Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE T FADING 'TAILORS, BOYDELL BROS.' D IN RANELAGH STREET. Range of PATTERNS this Year SURPASSES ANYTHING BEFORE SHOWN, and is as yet Unrivalled by any House in the Trade. u- FOR pERFECT FITTING., BOYDELL BROS.' D MEN'S TWEED SUITS, At 25/ 30/ 35/ 40/ All our Own Make, and Guarantee.! FOR SUPERIOR FINISH. BOYDELL BROS.' D MEN'S BLACK WORSTED SUITS, At 30/ 35/ 40/, 45/ Bound by Hand. Equal to Bespoke FOR pCONOMY. BOYDELL BROS.' JD MEN'S TWEED TROUSERS, At 6/6, 8/6,10/6,13/. Over a Thousand Patterns to see. THE Boys' T AILORS. OYDELL BROS BOYDELL BROS BOYS' SAILOR SUITS, At 3/11, 4/11, 5/11, 7/11, 9/6, In Indigo Blue Serge and Tweeds, with Sleeve Badge, Lanyard, and Whistle. FOR pjARD WEAR. OYDELL BROS.' BOYDELL BROS.' BOYS' SAILORS SUITS, At 8/6, 10/6, 12/6, 14/6, In Black, Blue, and Brown Velvets. VPRY BEST VALUE OBTAINABLE. FOR SCHOOL s UITS. BOYDELL BROS.' D BOYS' TWEED SUITS, At 4/11, 5/11, 6/11, 8/6, 10/6, Made from Strong Serviceable Cloths in ALL THE LATEST STYLES. P0R BKST W":A1!- OYDELL BROS.' BOYDELL BROS.' YOUTHS' REEFER SUITS, At 12/6, 14/6, 16/6, 16/6, 21/ PERFECT FITTING GARMENTS. OYDELL BROS., D THE LEADING TAILORS, CLOTHIERS, HATTERS, OUTFITTERS, 37 & 39, RANELAGH STREET. NEW VIRGIN HONEY, 1/- PER 2-LB. JAR. SHAW BROS., Grocery & Provision Stores, BERRY ST., LIVERPOOL, SOUTH RD., WATERLOO. JOHN MAWSCN, EXCELLENT TEAS, COFFEES, & GENERAL GROCERIES, Agent for the New Celebrated MAZAWATTEE CEYLON TEAS, Reduced to 1 10, 2/ 2/4, 2/10. 119, GREAT GEORGE STREET. LLINELLAU SWYDD CAER. [CHESHIRE LINES]. GWIBDEITHIAU YR HAF I FANCEINION A DEHEUBORTH (SOUTHPORT). Gellir cael tocynau rhad o LYNLLEIFIAD [Gorsaf Ganol] i FANCEINION, bob LLUN a SADWRN, hyd rybudd pellach, gyda'r tren 8-30 neu 9-30 c.a., 12-30, 1-30 neu 2-30 w.a. Hefyd, gellir cael TOCYNAU RHAD I DEHEU- BORTH [Southport] gyda'r tren 8-55 neu 10-20 c.a., 12-20, 1-25, neu 2-22 w.a., bub dydd SADWRN a chyda'r 8-55 neu 10-20 c.a., a 12-20 neu 2-22 w.a. bob dydd LLUN. Bydd Gwib-docynau hefyd gyda'r trenauuchod, ynol yr amseroneg, o St. James, St. Michael's, Otterspool, Mersey Road, Cressington, Garston, Hunt's Cross, Gateacre, Knotty Ash, West Derby, Aintree, Sefton a Maghull. Gweler llawleni am fanylion pellach-pris- au, amser dychwelyd. &c. D. MELDRUM, Cyfarwyddwr. Gorsaf Ganol, Llynlleifiad, Gorphenaf, 1890. W. F. BEAVAN, ESTATE AGENT AND VALUER THE PARK ESTATE OFFICE, ST. JAMES' PLACE, LIVERPOOL, And at BODFARI. TREFNANT. DENBIGHSHIRE. ESTATES carefully managed. Sales effected. Purchases negotiated. Valuations furnished for Purchase, Probate, or Mortgage. Inquiry invited. No charge without actual business results, DOMBEY STREET, a