Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEIST ROBERTS, ESTATE AGENT, 24 Netherfield Road South, Has the following dwelling houses to Let:- Rent per week. 64, Aber Street, West Derby Rd. 6 apartments 6/3 7. Komilly Street, Kensington 6 „ ■ • 7/- 19, Ludwig Koad, Oakfield road 6 b/S 29, Monastery Road, Cabbage Hall .8 •• 7/o 36, Bunyan Street, Hall Lane ..6 71- 28, Everton Terrace 6 5/6 30, China Street, Nether field Road 6 j>/6 61,Beiesford Street, Prince Edwin St. 0 ••• > 61, Ho wat Street, Breck Road ..4 tm 23, Shallcross, Queen's Road 4 4/J 22, Spring-bank Road,Oakfield Rd ..6 • • y'J 29, Stonehill Street ..4 >> ti 72, Opie Street, Gt. Homer Street 6 • • £ 70, Hughes S reet, West Derby Rd •. 6 •• o.b 25, Lennox Street, Holt Road ..4 4/3 59, Ogwen Street, "West Derby Rd. 6 I] 39, Rokeby Street, Wm. Henry St. 5 W- G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. JONATHAN PARRY & SON, (Estate & Insurant Agents, 230, FALKNER STREET, LIVERPOOL. Rents Collected, Estates carefully managed. R, ANTHONY THOMAS & CO., #staUf 1!.tauZ£t attir 3nsuranre Agents, 6, BRECK ROAD, Everton, LIVERPOOL. jProperties Sold, Bents Collected, Mortgages Negotiated. Houses, &c., to Let. 8, Rossett Street, Rocky Lane 6/6 per week. 2, Letterstone Street, Breck Road 5/- do. 53, Bostock Street, Scotland Road 5/6 do. 62, Esmond Street, Cabbage Hall 8/6 do. S3, Ponsonby Street, Parliament Fields 7/- do. fl, Lickerton Street, Lark Lane 6/- do. 35 ifpurgeon Street, Poplar Street 4,- do. 11 Lemon Road, Kirkdale 6/- do. 21, K or h Dingle, do. 6/6 do. 9 St. Tu' no View, Everton Ter. 4/6 do. 18, Osborne Road, Belmont Road 34/8 per month. 36, do. do. 36/10 do. 56, Alwyn Street, Aigburth Road 36/10 do. 6, Kenmare Road, Sefton Park 43/-4 do. 2, Lenthall Street, County Road 36/10 do. 46, Belmont Road, large Baker's Shop 950 per annum. 187, Breck Road, large Shop P,26 do. 226, do. large House £26 do. H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, KSTATK AGENT, HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &c. 9 JONES & LEWIS, COAL MERCHANTS, 253, FALKNER STREET, LIVERPOOL. Agents for BREEZES. House Coal a speciality. THOMAS THOMAS & CO., Mettcftant Tailors, Late oll 13. TARLETON STREET ( London Road. LIVERPOOL. Oyflawnder o Frethynau cyfaddas at y Tymhor a Dillad am brisiau rhesymol. RICHARD W. THOMAS, CHARTERED ACCOUNTANT, 1 & 3, Harrington Street, L IVERPOOL T TNDERTAKES Accountancy in all its branches, U manages estates, and has a department for the collection of rents. ROBERTS & EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64; Kirkdale Road, Liverpool. All classes of House and Shop Property carefully and economically managed. S. ROBERTS, • 2, STANFIELD ROAD, ESTATE AND INSURANCE AGENT, Has the following Houses to Let, all in good repair and newly decorated :— 2, Stonewall Street, Everton. Rent, 5s. 6d. 3, Jefferson Street, Everton. Rent, 5s. 6d 3, Venmore Street, containing two kitchens, two parlours, pantry, and three bedrooms. Rent 6/9 clear. 9, August Road, Anfield, containing 6 rooms. Healthy situation, and close to tram and park. Rent, 7s. COLE & JONES, Sh i p an d I nsu ran ce Brokers, AXB COMMTSSLON AGENTS S, Brunswick Street" LIVERPOOL. TAl A SlOPAU AR OSOD. Y mofyner â HUGH JONES 378, N etherfteld Road, North. ADVICE to those about to Marry, A and who are Married. If you want SUBSTANTIAL HIGH-CLASS & STYLISH HOUSE FURNISHING GOODS, AT ECONOMICAL RATES, COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR CABINET FURNITURE. