y penderfyniad cyntaf gan Tarll Harrowby :— "Fod Rwsin drwy doii ei bymrwymiadau ag Ewrop ar ran Poland, a thrwy y gyfundrefn o attafaeliad, alltudiaeth, a llpfruddiaeth, wedi fforfTetio pob hawl i feddiannu Poland a thrwy achosi anfoddlonrwydd fel hyn yn mynwesau pobl ddewr a gorthrymedig, yn gosod heddwch Ewrop mewn peryul parhaus, yr hyn a ddylai pawb ei ochelyd." Eiliwyd y cjnnvgiad mewn araeth enwog gan yr Anrhyd. Mr Denrrian. We;li i Mr. Crawford, A.S., gefnogi y pender- fyniad. gosodwyd ef i'r cyfarfod gan y cadeirydd, pan y cod- wyd coedwig o ddwylaw drosto. Cynnygiwyd yr ail benderfyniad gan Syr H. Ainslie Hoare, Bar., A.S.:—" Ei bod yn ddyledswydd ar bob Prydeiniwr i ymdrechu attal pob gohebiaeth diplomyddol a Rwsia, hyd nes v rhoddir terfyn ar y gweithrediadau presenol." Eiliwyd yeynnyg gan Mr. Hennessey, A.S., ac a gefoogwyd gan Mr. H. Fawcett. Gosodnyd y penderfyniad i'r cyfarfod, a ciiafodd ei gario gyda banllefau cymmeradwyol. Yna Mr. Dariby Ssymour, A.S., a gynnygiodd y trydydd ■perulerfyniad Fod y dyddordeb mawr a gymmerir gan bohl Lloegr yn yr ynidrecli gyfiawn a dewr a wneir yn awr gan drigolion Poland er adennill eu hannibyniaeth, yn gosod ofy cyfarfod hwn y ddyledswydd o osod yr effaith goreu ag a a)ta:)t i'rp?nderfyniadau blaenoroj, a chyda'rgolwg yma, fod dejseh i gael ei chyflwyno i ddau D^y Senedd yn cynnwys y oyfryw beuderfyniadau." Eiliwyd y cynnyg gan Mr. E. Beales, yr hwn ar ddiwedd ei araeth a ddarllenodd anerchiad i'r Pwyliaid. Wedi i ladl Shaftesbury anerch y dyfarfod, pasiwyd y pen- derfyniad mewn modd brwdfrydia:. Wedi talu diolciigatwch i'r cadeirydd, ac i dair banllef gael eu rhoddi i Poland, ymwasgarodd y dorf luosog.
TERFYSG YN STALEYBRIDGE.
TERFYSG YN STALEYBRIDGE. Boreu dydd Llun diweddaf, tuag un-ar-ddeg o'r glocb, daeth o bedair i bum mil o bobl o Staleybridge i Ashtori, gan ddechreu yspeilio siopau y pobyddion a'r grocers. Ymddengys fod y Pwyllgor Cynnorthwyol yn Staleybridge, o berwydd lleihod mawr yn y derbyniadau, wedi gorfod gwneyd rhai cyf- newidiadau yn y cynnorthwyon a roddent i'r dynion oeddynt allan o waith mewn gwir, yr oeddynt wedi tleihau y taliadau wythuosol o 3s. i 2s. 6ch. y pen. Creodd hyn lawer o anfodd- lonrwydd yn mhlith y bobl, ac a arweiniodd yn y diwedd i derfysg. Y mgynriullodd y werin yn fintai fawr, ac yn nghanol bloed iiadau a phob annhrefn, dryllid ffenestri, torid I mewn i siopau a masnaehdai, gyrid yr heddgeidwaid ar ffo, ac ymddan- sosia fel pe niai yspeilio oedd gwaith y dydd. Wedi i'r gwaith anfad yma gael ei gario yn mlaen am oriau, gorchymvnwyd i'r mJlwyr ddyfod allan.; ac wedi darllen y Riot Act, yn cael eu blaenori gan y maer, a Mr., D. Harrison, aetk y milwyr trwy heolydd y dref, gyda chleddyfaunoethedig. Yr oedd gan bob un yn awr ddigon o waith iofalu am ei ddio- -gelwch personol ei ban ae yr oedd yn ddigrif canfod y ter- fysgwyr yn ffoi am fywyd o flaen y milwyr, fel llygod o flaen y gath. Erbyn hyn yr oedd yr heddgeidwaid wedi dyfod i'r maes befyd, a llwyddasant bwy yn benaf i ddal amryw o'r drwg- weitliredwyr, 29 o ba rai a anfonwyd i garchar Caer, i aros eu prawf. Erbyn nos yr oedd yr lioll heoly^ld wedi eu clirio, a llonydd- woh wedi ei adferyd. Ofnwn, fodd bynag, nad yw y dygwydd- iad hwn ond rhagredegydd i derfysgoedd gwaeth. Gobefthiwn «r hyny, bethau gwell.
