Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD. JVIISOL LIVERPOOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD. JVIISOL LIVERPOOL. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Caniatewch i mi hysbysu y rhai sydd yn cymeryd dyddordeb mewn pethau o'r fath, y dech- reuir pob cyfarfod, drwy ddarllen a, gweddio," y dar- Menir cofnodion y cyfarfod blaenorol ymhob 'cyfar- fod oddigerth yr un pedwar misol, yr hysbysir pan y bydd llythyrau wedi eu derbyn yn cydnabod cydymdeimlad y Cyfarfod Misol, ac y terfynir pob cyfarfod trwy weddi. A chan fod y pethau hyn felly, nid wyf yn gweled fod angen myned a'ch gofod gwerthfawr i groniclo hyn bob. tro. Sicrhaf y rhai y mae a fyno y nodyn hwn a hwy, pe di- gwyddai dori allan yn orfoledd gyda'r gwasanaeth dechreuol neudderfynol, neu pe gelwid sylw at fod yr Ysgrifenydd wedi gwneyd cam gofnodiadau erehyH, neu pe byddai rhywbeth neillduol iawn yn y llythyrap, mai y cyntaf i hysbysu eich darllen- wyr fyddai I EICH GOHEBYDD. [Byddai yn dda genym weled gohebwyr eraill yn dilyn esiampl ein gohebydd 0 Lerpwl.—GOL.].
LLYTHYR MR7~T. JAMES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR MR7~T. JAMES. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—Caniatewch ychydig o Ie, i mi ateb Mr. James, o berthynas i'r mater Ymgeiswyr am y Weinidogaeth.Hawdd canfod oddiwrth ddechreu ei lythyr nad ydyw yn yr ysbryd priodol i ysgrifenu ar bwno mor bwysig. Y peth cyntaf wna. ydyw ceisio dangos i'r cyhoedd mai un anwybodus oedd wedi ysgrifeiiu. Yr oeddwn i yn ysgrifenu yn yr ysbryd priodol: ni soniais ddim am ei wybodaeth ef. Yr unig beth ddywe,dais ydoedd nad oeddwn yn cydolygu ag ef, a. rhoddais resymau dros hyny. Y peth cyntaf wna, ydyw ceisio taflu anfri arnaf trwy ddweyd mai anwybodus ydwyf. Ond hyn sydd dda,, mae yr hyn nid yw iawn yn siwr bob amser o drapio ei hun ac y mae wedi gwneyd felly yma. Ai iawn dweyd mai yr anwybodus sydd yn synu? Yr wyf yn cydnabod yn onest fy mod yn anwybodus, ond dydi y ffa,ith fod dyn yn synu ddim yn brawf mai anwybodus ydyw. Dywed y B'eibl i lesu Grist, synu felly un anwybodus ydoedd ai ie ? Pe byddai Mr. Ja-fhes yn yr ysbryd iawn pan yn ysgrifento, mi fyddai yn werth atebiad. Disgwyl- iais atebiad caredig. Fodd bynag, ni ddywedaf ddim ar y pwnc eto. METHODIST.
TLODI MAB, DUW."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TLODI MAB, DUW." At y Parch. D. D. -Tones, Upper Bangor. Anwyl Syr,—Drwg genyf eich bod yn ngafael gwaeledd corffa meddwl, yn enwedig meddwl," ac hefyd eich bod oherwydd y rheswm hwn, a saith o resymau eraill, yn gwrthod rhoddi rhagor o oleuni ar y syniadau a gyhoeddwyd genych ar y pwno uchod. Yr ydych wedi eu cyhoeddi i'r byd dan eich enw priodol, ac felly nid oeddwn yn gwneyd cam a chwi wrth gyfeirio fy llythyr atoch dan eich enw. Tybiwn nad oeddwn yn gwneyd dim cyfeir- iadau personol atoch chwi, namyn eich syniadau argraffedig. Ni cheisiais edrvch i mewn i'ch am- canion cudd, fel y gwnewch chwi a mi. Tybiwch eich bod yn deall fy meddwl o beil, ac ymgymerwch a'r gorchwyl o'm barnu, yn Ysbryd yr Arglwydd lesu," a'm cael wrth fy chwilio yn myned o ddrwg i waeth, nes bod o'r diwedd "yn llwfr a llechwr- aidd," ac yn anfudd i Ysbryd y gwirionedd." At "dlodi Mab Duw" y ceisiwn gael eich sylw, ond arnaf fi druan, drwg, y tremiwch mewn gwg. Mae'n amlwg eich bod yn ddig wrthyf am ym- yryd a'oh syniadau yn eich ysgrif, ac y mae yn dda i mi erbyn hyn mai ffugenw a ddefnyddiais. Ond yr ydwyf yn gydnabyddus a chwi, ac yn arfer rhoddi'r gair goreu i chwi fel Cristion a dyn. Ond odid na chaf eich cwmni yn fuan, ac mewn cyfeillach a'n gilydd, nid y tro cyntaf, feallai y caf yn berson- ol fwy o oleuni. Hyd hyny boed i chwi lawer o nerth iechyd a meddwl. CELT.
