Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1868. R ICHAED THOMAS, PRACTICAL BOOKBINDER, AND UlNDER i-O THE TRADE. 4, ALBERT STREET, MARKET SQUARE, MEETHYE TYDFIL. 1122 J 'JUDAS KIACCAB/EUS!' J U Bydd Nadolig U D yn Aberdar D A Oor 0 200 A S Orchestra Gyjlawn S 'fUgAg MyCOAa:Æ.aS'.
BfVRDD Y GOLYGYDD.
BfVRDD Y GOLYGYDD. Dymuna Evan Morris, Hamilton Street, Lan- dwr, hysbysu nad efe ysgrifenodd y llythyr dan y ffugenw "Caswallon," yn ein newydd- iadur am Hyd. 29ain. Cadarnhawn ninau y dywediad. EISTEDDFOD TREFORIS.— Daeth gair i'r swyddfa oddiwrtli Mr. W. Griffiths, ysgrifenydd yr eisteddfod uchod, yn hysbysu y caniateid i gor y plant garni ar y geiriau Seisnig yn y gystadleuaeth. LANCELOT. —Dienw. GWILYM.-—Dienw eto. MEREDITH.—Dim o bwys i'w gyhoeddi. Ux O'R YMGEISWYR.—Pe cyhoeddem eich llyth- yr, ofnwn nas gallem gaellle i'r feirniadiadaeth CYSTADLEUYDD.—Darllened y gohebydd hwn ein ateb i Un o'r Ymgeiswyr." Derbyniwyd.—E. Ehedydd Thomas, Jonathan, Dyeithr, Morlaisfab, Llwyd Arall, Caswallon, T, Un o'r Pwyllgor, Cadman, Dewi Glan Tees, Maelgwyn Maescadlawr, D. Thomas, Picton, Ieuan Glan Ogwy, D. Bowen, William Rees, Adolygiad y Wasg, Garthwyson, Guil- elimus.
YSPAEN.
YSPAEN. Pe llwyddasai Don Carlos i ddringo i orsedd Y spaen, digon tebyg y cawsai ei fedyddio yn "Fab Hynaf yr Eglwys," oblegyd y mae yn Babydd o'r fath mwyaf selog. Gwnelsai efe frenin wrth fodd calon y Pab, a buasai yn olynydd teilwng i Gynfab Hynaf yr Eglwys, sef y diweddar Ymerawdwr Napoleon-maboliaeth sant- aidd yr hwn a gostiodd iddo ei orsedd a'i deyrnwialen, drwy ei waseidd-dra yn Ojmar y«L oi hArgWRdio gan ei wraig a chan Jesuitiaid atgas ei lys i fyned i ryfel a Germani, pan oedd y fyddin Ffrengig mewn cyflwr hollol anmharod. Y mae Don Carlos newydd rhoi ar ddeall i'r byd, y byddai iddo ef gospi pob un a feiddiai wneyd yr ymgais lleiaf i ddifodi neu newid y grefydd Babaidd. Y gosp fygythiedig am y trosedd ydoedd carchariad neu alltud- iaeth. Carchariad am beth? Am hawlio rhyddid cydwybod, ac annibyniaeth barn! Amlwg yw fod delwau mud mewn parch mawr yn ngwersyll Don Carlos, canys y mae efe yn myned i gospi pawb a gollfarn- ant ddelwau a charchariad. Y mae delwau galluog y Pretender hwn yn rhai anniolch- gar dros fesur, onide hwy a arferent eu dylanwad grymus i helpu addolydd mor fFyddlawn yn awr ei gyfyngder. Feallai mai "cysgu" y maent, fel yr edliwiai y Proffwyd i'r gau broffwydi ar Carmel gynt: neu, feallai, mai profi ei amynedd a'i grefydd y maent, ac y deuant allan o'i blaid ar yr awr ddiweddaf, gyda storm ysgubol o fellt, taranau, cenllysg, a daear- grynfeydd. Yn ffodus i Yspaen, y mae y seren Garlistaidd yn myned tuag i lawr yn gyflym, ac y mae y Vatican siomedig yn syllu gyda brawychdbd ar ei machlud- iad diobaeth. Diameu fod rhywrai hefyd tua Llundain yn colli dagrau-peth arferol yw colli dagrau ar ol arian, ac y mae llawer o arian wedi eu hanfon o Loegr i gynal i fynu achos y Ffug-ymhonydd hwn. Y mae yn amlwg bellach fod achos y Carlist- iaid yn un diobaith: y mae Don Carlos a'i waedgwn yn cael eu hela yn gyflym tua godreon y Pyrenees, a bydd yn rhaid i'r llwynog yu dra buan ffoi am nodded i Ffrainc. Feallai y daw drosodd i Loegr, i ad-dalu ag anrhydedd ei bresenoldeb idd ei greditors gwirionffol.
