Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYMREIG. Nae'r rhyfel yn talu'n dda i ryw rai yng Xghymru. Soniodd: Dr. Edwards unwaith am roi nod ar rywun. Mae angen rhoi nod ar y dosbarth yma, Ihefyd. Drwy farwolaeth Syr John Rhys daeth tair swydd bwysig yn wag ,-prifathraw Colegi yr Iesu, cadair Geltaidd Coleg yr Iesu, ac arhol- ydd allano'l Prifysgol Cymru. Enwais Gymry teilwng o gael eu penodi yn brifathiro Coleg yr lesu, Rhydychain. Enwa'r papurau tSeisnig Proff. Poulton, F.R.S., Mr. Thursfield, a Dr. Hazell. Fellows y Coleg fydd yn dewis. -+- -+- -+- A Mae Mr. Arthur Payne, maib Eagob Caer, Avedi gadael swyddfa Cymdeithas y Beiblau, I'le y Ibu am wyth mlynedd, ac wedi myned i gyn- ryohiol i'r'wlad hon yn Norway fel trafnoddwr. Boneddiges o Norway yw ei briod. Nid,gwein,idogi,on y Corff yw'r unig rai ffafrir j ac a anrhydeddir gan igolegau yr Unol Dalaetrh- au, canys y dydd o'r blaen hysibysodd- un o weinidogion Eglwys Fedydd'iedig yn y Rhondda ei fod yntau wedi derbyn y gradd o Ddoethawr mewn Diwinyddiaeth. Feallai y bydd dau Goleg" Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn cael eu huno dan nenfwd y colegdy yn y Bialla. Dichon na bydd 'gan fagndaumawr y GogIedd,-na'r pop guns Sydd yn eu dilyn,—wrtlhwynebiad: i hyn. Os daw y trefniad i ben bydd rhai o'r athrawon, hefyd, yn symud, oblegid nid yr un ddawn roed i bob athro, a rlhaid i'r De gyflawni diffyg y Gogledd. Llawenydd digymysg i bawb fydd elywed fod y Parch. John Morgan Jones, Caerdydd, yn well. Caethiwyd ef i'w wely .tmi,b,eth amser, ac i'w dy am tfwy na mis, ond terbyn hyn dech- reua eto fyned allan. Nid oes rhaid son yn awr am wasanaeth y gwr da hwn i'w Gyfundeb a'i genedl, canys parod yw pawlb i'w gydnabod lfd gwr mawr a thywysog yn Israel. Oblegid hyn, mawr hyderir yr anbedir ef yn,lhir i fod yn Hobal) i'wlbolbl. -+- -+- Mae tri yn ymgeisio am gadair Gymraeg Coleg Eglwysig Llanbedr, a wnaed yn wag drwy ymddiswyddiad y Parch. E. Lorimer Thomas,—y Parchn. R. H. Richards, M.A. (Oxon.), y darlithydd presennol; J. W. James, M.A. (Durham), curad Llangynwyd, a W. H. Harries, B.A. (Llanbedr), B. Litt., B.A. (Oxon.). Yn ol a g'lywaf, y tebyg1 yw y dewisir Mr. Richards, gwr cymwys ymhob ystyr. -+-- -+- -+- Y flwyddyn newydd! Beth wnawn a hi meddai y diweddar Dr. Heiiber Evans. Hyd yma y maeAel tCopi glan yn cynnwys dros 360 '0 dudalennau gwynion heb un ysmotyn du arnynt. Fe ddaw pob divvrnod oddiwrth Dduw Icyn laned a'r goleuni, a rhaid i boib un bender- fynu beth fydd wedi ei ysgrifennu ar boh diwrn- od cyn iddo .fyned a'i gyfrif i mewn. Mae yna chwedl dldwyreiniol fod yna ddau angel yn Sgwylio pob un drwy ei fywyd, angel ar y dde, ac angel ar yr aswy. A phan wnel un unrhyw ddaioni mae'r angelar y dde yn ei ysgrifennu am byth, a'i osod yn ei gyfrif. A, phan wnel tunrhyw un ddrwg, y mae'r angel .ar yr aswy yn ei ysgrifennu i lawr ond yn arc's hyd Jbanner wos cyn ei gofnodi yn ei gyfrif, gan öbeithio y f wna'r dyn edifanhau. Os na, tyrr yr angel i wylo obliegid hynny. Gwella mae y Parch Lodwig Lewis, Sea- combe, Lerpwl, ond yn araf, a phell ydyw etc 0 fod cyn iached ag y dymunai ei giyfeillion iddo fod. Cafodd