Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE LEADING T AILORS, BOYDELL BROS.' IN RANELAGH STREET. Range of PATTERNS this Year SURPASSES ANYTHING BEFORE SHOWN, and is as yet a Unrivalled by any House in the Trade. pOR pERFECT FITTING. r r r OYDELL BROS.' BOYDELL BROS.' MEN'S TWEED SUITS, At 25/ 30/ 35/40/ All our Own Make, and Guaranteed. FOR SUPERIOR FINISH. BOYDELL BROS.' MEN'S BLACK WORSTED SUITS, At 30/ 35/ 40/, 45/ Bound by Hand. Equal to Bespoke OR -'CONOMY. pOR pCONOMY. BOYDELL BROS.' MEN'S TWEED TROUSERS, At 6/0, 8/6,10/6,13/. Over a Thousand Patterns to see. THE JgOYS' JAILORS. BOYDELL BROS.' D BOYS' SAILOR SUITS, At 3/11. 4/11, 5/11, 7/11, 9/6, In Indigo Blue Serge and Tweeds, with Sleeve Bailge, Lanyard, and Whistle. FOR HARD W EAR. BOYDELL BROS.' D BOYS' SAILORS SUITS, At 8/6, 10/6, 12/6, 14/6, i In Black, Blue, and Brown Velvets. VERY BEST VALUE OBTAINABLE. FOR SCHOOL SUITS. BOYDELL BROS.' D BOYS' TWEED SUITS, At 4/11, 5/11, 6/11, 8/6, 10/6, Made from Strong Serviceable Cloths in ALL THE LATEST STYLES. pOR gEST W EAR. BOYDELL BROS.' D YOUTHS' REEFER StllTS, At 12/6, 14/6, 16/6, 18/6, 21/ PERFECT FITTING GARMENTS. BOYDELL BROS., THE LEADING TAILORS, CLOTHIERS, HATTERS, OUTFITTERS, 37 & 39, RANELAGH STREET. DAVID WILLIAMS, COAL MERCHANT, Office and Yard:- 199, CROWN STREET, LIVERPOOL. Residence-37, KINGSLEY ROAD. The West of England Clotlj Establishment, (Established 1856.) OWEN & WHITTINGTON, 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn JL Lerpwl, Cymru, a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD | 1 OREU. GWNEUTHURIADL TOREU. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWELWCH. 64, LONDON ROAD, LIVERPOOL. GEORGE M. WILLIAMS, SHIRTMAKER & OUTFITTER. Ties, Scarfs, Braces, Handkerchiefs, &c., in great variety. Shirts, Singlets, Drawers, &c. CAPTAINS AND SHIPPERS SUPPLIED. Terms—Cash only. TO BE DRAWN FOR, A PORTRAIT IN OIL, Of the late eminent BARD TALHAIARN, By the celebrated Artist WM. ROOSE. This Portrait was Exhibited at the Art Treasures Exhibition held at Wrexham in September, 1876, and is believed to be the last painted of the Bard. The Portrait measures 25 inches by 21 inches, and is in a Gilt Frame measuring 32 inches by 27 t inches. 