Y LLANW YN TROI.
Y LLANW YN TROI. Y mae llawer o arwyddion yn eglur ddangos fod y llanw o Doriaeth a orlifodd eingwiad yn yr etholiad diweddaf, wedi cyrhaedd y pwynt uchaf, a'i fod yn troi yn ei ol. Yn wir, his gallesid dysgwyl ben- dith ar yr undeb annghymarus rhwng tafarn ac Eglwys, yr hwn undeb anachaidd a roddodd fuddugoliaeth i'r blaid Geidwadol. Profa amryw o'r etholiadau bwrdeisiol diweddar fod y wlad yn blino ar lywydd- iaeth y Toriaid, a bod Rhyddfrydwyr y Deyrnas yn dychwelyd at eu hen gariadau Syddlawn, sef Gladstone a Bright a'u cyfeillion. Y mae enillion y Rhyddfryd- wyr yn fawr yn y lleoedd mawrion: enill- asant wyth eisteddle yn Norwich, saith yn Manchester, wyth yn Leeds, a dwy hyd yn nod yn Liverpool, heb enwi manau pwysig ereill. Hyderwn y bydd i'r ad-ddeffroad a'r ad-weithrediad Rhyddfrydol barau i gynyddu fwyfwy, a bod y dydd gerllaw pan y caiff y "stupid party" roi lie i'r go-a-head party," gwir gyfeillion y bobl. Y mae yn athrist meddwl fod gwladwein- ydd mor fawr a Mr. Gladstone-gwr a wnaeth fwy dros y wlad mewn rhyw bum' mlynedd nag a wnaeth pawb o'i flaen o ddechreuad y ganrif—gwr a burodd y fyddin o lygredigaethau oesoedd, a roes gyfiawnder i'r Iwerddon, ac a roes y balot i'r bobl-y mae yn athrist meddwl fod y Deyrnas Gyfunol yn colli gwasanaeth y fath wr galluog, ie, am gymaint ag un sessiwn. Y mae Gladstone allan o swydd fel y Great Eastern allan o'r dwr: canys y mae y talentau gwladlywiol dysgleiriaf yn Ewrop yn gorwedd yn farw o flaen ein llygaid. Dyblir ein tristyd oherwydd byn, pan ystyriom fyrder yr einioes, a phan gofiom ei fod yntau yn heneiddio yn gyf- lym. Credwn fod arwyddion eglur fod yr adeg gerllaw pan y gwelir (t y dyn iawn unwaith eto yn yr iawn le,"
YR ARSYLLFA.
YR ARSYLLFA. TACH. 18FED, 1875. Y MAE yn helynt blin gyda golwg ar y rhai sydd wedi rhoi benthyg eu lxarian i Sultan Twrci, ac y mae yn debyg na cheir y fath log a arferid dalu am dymhor Iiir. Hen lywodr- aeth bydredig ydyw un Constantinople, ac y mae wedi ymwerthu gymaint i Fahometan- iaeth, fel mai ychydig ddaioni ellir ddysgwyl oddiyno. Sibrydir fod y Hog i gael ei dynu i lawr hyd yr haner; felly y mae hyn yn newydd pur annghysurus i ddalwyr y Turkish Bonds. Wrth edrych dros lyfr Owen of Wales alias "Moriem," yn ddiweddar, tynwyd fy sylw at y penillion a gyfansoddodd Dewi Haran ar FUDDUGOLIAETH Y COR MAWR. Y mae un o honynt fel y canlyn :— Rhued magnelau y goncwest Enillwyd drwy dalent mewn hedd, Mi garwn i'r Tywysog Llewelyn Gael gwybod yn nghilfach ei fedd." Ni adawn deilyngdod awenyddol y penillion yn ddisylw, ond carem ofyn i Dewi Haran pa beth yw ei gredo gyda golwg ar arfarwoldeb yr enaid a sefyllfa ddyfodol pan y dywed "Gael gwybod yn nghilfach ei fedd." Nid oes yno ond y telpyn clai. Pan fyddo Dewi yn canu y tro nesaf, ymdreched fod yn gyson ag athroniaeth y datgudcliad dwyfol o ber- thynas i anfarwoldeb. Fel y gwyr ein darllenwyr, yr wythnos hon y cawn y pleser o wrando ar MR. HENRY RICHARD, A.S., yn traddodi ei anerchiad blynyddol i'w ethol- wyr, er rhoddi cyfrif am ei oruchwyliaeth ar feinciau St. Stephen. Diau y cawn sylwadau miniog ganddo ar wendidau y Weinyddiaeth Doriaidd a'r blunders parhaus a gyflawna. Nid yw yn debyg y dianga y Merchant Ship- ping Bill, a'r Cylchlythyr o'r Morlys o barthed i'r Caethion n'oedig rhag ei ffrewyll a'i ger- yddon. Nid oes un aelod Seneddol o Gymru wedi gwneyd cymaint dros Gymru, ac wedi cyrhaedd uwch tir fel Cymro yn Senedd Prydain na Mr. Richard, ac yn sicr y mae efe wedi gosod anrhydedd ar y fwrdeisdref a gynrychiola. Nid oes dadl na cha gynull- faoedd mawrion i'w wrando.
