Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION CYMREIG.|

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYMREIG. CALAN, 1916. Diflannodd un flwyddyn Fel ton ar y Hi, A chododd un arall, A'th long gyda hi. Boed melus dy fordaith, Ac esmwyth dy hynt; yr el O'th blaid boed yr eigion, O'th du boed v gwynt. Difyrrus yw morio Os hafaidd yr hin, O'nd new id wna'r gan Pan mae'r storm yn ein trin. Ond tawel yw'r duwiol Mewn ing o bob rhyw, Mae'r gwynt clan awdurdod, A Thad wrth y llyw. :NANTLAIS. -+- -4- Barwn Rhondda yw y teitl a ddewisodd Mr. D. A. Thomas ar ei ddyrchafiad i Dy yr Arglwyddi. + + Bu farw 39 o glerigwyr yn y pedair esgob- aeth Gymreig" (i Z, Eglwys Loegr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Mae'r nifer yn eithr- iadol o uchel. -+- Dywed y Tyst mai y short cut' i bob anrhydedd vng Nghymru yw'r National In- Insurance. Oes y mae hanes doniol i'r National Insurance! Oind pwy faidd ei adrodd ? Siaradodd Mr. Caradog Rees yn gryf yn y Ty yn erbyn gor fod aeth. Efe oedid ysgrifen- ydd cyfrinachol Syr John Simon, ac fe bender- fynodd ddilyn ei feistr drwy wrthwynebu'r Llywodraeth. Yr wyf yn erbyn gorfodaeth," ebai gwr parchedig y dydd o'r blaen, ond os yw y Llywodraeth yn dwcydi y rhaid d gael, yr wyf yn ymostwng i'w barn hwy." Mor debyg i'r hen Ymneilltuwyr A ydyw yr hen emynwyr yn colli'r dydd yng Nghvmru? Dywed" Y Gwyliedydd" fod emynau awdwyr diweddar yn amlach na rhai Williams a Morgan Rhys yn Llawlyfr Moliant newydd y Bedyddwyr. Elnillodd pwyllgor yswirio, Sir Ddinbych £800 mewn blwyddyn drwy gael rhywun i edrych dros gyfarwyddiadau y meddygon. Rhenir y bai am y gwastraff yn gyfa,rta1 rhwng y medd'ygon a'r fferyllwyr. -+- -+- Sut y bu i rywun ddweyd mai Mr. D. A. Thomas yw perchennog y Cambrian News ? Fel hyn y bu Efe sy'n gofalu am y lofa sy'n dwyn yr enw Cambrian yn y De, a rywsut ysgrifenwyd hwnnw yn Cambrian News.' Felly wir. -+- Dywedodid Mr. Lloyd George air awgrym- iadol iawn wrth siarad ar ddyledswydd y gweithwvr i droi allan gymaint o arfogaeth rhyfel ag sydd modd. Os bydd hynny :n fodd- haol, yr oedd' yn barod i sicrhau y gwelid diwedd y Rhyfel eleni. -+- -+- Gadawodd Mr. Keir Hardie, yr aelod llafur dros Ferthyr, ^426 IOS. :ric '-yr oil i'w weddw a'i ferch. Yr oedd ^95 13s. IC. 0 »,• gyflog yn ddyledus iddb, a dywedir fod I ganddo bump o gyfraniadau mewn papur newydd,—y pump gyda'u gilydd yn werth banner coron! -Ifii j Os yw yr adroddiadau a gyflwynwyd i bwyllgor ymrestru Sir Fon yn gywir, mae'n hen bryd anfon cenhadon milwrol i ddeffro trigolio-n yr hen ynys at eu gwaith. Allan o 6,029 mewn oedran milwrol yn yr ynys, 1,739 sydd wedi ymrestru, gan adael 4,290 o esgeu- luswyr! -+- -+- -+- Yr oedd Cymro o Cilgerran, Mr. John Davies, ar fwrdd y Piersia, ar ei mordaith olaf. Mae ei rieni yn byw yn Cilgerran, a pharodd y newydd am suddiad y Persia bryder dir- fawr iddynt. Diwedd