Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Agrippa. — Nis gall unrhyw dda mawr ,adeilliaw o guro gormod ar un blaid yn fwy natu gilydd. Mae eisieu Arnom ni edrych ar y pleidiau heb spectol rhagfarn ar ein llyg- aid, a'u mesur a'u pwyso yn deg, yn ol eu teilyngdod cymharol a gwirioneddol. Wrth gwrs, nid gwiw i neb ddweyd na haeru fod y llhyddfrydwyr yn wyn i gyd, ac yn model legislators. Maent hwythau lawer tro wedi cyflawni blunders; ond gosodwch chwi ddi- ffygion a rhinweddau y Toriaid a diffygion a rhinweddau y Rhyddfrydwyr ar gyfer eu gilydd yn onest a theg a cheir gweled yn ddigon clir fod rhinweddau yr olaf yn gor- bwyso y blaenaf, a diffygion y blaenaf yn gorbwyso yr olaf. Rhaid edrych ar general policy y ddwy blaid, a'u mesur wrth linyn beirniadaeth deg. Y mae gogwydd ysbryd y Toriaid yn erbyn pob mesur diwygiadol o lawys a budd cyffredinol, ae, fel y gofynwyd yn y cynadleddau hyn o'r blaen, gellir gofyn ■eto, Pa beth yw y rheswm fod tymor swydd- ogaeth y Toriaid am y ganrif hon, a chyn hyny, yn cael ei nodweddu bob amser & marweidd-dra masnachoi ? Dyna fel y bu, ac ni wiw ceisio celu na gwadu. Wel, yn amser tymor swyddogaeth y Rhyddfrydwyr y tro diweddaf, o 1868 i 1874, pwy yn fyw neu yn farw a welodd gyfnod masnachoi mor llwyddianus ar ein gwlad; a dyma ni byth oddiar hyny yn myned i lawr i lawr gyda ehyflymdra brawychus i ddyffryn llwydaidd a digysur marweidd-dra masnachol. Huw Ffradach.—Yr wyf fi, Sponfilfardd, Ap Cadfwch, a Clerenfab, wedi bod yn ym- gomio ar y peth hwn, ac yr ydym yn unfryd unfarn nad oes digon o farddoniaeth yn ymenyddiau y Tories. Tase nhw yn byw mwy ar wlith Helycon, ac yn rhoi tro amlach hyd lethrau llam-esgeiriog Parnasus, fe ddeuai eu hysbrydoedd yn fwy Rhyddfrydol o lawer. Sam y Pwyswr.-Gad di, gad di, bachan. Nid bara chaws yw barddoniaeth, ac nid barddoniaeth yw bara chaws. Gan hyny, gad i ni gael rhywbeth sylweddol i lanw'n cwpbyrddau. Beth yw crugyn o englynion, toddeidiau, hyppynt byr, hyppynt hir, tawddgyrch cadwynog, a rhyw stees felly, i lanw bcdiau'r plant pan ma nhw'n crio am fara? Na, na, dara o gig eidion, bachan, ne ben mochyn, a llond pantri o fara, cloron, moron, a maip—dyna'r pethe i gylla dyn, ac nid rhyw draws-fantach o englynion pib- rwynaidd. Huw Ffradach.—Stopa di, machan i. Pwy ey yn dy erbyn di gal llond dram o benau moch ond nid bara na phene moch sydd i foethi a diwyllio meddyliau'r bobl. 'Dwy .dim yn gadael fy sel awenyddol i yiuyraeth 4im 4 phantriaid llawn o ymborth iachus i fi a'r teulu, ac bni bai fod fy mhantri i yn Uawn, fyddwn i ddim wedi bod yn alluog i gyfansoddi cywyddau a phryddestau fel ag wy, wath busnes y filen yw cyfansoddi 4 chylla gwag. Dyma ddarn newy spon :— Daw tr dydd Ceir mwy o ymborth rhydd, A bwydydd rhad yn Uon'd y wlad Yn ddinaead i bawb a. fydd Hen orthrwm Tories aiff ar ffo, A'n huchel fri a dynir lawr Yn chwyldro fawr, 0 dyna dro! Yn mlaen A pawb ar hynt yn well eu graen, 0 Walia wen i oror 'Sbaen; Y Liberals wedi esgyn lan 1 bleidio'r gweithiwr—codi'r gwan, A llwydd digytnhar yn mhob man, A'n nyth heb ynddi bigog ddraen. Cofnodydd.-Wel, hwyl wynt i'r amser Sa wawrio. Doed rhai ohonoch 4 darn o •ddoniaeth glasurol y tro nesaf, ac ni dyn- wn y proceedings i ben heno. Clywsoch fod trengholiad Abercarn ar ben yr wythnos ddi- weddaf. Nid wyf wedi gweled yr helynt hyd yma. Tra thebyg fod y pwll hwnw yn cael ei adael yn fynwent i'r dyrfa fawr sydd yno. Ofnir mai rhywbeth tebyg fydd y Dinas. Wel, ceir clywed rhywbeth erbyn y tro nesaf.

COR MAWR Y PALAS GWYDR.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD Y GORON,…

[No title]

GASTELLNEDD A OHANU GORAWL.

O'R OGOF NEU O'R GLYN.

BETH FYDD SEFYLLFA PETRAU…

LLYTHYR O'R AMERICA.

RE YDDFR YDIAETH V. Y DARIAN.