400 SUBSCRIBERS AT 6D. EACH. On view at L. GOBBI'S, 6 & 8, St. John's Lane, Liverpool, where Tickets may be had. The Draw will take place on Tuesday, 24th June, 1890, at Gobbi's Temperance Hotel, Queen's Square, Liverpool, at 7 p.m., and the Winning Ticket will be advertised in the Ei-eii ''iifl Echo of the following day, and in the CnIRo of the following Thursday. SEE AND COMPARE OUR CASH PRICE LIST. SHAW BROS., Grocery and Provision Stores, BERRY STREET, LIVERPOOL SOUTH ROAD, WATERLOO. EDWARD CHARLES & CO., (E.C. for many years Manager at W. L. Lawson, 7, Parker Street), Practical Watchmakers, Jewellers, & Silver- smiths, 17, RANELAGH ST. LIVERPOOL. Mounting and Repairs of all kir.<>s promptly executed by reliable wuikmen "I) -lit. premises. ROBT. HOBEHTS & CO., Ltd, REDUCTION OF TEA DUTY. ALL pRICES REDUCED QD. PER LB. For a period of twenty-five years up to the present time the Tea Duty has re- mained unaltered. The Chancellor of the Exchequer, however, in unfolding his Budget, has disposed of a portion of his surplus by reducing the Duty on Tea 2d. per lb. R OBT. ROBERTS & CO., L TD. 8, DALE-ST. AND 52, BOLD-ST. THOS. JONES & Co's. SUPERIOR TEAS At ad. per LB. Reduction. Branches: 30, Grange Rd.PARKER STREET, Birkenhead, 60, Eastbank Street, LIVERPOOL. Southport. Y CYMRO: Newyddiadur Cenedlaethol. Danfouir un copi yn ddidraul trwy y PostAm 12 mis, 5,6; am 6 mis, 2s. 9c.; am 3 mis, Is. 6ch. Blaendal. Telerau Hysbvsiadau. Yn ol 3s. y fodfedd, neu 13 gwaith am 19s. 6ch., &c. Os nad ellir cael y papur hwn yn ddidrafferth gan y Llyfr- werthwyr, erfynir ar i liysbysrwydd o hyny gael ei ddanfon at y Cyhoedd r. Cyfeirier gohebiaethau llenyddol i GOL. y CYMRO, 18, Bruns- wick Street, Liverpool; a Bysbysiadau, Taliadau, Cheques, &c., i ISAAC FOULKES, Cyhoeddwr, 18, Brunswick St., Liverpool GWOBR NEILLDUOL CYNYGIR DWY GINI o wobr gan Gymry-garwr, am Gynllun, neu Gyfres o Awgrymiadau o'r dull goreu i gychwyn Sefydliad yn Lerpwl ar gyfer y Cymry fyddo yma yn ymofyn gwaith a dyben- ion cenedlgarol eraill. Y cyfansoddiadau i'w danfon i swyddfa'r Cymro, ar neu cyn Gorpenaf laf nesaf, wedi eu nodi oddi- allan, "Cystudletwl," Gofelir o hyn i hyny am Feirniaid cyfaddas. AT EIN GOHEBWYR. HOMER. —Diolch. Chwi welwch yr adroddiad mewn cwr arall, ond wedi ei gwtogi ychydig, er mwyn lie. Yr ydym yn barod iawn i groniclo hanes cyfarfodydd o'r fath, ond iddo gael ei ysgrifenu yn fyr a chynwysfawr. AT Y BEIRDD. Y Parch. ELVED LEWIS, Avallon, Hull, ydyw golygydd Barddoniaeth y Cymro; a gall ein cyfeill- ion awenyddol naill ai anfon yn uniongyrchol ato ef, neu trwy y Swyddfa.