yr wythnos cawsant air yn dweyd fod eu mab ymhlith y rhai sydd wedi eu hachub. -+-- -+- -+- Yr un adeg ag y cynhelid cyfarfodydd gweddi ac ymostyngiad ym Mangor yr oedd ball yn caelei gynnal yn y Penrhyn Hall. Aeth dirprwyaeth at y maer i alw sylw at ang- hydrywiaeth pethau, a bu dadl yn y cyngor. Ond nid oedd fawr o wrthwynebiad, ac ni chyrhaeddodd yn uwch na son am ofvn i'r dawnsio orffen am un yn y bore -+- -+- -+- Un o'r pethau dyddorol ddaeth i'm llaw yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn oedd copi o'r Rangoon Gazette,' yn cynnwys cyfieithiad un o erthyglau'r CYMRO. Mae'r cyfrif a anfonwyd yn ddiweddar i'r Llywodraeth yn profi nad Oies yr un o wledydd y byd nad oes copiau o'r CYMRO yn myned iddynt,-ond Ger- mani ac Awstria! -+- +- Yn y Cerddor am y mis hwn ceir anerchiad olaf yr Athro David Jenkins, ac a.mlwg wrtho ei fod yn llawn o- gynlluniau ar gyfer y dyfod1- ol, a phenderfynai wneud a allai i berffeithio cerdd-oria-eth ei wlad, a lledaenu y wybodaeth am dani, ond cymerwyd ef ymaith heb eu syl- weddoli. Disgwyl pethau gwych i ddyfod, cro-es i hynny maent yn dod." -+- -+- -+- Ddwy flynedd ar hugain yn ol, tynnodd Watcyn Wyn ddarlun barddonol 01 Syr O. M. Edwards, a phriodol iawn ydyw edrych arno heddyw yn nydd ei anrhydeddiad Owen M., mae hwn imi-yn M hardd Ymysg y teg feini; Mae Ow¡en M yn M i ni, Yn M o ddyn am ddaioni." Ar waethaf daroganau y proffwydi gau, ennill tir wna'r iaith Gymraeg yn ysgolion y wlad. Yn ol Mr. If or Williams, 'M.A., un b Arholwyr y B!wrdd Canolog, yr oedd nifer y rhai gymeraisant anrhydedd yn y Gymraeg yn yr arholiadau y llynedd yn fwy na dwbl y flwyddyn cynt. Dyma dystiolaeth ddiwrth- dro gwr wyr yr amgylchiadau. -+- Nid oes hyd yma weledigaeth eglur gan Gollegau Diwinyddol Cymru pa beth a ddylent wneuthur yn y cyfwng presennol. Yr ansicr- rwydd hwn ffynna ynglyn a'r Colegau Meth- odistaidd. Bwriada'r Pwyllgor gyfarfod tua'r wythnos nesaf yn Aberystwyth, ac yn ol yr arwyddion myn'd i'r Bala wneir. Ond sibrydir fod rhai 0" r efrydwyr wedi pender- fynu bod yn passive resisters." -♦■ Cefais adroddiad gweddol fanwl 0 ymweliad Mr. Lloyd George a Glasgow, gan un o ddar- llenwyr cyson y CYMRO yn y ddinas honno. Daw cyfle ryw dro i'w gyhoeddi. Ar hyn o bryd mae allan o'r cwestiwn. Gall Cymru fod yn sicr i Mr. Lloyd George arfer gras ac amynedd mawr,—ac yr oedd angen cryn lawer. Penderfynodd y peirianwyr nas gallai cyfreithiwr fel Mr. Lloyd George ddysgu dim iddvnt hwy. Na feier gormod arnynt. Mewn anwybodaeth y maent, fel yr oedd llawer yng Nghymru amser yn ol. Nid yw'r curadiaid yn rhydd 0 ysbryd rhyfela, a phrofant mai dynion ydynt fel eraill, a than gwladgarwch yn llosgi yn eu calonnau. Yr wythnos ddiweddaf cyflwynwyd i Esgob Llundain ddeiseb wedi ei hanvyddo gan fil 01' r brodyr hyn yn gofyn am ganiatad i ymresiru o dan faner ei gwlad, neu i wneuthur unrhyw waith arall