Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eglurhad Mr. McKenna. Llawer pwysicach ydyw llythyr Mr. Mc- Kenna am ei fod yn dweyd yn glir fod y cyf- addawd a wnaed yn rhwymo y Ceidwadwyr i gario allan ddarpariadau y Ddeddf gyda g-olwg ar Ddadwaddoliad. Dyma y geiriau (' As a condition of postponement, then, we have a binding agreement that the ecclesiastical corporations shall be dissolved, and the national endowments transferred to the Welsh- Com- misioners. A mere repeal of the Act becomes valueless; nothing less than a new Act of es- tablishment and endowment-an unthinkable proposal in my judgment ,in the present times— would be required before the religious liberty which Wales has at length conquered could be destroyed. The other side will have gained a temporary postponement, we shall have gained certainty and it is no small advantage that these results should be obtained by agreement. The Welsh Church Act is law. Here and there memories of the former conflict may still provoke some passing outbursts, but the con- troversy is closed, and closed for the first time by agreement. Whatever ecclesiastical partisans may say, I do not believe that the agreement which to day is only temporary and partial will in time to come be construed by the people of England and Wales as anything less than a pledge of permanent peace." Yr hyn sydd yn anhawddi yw c.vso,nir geiriau uchod a'r hyn a ddywed arweinwyr yr Eg'lwys. Nid yw Mr. McKenna, ychwaithi yi-i rhoddi gwybodaeth pa faint a eniiilla'r E:&Iwys drwy y gohiriad. Dywed fod y ffigvrau a gvhoedd- wyd yn anghywir; ond nid yw hynny yn ddigon. Rhaid cael manylion ar hyn cyn y, gellir barnu amcanion yr Elglwyswyr. Da gennym weled fod rhai newyddiaduron wedi gollwng allan y gyfrinach am gysylltiad Mr. McKenna a'r cyfaddawd. Ni ddylid beiq gormod arno. Onibai iddo ef fygwth taflu ei swydd i fyny buasai v Llywodraeth wedi rhoi telerau llawer gwell i'r Eglwys. Ei fai pennaf ef oedd peidio galw'r Blaid Gymreig' i'r gyfrinach cyn cyflwyno'r Mesur yn Nhy yr Arglwyddi. Egiurhad Mr. Herbert Lewis. Nid yw llythyr Mr. Herbert Lewis ond ail- adroddiad eg wan o lythyr Mr. Lloyd George. Pwynt pwysicaf ei egiurhad ydyw fod y Cyf- addawd yn sicrwydd y daw y Ddeddf i rym. Onibai am y Cyfaddawd, gallasai yr Wrth- blaid, pe deuai i awdurdod, ddiddymu y Ddeddf, a gwneir hynny yn awr ym amhosibl. Cytuna Mr. Herbert Lewis a'r hyn sydd wedi ei ddweyd gan y Canghellor ynghylch yr am- hosiblrwydd i'r Ddeddf gael ei diddymu, a: chyfeiria at y materion pwysig sydd yn aros i'w penderfynu wedi y daw heddwch. Ond1 tra y siarada y Rhyddfrydwyr fel hyn, mae'r Toriaid a'r Eglwys yn perffeithio eu trefniad- au ar gyfer brwydr arall! Awgrymiadol Z, iawn, hefyd, ydyw distawrwydd llwynogaidd y wasg Eglwysig ynghylch amodau'r cyfadd- awd. Amlwg yw eu bod wedi cael ysglyfaeth. Y Wlad a'r Arweinwyr. Rhaid cofio nad dyma'r tro cyntaf i Gymru; orfod galw ar yr arweinwyr Rhyddfrydol i gadweu haddewidion ac i sefyll eu tir. Yn nydd y pethau bychain, bu Mr. Lloyd George ei hun yn sefyll yn ddisigl yn erbyn gweinydd- iaeth Ryddfrydol oedd yn glaiar, ac heb syl- z;1 weddoli y pwys a roddai Cymru ar Gydraddol- deb Crefyddol. Buwyd yn ofni Mr. Lloyd George yn 19017, a chynhyrfwyd y wlad drwy- ddi gan ansicrwydd addewidion y Weinydd- iaeth yr adeg honno. Unwaith yn rhagor, mae y cwestiwn wedi deffro Cymru drwyddi. Dyma gwestiwn y dydd, ac y mae y wlad yn sicr 00 ennill yn y frwyd'r hon eto. Ysgrifennir y geiriau hyn cyn clywed cenhadwri y Cang- hellor i Gynhadledd y Rhyl. Ond o hyn yr ydym yn sicr,—y bydd y deffroad cenedlaethol hwn yn fendith i'r Canghellor ei hun, ac y bydd y wlad ac achos Cydraddoldeb Crefyddol ar eu mantais drwyddo.

Ysgol y Sir.

Yn Eisiau Cyfrif.

Y Top a'r Gwaelod.

Golygiadau yr Henadur.

ADOLYGIADIAU.

[No title]