[No title]
DDYDD Sadwrn diweddaf, cyhoeddodd y Carnarvon and Denbigh Herald fod nifer o foneddigion o sir Gaernarfon, rai dyddiau yn ol, wedi ymweled a Mr Gladstone yn Nghastell Penarlag. Yn ystod ym- ddyddan dangosai y gwladweinydd enwog ddyddordeb neillduol yn y ddadl a ddygir yn mlaen yn awr yn Nghymru. Mewn perthynas i Benderfyniad Rhyl," ystyriai fod y brys a ddangosid gan ran o'r blaid yn dra annoeth. Anogai ni i fod yn bwyllog, yn gymedrol, ac yn unol. Dywedai y byddai mesur Dadgysylltiad a Dadwaddol- iad yr Eglwys yn Nghymru yn un tra dyrys, llawer mwy dyrys beth bynag na'r un Ysgotaidd. Darn o Eglwys Loegr ydyw'r Eglwys yn Nghymru y mae yr esgobaethau Cymreig i gyd yn nhalaeth Caergaint; ac yr oedd y ffaith hono yn awgrymu y posiblrwydd o gryn anhaws- derau i'w tynu oddiwrth eu gilydd. Dy- ( munai Mr Gladstone gael gwybod beth oedd ef i'w wneud, os byddai i'r aelodau Ysgotaidd benderfynu gweithredu yr un modd ag y bwriadai y blaid Ryddfrydig yn Nghymru. Yr oedd Dadgysylltu yn Ysgot- land yn waith llawer hawddach, ac yn cael ei gefnogi gan allu nifeiriol cryfach. Dyma ddywed yr Herald am yr ymgom a gymerodd le a gallwn ninau ychwanegu, heb fradychu cyfrinach, i'r ymddyddan ddigwydd pan oedd aelodau YsgolSabbothol Engedi, Caernarfon, a'u cyfeillion, yn mwynhau diwrnod o wibdaith yn mharc Mr Gladstone. Cyfarfu y boneddwr an- rhydeddus Mr T. P. Lewis, A.S.,Mr George, A.S., a'r Parch John Hughes, D.D., ar y lawnt a chan fod y ddau flaenaf eisoes yn gydnabyddus ag ef, cyflwynasant y pre- gethwr enwog i'w adnabyddiaeth. Parha- odd yr ymgom yn hir, ac fel y gellir credu yn hawdd, yr oedd yn hynod o ddyddorol i'n tri chydwladwr. Siaradai yr hen wron, er ar fin ei bedwar ugain mlwydd, gyda'r aidd a'r yni hwnw a'i nodwedda ar hyd ei oes, ac y sydd megys yn cryfhau fel y mae yn heneiddio. Am bethau Cymreig, fel pobpeth arall, gellir dweyd nad oes dim yn anwybod iddo. Tra yn beio, yn ei ddull boneddigaidd arferol ef, fyrbwylldra y Dad- gysylltwyr, dywedai am y mawr foddhad a gafodd wrth ddarllen erthygl y Canon Howell ar yr Eglwys yn Nghymru-yn arbenig ei thegwch a'i haddfwynder. Sylwai hefyd y gallai ef dynu allan fesur dadgysylltiad i Ysgotland mewn haner diwrnod, tra y cymerai iddo haner blwyddyn i lunio mesur cyffelyb ar gyfer Cymru. Teimlwn radd o ddiolchgarwch i Mr. Gladstone am ddweyd cymaint a hyn am danom y mae hyd yn nod cydnabod fod ein hachos yn un anhawdd yn awgrymu ei fod wedi meddwl am ein dyryswch. Ond tra y sonia am anhawsderau y Dadgysylltiad yn Nghymru mewn ton leddf, sydd yn ym- ylu ar anobaith, rhaid ini gydnabod fod genym syniad uwch am ei alluoedd ef i ddadrys dyrys bynciau gwleidyddol nag yr ymddengys sydd ganddo ef ei hun. Credwn y gallai ei swynlath ef gynyrchu trefn o'r annhrefn presenol. A wna ef hyny os es- tynir iddo einioes ddigonol at y gorchwyl, wedi y symuder y graig rwystr Wyddelig dragyfyth yma oddiar y ffordd ? Gwna yn ddiau ond feallai y bydd raid gwasgu'r feg arno gydag ami i reswm cryf fel Pen- derfyniad Rhyl." Onibai ein bod yn gwybod mor annhu- eddol ydyw Mr. Gladstone i ysgafnder, buasem yn credu mai cellwair a'r Cymry yr ydoedd pan yn eu hanog i lynu wrthbwyll, cymedroldeb ac unoldeb. Pwyll, yn wir! yr ydym yn erfyn am yr iawnder o gyd- raddoldeb crefyddol er's o leiaf haner can' mlynedd, ac heb ei gael eto. Cymedroldeb y yn siwr barn y mwyaf ystyrbwyll sydd yn ein hadwaen yn dda yw fod genym ormod o'r nwydd hwn, a'i fod yn fwy o niwed i ni na lies. Ac unoldeb hefyd Wel, y mae'r blaid Ryddfrydig mor unol yn Nghymru, fel nad oes ond un, hyd y gwyddom, o'n Haelodau Seneddol yn ddigon diras i arddel ei hun yn Undebwr.