compact block of property. Rental, £ 205. Price, £ 1,800. Leasehold, offers wanted. PRINCES ROAD (Off), a nice House, with two Sitting- rooms, Bath, W. 0., and Hotwater throughout. Lease, 62 years. Price, 4290, will cover all costs. BELGRAViS STREET (St Mchaers-in-the Hamlet). Free- hold House, with Bathroo,n, and four Bedrooms. Price, £335. CAWDOK STREET (Princes Road), a nice little invest- ment, consisting of four Houses. Lease, 65 years. Rental, £ 98. Price, £ 730. TENNYSON STREET (by order of the Executor), a single House, with two Sitting and four Bedrooms, Bath, and W.C. Freehold. Price, £ 350. MONTGOMERYSHIRE, Freehold Farm, of 130 acres, with pood House, Man's Cottage a d Buildings. Part of the land is enclosed as a Rabbit Warren. Price, L925. LLANGOLLEN, some choice Building Sites in this most picturesque locality. For particulars of any of the above Properties, apply to W. F. BEAVAN, LIVERPOOL OR BODFARI. ROBT. OBETS & CO., Ltd. REDUCTION OF TEA DUTY. L pRICES REDUCED QD. PER LB. For a period of twenty-five years up to the present time the Tea Duty has re- mained unaltered. The Chancellor of the Exchequer, however, in unfolding his Budget, has disposed of a portion of his surplus by reducing the Duty on Tea 2d. per lb. R OBT. ROBERTS & CO., L TD. 8, DALE-ST. AND 52, BOLD-ST. THOS. JONES & Co's. SUPERIOR TEAS At 2d. per LB. Reduction. Branches: 30, Grange Rd., PARKER STREET, Birkenhead, 60, Eastbank Street, LIVERPOOL. Southport.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Un o W ynedd. -Gan fod y bar-del yn byw yn yr un dref a chwi, ac yn barod bob amser i roddi pob cyfarwyddyd, i ba beth y cyhoeddir eich ym- ofynion ? Cymro Gwyllt a gwyna'n dost ac a gerydda'n llYll1 am mai yr un a gynygiodd y testyn ag a enillodd y wobr yn un o gystadleuon Arwest ddiweddar West Kirby. Os yw hyn yn gywir, wrth reswm nidoedd yn deg ond ai nid pwnc ydyw i'w drafod gan y pwyllgor, yn arbenig cyn cyhoeddi y cyhudd- iad ar led gwlad? Pa fodd bynag, gwell genym beidio cyhoeddi'r llythyr yn bresenol, cyn gweled beth a wna'r Pwyllgor gyda'r achos. Y mae'r cyhuddwr a'r cyhuddedig yn ddau lenor profiadol, ac yn hen wladgarwyr a theimlwn yn sicr fod camddealltwriaeth yn rhywle. Na wneler dim yn fyrbwyll-"Gwaith byrbwyll, anystyrbwyll, "chwedl yr hen ddiareb. Gwningen.—Ni ddanfonodd y gohebydd hwn ei wir enw. Yn mhellach, nid ydym yn gwbl sicr y gwyddom at ba beth y mae yn lluchio; ac y mae yn anmheus, a barnu oddiwrth ei lythyr, os gwyr ef ei hun. Y mae ei lythyr yn bersonol iawn yn wir yn vulgar mewn un man. Tybed ei fod yn (I gwybod at ba beth y cyfeiria ein gohebydd galiuog ? Atebion i John Adicaen Pa>ob, yn ein nesaf.
PETHAU NEWYDD YN NGHYMRU.