[No title]
Mewn trengboliad a gynnaliwyd yn ddiweddar yn LIundain ar ferch 15 oed, dychwelodd y rheithwyr y farn, Ddarfod i'r drancedig gyfarfod a'i marwolaeth yn ddamweiniol drwy wisgo <cylchbais, yr hon a gymmerodd dan."
DYDD MAWRTH, MAWRTH 17.
DYDD MAWRTH, MAWRTH 17. Mewn atebiad i Iarll Airlie, dywedodd Iarll de Grey a Ri- pon, fod yn bresenol yn Nghastell Edinburgh 2,700 o fareli o bowdwr gwn.
DYDD IAU, MAWRTH 19.
DYDD IAU, MAWRTH 19. Darllenwyd yr ysgrif er rhoddi caniatad i Undeban y Tlod- ion i gynnorthwyo mewn achosion o gyfyngder y drydedd waith, a phasiwyd hi. Yna bu achos oarchariad Prydeiniwr yn Alexandria, dan sylw y Ty. Gohiriodd eu harglwydd- iaethau ychydig wedi chwech.
.DYDD GWENER, MAWRTH 20.
DYDD GWENER, MAWRTH 20. Cymmerodd Argl. Redesdale ei eisteddle ar y faine yn ab- senoldeb yr Arglwydd Ganghellydd. Darllenwyd mesur y Drysorfa Cydsylweddu ( £ 10,000,000) yr ail waith. Ni fu un peth o bwys gerbron y T9.
DYDD LLUN, MAWRTH 23.
DYDD LLUN, MAWRTH 23. Dygodd Arglwydd Stratheden sylw y Ty at y pwnc o gyd- nabod Taleithiau Daheuol America fel teyrnas annibynol. Credai ef na orcbfygid y Deau gan y Gogledd, a goreu pa gyntaf y gosodid terfyn ar y rhyfel creulon presenol; ac un ffordd er dwyn hyny oddiamgylch oedd cydnabod y Deau. Dywedailarll Russelt nad oedd un o'u harglwyddiaethau heb ddymuno gweled terfyn ar y rhyfel yn America; gan ei fod yn terfysgu trafnidaeth, ac yn goaod heddwch y byd mewn perygl ondwedigwrandaw sr araeth ei gyfaill anrhydeddus, yr oedd ef (la: 11 Russell) yn para yr un o ran ei gredintaeth etto, sef yw hyny, nad oes dim ar yr adeg bresenol ag y gall y deyrnas hon ei wneyd er dwyn y rhyfel i derfyhiad boddhsol, Credai efy byddai ymyriad ar yr adeg bresenol, yn lie tueddu i dawelu y pleidiau, yn eu gyru i ymladd yn fwy tfyrnig.. Wedi ychydig eiriau oddiwrth Argl. Stratheden, rhoddwyd y pwne i fyny.
DYDD MAWRTH, MAWRTH 17.
DYDD MAWRTH, MAWRTH 17. Galwwyd sylw y T9 atyr annghydfod yn Cork, gan Mr. Vance. Mewn atebiad dywedai Syr R. Peel fod rhai personau wedi eu dal, ac yr oedd y llywodraeth hefyd wedi cynnyg je50 o wobr am ddal y troseddwyr. Cynnygiai Mr. Roebuck am ddychweliad o rif yr ymofynwyr am drwydded i gyfnewid eu henwau. Cymmerodd dadl le mewn canlyniad, yn mha un y bu achos Mr. Jones, Clytha, dan syl#. Cytunwyd a'r gynnygiad. Rhoddwyd caniatad i Mr. Cowper i ddwyn ysgrif i mewn er codi gwrthglawdd i'r tu deau i'r afon Thames, yn mhlwyf Lambeth. Darllenwyd ysgiif Banciau Cynilo y Llythyrdai y drydedd waitb, a phasiwyd hi.
DYDD MERCHER, MAWRTU 18.
DYDD MERCHER, MAWRTU 18. Rhoddwyd rhybydd gan Mr. Ferrand, y byddai iddo ef dydd Gwener ofyn i'r Prif-weinidog i ganiatau diwrnod i ys- tyried y pwne o'r diffyg mewn cotwm. Gohiriwyd mesur Dr. Brady o berthynas i afiechyd mewn ceibydau yn heolydd Lludain. Wedi i rai pethau dibwys fod dan sylw, gohiriodd y Ty.
