Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.Y DiOLCHGARWCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DiOLCHGARWCH. GAN Y PARCH. JOHN ROBERTS, CORRIS, RHYL. -I- GYNIFER 0 gyfarfodydd crefyddiol blynyddol sydd yng Nghymru! Y mae i'r cyfarfod bIynyddol le cynnes yng nghalon ein cenedl. Mwy bendith, yn ddiau, yw'r cyfarfod hlynydd-. ol na'r un achlysurol. Paratoir yni helaethach ar ei gyfer, ac, fel rheol, y mae profiad y gorff- enool yn rhoddi mantais i b.erffeithio"r parato- ad hwnnw. Gan fod mwy o fraeparu a thrin y tir ar ei gyfer, y mae'r cnwd, o ganlyniad, yn drymach ac yn well. Mawr yn fynych yw'r fendith a geir drwyddo. Gwir mai nid yng nghynnwys y cyfarfodydd a drefnir ar gyfer y dydd yn unig y mae'r fendith, and1 hefyd yn y dydd' a'i gyfarfodydd fel ag y maent yn foddion i ddteffro yuom lu o- atgofion. Y mae'r atgof- ion hyn yn ychwanegol at wasanaeth.priodol y dydd, yn sicr o fod yn foddion effeithiol o gynnydd i sancteiddrwydd y plant, ac efaJlai yn foddion effeithiol o iachawdwriaeth dragywydtl: ol hefyd i'r annuwiol. Un o gyfarfodydd blynyddol anwylaf Cymru yw'r cyfarfod a elwir gennym ar lafar gwlad- 'Y Diolchgarwch,'—enw a rodddr-ar waith y dydd'ag sydd erbyn hyn wedi myned yn-enw ar y dydd ei hun. Wele dymor y Diolchgarwch wedi dyfod unwaith eto. Cyrhaeddasom,» bron heb yn wybod inni, at un o gerrig milltiroedd y daith. Diau y bydd sefyll yn ei hymyl yn deffro ynom 111.0 atgofion melus a chwerw. Naturiol a fydd i, gyfarfodydJd y diolchgarwch" eleni beri1 inni, fel arfer, feddwl am gyfarfod- ydd diolchgarwch y blynyddoedd a fu: meddwl am ami i hregeth ac anerchiad! a. draddodwyd, am ami i bennpd a Salm a ddarllenwyd, am ami d weddi a rlSsdd a. offrymwyd, am ami i emyn a phennill a garuwyd, ac am ami i linell o bennill a ddyblwyd ac a dreblwydl Melys a bend'ithiol a fuont beth bynnag. Ond nid melys a fydd yr holl atgofion ychwaith. Bydd llawer o'r chwerw ynddynt hefyd. Elfennau tra chwerw yn y diolchgarwch eleni fyddi yr ymdeimlad o fylchau'r wlad^—-bylchftu'r ael- wydydd, a bylchau'r eglwysi, ynghyda rhychau wyTeb a duwch gwdsgoedd yr addolwyr, y rhai a, fyddant yn dystioa}\ o ysbrydbedd briw a' chalonnau trfst. Parhyin i ni feddwl am gyfar- fodydd diolchgarwch y gorfFennol pan oedd 910 yr aelwyd; a'r sedd yn Hawni, y wyneb yn llawen, a'r wisg yn frith, os niad yn wen. Chwerw a fydd yr atgotfion hyn. Dail suriom a fyddant inni. Ond, o ran hynny, y mae'r ddeilen sur i'w chael ymhob gwledd, ond y wledd dra- ■. gywyddol ar y Bryniau Fry. Y mae i bob blwyddly-n ei nodweddion neill- tuol ei hun. Gcsyd y iMxlweddioii hyn, bob amser, eu d ar y diolch. Yn wresog y dylem gyflwyno ein diolchgarwch, i Ddiuw. Cymorth mawr i ddiolch yn wresog am drugareddau yw ein bod wedi bod yn gofycn yn daer am danynt. Y mae taerineb