Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

AMRYWION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AMRYWION. YR oedd hen ffarmwr gerllaw y Bala, oes neu ddwy yn ol, wedi cymeryd yn ei ben y gallai wneud trol ac wedi ei gorphen, aeth i'r dref i 1101 y saer er mwyn cael ei farn ef arni. Edrychai y saer yn ddifrifol iawn ar y drol ac ar y ffarm wr bob yn ail. "Wel, deydwch eich barn yn onest rwan, Robert, be' ydach chi'n feddwl ohoni hi, Robert?" Ac ar ol hir graffu dracbefn, ebe fe o'r diwedd, "Wel yn wir,fe allai dyn feddwl am drol wrth edrycb arni hi." YR hyn a barodd ini feddwl am fwnglerwaith y ffarmwr a gwawdiaith lem y saer ydoedd sylwi ar y darluniau a welir yma ac acw yn mhapuran y dyddiau hyn o Frenbines Roumania. Fu- asech chwi ddim yn eu cymeryd am gyfnitber i'w Mawrbydi, llawer llai chwaer, chwaithach y Frenhines radlawn ei hun. FORE ddydd Sadwrn, cafodd un dosbarth o Saeson wledd anarferol oflasus yn Llu ndain-,dau ddyn, os iawn eu galw felly, Frank Slavin, brodor o Awstralia, a Joseph M'Auliffe, yn hanu o San Ffransisco, yn ymladd fel dau deigr. Cymerodd yr ymornest le yn Nghlwbdy Ormonde, perth- ynol i foneddigion. Dechreuodd y cwmni ym- gynull am tua haner nos, ac ar ol disgwyl am tna, phum' awr, ni pharhaodd y difyrwch fawr dros bum' munyd-dwy round, a dyna deigr America mor ddrylliedig fel nas gallai sefyll ar ei bedion. Yr oedd pedwar "Lord" yn bre- senol, "Count," aC UD "Hon," heblaw rhwng 200 a 300 eraill cymysgryw o ffyliaid a chnafon. Y MAE heddgeidwaid Lerpwl yn gofyn am godiad bychan yn eu cyflog, ac am ycbydig ragor o ddyddiau gwyl; ac wedi gosod eu cwyn- ion gerbron y Prif-gwnstabl, yr hwn a gydoJyga a hwynt, ac a'u trosglwydda i ystyriaeth y Pwyllgor. Hyderwn y caniateir y cais nid yw bywyd y cwnstabl mewn tref fawr gymysglyd ei phoblogaeth forwrol fel hon yn un dymunol ar lawer ystyr a'r dystiolaeth unfrydol am heddlu Lerpwl ydyw eu bod y corph o ddynion harddaf sydd yn gvvisgo dillad gleision yn y byd tal cydnerth, a deallus ar y cyfan. 0 Ogledd Lloegr yr bana lluaws ohonynt, megis Cumber- land, Westmorland, &c., cryn nifer yn Ysgot- iaid, nid cymaint a fuasid yn ddisgwyl yn Wyddelod ac y mae'r tua chant 0 Gymry sydd yn en mysg cyn oduloced engreifftiau o'r ddynoliaeth deg ag a welir yn unman. Ond fel Wil Bryan, un o'r pethau diweddaf a ddaw ar draws meddwl Cymro pan fyddo yn machan gwyr y gyfraitb, ydyw tybied fod y bachau hyny yn perthyn i gydwladwr. Y MAE hefyd fwy o Gymry yn offeiriaid Pabaidd nag a feddyliai llawer un. Un ohonynt ydyw y Tad Mostyn, o gapel "Ein Harglwyddes" (Our Lady), Birkenhead. Mab ydyw ef i'r diweddar Syr Pyers Mostyn, Talacre, sir Ffiint, a brawd i'r barwnig presenol. Glynodd y gangen hon o deulu y Mostyniaid wrth Babyddiaeth trwy yr oesau-trwy y Diwygiad Protestanaidd, y cyfnod Cromwellaidd, a'r cwbl. CYMER Father