DYDD IAU, MAWRTH 19.
DYDD IAU, MAWRTH 19. Darllenwyd y mesurau canlynol y drydedd waith, a phas- iwyd hwyntMesur Dwfr Dinbych, Rheilffordd Llundain a swydd Lancaster, &c., Ffordd Llanelwy, a Rheilffordd Deheu- barth swydd Stafford. Mewn atebiad i Mr. Longfield, dywedai Mr. Layard fod yr ohebiaeth rhwngLlywodraeth ei Mawrhydi a'r Unol Daleith- iau o berthynas i Ynys San Juan wedi darfod er pan dorodd y rhyfel cartrefol yn America allan. Nid oedd ef yn ei chyfrif yn ddoeth i osod y papyrau yn cynnwys yr ohebiaeth flaenorol ar y bwrdd. Yna bu aclios swyddogion Seisnig yn ngwasanaetb China dan sylw. Wedi hyny ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar fesur yr ardreth ar dybaccio.
DYDD GWENER, MAWRTH 20.
DYDD GWENER, MAWRTH 20. Mewn atebiad i Mr. Ferrand, dywedai Argl. Palmerston y byddai yn dda ganddo, yn fuan ar ol y Pasg, i ystyried sefyllfa mnsnach y cotwm. Mewn atebiad i Mr. Laird, dywedai Argl. C. Paget ei fod efynbwriadugosodarfwrdd yTy y cynlluniau a'r &mcan- gyfrifon o berthynas i'r hetaethiad a fwriedid wneyd yn mhortbladd Portsmouth. Yna bu achos adeiladu llongau rhyfel o haiarn a choed ger- bran; a dywedai Argl. C. Paget nad oedd yr ymbrawf a wnawd ar y mater wedi effeithio un cyfuewidiad yn meddyliau gweinidogion ei Mawrhydi. Wedi i achos y Pwyliad Abicht, yr hwn a deithiai gyda thocyn o'r Swyddfa Dramor Seisnig, fod dan sylw, mewn atebiad i Mr. Hennessey, dywedai Syr G. Grey i'r Llywodr- aeth Russiaidd dalu costau yr heddgeidwaid a anfonwyd i Warsaw. Galwai Mr. Dawson sylw at sefvllfa bresenol cyfraith* priodi yn yr Iwerddon, ac awgrymai y dylid ei diwygio. Galwai Mr. Layard sylw at y costau milwrol yn Ceylon, a Galwai Mr. Layard sylw at y costau milwrol yn Ceylon, a gofynai i'r Is-ysgrifenydd a ellid eu leihau. Dywedai Mr. Fortescue fod y mater dan ystyriaeth y Llyw- odraeth. Yr oedd yn angenrheidiol cadw milwyr yn Ceylon, er sicrhau diogelwch y wlad. Wedi i rai pethau dibwys fod dan sylw, gohiriodd y Ty am hanner awr wedi deuddeg.
.DYDD LLUN, MAWRTH 23.
DYDD LLUN, MAWRTH 23. Dygodd Mr. Fitzgerald bwnc cenadwri y Llywydd Lincoln gerbron. Wedi hyny hysbysodd Canghellytfd y Trysorlys y byddai iddo, ef osod ei amcan-gyfrifon am y flwyddyn nesaf gerbron y Ty ar yr 16eg o Ebrill. Yn ganlyaol, dygwyd achos Poland gerbron, Lu dltdl ddyddorol ar y pwnc, yr,hon a der- lynodd drwy i Arglwydd Palmerston hysbysu y gwnelai Llyw- ydraeth Loegr yr hyn a allai ar ran Poland.
[No title]
Mae gobebydd yMQrning Star yn Efrog Newydd yn YI- grifenu yn obeithiol iawn am ragolygonyr Undebwyr yjjystod v rhyfelgyrchoedd dyfodol. Pellebriad o Victoria a Cbolumbia Brydeinig a ddywed fod I y gweithiau aar yn m yned yn mlaen yn foddhaol. Yr oedd gwasanaeth-ferched yn cael o bumtheg i ddeg dolar ar hugain y mis;rac yr oedd eisieu ychwaneg o honynt.
pattesions Cyffwdittol.