Mr. Henry Richard, A.S., yn…
Mr. Henry Richard, A.S., yn Merthyr Nos Fawrth diweddaf bu yr Aelod Anrhyd- eddus dros Merthyr ac Aberdar yn anerch yr Etholwyr yn y Neuadd Ddirwestol, Merthyr. Cymerwyd y gadair gan Mr. C. H. James; ac yr oedd yn bresenol nifer o brif Ymneillduwyr y dref a'r cylchoedd. Agorwyd y cyfarfod drwy araeth bwrpasol gan y Cadeirydd, ac yna galwodd ar Mr. Richard i roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth am y senedd-dymhor diweddaf. Gwnaeth Mr. Richard araeth faith a gallu- og, yn yr hon y cymeradwyodd gyflafaredd- iad a byrddau cymodlawn rhwng gweithwyr a chyflogwyr. Olrheiniodd yn fanwl weith- redoedd y senedd-dymhor diweddaf, ac ad- olygodd, yn ei ddull meistrolgar ef, y gwa- hanol Ysgrifau ddygwyd i mewn gan y Weinyddiaeth Doriaidd. Derbyniodd y dorf ei sylwadau gyda mawrgymeradwyaetli. Ar ddiwedd ei araeth gosodwyd amryw ofyniadau i Mr. Richard, ac yn mhlith ereill, a oedd efe yn ystyried fod amddifadu gweith- wyr o'u pleidlais yn gyfreithlon, pan yn gweithio i'r plwyf dan amgylchiadau y cload allan diweddar ? A oedd efe yn cydweled ag ymddygiad y Weinyddiaeth Ryddfrydig yn pleidleisio arian i erlyn yr Hawlydd ? A oedd efe yn addaw tynu sylw Ty y Cyffredin at y dull annheg y trethid eiddo lleol a'r modd annghyfiawn y trethid at gynal Byrddau Ysgolion ? A oedd efe wedi gwrthwynebu y cynygiad fod y wlad i dalu treuliau taith y Tywysog Cymru i'r India ? a lluaws o ofyn- iadau ereill, yr oil o ba rai atebwyd gan Mr. Richard. Pasiwyd penderfyniad unfrydol yn diolch i Mr. Richard am ei wasanaeth yn Nhy y Cyffredin yn y gorphenol, ac yn datgan eu ffydd ynddo yn y dyfodol.
[No title]
Deallwn fod y Parch. C. H. Spurgeon ar, os nad wedi, cychwyn i Ddeheudir Ffrainc er mwyn ei iechyd. Medrai efe, flynyddoedd yn ol, draddodi pregeth bob nos o'r wyth- nós, a phregethu yn dda y Sabotli, ond y mae ei iechyd wedi ei anmharu er ys tro.
NODIADAU CYFFREDINOL.