ynglyn a'r Rhyfel fernir yn angen- rheidiol. -+- -+- Parha, rhywrai i genfigennu oblegid y cyflog delir i'r aelodau Seneddol, a mynegir fod aelodau Cymreig yn cael eiv poeni yn ddyddiol gan grancod. O'nd dylid cofio fod dwy ochr i'r cwestiwn hwn. Dywedai un o'r aelodau fod swm ei bostage i ohebu o fewn cylch ei etholaeth yn unig y llynedd dros ^52. Pe glynnai yr aelodau wrth eu gwaith a'u dyledswydd, ni ddylai neb rwgnach. -+- Mae tri math o snobs mewn cerddoriaeth, meddai y Cerddor, y snob beirniadol, y snob o gyfansoddwr, a'r snob dry ymhlith cerddgar- wyr, gan gyfyngu ei htiii i ffasiwn y dydd. Ceir hwy, meddai, yng Nghymru, a pharod ydynt i gondemnio datganwyr a chyfansodd- iadau Cymreig cyn erioed eu clywed. Gwaetha'r modd, nid ydynt yn gyfyngedig i fyd can, ond ceir hwy ymhob cylch. Dywedodd y Parch. Owen Evans, Llywydd Cymanfa'r Wesleyaid, mewn anerchiad a dra- ddododd yn Llanrwst, na ddylai pregethwyr fod ar dir gwahanol i ddynion eraill gyda'r Rhyfel. Os yw yn iawn i Gristion godi arfau, mae'n iawn i bregethwr, ac ni ddylai ofyn am fod yn eithriad. Ai tybed fod Mr. Evans yn barod i symud pob gwahaniaeth rhwng gweinid-og o leygwr ynglyn a. dyledswyddau fel dinaswyr? -+- Arferiad eglwys Bethesda, yr Wvddgrug, yw cael un bregeth angladdol i'r holl rai ym- adawedig gyda'u gilydd y Saboth olaf o'r flwyddyn. Darllenir yr enwau, a gwneir coffad hyr am bob un. Felly g-wnaeth y Parch. G. Parry Williams, M.A., eleni, a mantais mewn llawer lie fyddiai dilyn yr un cynllun. Anhawdd cael gwasanaeth angladd- ol i bob aelod, ac y mae pob un yn annwyl i rywun. Dywedir nad oes ond dau Rector wedi bod ym Merthyr am 56 o flynyddoedd. Gwasanaeth- odd y Parch. John Griffiths am chwedh ar 'hug- ain, ac y mae y Parch. David Lewis wedi bod yno am ddeg ar hug'ain o flynyddoedd. Gall yr eglwys a'i 'hoffeiriaid lawenhau eu bod yn gallu Uwyddo i hir-gyd-deithio. Ond gwahanol iawn yw hanes gweinidogion eglwysi Mcthodist- iaid yr ardal. 'Dyw dyddiau eu blynyddoedd ddim yn llawer, ac ar hyn o bryd dewisa y mwy- afrif mawr oiho-nynt fod heb wasanaetb yr un. -4<- Mae yn debyg mai un o'r egwysi cyntaf-os nad y gyntaf oil—i argraffu ei chyfrifon ariannol am 191 5 yw eglwys Saesneg y Dref- newydd. Paratowyd ac argraiffwyd cyfrifon yr eglwys hon mewn pryd i'w rhannu i'r ael- odau y Saboth diweddaf, Ionawr 9fed. Sir- ioled yw gweled fod y cyfrifon cyntaf ddaeth i'm llaw eleni yn dangos gwedd mor dda ar bethau, yn y dyddiau drwg hyn. Mac cyfan- swm yr arian dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yn £ 241 as. 7c. Dechreuwyd y flwyddyn gyda phedair punt a saith swllt o ddyled; a diweddwyd gyda saith swllt a naw ceiniog, mewn llaw. Nid pobl yn casglu ac yn gwario arnynt eu hunam vchwaith yw pobl y Crescent; na, maent wedi rhoddi dros hanner cant o bunnoedd tuag at bethau o'r tu- allan iddynt eu li ti n,-I*ll i --g tuag at y Genhadacth D'ramor.