Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYRAUODDIWRTH FILWYR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYRAUODDIWRTH FILWYR Y PETHAU I'RYMACH. GAN FILWR MEWN YSBYTY. -¡ "A form of prayer for God's blessing on the crops and the fruits of the earth has been arranged and authorised by the Archbishop of Canterbury at the discretion of the incumhent." -Daily Telegraph, Ebrill 26, 19x7. MAE yna bethau digrif a chwerthinllyd yn ym- ddangos ar ddalennau y papurau newyddion y dyddiau hyn, yn ogystal a phethau difrifol a chalonrwygol. Yn yr un argraffiad. o'r papur a enwir uchod, dywedir fod 52 o longau mas- nachol Prydeinig wedi eu suddo yn yr wythnos yn diweddu Ebrill 22ain, 1917, ac mae'r ffaith fygythiol hon yr un mor ddifrifol ag ydyw'r di- fynniad uchod i'r gwrthwyneb. Mae pawb yn cofio i Archesgob Canterbury, mewn atebiad i gais Llywydd Bwrdd Amaeth- yddiaeth, ddatgan ei farn ar gadwraeth y Saboth, ac iddo gyfiawnhau pobl am laiurio'r ddaear ar y Dydd Sanctaidd. Mae yn bosibl iawn na wyr yr Archesgob fawr iawn am-flinder allucided nos Sadwrn y dyn cyffredin, ac am hynny prin iawn y buasai neb yn disgwyl dim yn wahanol oddiwrtho, ond mae ei waith yn gofyn bendith Duw ar ddiystyrwch gwirfoddol o un o'i hawliau cryfaf ar ddynion, ac un o'i ddeddf- au mwyaf pendant iddynt, yn ennyn rhyw deimlad o dosturi dros y gwr parchedig yn ei dywyllwch a'i anghysondeb. Wrth reswm nid y yw o ddim pwys beth a ddywed Archesgob Canterbury—llai na dim mewn gwirionedd, ond hwyrach-er yn hollol anymwybodol—fod dyn- ion o'r fath mewn swyddau uchel mewn llawer oes yn medru datgan teimlad y lluaws. Os ydym am wybod barn a theimlad Eglwys ZD I.oegr ar unrhyw bwnc, gallem ddisgwyl ei gael oddiwrth ei phrif weinidog, er ei bod yn amlwg nad yw dynion mwyaf ymroddedig a chydwybod- ol Eglwys Loegr yn cymryd eu chwythu gyda phob awel boblogaidd o'r fath. Ond gan fod yr Archesgob yn cynrychioli barn a theimlad y mwyafrif mawr, fe welir fod deiliaid Eglwys Loegr yn rhoi mwy o bwys ar eu angenrheidiau naturiol, nac ar eu hanghenion ysbrydol. "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu y mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugar- edd, a FFYDD." Arwydd sicr fod y pethau trymach wedi eu gadael heibio ydyw gweled yr Archesgob yn taflu y fath ddiystyrwch ar y Dydd Saboth, ac ar yr un gwynt ymron yn gofyn bendith y nefoedd ar y diystyrwch. Teimlais lawer tro fod yr awyr dipyn yn ys- gafnach a goleuach ar ol darllen ambell i apel ac ambell i ysgrif o bryd i bryd gan rai o'n proffwydi yn erfyn am weddi dros Brydain Fawr a'i deiliaid yn yr argyfwng presennol, ond mae yn syndod anghyffredin fod eu gwaedd yn cael mor lleied p effaith. Galwyd ein sylw lawer gwaith d'rwy eiriau llawer proffwyd at ar- wyddion amlwg o ddirywiad crefyddol, a briw i'n Ilygaid, ac archoll i'n hysbrydoedd ydyw son rhagor am y ffeithiau sydd yn dangos y dirywiad yn yr Eglwys Ymneilltuol. Mae'r capeli tri chwarter gwag, a'r oedfeuon celyd yn siarad drostynt eu hunain, ac nid rhyfedd fod ml weinidog yn teimlo fod y gwaith yn llethol a'r baich bron yn annioddefol. Ond mae un peth yn sefyll allan yn amlwg, ac nis gellir myned heibio iddo heb ei orybwyll, a hynny ydyw y DDYlEp aruthrol sydd yn sefyll ar achos yr Holl- gyfoethog Dduw yn ein gwlad; a'r parodrwydd damniol i osgoi y GOST ynglyrt a phopeth sydd yn perthyn i achos