Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CADAIR WAG Y BAlLA

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CADAIR WAG Y BAlLA AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl -Syr,-Pan ddarllenais' am farwolaeth an- ni.sgwyliadwy y Prifatbro Ellis Edwards, cafodd fy eniaid loes drom, da,eth lleithder i'm llygaid, a thieig- lodd deigryn. gloyw, lawr ify ngruddiau, canys eu iawn ydoedd i mi. Daethom i gyffyrdd.iad agos. a'n gilydd tuag adeg ei vrfa addysgiadol yn EdinJburgh. Y pryd hwnnw sefydlwyd achos. Saesneg yn y Neuadd Ddirwestol yn Aberystwyth gan y diweddar Barch .Griffith Davies, o'r dref honno, a,c wedi hynny o Aberteifi. Yr oedd boneddigeiddrwydd ei ymddang- osiad, llednei.srwydd ei dnaddodiad, a'i ysbryd efengylaidd yn swyno y Sa,eson a ymwelent a'r dref, fel y gorlenwid y neuadd eang bob bore Saboth. Goifynwyd i Mr. Ellis Edwards ddyfod yno i bre- gethu am dd,au neu dri Saboth, VI1 hyn a wnaeth er boddhad cyffredinol i bawlb. Nid wyf yn -cofio. a igafodd alwad, ond gwn fod pawb yn awyddus i'w rhoddl. Yu ystod y pythafnos hynny treul,iai ef a finnau oriau yng nghymdeithas ein gilydd bob dydd, ac o hynnyhvd yn awr edryehwn arno fel un o"r dynion mwyaf annwyl a helaethaf ei wybodaeth a gyfarfyddais. Ond er gofid i laweroedd ehedodd ei y.slbryd 'pur yn dra di.siymwth i wlad y goleuni. Ac yn awr y mae cwestiwn yn cael ei ofyn a'i ateb gan lawer, Beth am y igadlai wag? Pwy a'i lleinw yn y dyfodol? Cyfarfyddodd pedwar neu bump o bregethwyr a'u gilydd yn ddamweiniol rhyw dri diwrnod yn ol, a dyna y cwestiynau oedd yn destun eu hymddiddan. Wedi fencio ychydig, y naill yn dksigwyl i'r Hall roddi yr arweiniad, cawsom ,ein bod i igyd -wrthi se.fydlu ein. golygon ar Bont Menai a Phortbaethwy. Pwy a wad fod pob cyinhwyster yn y .gw.: o Bont !Men.ai i lanw y gladair hyd ei hymylon. Y maa ei ysgolheigdod uwchlaw ambeuaeth. Wedi myned trwy Goleg y Bala dan lywyddiaeth y Dr. Lewis Edwards, a thrwy Goleg Aberystwyth dan lyw- yddiaeth, Principal T. Charles; Edwards, ac wedi hynny drwy Golegau Rhydychen, rhaid. fod dyn o'i alluoedd. dis,glairef yn meddu ar ysgolheigdod uchel a thrwyadl. Y mae yn adnabyddus fel meddyliwr cryf ac annibynol. Y mae wedi ei ddwyn i fyny o'i febyd yn athrawiaethau iachus v Testament Newydd a buasai ei apwyntitad i'r swydd Ibwysig hon yn ei alluogi i ddwyn yr athrawiaethau at eu igiliydd- dwyn asigwm at el; asgwrn, ac yn .ben ar y cyfan medr anadlu anadl bywyd i'r athra-wiaethau. Ac yn go: on ar y cyfan, y "mae yn bregethwr ardderchog—yn fy man i yn model preacher.' "Exaimple is better than precept "mae e.siampi yn well na rheolau ac yn y Parch. T. Charles Williams cyfunir yr elfenau hyn mewn rnodd eithriadol iawn. Yr wyf am roddi pwys neilltuol ar hiyn, canys nid prif amcan y colegau diw- inyddol yw magu ysgolheigion, ond magu pregeth- wyr. Ni chododd, v Bala liawer o ysgolheigion enwog 0 dan lywyddiaeth y Parch. Lewis Edwards, ond cododd. doreth o bregethwyr ardderchog. Dyna sydd eisieu eto—creu anianawd pregethu yn y to ieuainc. Gan fy mod yn ysgrifennu, waeth i mi wneud un sylw ychwanegol. Nld yw yn wybyddus i'r genhed- laeth bresennol o Fethodistiaid i awdurdodi Coleg Cheshunt-colc.ig o fewn ychydig filltiroedd i Lun- dain, perthynol i enwad y Countess of Huntingdon- roddi gwahoddiad taer i'r Parcli. D. Charles, B.A., Trefecca, i ymgymeryd a llywyddiaeth y sefydli.ad uchod am y gyflog o 6500- y flwyddyn-temtaslwn gref a phrofedigaeth lem i wr nad oedd, ei gynQg gyda ni y pryd hwnnw fawr dros £100. Ond ar er- fyniad taer Cymdeithasfa'r Deheudir, gorchfygodd y demtasiwn., ac ,arhosodd yn Nhreieccia. Gwyddis yn dda fod safle y Parch. T. C. Williams yn uchel iawn ymhlith y Saeson, a phe y dewisai groesi Clawdd Offa nid oes dad] na ühawsai ,gyflog o ^500 i ^x,ooo, -telmt,asi,wn ig,ref i bregethwyr sydd 'yn magu teulu. Ond hyd y gwn i, nid. oes ynddo y duedd leiaf i groesi y ffin, a buasai ei symudiad yn golled annhraethol i 'ni 'fel' Gyfundeb. Bydd yn syn gennyf os na bydd yr enwad yn unfryd unfarn, yn barod i gynnyg iddo y swydd bwysicaf a berthyn i ni fel pobl. Dyna fi wedi dweyd fy Ilith, ac mewn canlyniad cysgaf heno gyda ehydwybod diawel. J. CYNDDYLAN JONES.

YMYFED.

UI\DEB Y CYMDEITHASAU CY.MRAEG.…

ANFARWOLDEB.

ADFER CRWYDRIAID.

PARCH. JOSEPH JENKINS A'R…

Advertising