o NODIADAU YR WYTHNOS.
o NODIADAU YR WYTHNOS. GOFYNA gohebydd yn y Cardiff Times ai tybed fod pla y llygod yn ymestyn i Gymru? Dywed ei fod yn clywed mwy o gwyno oblegyd anrhaith y difrodwyr hyn yn mysg ei gymydogion nag erioed o'r blaen. Peth cyffredin oedd iddo glywed am ladd haner cant neu driugain ohonynt mewn un das o d, ac er fod hyn yn ddigon dychrynllyd, nid yw ond nifer bychan mewn cydmariaeth i'r llengoedd sydd yn anrheithio ffermwyr siroedd dwyreiniol yr Ynys. Mewn un ydlan yn Kent, daliwyd 8,000 o lygod- 5,000 yn un, a 3,000 yn y llall. Yr oedd y teisi hyn, fel y gellir casglu yn hawdd oddi- wrth y nifer a ymborthai ynddynt, wedi eu niweidio'n ddirfawr. Pan yn dyrnu pedair o deisi yn Lidgate, Suffolk, lladdwyd tros fil o lygod ffreinig; ac yr oedd maintiolaeth y rhai hyn yn gymaint rhyfeddod a'u rhif- edi. Aed i'r draul o stwffio un ohonynt- un felen, anferth, ac y mae yn tynu mawr sylw naturiaethwyr. o
[No title]
Y MAE'R ffermwyr yn cwyno mai'r cipars sydd yn gyfrifol am amledd llygod yn y wlad, trwy eu bod, er mwyn amddiffyn y game a'r cywion phesant, yn lladd pob wenci, bronwen, a chath ddaw yn agos atynt. Dyna ddifawyr naturiol y difawyr eraill, sydd yn cadw y naill lwyth o gread- uriaid yn gydnifeiriol a'r llall. Er ateb yr un dyben y gwna ceidwaid helwriaeth ym- drech i ladd y gelli goch, y bbd, ac adar ysglyfaethus cyffelyb. Canlyniad hyn dra- chefn ydyw heidiau plauol o adar to. ac eraill, yn ysu ac yn dyfetha'r wlad, gan ddechreu yn gynar yn y gwanwyn ar flagur a blodeu y berllan, a dal yn ddyfal wrthi mewn rhyw ddrwg neu gilydd hyd y gwan- wyn nesaf, yn enwedig tua'r cynhauaf, pan y gwelir hwynt yn llengoedd ar y cae gwenith bron cyn amled a'i wellt,—ac yn pigo llogellau y tywysenau nes byddant, erbyn yr elo'r ffarmwr yno i fedi, mor wag a phoced ffwl yn dychwelyd o ffair y gwag- edd. Ac ni wiw i'r ffarmwr gyffwrdd a'r yspeilwyr pluog; canys y mae'r ddeddf sydd yn cospi yspeilwyr eraill yn eu ham- ddiffyn hwy ran fawr o'r flwyddyn, sef o Mawrth iaf hyd Awst laf. Pe buasai iaith gref ambell ffarmwr yn lladd adar, gallesid yn hawdd weled pentyrau o adar meirwon hyd ami i ffarm yn Nghymru. o
[No title]
TEIMLIR graddau o bryder yn nghylch un o orchestion penaf celfyddyd yn Nghymru, ac y mae prophwydoliaeth eofn Dewi Wyn o Eifion am Bont Menai yn cael ei siglo, pan y dywedai, Esgbrir yn ysgyrion-cant Ewrob Cyn toi-oi gafaelion. Cwblhawyd y Bont yn 1826, ac y mae 64 mlynedd yn gyfnod lied hir i hyd yn nod haiarn fyw heb ei anmharu ar fwlch noeth- lwm fel Porthaethwy, lie y mae elfenau difaol o'r