GAIR AR Y PENBLAENOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GAIR AR Y PENBLAENOR. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Oymerer y gwrthddrych hwn i ystyriaeth mewn llinell neu ddwy yn y GOLEUAD. Fe gydna- bydda. pob un fod yn rhwydd gwneyd allan pwy a feddylir wrth y penblaenor, gan mai yohydig sydd Iieb wybod ei ddichellion ef. Buasai gair o eglur- had yn dderbyniol gyda golwg ar yr hwn fydd yn calel ei alw o dan yr enw penblaenor. Ychydig o bersonau sydd yn cael eu galw dan yr enw hwn yn awr: mae y rhan fwyaf o honynt wedi cilio o'r maes. Fe a, welir er hyny fod ambell un yn aros. Golygir wrth benblaenor, nid un yn meddu cym- hwysderau i arwain ymhlith ei gyd-swyddogion, ond un yn chwenych bod, ac yn teimlo yn gryf yn ei feddwl ei fod uwchlaw iddynt oil. Gair mawr yw y gair penblaenor, eto ychydig bach o ddoniau gwybodaeth a gysylltir ag ef. Dyn bychan o ran cyrhaedidiadau, a hwnw ar drengu am fod ar y blaen. Carai fod yn synwyr cyffredin dros yr eg- Iwys oil, ond or braidd mae ganddo ddigon o'r sylwedd pwysig hwnw i gyraedd ei amcanion per- sonol. Efe a wna. ymdrech fawr ar brvdiau i fod yn ddoeth, ac i ledu ei ddoethineb dros lawer o Ie: llwyr fethiant yw hi arno bob cynyg, fel y prawf ei hanes: yn yr eglwys a,c yn ei gartref. Ni a, gyf- eiriwn at rai o nodweddion v penblaenor. (I). Anwybodaeth.—Cyfaddefwn na, fuasai ei an- wybodaeth gymaint yn y golwg, onibai ei fod yn honi gwybodaeth fawr, a hono lawer yn uwch nag eiddo ei gydflaenoriaid, Myn osod argraff os bydd modd, ei fod yn ystorfa fawr o'r doniau mwyaf detholedig ac ymadrodd gwybodaeth, ac yntau ar y pryd mown sefyllfa enbyd o dlodi ynglyn a'r pethau. hyn. Pe meddai y penblaenor fesur bychan o wybodaeth, cymerasai ei le yn dawel ymhlith ei gydflaenoriaid; ond gan ei fod yn anwybodus, rhaid iddo gael yr awenau i'w law, os medr. Adroddai un o'n gweinidogion wrthyf amser yn ol, am frawd o benblaenor gydag ef mewn seiat ymweliad. Dywedai iddo gael y fath olwg ar ei wagder a'i amddifa.drwydd o ddoniau gwybodaeth, fel ag yr edryoha arno byth fel gwrthddrych tosturi. Yr oedd papyr yr ymweliad y flwyddyn hono yn digwydd bod yn llawnach o athrawiaeth nag y byddai arferol a bod. Wedi i'r gweinidog agor trwy siarad ar fater athrawiaethol, gofynodd i'r penblaenor os gwnai siarad ar yr ail ran-y trydydd pwnc ar y papyr. Cododd yntau i fyny mewn gogwyddiad mawreddog, a daliai y papyr o'i flaen am hir amser cyn dweyd yr un gair, a bu distawrwydd; ac eto heb yr un gair, credodd rhai o'r bobl y cawsid ymarllwysiad dihysbyddol o ddoniaugwybodaleth yn y lie, daliasant, eu hanadl am enyd eto, ac wele air o'r diwedd. Dewisodd gylchrodio o gwmpas yr athrawiaeth fel i gymeryd I golwg arhi, ac yiia gwasgodd at y ddor i geisio cael agoriad i'w neuadd; daliai wrth y drws a gwingai yn ei erbyn yn afluniaidd iawn. Dywedai air ysgafn yn nesaf, er mwyn creu gwen a chwerthin, a thynu eu sylw oddiwrth ei anallu i siarad ar athrawiaeth. Ni fu erioed y fath feth- ia,nt. A gafwyd gorliliad ga,n wybodaeth yn y seiat trwy gyfrwng y penblaenor? Naddo, ni ddaeth dim hyd yn hyn. Dechreuodd y cyfarfod oeri, a'r bobl anesmwytho, a diwcddodd y penblaenor ei ymadrodd gwybodusi yn nghanol talpiau mawrion o ia. Dywedai un o'r rhai mwyaf profiadol wrth fyn'd allan o'r cwrdd, mai peth mawr wedi'r oil yw i ddyn gael synwyr i adnabod ei le,. HOMER.