PETHAU NEWYDD YN NGHYMRU. YN Nghyfarfod Ysgolion diweddaf Lleyn, a gynhaliwyd ychydig Sabbothau yn ol, deuwyd a. phwnc hollol newydd yn mlaen i'w drafod. Beth allai yr Ysgol Sul wneud tuag at ddyrchafu, yn foesol, deallol, a chre- fyddol, lafurwyr amaethyddol ein gwlad ? Dyna'r cwestiwn a drinid yn y Cyfarfod Ysgol yn Lleyn. Ni fu na Chyfarfod Ysgol, na Chyfarfod Misol, na Sasiwn, na chwrdd Chwarterol, na chynhadledd erioed o'r blaen yn ymdrafferthu gyda chyfryw ymholiad. Gellir ystyried yr ymdrafodaeth hon yn un o arwyddion mwyaf arwyddocaol yr amser- oedd. Daeth y brodyr yn Lleyn i'r pen- derfyniad mai y peth doethaf ellid wneud fyddai sefydlu darllenfeydd mewn cysylltiad a'r capelydd, lie y gallo gweision y ffermydd ymgynull at eu gilydd gyda'r nos i ym- ddiddan ac i ddifyru eu hunain a darllen. Erioed ni chlywyd son am gynygiad o'r natur yma o'r blaen, a dylai Cyfarfod Ysgol Lleyn fod yn falch oherwydd bod y cyntaf i gymeradwyoi sylw y wlad syniad mor ardd- erchog. Dibyna llwyddiant y cynllun yn gyfangwbl ar y dull y gweithir ef allan. Gofaler am lyfrau a newyddiaduron pwr- pasol at allu a chwaeth y dosbarth a geisir ddyrchafu. Cauer allan lyfrau sych- ddysgedig, sych-dduwiol; na warier arian yn ofer ar newyddiaduron annarllenadwy. Rhaid gwneud y darllenfeydd yn lleoedd difyrus cyn y llwyddant. Os gorchuddir y parwydydd a man reolau caethiwus, megys No smoking allowed," ac felly yn mlaen, buan y diflasa y bechgyn arnynt. Gwnaer hwynt yn lleoedd mwy pleserus, os yw bosibl, na'r dafarn neu efail y gof. Huder y llanciau iddynt trwy bob moddion dichon- adwy. Bydded hefyd linyn pyrsau y cyfoeth- ogion yn llac i gyfarfod a'r draul o gynal y darllenfeydd. Clywsom am un ffermwr yn Mon, a chanddo gefn a chalon i gyfranu pum' gini yn y flwyddyn tuag at ddarllenfa yn ei gymydogaeth, pe sefydlid un. Credwn fod canoedd eraill a ddilynent ei esiampl. Mae son am y Fam Sir yn ein hadgofio am y cyffro rhyfeddyn mysg gweision fFerm- ydd plwyf Aberffraw. A dyma beth new- ydd eto, newydd iawn, bron na ddywedwn ofnadwy newydd. Rywdro yn yr Hydref ymddengys fod etholiad Bwrdd Ysgol i gy- meryd lie yn yr Aberffraw, ac y mae gweision ffermydd yr ardal wedi penderfynu cymeryd rhanflaenllawynymater. Synedyddaear Ac eto, paham ? Ai onid da yw gweled llaf- urwyr amaethyddol yn cymeryd dyddordeb mewn etholiad Bwrdd Ysgol, mewn rhyw etholiad, mewn rhywbeth heblaw ceffylau a rasus 'redig a phreimins ? A phaham nad Bwrdd Ysgol ? Yr ysgolion elfenol ydynt unig gyfryngau addysg y dosbarth gweith- iol. Y n y w lad nid yw yr ysgolion h yn ha ner mor effeithiol ag y gallent fod. Mae y byrddau yn cysgu, yn pydru mewn diogi a difaterwch, heb gredu nemawr ddim mewn addysgu plant gweithwyr, ond yn credu yn ddiderfyn mewn arbed pocedau y trethdal- wyr. Ai onid ywyn henbrydi'r gweithwyr ddeffro o'u trwmgwsg, ac ymladd o ddifrif dros addysg eu