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR CARPETS. COME TO GRIFFITHS DAVIES FOR FLOOR CLOTHS. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR BEDSTEADS. GRIFFITHS & DA VIES, Geqeral Drapers aqd House Furnishers, 392, 394, 396, 398, SCOTLAND RD., LIVERPOOL. "ARCTIC STARCH," the finest Starch in the world. The strongest and best. USE NO OTHER. Get it from your Grocers. Llyfrau Cyhoeddedig gan Isaac Foulkes, 18, Brunswick St., Liverpool. ANEW (fac-simile) Edition of the Renowned Work, IOLO MANUSCRIPTS, being a selection of Ancient Welsh Manuscripts, in prose and Verse, from the collection made by EDWARD WILLIAMS (Iolo Morganwg) and intended by him as materials for a New History of Wales. With ENGLISH TRANSLA- TIONS and Notes by his son, TALIESIN WILLIAMS (Ab Iolo), of Merthyr Tydfil. Price, 21s. yMABliN,-uIUN CYMR)j.'IU, set Cnwectlau Y Rhamantus yr Hen Gymry (fel yr ysgrifenwyd hwynt-yn yr Hen Gymraeg, ac mewn Cymraeg ddi weddar). "Tedi pi rwymo mewn llian hardd, 17s. AFYDD AB GWILYM,-EI Waith Barddonol, ij yn cynwys rhai cywyddau na chyhoeddwyd o'r blaen, cyfieithiadau i'r Saesonaeg o rai o'r darnau goreu a bywgraffiad o'r Bardd yn Nghymraeg ac yn Saesonaeg. Tan olygiad CYNDDELW. Pris, 10/6. TREBOR MAI, Prif Englyniwr Cymru—Ei Waith Barddonol; yn cynwys ei Englynion, Caneuon, Cywyddau, &c., hefyd Darluti cywir ohono, a'i Fyw- graffiad. Pris, 5s GAIR I GALL YN DDIGON. Os ydych yn Dyoddef oddiwrth neu yn cael eich blino gan Anwyd, Peswch, Diffyg AnadL Anwydwst (Influenza), Orygni, Dolur Gwdcif, treiwch botel o SLAKOF. Y feddyginiaeth fwyaf effeithiol a rhataf at yr anhwylderau uchod. Pris, Naw Cfeiniog y Botel. Y Tic Doloreux, Y Ddanodd, Poen yn y Pen, Ochr y Wyneb a'r Gums, a phob math, o Boenau Gieuol (Neuralgic and Rheumatic Pains), yn mhob rhan o'r Corph, ceisiwch Botel o MICHAEL JONES'S CELEBRATED TIC MIX- TURE." "Y mae ei effeithiau yn rhyfeddol." Pris, l/He. y Bote). Ddiffyg Treuliad, Diffyg Archwaeth at Pwyd, Dwfr Poeth, Gwynt, Llawn- der ar ol Bwyta, Cyfog, Poeri yn y Pen, Iaelder Yspryd, Poen yn y Cafn, a rhwng yr Ysgwyddau, &c., cymerwch MICHAEL JONES'S NO^EI) DIGES- TIVE PILLS. Pris, 7Jc. a1/ljc. y BlTKch. Parotoir yn unig gan Q. WILLIAMS JONES, A.P.S., APOTHECARIES' HALL, FLINT. Gellir; eu cael gan unrhyw Fferyllydd parchus. WHOLESALB AGENTS EVANS, SONS & CO., LIVERPOOL.
-----__-__-_--Profedigaethau…
Profedigaethau Enoc Huws. Gail DANIEL OWEN, Wyddgrug. (Yr Hawlysgrif wedi ei Chofrestru.) PENNOD XXXI.-AMODAU HEDDWCH. DAETH Enoc i'r gegin fel y dywedwyd yn llipa ddigon, ac ebe y plismon wrtho- Yn awr, Mr. Huws, yr wyf wedi bod yn eglnro y gyfraith i Marged Parry-cyfraith Prydain Fawr a'r Iwerddon—mewn perthynas i helynt a all ddygwydd mewn ty o fusnes fel eich ty chwi. Mae Marged Parry erbyn hyn yn gwybod lie y byddai hi yr adeg yma bore fory oni bae eich bod chwi yn ddyu trugarog, ac y mae yn edifarhau am ei tbrosedd ac yn addaw seinio cytundeb y bydd iddi hi o hyn allan fod yn ufudd i'ch gorchymynion, teidi yn y ty, gofalus am eich cysuron, ac adnabod ei lie mai morwyn ydyw ac nid meistres, ac na chaiff