NODIADAU CYFFREDINOL. Mae y gwr cyrhaeddgar Morien y Mail yn ceisio cyfiawnhau ei hun trwy ddweyd mai cyfieithiad oedd y sylw a wnaed ganddo o'r GWLADGARWR. Wel, a chaniatau fod hyny yn wirionedd, ai nid mwy Cymroawl ynddo fuasai peidio a chodi peth felly i'r gwynt ] Gan ei fod mor hoff o wneyd cyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesonag, credwyf y dylai chwilio am rywbeth heblaw crach a chornwydydd. Gan iddo osod ei fys yn mhastai Mr. Jones, y Bala, a'r Cymro Gwyllt, purion fuasai iddo gyfieithu llythyr galluog Godrau yr Eryri yn y Darian am y pumed cyfisol. Gall fod Morien yn teimlo dipyn yn eiddigeddus gan ei fod ef yn oruchwyliwr ymfudol. Gweith- ied ei ffordd i sylw y byd ar hyd hen lwybr rhinwedd a dyrchafiad, gan fod digon o le i bawb ar uchelfanan mynyddoedd anrhydedd. Gan na pherthyn y mater i mi fel Nodiedydd Cyffredinol, caiff y Wild Welshman, chwedl Morien, ymdrin a'r pwnc ymfudol. Cynllun newydd, i'm tyb i, er diwygio pethau ydyw codi iiaeleddau a'u gyru ar wyneb y Mail i bedwar gwynt y nefoedd. Teimlwyf ddy- ddordeb neillduol wrth ddarllen ysgrifau digrifol a llawn o arabedd ond yn fy myw nis gallaf ganfod dim yn llythyrau Morien amgen crach a llysnafedd wedi eu pobi yn mhobty cenfigen gan y pen pobydd, Mr. Bradwr. Os nad allwn wneyd daioni cred- wyf na ddylem ymostwng i wneyd drwg. Gall dyn fod yn ffodus i enill safle yn y byd, odd ni ddylai ddefnyddio y 'fantais hono er gosod troed ar war ei gymydog. Cofied Morien nad yw pawb wedi cael eu geni i dderbyn cedau gwych ac i eistedd ar glustog- au esmwyth a phan ddygwydd rhywun gael gafael yn y llwy arian, na fydded iddo ddi- ystyru y brawd a'r llwy bren. Gall calon wladgar guro mor gynes o dan frethyn llwyd, tra bydd ei pherchenog yn byw mewh caledi, ag y gall calon y pendefig yn y palasdy gor- wych ar ochr y bryn yn nghanol moethau a chyfoeth daearol. Yn y cyffredin, y werin bobl ydyw deiliaid mwyaf teyrngarol ein llywodraeth ni. Cofied Morien y geiriau melus gynt, Y neb sydd cldibechod tafled yn gyntaf gar eg ond ni chafwyd cymaint ag un. Mae gwendidau yn perthyn i bawb, ac nid wrth ddanod pethau diffygiol y naill i'r llall y mae lledaenu cariad a brawdgarwch. Y gosodiad sydd genyf yw hyn,—Nas gall dyn a fyddo yn feddianol ar galon yn llawn tan a gwladgarwch Cymreig ddim eistedd i lawr mewn tawelwch i Seisnigeiddio diffygion y genedl. Os nad wyf yn gywir ar y pwnc hwn, gofyned farn Dewi Haran a'r 11wyn o Essyllt, y rhai a gyfrifir yn llenorion Cymreig o radd uchel. Dywed awdwr galluog prif erthyglau yr Herald Cymraeg fod Seisnigeidd- iwch yn Nghymru yn diraddio y genedl Gymreig, yn llenyddol, moesol, -a chrefyddol; ond fe fyn Morien y Mail i'r byd gredu ei fod ef yn gwneyd gwasanaeth mawr i'w genedl trwy loffa diffygion y wasg Cymreig. Barned y eyhoedd y llithiau gorddysgedig, gan gofio gyda llaw am ysbwrielach y Twm