YMGEISWYR AM Y WEINIDOGAETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMGEISWYR AM Y WEINIDOGAETH. AT OLYGYDD Y GOLBTJAD. Anwyl Syr,—Yr wyf wedi darllen amryw lythyr- au in y mater uchod yn y GOLEUAD, ac ofnaf nad yw rhai o honynt yn ymdrin ag ef yn yr ysbryd priodol. Mae'r mater yn bwysig, a, dylid bod yn bwyllog wrth ysgrifenu arno. Baich y llythyrau ydyw, Bod y drws i'r weinidogaeth yn rhy agored, ac; y dylid ei ga,u." Credaf mai'r syniad yna oedd gan y Gymdeithasfa, pan yn rhoddi llyfetheiriau yr arholiadau o flaen yr ymgeiswyr; ond mae'n amlwg fod hwnw yn fethiant hollol yn ol y llythyr- au hyn, a hyny am y, rheswm fod mwy o bwys yn cael ei roddi ar addysg fel cymhwyster i'r weini- dogaeth nag ar gymeriad diamheuol dduwiol, a dawn arbenig i draddocli. Ar yr olaf yr oedd y tadau yn rhoddi pwys, a chredaf eu bod yn agosach i'r gwirionedd. Dywed Methodist Arall' fod "y drwsi yn agored o led y pen," ac na, wrthodir nob a ddaw." Na, nid felly, chwaith, ond i ryw ddosbarth. Os bydd bachgeii tlawd yn ymgeisio, waeth be fo ei gyinhwysdei', bydd y drws yn cael haner ei gau, os nad yn hollol, yn ei erbyn. Gwn am un felly yn ddiweddar iawn gafodd ei wrthod. Ond yr oedd drysau enwadau eraill yn agored iddo, a gwa.hoddwyd ef i fwy nag un, a derbyniodd yntau y gwahoddiad. Pe buasai yn fab i bregethwr, neu flaenor, neu i ryw wr arianog, cawsai bob rhwydd- ineb i'r weinidogaeth, pe heb unrhyw gymhwysder arall. "Caled yw yr ymadrodd," ond gwir er hyny. Dywed Methodist Arall' hefyd pe cymer- id Ilais yr eglwysi." Ond pwy yw yr eglwysi? Nid yw un ran o ddeg o'r Methodistiaid yn gwybod. Anfonwyd cenadwri yn ddiweddttr o un o'r Cyfar- fodydd Misol i'r Gymdeithasfa, i ofyn pwy oedd i'w ddeall wrth eglwys" yn rheol "derbyniad am y weinidogaeth;" a'r ateb roed oedd yr eglwys yn ei swyddogion." Ai dyna wir ystyr y gair ? Ai dyna yr ystyr roed iddo wrth basio y rheol ? Ai fel yua, y deaHir ef gan gyfangorff y Methodistiaid P Credaf mai yn y fan. yna y mae y drwg. Y swydd- ogion yn codi pregethwyr, ac nid eglwys Dduw yn ei haelodau; a chredaf gyda Mr. James "mai goreu po gyntaf i fyned yn ol at y dull Ysgrythyrol a chyfundebol o godi pregethwyr." Nid ffafr i ryw ddcsbarth ddylai y weinidogaeth, fod, ond prawf amlwg o gymeriad pur, ymroddedig, duwiol- frydig, a gonest, yn meddu a,r ddawn a Ilais i dra- ddodi, a rhodd,er i'r cyfryw yr addysg oreu ellid gael, a buan iawn y qyfnewidid syniad y wlad am ein pregethwyr, a byddai mwy o arddeliad ar y weinidogaetlh. METHODISTIAD.