mor islaw a'r awyr o'i ddeutu hefo'u danedd man, man, yn ei ysu'n ddi- orphwys ddydd a nos, hindda a drychin. Er lleddfu yr ofnau crybwylledig, gofynwyd i Syr Benjamin Baker archwilio y bont; ac y mae yntau newydd gyflwyno ei adroddiad i'r Llywodraeth. Bydd yn hyfrydwch gan luaws glywed nad yw ef yn credu fod achos i'r ofnau. Dywed fod y prif gadwynau yn gwbl ddianaf, ac er fod y gwregys o tanodd, a rhanau o'r rhodeni crogedig wedi eu hysu gan rwd a'u niweidio gan ddirgryniadau, hwy a ddaliant, ond eu gwylio yn lied reol- aidd, lawn cyhyd a'r llawr coed presenol. Y mae ef yn argymhell, pan ddelo'r adeg i lwyr adgyweirio'r llawr, y dylid ei godi a rhoi dur yn ei le. Cymhella'n gryf eu bod yn ei harchwilio a'i harbrofi yn barhaus ac er mwyn cadarnhau ei gynghor, cyfeiria at gwymp pont yn Rwsia. Yn Gorphenaf diweddaf, yr oedd hono wedi ei harchwilio yn swyddogol a'i chyhoeddi fel yn gwbl ddyogel. Ychydig wythnosau wedi hyny, fel yr oedd catrawd o Uhlans yn myned trosti, syrthiodd o tanynt, a lladdwyd chwech o'u nifer. Pan aed i chwilio i mewn i achos y trychineb, cafwyd fod un o'i hangor gadwyni wedi cwbl rydu, ac nad oedd modd canfod y gwall am fod arno gaenen dew o baent. Ond am Bont Menai, hyderwn y ca gwr Mon ac Arfon am gan- rifoedd eto ddweyd ar ol Dewi Wyn :— Dwy heol ydyw o liaiai-ii,-praff-waitli- Prif-ffordd hardd a chadarn; Gwiw orsedd, ac awyr-sarn: Safed fyth-sef hyd y Farn. o
o NODIADAU YR WYTHNOS.
YN y rhifyn hwn, gwelir ein bod yn cyhoeddi y benod gyntaf o nofel Owen Rees;" amcan yr hon ydyw dangos bywyd y Cymry yn Lerpwl. Y mae'r awdwr wedi treulio ei oes led faith yn eu mysg ac nid oes yr un Cymro yn y ddinas a wyr gymaint am danynt, na galluocach lienor i ddweyd yr hyn a wyr yn fedrus mewn Cymraeg neu Saesneg. Dewisa yr iaith olaf y tro hwn, (1) am ei fod yn awyddus i ddangos i'r Saeson rai o deithi rhagorol ein cenedl (2) am y derbynir y Cymro mewn canoedd o deuluoedd yn y trefi Seisnig, lie y mae'r plant yn fwy hyddysg a'r Saesneg na'r Gymraeg, ac yn dueddol i esgeuluso'r newyddiadur Cymraeg oherwydd nas gall- ant ei ddarllen gyda boddhad ond pan y deallant fod ynddo golofn Saesneg ar bwnc mor ddyddorol a bywyd Cymreig yn Ler- pwl, ac wedi ei hysgrifenu mewn arddull mor ddeniadol, hyderwn y cymerant ddydd- ordeb yn y papyr, ac o dipyn i beth y denir eu sylw at y rhanau Cymreig ohono. Omd gall y dosbarth lluosocaf o'n darllenwyr fwynhau yr hanes yn y naill iaith cystal a'r llall; ac y mae yn lied sicr y byddwn yn fuan yn genedl o bobl ddwyieithog, fel y Swisiaid a'r Germaniaid. Ai nid mantais