Tri Pedwar. Fe ddylai Morien gael ei urddo, fel yr adnabyddir ef yn mhlith ysgrifenwyr Cymreig wrth yr enw Ffwlbert Glan Rhondda. Mae yn syn genyf na byddai y eyfeillion Brynfab, Carnelian, Dewi Alaw, ac ereill o'r Cymry Cymreig yn Mhontypridd yn ei hwtio y tu allan i gylch cymdeithas. Gan fod yr ysfa gyfieitliiadol wedi effeithio ar ymenydd Morien, ceisied fenthyg Gohui yr Oes er Seis- nigeiddio erthygl y Pen Dragon ar Rhaiadr y Niagara, gydalluaws o erthyglau ereill o'r gyfrol. Edryclied wedi hyny i'r Brytlum o Dremadog, a chaiff yno ddigon o bethau da gwerth y drafferth o'i troi i'r Saesonaeg. Gall fod y brawd yn dyoddef o dan glefyd yr ymenydd os felly, aed yn ddiymaros at Dr. Price i Drefforest, rhag ofn y bydd yn rhaid i'r awdurdodau plwyfol ei gymeryd i ddyogelwch yn Mhenybont. Cymerwch drugaredd arno, da chwi, am ei fod yn ol pob tebyg yn dyoddef dan y dwymyn gwall- gofrwydd arafol. Gresyn fod gwr mor alluog yn cael ei esgeuluso gymaint yn Nghymru a chyfieithydd medrus The last helm of Wales." Os mat nn o hiliogaeth ycarnfradwr Dafydd Gam ydyw, peidiwch a bod yn galed wrtho, ond yn hytrach triniwch yn ol ei haedd- iant. Gwelwyd llawer un cyn ymaynlladd ar y Gynireigiaeth, ond hyd eto nid yw y cyfryw wedi llwyddo i wneyd iddi nemawr o niwed. Bradychwyd hi fwy nag unwaith yn 11hy caredigion ffugiol; ond er y ewbl mai yn fyw ac yn iach, ac yn llawer mwy hoenus na phan y ganwyd ysgrifenydd y nodiadau hyn. Nid oes neb yn amheu nad oes llawer o ddiffygion yn perthyn i'r wasg Gymreig ond atolwg, beth am y wasg Saisnig ? A oes yno ddim crach a chornwydydd ? Gobaith gwan sydd am ddiwygiad o'r swyddfa y perthyna Morien iddi, ag iddynt wneyd eu goreu oganlyniad, fe allwn fel Cymry ymlawenhau fod y wasg Gymreig yn fwy puredig a glanwedd, gyda'i holl ddiffygion, nag ydyw y wasg Seisnig. Ychydig, mewn cydmariaeth i'r Seisnig, ydyw rhifedi llyfrau llygredig y wasg Gymreig ac am y papyrau wythnosol yn y wlad hon a gwledydd ereill, ni raid i ni fel cenedl gywil- yddio i sefyll yn ngwyneb y Mail a'i gyfoedion, os gwneir y gydmariaeth yn deg a diragfarn. Traethed arall ei len ar hyn os wyf yn cyfeil- iorni, a boddlonaf i'r feirniadaeth. Ni welais, hyd yma, yr un boneddwr Cymreig nad yw yn ymfalchio ei fod yn Gymro o waed coch cyf xn; ond rhaid cyfaddef i mi gyfarfod a llawer gwrach wedi annghofio y Gymraeg cyn dysgu yr un iaith arall. Gofynodd Cymro un tro i un a adwaenai oedd newydd ddyfod i Lundain o'r wlad, "Pa faint o amser sydd er pan y daethoch i'r ddinas?" a'r atebiad oedd, "Bydda ni yma yn awr es blwyddyn ond seven months, a gwell geni ni English os gwel- wch yn dda, am fod Welsh mor trwm ar chist after bod mor hir in London." Dyna ddan- gosiad i ti, ddarllenydd, o un engraifft oil a ellid nodi yn hwylus, ond fe wna un y tro i ddangos dwlni diarebol penweiniaid Dick Sion Dayfddol. NAI 'RHEN DDYRNWR.