plant? Rhwyddhynti lanciau yr Aberffraw lechyd i'ngwladfydd i rywun neu rywrai, trwy ryw foddion,greu adfywiad yn ein Byrddau Ysgolion gwledig. Yn y trefydd cedwir hwynt yn effro gan yr elfen gydymgeisiol. Ond druan o blant y wlad Ar y Haw arall, bendith annrhaethol fawr i'r llafurwyr amaethyddol fydd ymrwbio yn mhynciau cyhoeddus y dydd, a gwneud defnydd priodol o'r gallu a roddwyd yn eu dwylaw gan y wladwriaeth. Buont yn seiffars lawn digon. Mae'n bryd iddynt bellach fod yn ddynion. Dywedodd un obregethwyr enwocafCym- ru mai y symlldiad yn nglyn a'r llafurwyr amaethyddol ydyw y symudiad pwysicaf a welodd ein gwlad yn y ganrif hon. Nid mater o ddwyawr yn y dydd llai o weithio yn unig mohono ddim ond mater o wneud pobl ddwl, ddiwybod, yn bobl oleuedig a deallus, mater o wneud gwladwyr o bobl nad ydynt yn awr ond gweithwyr yn unig. Y mae y pregethwyr yn dechreu sylweddoli eu cyfrifoldebyn nglyn a'r dosbarthyma, Gwy- ddom am rai ohonynt yn pastynu eu hymenyddiau i geisio darganfod rhyw 1 wybr i wneud daioni yn y cyfeiriad hwn. An- hawdd dweyd beth fyddai 'oreu. Ond mae un peth yn gwbl amlwg rhaid i rywun ddechreu yn rhywle. Na hidiwn os meth- iant fydd y cynyg cyntaf. Y pwnc ydyw dechreu. Mae y wasg wedi gwneud llawer yn barod. Bu ein cyfoesolyn oGaernarfon, y Werin, yn foddion i gwtogi dwyawr yn oriau gweithio llafurwyr Mon ac Arfon, ac y mae yn haeddu clod am hyny. Ond an- genrhaid ydyw myned yn mlaen "i oleuo, i ddeffroi meddyliau y gweision, i'w gwneud yn allu cryf ac iachus mewn cymdeithas. Da genym ganfod fod yr Ysgol Sul a'r Pulpud yn hogi arfau. Mae y ddau wedi gwneud gwaith mawr yn Nghymru yn y gorphenol, a hwy wnant, ni hyderwn, lawn cymaint gorchestion eto yn y dyfodol. A. FF.
[No title]
-0- Y MAE'R casgliad at gynhaliaeth yr Eglwys Sefydledig yn dal i fyn'd yn mlaen yn mhlwyf Llannefydd, er tan anfanteision trymion. Yn chwanegol at y llidiardau wedi ei pygu oddifewn ac oddiallan a phyg" er distryw i glosau pwff y beiliaid yn chwanegol at hwtiadau, hysiadau, a gwawd- iadau o bob math gwerin anfoddog, ie, a'r cyrn-cyrn byddarol eu dolef,—yn chwan- egol at hyn oil, meddwn, dyma y curwlaw a'r corwynt yn milwrio yneu herbyn. 'Toedd yrhin y dyddiau diweddaf a gawsom ni ddim yn ffit i ddynion cyffredin-Cymry celyd, croeniach, sydd yn cael eu halltu o Galan bwy gilydd mewn dryghin-i fod allan o dy, chwaithach bodau meddalgorph, a chrwyn malwodaidd am danynt, fel llu gorfodol y degwm, o'r milwr i lawr at y beili. Rhaid eu bod wedi bendithio llawer ar anufuddion Llannefydd o tan y cawodydd trymion, a'u cyflwyno mewn Saesneg goeth gref, i'r lie, yn eu tyb hwy, y rhaid fod eu gwyneb arno am beidio talu'r degwm. A phobl wargaled ac anhydrin ydynt, os edrycha dyn arnynt o ben Clochdy yr Eg- lwys. Dyna, mae'n ddiddadl, ydyw barn Esgob a Deon Llanelwy am danynt. Nid oes ond ychydig filldiroedd o Lanelwy i Lannefydd