mawr mewn gofyniadau yn creu gwres mawr mewn diolchgarwch. Gynifer o ddoniau sydd. gennym i ddiolch am danynt eleni ag y buom, yn ystod y flwyddyn, yn. gofyn am y danynt! Y fath ystormydd mawr o bryder a gofal a fu'n curo amiOm y flwyddyn ddiwedd'af! Bu geiriau'r Emynydd' yn brofiad byw gam ami an yn ystod y flwyddyn-— Wrth, fy nghuro gari y gwyliit<>edd, Wrtb fy maeddli gah y don, t, With fy nryllib'n erbyn creigiau, Blinais ar y ddaear hon. "I « Pryder mawr a fu'r pryder anil dywydd. Daeth y Gwanwyn. Heuwch," meddai'r Llywodraeth, heb fawro feddwl fol eisiau can- iatad Duw i fyned i'r maes. Ac nid oedd y Duw mawr yn gweled yn dtia roddi. y caniatad v hwnnw inni yr adeg honno. 0 bryder mawr! I Tymor yr hau wedi dod, a thyw Yd(I yr hau heb gyrraedd! Ynein pryder, aethom ar ein glin- iau. Gwrandawyd ein gweddiau. Daeth tjnjirydd yr hau at ei dymor—y ddau hen gymar yn dod at eigilydd. Tymor byrr a diwedd- ar," meddai rhvwun. Ie, ond tywydd da, Cawsom hau. Gyda bod yr had yn. y ddaear, ly maer Duw mawr, yn ei drugaredd anfeidrol, yn sefyll, ac yn cyhoeddi command' y dydd uwcb ei'btn-' Quick March-left, right,' a'r wythttos olaf o fis Mad yr oedd lJawer o amaeth- wyr em gwlaid yni r/hoeddi na welsent erioed', yr adeg honno o'r flwyddyn, well golwg ar y meusydd. Gwir yw y gair-" M yfi yr Arglwydd a brysuraf bynny yn ei amser," Oblegid ( r byrr wai'th a wna yr Arglwydd ar y ddaear." Beth am ein diolchgarwch r Ai ond dd'ylai fod yn wresog? Drachefn, daeth tymor y medi, ond tywydd y medi heb gyrraedd. Ar ol yr oedd y tywydd eleni, fel plentyn gwael yn rhy wan i ddilyn ei dad. Y fath bryder oedd arnom y pythefnos olaf o Awst—pythefnos o wlawogydd mawrion, a dim arwydd tywydd braf yn y mor nac yn y mynydd, yn y nief nac yn y nentydd. Aeth Sion ar ei gliniau, a'r Saboth cyntaf o fis Medi, wele'r haul yn dechreu tywyrmu, a'r wybren yn dechreu glasu. Dyma dywydd y medi yn gystal a thymor ymedi wedi cyrraedd. Gwir yw'r gair—•" Wele fi yn anfon i chwi yd, a. gwin, ac olew." Wrth diroi i'r newyddiadiir bob dydd lau, gwelem fod sudd'Longau'r Almacn yn suddo erin llongau bwyd, ai. Ond wrth drois i'r Hen Feibl mawr, fe glywem ein Tad yn y nef- oedd yn d'.Ywe(,Ilyd. bob dydd-" Wele fi yn amfon i chwi yd, a gwin, ac olew, av diwellir chwi.o hono." Dyma'-r esboniad ar y tyfiant cyflym:, ar y cnydau torekhiog, 'ar y "byrr w.t,ith "-y Dwyfol orchym,vfii-" Wele fi yn a-nfon." I Mor syth ei gefn oedd -egin Cae Pella' Mor uchel ei ben oedd egin Cae Tan y Ty"1!' Mor amiibynnol yr olwg arnynt oedd egin Cae tu ucha'r Yd'lan "—v cwbl yn tawel ymestyn i gyfeiriad addfedrwydd a chynS haeaf, heb ofyn yn iai.th porter' bachy station '—" by your leave i Caisar na chy- thraul! Beth esbonia'r tawelwch a'r annibyn- iaeth hwn? Y Dwyfol orchymyn-" Wele fi yn anfoii. Wele a