EISTEDDVOD GENEDLAETHOL WREXHAM,…
EISTEDDVOD GENEDLAETHOL WREXHAM, 1876. TESTYN A U. CERDDORIAETH (MUSIC). VOCAL. CHORUS—open to all-comers—"Ye Nations Offer to the Lord" (Mendelssohn's Hymn of Praise"); and "Achieved is the glorious work" (second chorus), Haydn's "Creation." Choir to contain not under 100 nor over 150 voices. (To be com- peted for on the first day of the Eistedvod.) £ 100, and a baton value £10 for the conductor. CHORUS—open to North Wales Choirs only- Madrigal, "Myfanwy Deg" (Gwilym Gwent), published by Hughes and Son, Wrexham. Choir to contain not under 60 nor over 80 voices. (To be competed for on the second day of the Eistedd- vod). £ 30, and a Gold Medal for the conductor. CHORUS—open to Denbighshire and Flintshire Choirs only- Hallelujah to the Father," ("Hale- liwia i'r Goruchav ")—Beethoven. (English or Welsh). Choir to contain not under 40 nor over GO voices. (To be competed for on the third day of the Eisteddvod). £ 20, and a gold medal for the conductor. SPECIAL NOTICE. Ladies Prize of £ 100 to be competed for on the last day of the Eisteddvod. Open to all comers (except winners of £ 100 first day). First, JEjO; second, £ 30; third, £20. Piece:—" The Lord be a Lamp (Sir J. Benedict's Oratorio St. Pda). MALE CHOHUS-" Yr Uchel Dyrau" (Stevens), and" Sailor's Chorus" (Peneerdd America). Choir to contain not under 30 nor over 50 voices. £ 20, and a gold medal for the conductor. QUAKTETT—" Y Blodeuyn Olav (Ctrddor CIJ- mreig). J34. TRIO—"Pob cnawd edrychant atat Ti Cymreig). £ 3. DUETT—(Soprano and Contralto)—"Y Gwlith- yn (Oioain Alaw). £ 2. DUETT—(Tenor and Bass). Piece, Go baffled coward (Handel's Samson). £2. Best Soprano singer of "Thou didst blow" (Israel in E!I!lpt). £2; second, j31. Best Contralto singer of 0, rest in the Lord (Elijah). £ 2; second, £ 1. Best Tenor singer of "Cujus Animam" (Rossini's Stabab Mater). 92; second, jEl. Best Bass singer of "Pro Peccatis," from Rossini's Stahat Mater. S2; second, £ 1. Best singer of "Yr Aderyn Pur," confined to children not under 13 nor over 15 years of age. Prize a handsomly bound copy of the "Gems of Welsh Melody," presented by Charles Hughes, Esq, Wrexham. Best Pennillion singer on each of the four days. First day, B2; second day, £110s; third day, £ 1 5s; fourth day, £1. The successful competitor one day not to receive the prize on a subsequent day. For the best singing at sight of a Quartett. £4. QUAKTETT, by members of the same family, "Noralithe pride of Kildare" (Os hudol yw Flora), Hughes and Son, Wrexham. £ 2; second, a hand- somely bound copy of the "Gems of Welsh Melody," presented by Charles Hughes, Esq., Wrexham. INSTRUMENTAL. Best Brass Band—Piece—" La Fete Musicale," (Smith of Hull). Copies may be had from Mr. R. Mills, 10, Ruabon Road, Wrexham. Best String Quartett. Piece, "Haydn's Quartett in G Major" (Op. 54)..&5. Best lady amateur performer on the Pianoforte, confined to ladies not only born but settled in North Wales. Piece to be played:—Rondo, "n moto continuo (Weber). The prize harp. Best player upon the Pianoforte—(confined to boys under 18)—Fantasia, "North Wales" (Briidcy Richard#). R2; second, £ 1. Best player upon the Pianoforte—(confined to girls under 18)—Fantasia "South Wales"(Bririlcy Richards). £ 2; second, £1. Best player on the Welsh Harp on each of the four days. First day, B4; second day, £3; third day, E2; fourth day, £1. Successful competitor of one day debarred from competing on a subsequent day of the Eisteddvod. Best player on the Violin (confined to competi tors under 20), with accompaniment. Piece, With Vendure Clad (aranged by H. Farmer), £ 2; second, £ 1. COMPOSITION. Harvest Home" Anthem, for four voices. adapted for country choirs, with suitable Welsh and English words. Not to exceed 8 pages Musical Times size. £ 8, and a silver medal. To be the property of the Committee. Best Quartett for String Instruments. e4. Best new Soprano Song, written to Welsh and English words. E3. Best new Tenor Song, written to Welsh and English words..S3. Best Duett (Soprano and Baritone), written to Welsli and English words. k3. 1188 ROBT. WILLIAMS, Ysgrifenydd. 35, Lorne-street, Wrexham.