hi byth fod yn feistres yn y ty hwn, hyny ydyw, os byddwch chwi mor garedig a maddeu yr hyn sydd wedi pasio, a rhoi ail dreial arni. A ydach chi, Mr. Huws, yn teimlo y gellwch wneud hyny ? A ellwch cbi edrach dros yr hyn sydd wedi dygwydd ? Yr insult, y cam yr ydach chi wedi gael oddiar law un sydd wedi derbyn cymaint o'cb caredigrwydd ?" Yr wyf yn meddwl y medraf," ebe Enoc, heb wybod yn iawn pa fodd i ateb Jones. "Yr ydach chi'n un o fil, syr," ebe Jones. Mi welais rai dwsiniau yn cael eu rhoi yn jail am ddwy flynedd am drosedd llaina'r un y mae Marged Parry yn euog ohono. Yn awr, Marged Parry, gan fod Mr. Huws mor drugarog, a ydach chi yn edifarhau am eich pechodau, ac yn gofyn maddeuant Mr. Huws am wel, am beth sydd yn rby atgas i'w enwi ?" Ni ddywedodd Marged ddim, ond sobian crio. "Mae'n rhaid i mi gael ateb, Marged Parry, neu wneud fy nyledswydd," ebe Jones, a chododd ar ei draed a gafaelodd yn yr handcuffs. Mr. Jones —— ebe Enoc, arfedrcymeryd plaid Marged, ond atebodd Jones yn union- Mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd, Mr. Huws. Os nad ydyw Marged Parry yn barod i ofyn eich maddeuant, ac addaw bihafio 'i hun, 'does dim ond jail neu Seilam Dinbech i fod. Be ydach chi'n ddweyd, Marged Parry ? Un gair am dani." Ydw," ebe Marged rhwng gwaeddi a chrlo, a threiglodd deigryn dros rudd Enoc o dosturi ati. Purion," ebe Jones. Un o'r pethau casaf gen i ar y ddaear, Mr. Huws, ydyw cymeryd neb i'r carchar, yn enwedig merch, ac mae'n dda gen i wel'd Marged Parry yn ddigon call i edifarhau am ei bai ac addaw diwygio. Mi ddeuda i chi beth arall, Mr. Huws, welais i 'rioed ferch yn cael ei cbymeryd i'r jail nafydde hi farw yno yn fuan, acbos y mae nhw yn eu trin yn ddychrynllyd-ehoeliech chi byth. Yrwan," ychwanegodd Jones, gan eistedd wrth y bwrdd-" dowch yma a seiniwch y papur yma, achos mae'n rhaid gwneud pobpeth fel mae'r gyfraith yn gofyn." Fedra i ddim sfenu," ebe Marged. Mae'r gyfraith yn caniatau i chi roi croes," ebe Jones. Daeth Marged at y bwrdd ar hyd ei—hyny ydyw, o'i hanfodd, ac wedi i Jones roi ei fys ar fan neilld uol ar y papur, gwnaeth Marged globen o groes agos gymaint a melin wynt. Yrwan, Mr. Huws," ebe Jones, "faint o gyflog sydd yn ddyledus i Marged Parry ?" Pum' punt a chweigen, 'rwyf yn meddwl," ebe Enoc. "Dowch a nhw yma bob dime," ebe Jones. "Beth am y codiad 1" ebe Marged, wedi iachau nid ycbydig. Yr ydach chi wedi fforffedio y codiad drwy gamymddygiad, ac mae'n rhaid i chi enill eich caritor yn gyntaf cyn son am y codiad," ebe Jones. I Hwyrach ——" ebe Enoc. "Mr. Huws," ebe Jones, oblegyd gwelai fod Enoc yn toddi, talwch chi'r arian sydd ddyledus i'r forwyn, achos mae'n rhaid myn'd ymlo en yn ol y gyfraith." Estynodd Enoc yr arian i Jones, a chyf- lwynoddJones hwynt i Marged, ac ebe fe- "Yn awr, Mr. Huws, mi wn eich bod yn ch ddyn tynera thrugarog, a mi wn na ddymunech chi ddim gwneud niwed i hen ferch ddigartre, na thori ei charitor a wnewch chi addaw peidio son gair byth wrth neb am yr helynt yma, ar eich gwir yrwan ?" "Soniai air byth wrth neb os -1) ebe Enoc. 