yn wir, nid ydym yn gwbl sicr ai nid yw'r ddau blwyf yn taro ar eu gilydd. Pa fodd bynag, nid yw'r pellder yn ol a blaen ond bychan mewn cydmariaeth i deithiau Sabbothol ami i bregethwr rhagor- ol gyda'r Ymneillduwyr, acam y nesaf peth i ddim o gyflog. Ac os yw y ffyrdd yn rhy ddrwg i gymeryd y cerbyd esgobol, a'i ddeupen teg o geffylau ar hyd-ddynt, hwyr- ach na byddai'r daith yn ormod ar draed, ac y byddai taith fechan o'r fath o les corph- orol annghyffredin. Beth feddyliech chwi, mewn difrif, foneddigion, o anfon eich cy- hoeddiad yno—y byddech eich dau yn pre- gethu yr amser a'r amser, yn y fan a'r fan (peidiwch dweyd yr Eglwys-y mae yn gas gan bob gwrthddegymwr am yrenw-Eglwys) ond yn un o'r prif-ffyrdd neu'r caeau-y cae hwnw Ile yr oedd y gwr meirch yn rhedeg ar ol y lloiau, fyddai'n lie braf digynyg am oedfa hwyliog. Yr ydym yn sicr y deuai lluaws i'ch gwrando, y caech dderbyniad caredig, gwrandawiad astud, ac efallai (pwy wyr?) yr argyhoeddech rai mai chwi ac nid liwy sy'n iawn. Bwriadem unwaith roddi testynau i chwi, ond gwell genym beidio y tro hwn. Nid oes ynom yr anmheuaeth leiaf na fuasai oedfa felly o fwy lies filwaith i'r Eglwys, na bod yr Esgob yn myn'd ar hyd y byd i draethu anair am ddosbarthiadau o ddynion sydd lawn mor ymdrechgar ag yntau i wneud y byd yn well neu fod y Deon yn ysgrifenu rhigwm hir o lythyr Seisnig i'r papyrau Seisnig-a gosodiadau cyntaf y llythyr hwnw yn dwyllodrus, ei weithiad allan yn gyfrwys, a'i gasgliadau yn gamarweiniol. Wyr urddasol Llanelwy, profwch ein hawgrym—Oedfa yn Llannefydd. Ond mor sicr a'n bod yn ei chynyg, dderbynir mohoni. Pa'm? Am nad ydynt ddoeth. Buont ddigon o hyd yn ceisio cael y bobl atynt hwy, beth fyddai iddynt hwy ei threio hi trwy fyn'd at y bobl ? -0-- >
LLYTHYRAU PENAGORED.
LLYTHYRAU PENAGORED. VII.-AT Berchknogion y Fpyhdd Haiakn- YN NUHYMRU. FONEDDIGION,-Ddeehreu'r baf mi brynais i gyfrol chwe' cheiniog o waith Mr. Bradshaw, sydd yn dysgu dynion lawer iawn o bethau am y cefiyl tan. Nid llyfr hawdd i ddyn gwlad ei ddeall ydyw. Nis gwn a edrychir arno fel un o lyfrau'r pwnc yn athrofa'r Bala ac Aberhonddu tebyg y gwneir, ac fod un or athrawon yn rhoi darlithiau arno. Wn i ddim am byny chwaith. Mor bell ag y clywais i, rhaid i bwnc fod fil o filitiroedd oddiwrth fywyd cyffredin pregethwr cyn ceir darlith arno yn y colegau. Dichon felly na cheir Bradshaw yno o gwbl fel llyfr pwnc. Ond mi brynais i'r gyfrol ac ar ol mawr drafferth a helbul meddwl, daethum o'r diwedd i adnabod yr express train yn weddol o dda. A chefais lawer breuddwyd esmwyth am yru ar ffrwst dros hyd a lied y wlad. Gwelwn fy hunan yn ddiofal ysmala yn gyru heibio i lawer peu- tref a tbref yn cael cipdrem falch ar bobl dawel y'nghanol y cae gwenith, ac ar wragedd siaradns yn aros ar y platform nes i dren y farchnad alw am danynt gan bwyll ;—minau yn carlamu yn mlaen fel Jehu, tua'r "Ffynonau," a'r Wyddfa a glan y mor. Oferedd yw breuddwydio !