Advertising
Troedyrhiw, Merthyr Tydfil. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, DYDD LLUN AR OL Y NADOLIG, RHAGFYR 27ain, 1875, dan nawdd Adran Troedyrhiw o Wir Iforiaid, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol mewn Cerddoriaeth, Barddoniaeth, Areitliiau, ac Adroddiadau. Y DDAU BRIF DDARTST CORAWL. 1. I unrhyw Gor, heb fod dan 60 o rifedi, a gano oreu "Teyrnasoedd y ddaear." Gwobr, 20p. 2. I GOr o un gynulleidfa, heb fod dan 30 o rifedi, a gano oreu "Llydaw" (allan o Lyfr Ieuan Gwyllt). Gwobr, 2p. Yr ydym wedi penderfynu newid ein prif ddarn cerddorol yn yr eisteddfod uchod oblegyd dau reswn :—1. Anfanteision y corau i ddysgu amrywiol ddarnan erbyn yr eisteddfod. 2. Bydd y "Danchwa" yn Aberdar ar yr un dydd, ac yn lie gwneuthur colled iddynt hwy, yr ydym yn ei thynu ynol, ac yn gosod "Teyrnasoedd y ddaear" yn ei lie. Bydd y wobr yn sefyll fel y mae. Trysort/dd—Mr. LEWIS BEYNON, 45, Bridge Street, Troedyrhiw, Merthyr Tydfil. Ysgrifenydd—Mr. ELIAS MORGAN-, 15, Har- riet's Town, Troedyrhiw, Merthyr Tydfil. 1192 At drigolion Cwmtawe a'r Cylch- oedd. DYMUNA W. GRIFFITHS, Liyfrwerthwr, Clydach, hysbysu y gwerthir ganddo y Peirianau Gwnio goreu. Y telerau yn rhwydd, a phob dysg yn rhad. Anfonir Catalogue yn cynwys y prisoedd a'r holl fanylion ond anfon at W. GRIFFITHS, Bookseller, 1200 Clydach, near Swansea. PpWO POUNDS Weekly and upwards easily J- realised without risk. Particulars and Wholesale Jewellery Catalogue post free.- Apply—BEVERIDGE & COMPANY, Birmingham. 1198 Temperance Hall, Aberdar. 0 dan nawdd rhai o brif FoneddUfion, if ller CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie ucliod DYDD GWKXEJ; Y GKOGLITH, 1876, pryd y gwobrwyir ymgeiswyr llwyddianus mewn Cerddoriaeth, Barddoniaeth, RhjTdcliaeth, Adrodd, &c. EHESTlt o'n TESTYNAU. Carimiiaeth. I'r Cor, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano oreu, "Ar ben mae'r go^oneddus waith," o'r Creation. Gwobr, 30p., ac Oriawr am- (gold Watch), gwerth lOp., i'r arweinydd. i'r Cor, heb fod dan 00 mewn rhif, a gano oreu, "Y Blodeuyn Olaf," J. A. Lloyd. Gwobr, 10p., a darluu (oilpaintivg), gwerth 3p., i'r arweinydd. I'r Parti o W ryvvod, heb fod dan 20 mewn rhif, a gano yn oreu, Y Warn," Smart. Gwobr, 3p., a Baton hardd i'r arweinydd. Itiiyddiaith. Am y Traethawd goreu ar y Swydd Arch- offeiriadol, o gysegriad Aaron hyd farwolaeth Crist." Gwobr, 3p. Bcrddon [a,cth. Am y Bryddest Farwnadol oreu, heb foil dan 300 o linellau, i'r diweddar "Barch. Josuali Thomas," gweinidog yr Annibynwyr yn Salem, Aberdar. Gwobr, 2p. Bydd enwau y Beiruiaid, a'r gweddill o'r testynau i'w cael yn y programme, yr hwn sydd yn barod yn awr, ac i'w gael gan yr Ysgrifenyddion am geiniog drwy y post, ceiniog a dimai.—Dros v pwyllgor, JOHN DAVIES. 24, Regent street, D. EVAXS, ;)62, Cardiff Road, 1136 Aberaman. LLINELL Y "NATIONAL" I NEW YORK. YMa-j y Cwmni h\ra yn cymeryd arnynt eu hunain y cyfrifoldeb o insurio pob un o'r llestri i'r swm o jE100,000, ac felly, yn rhoddi y sicrwydd goreu i'r ymfudwyr am eu dyogelwch; ac y maent hefyd bob amser wedi mabwysiadu y llwybr deheuol er mwyn osgoi y rhew a phen- oedd. YR AGERLONGAU MsMst MWYAF 0 Liverpool i New York bob dydd Mercher, a phob yn ail ddydd Gwener i Boston a New York. SPAIN. Mercher, Tach. 17 THE QUEEN Mercher, Tach. 24 ENGLAND. Mercher, Riiag. 