Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y CASGLIAD MAWR A'R DIWYGIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CASGLIAD MAWR A'R DIWYGIAD. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Anwyl Syr,—Er pan yr ysgrifenais atoch ychydig O Wythnosau yn ol, y mae eich colofnau wedi cael eu ilanw o wythnos i wythnos, i'r fath fuddioldeb ac adeiladafeth a mwynhad, ag adroddiadau am y Diwyg- iad yn ngwahanol barthau y wlad, ag y teimlwn y fath lawenydd am ei ddyfodiad, a'r fath ddiolchgar- wch i Dduw pob gras am ei anfon, fel nad oeddwn am aflonyddu arnoch yn rhy fuan. Yn awr, modd bynag, tybiaf y gellwch hebgor ychydig ofod i mi, ac yn gyntaf oil y mae genyf air i'w ddweyd fel mater personol. Yr wyf wedi cael ar ddeall yn ddiweddar fod rhai geiriau a arferais yn fy llythyr blaenorol wedi achosi teimlad dolurus i rai brodyr ag y mae genyf y parch dyfnaf iddynt, ac na hoffwn mewn modd yn y byd archolli y teimlad mwyaf llednais a thyner ynddynt. Nid oeddwn yn bwriadu rhoddi tramgwydd i neb, a dymunaf yn y modd mwyaf diffu- ant ddatgan fy ngofid oherwydd unrhyw flinder y darfu i mi yn anfwriadol ei achosi. Yr oil oeddwn yn ei olygu ydoedd, fod y gwaith yn myned yn y blaen yn llwyddianus yn y De, er nad oedd y naill sir yn clywed swn y Hall yn gweithio, ac mai i mi dyna y ffordd fwyaf dewisol. Mater o farn a theimlad ydyw hynyna, a phe buaswn yn tybied y buasai fy ngwaith yn datgan fy marn yn ymddangos yn dram- gwyddus i rai o'm cyfeillion, ni fuaswn ar un cyfrif yn gwneyd hyny. Ynawr yr wyf am nodi dwy ffaith bwysig ynglyn a'r Casgliad Mawr, gan adael i'r darllenydd i ffurfio ei farn ei hun pa un a oes cysylltiad uniongyrchol rhyngddynt a'u gilydd ynte cydgyfarfyddiad damwein- lol yn unig. Dyma y ffaith gyntaf: nid oes yr un eglwys, hyd y gwn i, wedi gwneyd cymaint o aberth er mwyn y Casgliad ag eglwys y Ceinewydd. Nid yn unig fe gyfranodd yn deilwng yn ol ei hamgylch- ladau tuag ato, ond fe roddodd ei gweinidog a'i blaenor yn rhydd am dri mis i fyned ar hyd ac ar led De Aberteifi, o gapel i gapel, ac o dy i dy ar hyd y gwahanol gymydogaethau, i ymweled ag aelodau y cynulleidfaoedd yn eu cartrefi, ar ran y Casgliad. Y mae yn ddigon hysbys i ni yn y Deheudir fod De Aberteifi mewn sefyllfa o gryn anhawsder ynglyn a'r Casgliad. Yr oedd peth arall ar ei ffordd i allu cychwyn gydag ef, nes yr oedd y brwdfrydedd cyntaf yn dechreu oeri, ac y mae yn sicr na chawsid ond cyfran fechan o'r hyn a geir oddiyno onibai am hunanymwadiad Mr. Jenkins a Mr. William Thomas yn aberthu eu hunain, eu nerth, a'u cysuron cartref, am wythnosau yn olynol, er mwyn gwasanaethu achos y Casgliad Mawr. Yr ail ffaith Eglwys y Ceinewydd gafodd y fraint o fod yr aelwyd ar ba un y cynheuwyd tan y Diwyg- iad ag sydd yn trawsnewid ein gwlad, a Mr. Jenkins, trwy ei weinidogaeth ar Sabbath neillduol, a gafodd y fraint o'i gyneu. Yr oedd y tan wedi bod yn cyneu 3^* Ceinewydd am wythnosau. os nad misoedd cyn lddo ddechreu goddeithio lleoedd eraill, a chanlyniad yr hyn oedd yn cymeryd lie yn y Cei ydoedd dyfod- pd Mr. Seth Joshua i Dde Aberteifi, a chynhaliad 3' ^ynhadledd Ddiwygiadol yn Blaenanerch, lie y bed- yddiwyd Evan Roberts a'r Ysbryd Glan, ac y derbyn- lodd y nerth a'r awdurdod ag sydd wedi ei wneyd y tath allu er daioni yn ein gwlad ni. A' j cysylltiad rhwng y ddwy ffaith uchod a u guydd ai nad oes? Y mae hyn yn wirionedd, fod ein dynion goreu yn dweyd o'r cychwyn y byddai y Casgliad yn sicr o brofi yn rhagredegydd i ddiwygiad crefyddol, a chyn fod y Casgliad wedi ei gwbl orphen dyma y diwygiad yn dod. Ond yr oedd ef wedi ei °r?^e-n y-n yr ysbryd e'soes, a Phob trefniadau angen- rheidiol i'w orphen yn gorfforol wedi eu gwneyd. JC^dig Sabbothau yn ol, pan y torodd y Diwyg- ia.d allan mewn modd hynod o nerthol yn eglwys anusi Borth—eglwys £ g sydd wedi gwneyd yn ar- Qaerchog at y Casgliad—meddai gwraig un o'n blaen- onald ffyddlawn yno wrth fyned adref o'r odfa hono, "Ol canlyniad y Casgliad Mawr ydyw hyn. Yr oeddent yn dweyd y buasem yn ei gael." Wei," Meddai ei phriod wrthi, a ydych yn teimlo awydd J1 tipyn yn ychwaneg ato fe yn awr ? Wei ydwyf," meddai hithau. Yr oeddent wedi rhoddi eisoes R2 ios., yr hyn oedd vn anrhydeddus ar eu «ian, ond er syndod i mi a diolchgarwch, ddechreu yr wythnos hon "dyma y wraig yn dyfod a deg swllt ar hugain arall i mi fel offrwm diolch am y Diwyg- Hh Ond _i ni gael llawer o'r un ysbryd a'r. wraig Qaa yma, nid yn unig ni chawn anhawsder i orphen ein cyfran yn y De, fel y mae y Gogledd wedi Swneyd,, ond awn ymhell y tuhwnt i hyny. Yr eiddoch yn gywir, T. J. MORGAN.

Y DIWYGIAD YN EI EFFEITHIAU.

MENAI BRIDGE.

Y DIWYGIAD YN LLEYN AC EIFIONYDD.

MERTHYR TYDFIL.

CYFARFOD MISOL MYNWY.

[No title]