pattesions Cyffwdittol. Mae Mr. J. F. Mazuire, A.S., yn ytgritena Hanes bywyl Mathew," apostol mawr dirwest yn yr Iwerddon. Mae Manhattan, gohebydd amryw bapyrau gwrtli-Un-, ebol LIundain yn Efrog Newydd, yr hwn sydd wedi ysgrifentt yn enbyd yn erbyn y Gogledd aco du y Dehau, wedi newid ei don. Dywed yn awr fod Jefferson Davies a'r newyddiaduron gwrthryfelgar, trwy eu triniaeth maleisus ar Ddemocratiaid y Gogledd, wedi cyflawnu gweithred hunanladdiadol, ac y bydd y canlyniadau yn arswydus i'r Dehau. Llethir y gwrtbryfel, ebe fe, cyn Gorphenaf nesaf. Lladdwyd boneddiges udnabyddus yn ngorsaf Porth Talbot yn ddiweddar; tra yn croesi o un ochr i'r Ilall seth cerbydrel drosti, a lladdwyd hi yn y fan. Mae Amherawdwr Awftria wedi rhoddi nifer o hen fagnelatt pres i gymdeithas Brotestanaidd diawd yn Hungary, er eu ry toddi fyny i wneyd clychau i'w heglwys. Traddodwyd dyn i gtrchar gan ynadon Haslingder am ddeunaw mis yr wythnos ddiweddaf, am rodio drwy yr heolydd ganol dydd yn noeth lymyn. Cynnaliwyd trengholiad ar bedair yn ychwaneg o fenywod a laddwyd yn Llundain yn ystod goleuad y ddinas. Dych- welwyd y rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn mhob un o'r achosion. Y mae rhoddion Bombay at gynnortbwyo y dyoddefwyr yn sir Lancaster yn awr yn cyrhaedd i £ 35,000. Y mae cotwm wedi ei hau yn mhob rhan o Weriniaeth fawr Buenos Ayres, a cboleddir gobeithion cryfion y ceir cnwd helaeth a da. Y mae llywodraeth y wlad yn rhoddi pob cef- nogaeth i'r anturiaeth. Y mae ysgrif Syr John Trelawny i ddiddymu y Dreth Eg- lwvs i gael ei darllen yr ail waith ar ddydd Mercher, y 29ain 0 Ebrill, ar ba achlysuriy dysgwylir ymdrechfa fawr. Tra y mae dyled wladol Lloegr bron yr un faint ag ydoodd ddeugain mlynedd yn ol, a thra y mae y rhun fwyaf o wledvdd ereill Ewrop wedi chwanegu at eu dyled wladol, nid oedd holl ddyled Denmarc ar y 31ain o Fawrth diweddnf ond .617,700 000) ac y mae yn bwriadu talu y cwbl yn ystod y blynyddau nesaf. Gwerthwyd uwchlaw 7,000 o gopiau olr ail gyfrol o waith Dr. Colenso ar Bum Llyfr Moses o fewn tair wythnos i'w chyhoeddiad. Y mae ei Mawrhydi wedi awdurdodi Mr. W. P. Frith, R.A., i baentio darlun o'r briodas freninol; ac y mae y copyright am gerfio y cofnodiad hwn o bwne mor ddyddorol i'r genedl wedi ei bryou am y swia mawr o 5,000 gini gan brynwyr atituriaethu9 gwaith diweddaf Mt, Frith. CYDYMDEIMLAD BRENINOL.-Mae y Frenittes a Thywysog Cymru wedi bod yn bryderus iawn yn eu gofyniadau o ethryb i'r sawl a niweidiwyd ac a laddwyd ar nos y goleuad yn LIundain, i'r dyben i roddi pob cyinhorth angenrheidiol i'r clwyfedigion, ac i gynnorthwyo teuluoedd y sawl a taddwyd. Mae y ddau wedi anfon amryw lythyron i ofyn sut oedd y claf yn yr ysbyttai, yn mha amgylchiadau oedd eu teuluoedd, &c., aey mae gweddwon ac amddifaid y rhai a laddwyd i gael ym- geledd y Goron. BRENIN DAHOMEY A'R "HEN ARFERIAD."