Crefydd, ac mae yr ysbryd hwn wedi amlygu ei hunan yn rymus iawn yn ddiweddar. Nid condemnio, cynhildeb yr ydym—ni fu erioed adegy mae mwy o angen am gynhildeb— ond condemnio y peth hwnnw sydd bob amser yn gofyn Paham na werthwydyr ennaint hwn er tri chan' ceiniog, a'i roddi i'r tlodion? Ond os yw cyflwr yr Eglwys yn ein llenwi a phrudd-der, beth am, y bydt Nid oes eisiau bod yn broffwyd nac yn fab i broffwyd i weled fod yna ystormydd yn darllaw mewn llawer o srymylau, ac i deimlo fod yn rhaid i'r awel dyneru gryn lawer yn Eglwys Dduw os ydym i osgoi y difrod "a'r distryw a li-d-aw o bell." Y dyddiau hyn mae ein harweinwyr gwleid- yddol yn galw am hunanymwadiad mawr ynglyn A bwydydd, ac yn dweyd os na fydd y genedl yn ofalus, fod yna gyfyngderyn ein haros, ond wrth fod yn ofalus fe ddichon yr eir heibio i'r perygl hwn. Eithr mae yna gyfyngder arall ar ein llwybr nad oes dim ond ymyrriad union- gyrchol oddiwrth Dduw drwy Ei Ysbryd yn myn'd i'w symud, a'n gwared oddiwrth un o drychinebau mwyaf alaethus plant dynion. Gyda golwg ar ein milwyr fe ddywed y CVMRO am Ebrill 25, 1917,—" Mae'r bobl sy'n meddwl fod y rhyfel yn troi ein bechgyn at grefydd yn byw ym mharadwys ffyliaid, ac felly y maent (os oes rhai o honynt wedi eu gadael). Mae pawb sydd yn gwybod rhywbeth am y Fyddin heddyw yn gwybod digon i fod yn ddilstaw. Yr hyn sydd yn rhyfedd iawn ydyw fod pawb yn barod i gydnabod nad oes (tim ond ymostyng- iad ufudd gerbron Barnwr yr holl ddaear yn. myn'di'n gwared. Pawb yn dweyd fod yn rhaid inni ymofyn ein ffordd tua Sion, a throi ein hwynebau tuag yno cyn y daw ein gwared- igaeth—ac eto neb yn troi, a chrefydd yn dal i fynd i'r goriwaered. Mae yna lawer stori yn cael ei hadrodd yn dweyd fod dynion yn ceisio gweddio pan mewn perygl a.c enbydrwydd ar faes y gyflafan, ond yn methu; a chan gynted ag y bydd y perygl dros- odd yn dychwelyd at eu gwahanol arferion. Mae'n debyg fod Prydain wedi gwneud rhyw fath o gais felly fwy nag unwaith i ymostwng-fe wnaeth Eglwys Loegr ymdrech tuag at hynny- ond hyd heddyw mae pob cais wedi myned yn ofer, a Phrydain druan WEDI METHU. Dydd ein perygl a'n cyfyngder ydyw heddyw, ac mae'n bosibl fod y perygl yn llawer mwy nag mae y mwyafrif o honom yn fedru sylweddoli, a'r cyfyngder i filiynau o'n cyd-ddynion yn an- hraethol galetach nag a freuddwydiodd y rhan fwyaf o bobl sydd mewn tawelwch ac hapus- rwydd. Beth fydd ein hanes pan a'r Hid heibio 7 Ai dychwelyd at ein hen eilunod, ac i rodio yr hen lwybrau? Onid ymwelaf am y pethau hyn, medd yr Arglwydd ? Oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon ? f Pa synwyr heb son am gysondeb sydd mewn myn'd i ofyn i'r Arglwydd fendithio ffrwyth y ddaear, tra mae yna gynhaeaf cyfoethog bob dydd yn cael ei fwrw i'r ffwrn dan? Lie nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tan yn di- ffodd." Paham yr ofnwn ac y gofalwn am fara, tra mae cenedl gyfan yn marw o newyn wrth FETHU cymryd o'r bara bywiol "? .Paham y diystyr- wn ac y dinistriwn Saboth y Duw byw yn ein gofal am ein gerddi," wrth wel'ed drain a mieri anghrediniaeth ac anghyfiawnder yn tyfu dros wyneb holl feusydd ein bywyd crefyddol? Tybed nad yw'n bryd i'r pethau trymach gael eu lIe fO! am weled y nefoedd yn agoryd unwaith eto 1 Boed peraroglau'r enw drud Yn Ilenwi nef ai, llawr, A chladder enwau'r byd i gyd Yn enw lesu mawr." GWILYM.

GAIR 0 GANAAN.

Advertising