1. Yn gadael Qneen^town y dyddiau canlvnol. Rhedant o Llundain i New York fel hyn ITALY Mercher, Tach. 17 HOLLAND Mercher, Tach. 2-1- CANADA. Mercher, Rhag. 1 Y mae cyfleusderau saloons yr Agerlongau hyn yn dra rhagorol, trwy fod y state-rooms yn eaug ajf- arferol, ac yn agoryd i'r saloons, pa rai sydd yn y poop ar y deck. Pris y cludiad, 10, 12, 15, a 17 gini, yn ol cyt- leusderau y state-room. Pawb yn cael yr nn hawt yn y saloon. Pris y cludiad yn y Steerage yw .£5. Return Tickets-24 Guineas. Y mae eangder, goleuni, ac awyr y steerage, yp anohydmai-ol, ac y mae digonedd o ymborth frtsh yn cael ei barotoi gan Stewardiaid y Cwmpeini; ac ni cheir cludiad rhatra.ch gydag unrhyw 1 in ell. Gall ymfudwyr boobio drwodd i bob pa.rtb o- Ganada a'r Talaethaii U nedig am brisoedd iF-eL Am fanylion pellacli, ymofyner a'r NATIONAL STEAM SHIP CO., 2o, Yfater-street, Livcjpoo! neu at SMITH, SUNDIUS, & Co., Agents, 33, Grace- church-street, London. Neu at JOHN THOMAS, 1, Prospect Place. George Town, Tredegar; GEORGE OWEN Upper High-street, Rhymny; HENRY A LEWIS, Newtown, Ebbw Vale; D. THOMAS, Clydach and Brynmawr; HERBERT T. REES. Pentre Ystrad, Rhondda Valley; neu at F. W. CAUNT, 4, Whitcombe-street, Aberdare. 1.369 TINMAN ROYAL MAIL JLSTEAMERS, LIVERPOOL to NEW YORK. Dvddiau Ma,wrth a Iau. SALOON, 12, 15, 13 a 21 Gini; Steerage am brb & llawer is nag arferol, gyda digonedd o ym- borth wedi ei goginio yn dda, a lleoedd cyfleus. Trosglydir Teithwyr y Steerage i Boston & Philadelphia heb dal ychwanegol. Bookir teitb- wyr i unrhyw ran o'r Taleithiau o Canada am brisiau neillduol. llhoddir tocynau a phob cj^farwyddyd gan WILLIAM INMAN, 22, Water-street. Liverpool, neu rywrai o oruchwylwyr yr Inman Line. L.153 LLINELL Y "WHITE STAR" 0 UNITED STATES MAIL STEAMERS. 0 Liverp0<->1 i ac o New York, CELTIC Dvdd Iau, Tach. 18 ADRIATIC Dydd lau, Tach. 25 BALTIC Dydd Iau, Rhag. 2 REPUBLIC Dydd Iau Rhag. 9 GERMANIC Dydd Iau, Rhag. 1<> 0 NEW YORK. ADRIATIC Dydd Sadwrn, Tach. 6 BALTIC.Dydd Sadwm, Tach. 13 Gan alw yn Queenstown, i dderbyn teithwyr, ar ddydd Gwener. Y mae yn yr agerlongau hyn gyfleusderau neillduol i gaban-deithwyr; y mae y saloon, state-room, ystafell smocio yn midships. Y mae meddyg a goruchwylwyr ar bob llong. _SALOON,—15 gini a 18 gini. Return tickets am 35 gini. Steerage, at reduced rates. Am hysbysleni a manylion pellach, ymofyner » ISMAY, IMRIE, & Co, East India-avenue, London, a 10, Water-street Liverpool. L.369 AT YMFUDWYR. TO EMIGRANTS. General Agent to all American and, Australian Sailing Ships and Steamers. NM. JONES (CYMRO GWYLLT), Passenger Broker, 34, Union-street, Liverpool, Gor- wyliwr i'r Llinellau canlynol Inman Line. Cunard Line, Guion Line, Allan Line, National Line, White Star Line, Dominion Line, State Line, and American Line. Gan fod yr Agerlongau uchod yn hwylio i wa- lianol borthladdoedd yn y Talaethau Unedig, a'k Tiriogaethau Prydeinig, gall yr ymfudwyr gael y cyfarwyddiadau gofynol dr^vy anfon llythyr ir cyfeiriad hwn. Caiff pawb a ymddiriedo eu gofai iddo y sylw manylaf. Cvnorthwyir y Cymro gan Mr. JAS. REES, broaor o Merthyr Tydfil. Y mae genym dy private eang a chyfleus e cyfarfod ag angenrheidiau y fasnach. Cofier y Cyfeiriad,— N. DL JONES (CYMRO GWYLLT), 34, Union-street, J iiverpool. D.S.—Gollir ymholi yn Aberdar a John Crown HoteL