EISTEDDFOD QUEEN'S HALL, LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EISTEDDFOD QUEEN'S HALL, LLUNDAIN. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—Darllenais adroddiad eich goheb- ydd o'r Eisteddfod yn y Queen's Hall gyda llawe-r iawn o ddyddordeb. Nid y peth lleiaf sy'n tynu sylw yw ei Gymraeg .Cymrei^—mae'n ddifyr, ttiae'n ddoniol, mae'n dda—mor bell ag y mae'n myn'd. Pe buasai'n ysgrifenu i'r wasg Saesneg mor ddesgrifiadol a darllenadwy, buan y dringasai i saifle H.W.L.' neu 'H.W.M.' Ond pam yn enw pob rheswm y gedy gymaint allan o'i adroddiad? Ai nid oedd dim yn yr Eisteddfod hon yn galw am sylw ond corau ac awdl ? Pwy enillodd ar yr unawdau, neu'r adrodd, neu'r cyiieithu, neu'r traethodi? Rhaid i ddairllenwyr1 y GOLEUAD aros mewn amvybcdaeth er dim "a, ddywed eich goheb- ydd. Mae ei ddistawrwydd a,r y blotyn duaf yn hanes y cyfarfod yn bur awgrymiadol. Ni ddywed air am yr olygfa, ddifrifol oedd yn un rhan o'r Hall. Yn ystod y gweithrediadau, aethom am dro drwy'r corridors,' a, synu yn aruthr a wnaethom weled y refreshment bar' yn agored led y pen. Gofyn- asom, ai eisteddfod perthynol i eglwys o'r Method- 'I a istiaid Oalfinaidd yn Llundain yw hon? Wrth ail edrych ar y rhaglen, cawsom taw fe. Etc, wele fechgyn a merched ieuainc—Cymry anwyl a hoff—' yn fawr eu twrf a'r gwydrau yn eu dwylaw yn yfed ei hochor hi" yn nghanol cymylau o fwg tybaco, &c. Gallesid yn hawdd drefnu i beidio agor y 'bars': yr ydym wedi bod mewn cyfarfod- ydd yn y Queen's Hall pan nad oedd y bars yn agored. Cwestiwn arall sy'n codi i'n meddwl. Dywedir mai tua X80 yw yr elw. Oes rhyivun a wad mai 11a,er mwy teilwng fuasai ceisio cael rhywfaint o'r arian wariwyd yn uniongyrchol i'r gronfa heb y fath wastraff diangenrhaid ? Meddylier am y gwobrwyon ('doedd braidd un gysitadleuaeth nad oedd y wobr yn rhoddedig gan' rhywun neu gilydd), yr argraffu drudfawr, yr excursions o'r wlad, yr hall, a'r yni diball raid fod wedi myned i wneyd y cyfan yn llwyddiant—rhaid peidio son am 'takings' y 'refreshment bar.' Nid £ 80 fuasai'r elw; ond oredwn y1 ceid digon bron i glirio'r holl ddyled neu i gael organ. Wel, dymiai engraifft go deg onide o wneyd yr eglwys yn fwy tebyg i'r byd. Nid oedd eisieu cyf- arfod gweddi na, seiat. yn yr eglwys hon wythnos yr eisteddfod-ni chynhaliwyd yr un beth bynag. Pan nesaf yr enfyn eicli gohebydd air o Lundain, bydded iddo anfon y du yn gystal a'r gwyn. Un o arwydd-eiriau'r eisteddfod hon oedd—' Y gwir yn erbyn y byd.' Yr eiddoch, &c., M.C.