Mostyn gryn ddyddordeb yn mhobpeth Cymreig. Y mae yn gerddor gwych, z! yn aelod o'r "Birkenhead Cambrian Choral Society," acyncymerydrhanyn eichyngherddau. Yr oeddyncanu gyda'r corarblatfformEisteddfod Bangor y mis diweddaf,—ac o ganlyniad gyda'r buddugolion. Gall siarad tipyn o Gymraeg; ymdry yn mvsg ei gyd-dretwyr Cymreig; a thrwy ei natur dda, y mae yn ffefryn neillduol gan ddosparth lied luosog ohonynt. DYWEDIR fod canu eglwys Ein Harglwyddes ornrflll svdd sran v Pabvddion yn esgob- aeth Amwythig, i'r hon y perthyna, Cymro ydyw yr arweinydd, Cymro ydyw y prif bass, a Chymro oedd yr organydd byd yn ddiweddar, pan y symudodd i fod yn organydd Eglwys Babyddol arall-St. Ann's, Edge Hill. Dyma alegori brydfertb a welais yn rbywle yn ddiweddar y mae o darddiad Ogled dol-Scan- dinafaidd, yr wyf yn meddwlAm er maith, maith, yn ol, daeth angel ar ymweliad a'r ddaear a tharawyd ef gan noethder y creigiau ac mor ddiaddurn oedd llawer o'r mynyddau. Llanwyd ei galon a tbosturi tuag atynt; ac fe aeth i'r dyffryn lie yr oedd cyflawnder o flodeu a rhosynau yn tyfu a dywedodd, Pa un olrouocb a a i wisgo'r graig foel ? Nid oedd yr un ohonynt yn barod i symud dywedai llygaid y dydd wrth y meillion am fyned, ond ni cbyd- syniai yr un feillioren; plygai'r crinllys eu penau'n isel heb gymeiyd arnynt glywed y gofyniad a gwell oedd gan felyn y ddol aros lle'r oedd. Ond y Grug, planhigyn syml iawn y pryd hwnw, hyd yn nod heb ddysgu blodeuo, a atebodd yr ai ef i wisgo'r creigiau. Boddiwyd yr angel yn fawr, ymostyngodd at y planhigyi, isel ac a'i cyfarchodd, "Gan i ti gymeryd trugaredd ar y graig noethlom, druan, ac addaw ei chuddio a dy irlesni, bydd i ti o hyn allan ddwyn blodeuyn o liw serch ei hun. Yna torodd allan ar hyd cangau meinion y Grug glychau byehain o ttodionos lliwgoch, ag sydd wedi gwnend blaguryn y graig mor anwyl gan bawb o hyny allan. Ergyd y ddameg, wrtb gwrs, ydyw na chyll yr hwn sydd yn gwisgo'r noeth ac yn helpu'r tlawd byth mo'i wobr. b MEWN araith ar Ddirwest, a draddododd Esgob Bangor yn Nhowyn Meirhmydd, wythnos i heddyw, talodd ei arglwyddiaeth deyrnged o glod i fynycbwyr Eisteddfodau. Dywedai mai ychydig iawn o arwyddion meddwdod a gafwyd yn mysg y m loedd Cymry a ddaethant i'r wyl yn Aberhonddu a Bangor. CYMERAI Madame Edith Wynne ran flaenllaw mewn bazaar a gynhaliwyd yr wythnos ddi- weddaf yn Ngbroesoswallt, ar ran y Methodist- iaid Caitinaidd Seisnig. Ac wrth gynyg iddi ddiolchgarwcb cyhoeddus, dywedai y Parch. T. E. Roberts, y gweinidog, iddi fod o gymhorth annhraethol iddynt, nid yn unig hefo'i llais swyuol ond gyda'i llaw fedrus yn trefnu'r stalls. z, I

ICYMDEITHAS GENEDLAETHOL

o UNDEB YR ENWADAU.

: o : IGOHEBIAETHAU.

.CERDDORION EISTEDDFOD BANGOR.

o "CARMEN SYLVA."

--0--PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL,…

Advertising

Family Notices

Advertising