gystudd oaled, a hynny am fwy na deng niwrnod, ond o druigaredd y mae pob sail i gredu fod y gwaethaf drosodd. Gwyr cyfeillion Lerpwl am lafur Ifawr y gwr da hwn i Fethodistiadh yn y ddinas, ac nid yw wedi arbed ei hun, gan dreulio ac ymdreuliio er Iffiwyn yr achos. Nid rhyfedd fod iddo le mor uiChel a chynlhesed yn eu barn a'u calon. Siibrydir yn bur gyffredin fod un o eglwysi pwysicaf Dwyrain Morgannwig wedi llwyddo i berswadio un o weinidogion pwysicaf Sir Gaer i dderfbyn ei gaIwad i !y!nnes,i ddyfod i'w bugeil- 9 t, io, ac y bwriada igychwyn ar ei waith yno yn gynnar yn y Gwanwyn. Os gwir hyn, bydd yn ofid i wlad Myrddin, ond yn ga,ffa,e,liadg-weirth- fawr i'r sir sydd yn gymaint o gyrohfa pobl- oedd. Gwaedda'r wlad am bregethwr o hyd, a ph'le bynnag y ceir ef nid oes terfyn i'r galwadau am ei wasanaeth. Bu Mr. J. H. Davies, M.A., Aberystwyth, yn dadithio yn Swyddffynon, ar hanes ffermydd Lledrod Uchaf yn 1536, 1743, a 1818. Dang- osodd sut yr oedd y ffermydd yn cael eu henwi au trin igan fynachod Ystnad Fflur. Can- molodd Yswain Trawsgoed am iddo .gael ei ys- tad mewn ffordd onest. Nid yw y ganmoliaeth o gymaint o bwys i'r Yswain, canys y mae efe wedi myned at ei wotbr er ys oenhedlaethau. Digon tehyg. fod yn y ganmoliaeth awgrym fod rlhywrai wedi cael tiroedd fel araH -+- -+- Hen gwyn yw ygwyn am igysigu yn yr oedfa, ond cwyn a 11awn cymaint o sail iddi yn y mis- oedd hyn yw pesychu yn yr oedfa, ac nid hawdd yw gwybod pa fodd i symud y dolur. Mewn icyfarfod arbennig yn ddiweddar mewn Eglwys Blwyfol, apeliodd yr Offeiriad a-r i bawb geisio pesychu yn ystod y canu neu fynd lalla,n, i gael anadl o awyr cyn y bregieth, fel ag y ceffid llon- ydd i ibregiethu, a dywedir fod yr apel wedi bod yn effeithiol' odiaeth. Nid drwg fyddai i am- bell Ibregethwr ymneilltuoJ wneuthur apel gyff- elyb. -+- Mae Cyngor Trefol P'wllheli mewn anhiaws- ter. Maent yn ennil'l grot y bunt at y trethi drwy'r kinemas. Ond gofyna Cyngor yr Eg- lwysi Rhydd am i'r kinema gael eu cau ddwy le noson o'r wythnos. Beth oedd i'w wneud Creda Mr. Hugh Pritchard fod' tipyn oddifyr- wch yn llesol, ac na ddylai y rhai sy'n byw mewn tai mawr omedd i bobl y tai iJIai gael tipyn o ddifyrwch. A dywedai Dr. Jones Evans y gallai Cyngor yr Eglwysi Rhydd roi sylw i rywbeth arall. Felly bydd y darluniau byw yn cael eu dangos, a gweithwyr P'wllheli yn tynu grot y bunt i lawr yn nhrethi y tai mawr! Ond dyweder a fynner, mae'r dar- luniau byw wedi plwyfo. Yr oedd brawd y diweddar Syr Henry Cotton, A.S. (a fuas'ai Igynt yn Udhelddiirprwy- wr Assam, ac yr oedd yn Indiad-garwr py'byr) yn dra chyfeillgar a Syr John Rhys. Unwaith gadawyd Mr. Cotton yng' ngprsaf Bangor liw nos heb dren i'w gymryd Igam ymhellach. Aeth i chwilio am lety, a churodd yn hir wrth ddrws gwesty cyfagos. O'r diwedd wele wyn- eb llidiog yn ymiddangos dan ffenestr ymhen y ity, a llais sarug* yn gwaeddi, "Ymaith a chwi, ty recpectol yw hwn, nid ydym yn derbyn cari- torsdrwg ganol nos." "Ond yr wyf yn gyf- aill i Proffeswr Rhys," elbe Mr. Cotton." Cauwyd y ffenestr yn ddiatreg, ac o'i flaen 'roedd drws agored. -o;Ç Tyibia Mr. J. fR. Hughes, Caernarfon, na ddylai