-'YMGEISWYR AM Y WEINIDOGAETH.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'YMGEISWYR AM Y WEINIDOGAETH.' AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—Yn y GOLEUAD am Ghwefror 27ain, yn ngholofn y Gohebiaethau, ymddengys dau lythyr dan y penawd uchod; un gan "Methodist Arall," a'r Hall gan Mr. T. James, Porthcawl. Rhywbeth yn debyg ydynt o ran hyd ao o ran syniadau, ond yn anhebyg o ran ysbryd a theim- lad. Nid oes a fynaf yn arbenig a llythyr Mr. James; yn unig dywedaf ei fod mewn ysbryd rhag- orol yn trafod mater pwysig. Clywir swn beirn- iadaeth iach ynddo; sieryd yn gryf a gonest ac ar-. gyhoeddiadol am yr hyn ddylai gael ystyriaeth pob adran o'r Cyfundeb, os ydymam feithrin gweinidogaeth effeithiol. Y mae edrych ar y mater yn y modd y mae efe yn edrych arno yn berffaith deg ac angenrheidiol. Ni chyrhaeddodd unrhyw gytundrefn effeithioldeb heb wa-sana,etll beirniadaeth, a chofier fod yn rhaid wrth hunan- ymwadiad a chryn fesur o sel serchog cyn yr an- turia y gwir feirniad allan, oblegid cryn gyfrifol- deb ydyw beirniadu Cyfundeb sydd yn dal perth- ynas a bywyd uchaf y genedl, a,c arwydda, ei waitb yn ymgynyg a beirniadu ei fod yn llosgi o eiddig", edd tuag at lwyddiant, y cyfryw gyfundrefn yn ei holl ddarpariaethau. A chyn gadael hyn, dy- munaf ddiolch i Mr. James am ddodi ei enw pri- odol wrth ei lythyr. Y ma,e hyn, ynghyd a phetn- au eraill, yn profi ei fod yn onest yn ei feirniad- aeth, ac y myn, sefyll yn gyfrifol am ddwyn ei gen- adwri i sylw wrth ysgrifenu ei enw priodol ei hun. Nid yw dan demtasiwn wrth son am bersonau 0 fewn cylch ei adnahyddiaeth-i son am danynt gydag unrhyw chwerwder. Ar y cyfan, teimlaf f1 mod yn cydsynio a'i gasgliadau, er ei fod yntau yn mhoethder ei eiddigedd yn defnyddio geiriau pur gryfion. Maddeued Mr. James am i mi gyfeirio at ei lythyr yn y wedd yma, ond yr wyf yn gwneyd hyn er mwyn apelio ato am ei farn o berthynas i lythyr "Methodist Arall." Hwn, yn benaf, wedi cynhyrfu ychydig arnaf i ysgrifenu, a diau y enillaf gydymdeimlad llawer o ddarllenwyr y GOLEUAD yn fy ngwaith yn cyfeirio ato, a neb y11 fwy na Mr. James. Ymddengys i mi fod y llythyr hwn yn anheilwng o'i ddodi ar dudalenau newydf-' iadur crefyddol o gwbl, oblegid er ceisio dringo un cwch a Mr. James, nid fel y dywedwyd o'r ut1 ysbryd ag efe. Y mae ei awgrymiadau llechw1.' aidd a bradwrus yn dangos ei fod yn gwbl amdd^ fad o anian beirniad ac o ysbryd annibynol. A yr ydwyf yn tybied na, arddelid mohono gan a goleddai ronyn o barch iddo ei hun. Nid yd" J yn cael yn y llythyr hwn ysbyrd iach, eiddlgu boneddigaidd fel ag a garaf ei gael mewn trato aeth didderby tuvy neb, ond yn hytrach ysbiy brwnt, mympwyoi, erlidgar, eullibus, yn dwyn w huddiadau yn erbyn personau ydynt yn sicr yn rhagorol filwaith riac ef ei hun. Yn gyntaf, a J 11 difriaeth ar eglwysi a swyddogion eglwysi e gwlad, pa rai sydd yn ceisio arfer pob gwyliad" iaeth pan yn cefnogi dynion ieuainc sydd yn y°a gynyg am y weinidogaeth, ydyw y frawdaeg;' f ganiyn :—" Ysywaeth, ar hyn o bryd, y mae j holl ddrysau y:n agored led y pen, ao yn ysgm6^- edig uwchben yr oil mewn llythyrenau bras wrthodir neb a ddaw.' Yn wyneb y frawd«t& vma, gofynaf pa, un ai cymell ei, hun, y cael ei gymell y mae y gwr ieuanc i'r gwaith a phwysig o bregethu yr efengyl? Ai nid ar, ein swyddogion ydyw galw sylw yr ymgeiswyr V^ bynag ydynt at y cyfrifoldeb sydd ynglyn t- gwaith? Felly yr ydym yn tybied. Yr ail n» ,■ iad noeth a, digywilydd yw y paragraff a. ganly" lythyr Digwyddai ysgrifenydd y llinellau "7 ,rJ1 (neb Uai na Methodist Arall wrth gwrs) wV byw mewn tref sydd yn hynod am amlder ei P 0 gethwyr ieuainc (Pa dref tybed ?) a,c y gweled a, chlywed am fywyd llac a didrefn y CJ yn ddigon a chodi^wrid i wyneb undyn, boed g. fyddwr neu beidio." Sylvved y darilenydd g paragraff uchod, ao ymofyned ag ef ei hun pa^y a, fuasai yn ei gymeryd pe yn weddol sicr at D cyfeirid yn y geiriau. Anturiaf ddweyd y un o ddau beth: naill a-i ymfoddloni ar y frawddegau heb sylw arnynt, gan gymeryd yn5^, iataol mai geiriau enllibaidd a dialgar y Pjeagtii ddyn oeddynt; neu ynte gorfodi y Sawl a, vjr & y cyfryw frawddegau i'w profi mewn modd c