—Ymwelodd y Commodore Willmott, o long ei Mawrhydi y Rattlesnake, A thiriogaethau y Brenin Dahomey yn Affrica yn ddiweddar, gan obeithio durbwyllo y Brenin i roddi fyny yr lion arferiado aherthu bodau rhesymol. Dywedai y Brenin y gwenwynid ef os rhoddai fyny arffrion y wlad a'r gaethfasoach, ond r.ddawai y cawsai hob peth fod ynol dymuniad y Llywodraeth Brydeinig yn mhen chwech mis. Xid oes ymddiried i'w roddi ar yr addewid hon. Aberthwyd wyth o ddynion er anrhydeddu ymweliad y Commodore imott, ac er iddo wneyd yr oil a fedrai ar eu rhan, ni Iwyddodd i achub ond un o honynt, yr hwn sydd yn awr ar fwrdd y Rattlesnake. GOLYUYDD MEWN GWASGFA. — Yn y rhifyn diweddaf o'r Contemporaneo, newyddiadur a gyhoeddir yn Madrid, mae y llinellau canlynot yn He y brif erthygl gyntaf:—" Yn gyntaf, am naw o'r glocb boreu heddyw, I daeth gorllebwyliwr y Llyw- odraeth i'r swyddfa, a thynodd allan dri pharagraph o'n prif erthygl. Yn ail, am hanner awr wedi naw, daeth un arall, a thynodd allan chwech paragraph. Yn drydydd, am gwarter cyn deg, daeth un arall, a thynodd allan yr oil o'r gweddill o'n herthygl. Y mae hyn yn beth hollol newydd yn hdnes y wasg. Etto, dywedir fod gan Yspaen lywodraeth gyfansoddiadol I 0 TYWYSOG A THYWYSOQES CYMRU.—Dychwelodd y par ieuanc o Balas Osborhe i Lundain yr wythnos ddiweddaf; a nos Wener ddiweddaf, rhoddwyd gwledd gan y Frenines yn Mhalas St. James, er anrhydedd i Dywysog a Thywys:)ges Cymru. Yr oedd y cwmni yn gynnwysedig o'r teulu breninol, y teulu breninol Danaidd, a thywysogion tramor a arosant yu bresenol yn y deyrnas hon, gyda'r oil o'r Cenadwyr Tramor, Gweinidogion y Goron, a phrif swyddogion y deyrnas, gyda'u gwragedd a'u merched, yn nghyd a Uuaws mawr o foncddigion ereill, y rhai a dderbyniasant wahoddiadau i fod yn bresenol. CROGI NEGRO AID.—Gohebydd y New York Herald, wrth adrodd hanes rhyfeigyrch Mississippi, a ddywed :—Yn nhlan- igfa Judge Griffin, yn Chicot Bend, cawsom wybodaeth fod 11awer o negroaid oeddynt wedi ymweled a'n bad mewn lie arall dair wytbnos yn ol, wedi eu dienyddio gan eu cy uimydog- ion. A ganlyn oedd ffeithiau yr achosAr y dydd cyntaf o'r flwyddyn, pan oedd yr agerlong TlyreS yn myned i Lwr yr afon, safasom i gael coed ar blanhigfa Mr. Moore. Yn fuan ymddangosodd amryw negroaid ar y lanar gefn mulod, Ym- ddengys ddarfod i Mr. Moore, pan welodd$feeSn bagerlestr yn dyfod, anfon ei negroaid ymaith i'r coedwigoedd ond yn 116 myned i'r coedwigoedd, marchogasant o gwmpas at yr afon at ein hagerlestr. Dywedodd y gweision ar blanhigfa Judge Griffin fod y negroaid hyn, am y trosedd,hwn, wedi eii crogi ar ol hyny gan eu c) mmydogion. Dywedasant hefyd fod rhai negroaid, pan oedd un o'n hagerlestri yn pasio, wedi myned allan ar y Ian, ac wedi ei Ilongyfarch; ond aeth yr agerlestr heibio heb eu cymmeryd hwynt ar ei bwrdd. Dranoeth, daeth rhai planigwyr oeddynt wedi eu gweled hwynt o'r ochr arall dros yr afon, a chrogasant hwynt." CYDYMDEIMLAD A PoLANO.—Yrwythnos cyn y diweddaf, cafodd dirprwyaeth o gyfarfod a gyunalivvyd yn y British Institution, LV Iain, ymweliad ag Arglwydd Palmerston, er cyflwyno cofe 3 nuuo ar ei Mawrhydi i wneyd arddang- osion i Lywo vsia, er attal y barbareiddiwch a gyf- lawnwyd yn ck, eddai- yri Poland, a chyda galluoedd ereill Ewrop i beru fod Poland etto i gael ei hail-sefydlu fel cenedl. Mewn atebiad i'r Prif-weinidog, gwasgai y ddirprwyaeth, fod y deyrnas hon, os byddai angen, i fyned i fyfel a Rwsia yn tfafr Poland. Dy wedai Arglwydd Palmerston, tra yn cydnabod tod achos i gydymdeimlad, nad allai ef roddi un addewid, ac nas gallai ond cyflwyno eu cofeb i Syr G. Grey, er ei chy- flwyno i'w Mawrhydi.