hauwyd, o drugaredd yr Arglwyd'd, wedi ei gywain i ysguboriau. Y fath rwymau sydd arnom i ddiolch yn wrespg! Do, fe gawsom ystormydd1 yn ystod y flwyddyn. Un peth a ychwanegai'n ddirfawr at rym a nerth yr ystormydJd hyn oedd mai ystormydld yn y aios oeddynt. Tywyllwch a nodweddai y Dwyfol oruchWyliaetll. Erioed ni theimlasom fwy o wirionedd y geiriau— Cymvlau a thywyllwch sydd o',j amgylch Ef," hynny ydyw,.o amgylch ei oruchwyliaethau Ef, canys y mae Efe ei Hun yn trigo yn y goleuni- ni ellir dvfod ato." Di'sgyblaeth lem i ffydd a fu ystormydld a thywyllwch y flwyddyn. Ysgyd- wyd hi'n ddirfawr ganddynt. Ond bu'r ysgwy! yn nerth idd'i hi. I ffydd', i^ichusol yw dylan- wad moesol ystormydd a thywyllwch y daith, Melys fel diliau mel, A maethlori er iachad, vr holl geryddon nef, A gwialenodiau 'Nhad; Fob croes, pob gwae, pot awel gref, Sydd yn addfedu'r saint i"r nef." Diiu y bydd llawer hyd yn oed o. blant Duw yn y Diolchgarwch, eleni yn teimlo fod llawer o'u gweddiau, ac o'u gweddiaa taeraf ar hyd y flwyddyn, heb eu hateb. Idawer a weddiodd y tad a'r fam am y Dwyfol amddiffyniad i'w hannwyl fab ar faes y gwaed. Ond yng jjgwer- yd oer yr estron wlad' y gorwredd efe heddyw. Anhawdd ymostwng. Caled yw diolch. Cymorth, er hynny., i ymdawelu, os nad' i ddiolch.. yn; wyneb y profedigaethau hyn, yw cofio fod ewvllys Duw yn cael ei chyflawni a'i bodloni1 gymaint yng ngoruchwyliaethau ed Rag- w c-) 9 luniaeth ag yn ei weithrediadau creadigol. Ndd ar ddiwedd wythnos y creu yn unig y gallodd Duw ddywedyd am ei weithrediadau a'i orucbwyliaethau mai n Da lawn" oedd- ynt. Dyma'r gwirionald am eil oruch- wyliaethau byth oddiar hynny—" Da iawn ydynt. Y mae dyn, trwy ra.s, yn cael ei godi i weled pfethau fel ag y mae Duw yn eu gweled, ac i gael yr un boddlonrwydd ynddynt ag yntau. Adsain o foddloalrwydd Duw i,-w waith cread- igol ac i"w oruchwyliaethau Rbagluniaethiol yw'r geiriau hyn o eiddo Moses yn ei gan o ddiolchgarwch ar lan y Mor Coch pan y dywed- o.dH- Canaf i'r Arglwydd, canys gwnaeth yn rbagorol iawn." iHeddyw, aT y Bryniau Fry. y mae miloedd! o'n gwf r ieuatnc a gwympasant yn y Rhyfel, yn edrych yn ol ar Faes y Gwaed, ac yn dwyn tystiolaeth 4 Arglwydd Dduw nef- oedd a dlaear, gan ddywedyd—" Canaf i'r -Arglwydd, canys, gwnaeth yn rhagorol dawn." 0 bosibl nad cwyno y mae'r tad a'r fam y funud hon, ac anhawdd yw peidi,o a chwyno. A hwy y mae ein cydymdeimlad dyfnaf. Man- tais iddynt, er hyrwiy, i ymdawelu yng nghanol yr ystormydd, ac i ddiolcb o dan' yr ergvdion, fvddad cofio ymha le y mae eu hanwyliaid— "GydA Christ," a pha beth a wneir ganddynt yno. A chanu y maent gam Moses, gwasan- aethwr Puw, a chin yr Oem."

GOHEBIAETHAU.

DADORCHUDDIO COFGOiLQFN ALAFQN.

CAS;GLIA,D D. MORGANNWG AT…

"DEIFFRO! MAE'N DDYDD!"

----.----. Y RHYFEL A'N GWEINIDOGION.…