arian y trethdalwyr g!ael eu rhoi i gyn- nal milwyr s'ydd ynSlwanrciü yn y wlad hon. Eisieu danfon pawb i'r ffrynt sydd ar Mr. Huighes. IPe digwyddai fod ar Ariglwydd Kitclhener eisieif sei'biant golbeithio' y cofia'r swyddfa ryfelanfon am iy; brawd hwn i rod peth- au yn eu He. -+- Pasiodd Cyngor Sir Gaernarfon benderfyn- iad o ymddiriedaeth yn Mr. Lloyd George gydag unfrydedd a brwdfrydedd mawr. Dy- wedodd Mr. Jones 'Morris fod gelynion Mr. Lloyd1 George1 yn dymuno dirwg iddo, ond atebodd Mr. Charles A. Jones, maer Caer- narfon, a Thori rhonc, nad oedd gan Mr. Lloyd George elynion. -4- Mae enwau dau Gymro yn rhestr y rhai a anrhydeddwyd gan y Brenin ddydd Calan,— T. J. Hughes, cadeirydd y Ddirprwyaeth Ys- wirio Cymru a lleygwr parchus perthynol i'r Bedyddwyr; ac O. M. Edwards, Llanuwch- llyn, prif arolygwr ysgolion Cymru, a blaenor gyda'r Methodistiaid,—y ddau wedi eu creu'n farchogion. Haedda Syr T. J. Hughes yr anrhydedd ar gyfrif ei wasanaeth gydag ys- wiriant, a Syr Owen Edwards, am ei lafur gyda llenyddiaeth gwerin Cymru. Mae Cymru yn falch o'r anrhydedd a/roed ar ddau o'i meibion syln haeddu hyn a Wawer yn rhagor. Gyda materion gwladol y mae Syr Thomas Hughes wedi treulio ei oes, a Syr Owen Edwards gydag addysg a llenyddiaeth. z! Ac felly fe anrhydeddir dwy ochr bwysig i fywydCymru drwy eu dyrchafiad. -+- Mae goilwg1 y daw'r mochyn yn ol i ffafr a bri fel cyfaill y bwthyn. Bu deddfau iechyd y wlad yn ei erlid mor bell ag yr oedd yn bosibl oddiwrth ddrws y bwthyn. Ond yn awr wele Mr. John Owen, Comisioner y Llywodraeth, yn myned o gwmpas y wlad ac yn dweyd wrth y bwthynwyr Cedwch y moch yn y parlwr os gwnewch eu cadw'n lan." Bydd amryw o'r hen ddeddfau fu 'nerlid y moch yn cael eu diddymu yn y man. Dywedwyd yng Nghyngor Dosbarth Llangollen nad oes yr un clefyd wedi cyniwair drwy ryw ardal hyd nes yr oedd y mochyn wedi ei ymlid oddiyno. A chyda llaw, mae'r Faner yn rhoi colofnau i ddadleu pwy oedd awdur y gan ar Gladdu'r Mochyn D'u Y diweddar Barch. John Ovven, Bury Port, heb ddim amheuaeth, oedd yr awdur. Cyfaddefodd hynny mewn llythyr ataf flynyddoedd yn ol. I ganol helynt y rhyfel, mae cwmni llyfrau'r Waverley wedi dwyn allan y drydedd gyfrol .1 L, o Hanes David Lloyd George, gan Mr. J. Hugh Edwards, A.S. Amcan awdur y cyf- rolau hyn ydyw dangos lie 'Mr. Lloyd George ym mywyd Cymru a"r wlad; portreadu y byd y cafodd ei hun yncldo ac y gwnaeth ei le ei hun ynddo. Oherwydd hyn mae o werth neirltuol i bawb sydd yn teimlo dyddordeb yng ngwrs bywyd y wlad, yn ogystal a hanes y dynion amlycaf yn y bywyd hwnnw. Mae darluniau rhagorol y gyfrol hon yn fynegiant o'i chynnwys,—-darluniau Mr. T. E. Eilis, Mrs. Lloyd George, Mr. William George, Mr. Richard Lloyd, Mr. William Jones, Mr. Her- bert Lewis, Syr S'. T. Eivans, Esgob Llan- elwy, Deon Howell, Mr. Gladstone, Syr Wm. Harcourt, John Morley, Mr. Balfour, Ar- glwydd Salisbury, Syr H. Campbell-Banner- man, &c. Dlyna. ddigon i ddangos fod Mr. Lloyd George wedi cyrraedd cylch' blaen a f gwleidyddiaeth y Deyrnas, a dangos sut y cyrhaeddodd yw nod yr awdur. Mae'r gyfrol drwyddi yn neilltuol o ddyddorol, ac yn haeddu y cylchrediad eangaf.