—hyd yn nod ar ol deall Bradshaw. Nid wyf na balch nac ysmala heddyw ond yn ddyn gostyngedig a hawdd ei foddloni. Yr wyf yn byw y'nghanol ofnau ac anmheuon, heb wybod dim a meddyliaf y bydd ami bregethwr dysgedig yn cyfeirio ataf yn fuan fel engraifft ddychrynllyd o agnostic. Ni wn i ddim yn sicr ond hyn os bydd tren i lawr yn Mradshaw ar gyfer rhyw awr benodol-na fydd o ddim yn y station. Os bydd y gyfrol ddiniwed yn dweyd fod un tren am rywbeth wedi deuddeg a'r nesaf am rywbeth wedi tri, y mae yn lled debyg- cofier nad wyf yn dwyn tystiolaeth bendant—y mae yn lied debyg y bydd rhywfath o dren rywbryd rhwng deuddeg a thri. Beth yw ystyr hyn, foneddigion ? Gwn mai rhyfyg mawr yw i feidrol fel fi fod mor hyf a gofyn dim i chwi, Onid chwi yw meistriaid y ffyrdd haiarn 1 Onid yn eich llaw chwi y mae pob rhagluniaeth deithio ? Ac onid prif ddyben eich bodolaeth chwi yw gofalu am gasglu 7 neu 8 y cant bob blwyddyn? Y mae meddwl am anghenion pobl dlawd a ehyfleusderau plant llafur i chwi yn rhywbeth salach nag islaw sylw. Ddydd ar ol dydd, wytlinos ar ol wythnos, yr wyf wedi gweled ac yn clywed am vr un peth. Nis gwn i am olygfa fwy tosturus na gweled torf o bobl y wlad -beb arian nac amser i golli-yn sefyllach am awr neu ragor yn yr orsaf, yn edrych mor hunanymwadol a difalch. Prin bydd gan un ohonynt anadl i acbwyn dim ond disgwyl a disgwyl a phlygu pen i'r drefn. Gallwn feddwl eu bod yn edrych ar y railway fel rhyw allu goruwchnaturiol, na raid grwgnach dim yn ei erbyn. Feallai mai fel hyn y byddai pobl yr Aipht yn gostwng eu penau dan bla'r llyffaint a'r locustiaid dim i'w wneud ond dyoddef. Yr un peth welaf fi ar draws y wlad y dyddiau hyn amaethwyr tua Dyffryn Clwyd, a llawer dyffryn arall, yn ymostwng a dyoddef i bla'r ceffyl tan. Rhaid ymfoddloni i'r drefn. Ambell waith ceir tipyn o newid pan fo rhyw esgus fawrddyn o Sais yn gwneud ei oreu i regu'r porters, druain Fel pe byddai'r bai arnynt hwy Fe ddaw hi'n ddifrifol, boys "-ys canai Watcyn Wyn ar bwnc arall. Y mae yn arfer mewn llawer ardal i gadw'r clociaQ wrth amser tren. Hwnw awr neu ddwy bob dydd ar ol ei gyhoeddiad cyn hir fe fydd y cloc yn dweyd naw o'r gloch foreu Sadwrn a hithau yn naw
Y CYMRO:
Y CYMRO: Newyddiadur Cenedlaethol. Danfonir UN copi yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 2/9 Am 3 mis, 1/6. Danfonir DAU GOPI Am 12 mis, 10/- Am 6 mis, 5/- Am mis, 2/6. Blaendal. Telerau Hysbysiadau. Yn ol 3s. y fodfedil, neu 13 gwaith am 19s. 6ch., &c. Os nad ellir cael y papur hwn yn ddidrafferth gan y Llyfr- werthwyr, erfynir ar i hysbysrwvdd o hyny gaelei ddanfon at y Cyhoeddwi. Cyfeirier gohebiaethau llenyddol i GOL. y CYMRO, 18, Bruns- wick Street, Liverpool; a Hysbysiadau, Taliadau, Cheques, &c., i Isaac Fotjlkek, Cyhoeddwr, 18, Brunswick St., Liverpool. 0--