'Does dim os i fod am y peth, Mr. Huws," ebe Jones, "yr wyf yn crefu arnoch er mwyn hen greadures fel eich morwyn i beidio menshon y peth byth wrth neb, achos bvdae'r hanes yn myn'd allan fe fydde Marged Parry druan yn sport gan bawb. Fydd y llygaid duon yna ddim yn hir yn mendio, a rhaid i chi wneud rhyw esgus—eich bod wedi taro eich pen yn mhost y gwely, neu rywbeth arall, a pheidio dweyd ar un cyfrif mae eich morwyn a'ch tarawodd pan oedd yr ysbryd drwg yn ei meddianu. Wnewch chwi addaw Mr. Huws I Dowch, byddwch yn ffeind ? 'Rwyf yn gwybod nad ydi hi ddim yn baeddu byny, ond wnewch chi addaw cadw y peth yn ddistaw ?" Gwnaf," ebe Enoc. Yr ydach chi'n un o fil, meddaf eto," ebe Jones. "A 'rwan, Marged Parry, gofalwch chithe arwain bywyd newydd, a pheidio tem- tio'ch mistar i adael i'r son am yr helynt yma fyn'd allan, achos bydae o unwaith yn myn'd allan, mi fyddech yn sport i'r plwy', a fe fydde boll blant y dre yn gwaeddi ar eich bol. A cUofiwch chitbe, Mr. Huws, os bydd genych y gwyn leia yn erbyn eich morwyn-ddim ond y smic ll^ia—deudweh wrtba i—yr ydw i'n pasio'ch fy bob dfdd-a mi ofala i am gael trefn ar bèthe-achps cyfraith ydyw cyfraitb, ac wn i ddim be ddeuthe ohonom ni oni bae am y gyfraith. Wrth gofio, os byddweh eisiau morwyn y mae gen i nith sydd yn first-class housekeeper-yn sgolor gampus, ddaw atoch cLi ar (Idiwmod o rybudd, bydae chi'n hapnio b< i mewn angen am nn. Wel, yrwan, y mae'n rhai i. i mi fyn'd, ond y mae gen i eisiau siarad gair a cbi yn breifet, Mr. Huws, yn nghylch y gyfraith sydd yn rheoleiddio ty o fusnes fel eich ty chi." Teimlai Enoc unwaith eto yn obeithiol ac yn llawer ysgafnach ei fynw'es. Edrychai ar Jonts fel ei angel gwarcheidiol. Wedi i'r ddau fyned eilwaith i'r parlwr, ebe Enoc, gan rwbio ei ddwylaw, a gwenu yn siriol- Wyddoch chi be, un garw ydach chi, Mr. Jones. Wn i ddim be faawn i wedi wneud oni bae i chi ddygwydd d'od yma." "Mr Huws," ebe Jones, "rwyf wedi cael llawer o brofiad efo pethau fel hyn, ac yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich gosod ar dir dyogel unwaith eto. Bydd eich cysur dyfodol yn dibynu'n hollol arnoch chi eich hun-hydy ydyw, ar y modd yr ymddygwch at eich morwyn. Mae hi mor ignorant a meipen ac ar ei hignoranca y darn mi weitbio-dyna oedd yr idea. A. mhrofiad i ydyw hyn Weles i rioed lances o forwyn anwybodus a drwg ei tbymher, os trowch: chi'r min ati na chewch chi wel'd mai coward hollol ydyw. Yn awr, Mr Huws, os ydach chi am gael heddwch a chysur yn eich ty, dangosweh mai chi ydi'r mistar. Mi gymra fy llw, syr, bydae chi'n troi'n dipyn o deirant am wytbnos y bydd-'r hen Wenhwyfar fel oen i chi. A dyna raid i chi wneud. Bloeddiwch arni rwan ac yn y man, a gwnewch iddi wneud pethe nad oes angen am eu gwneud, just i ddangos mai chi ydi'r mistar. Oni bae eich bod yn grefyddwr mi faswn yn eich anog i roi ambell regfa iddi nes bydd hi n downsio. Ond 'does dim eisiau i cbi fynd cweit mor bell a hyny. Ond mi ddeuda hyn, os na ddangoswch chi'r dyn, os na chodwch eich cloch a dweyd iddi pwy ydi pwy, fyddwch cbi damed gwell. Yr ydw i wedi bwrw yr ysbryd aflan allan oboni-ac mi fase'n dret i chi wel'd i gwyneb hi pan oeddwn i'n dweyd y drefn wrthi-ond os na actiwch chi'r dyn, Mr Huws, a dangos eich awdurdod, fe aiff saith ysbryd aflan arall i mewn i'r llances ac mi fydd yn waeth arnoch nag erioed, coeliwch cbi fi." "'Rydach chi'n deyd reit wir, Mr Jones," ebe Enoc, ac mae'n rhaid i mi dreio, er y bydd yn anodd, bod yn fwy 0 fistar. 'Rydw i wedi dyodde mwy nag a goeliech chi, a mae hithe wedi mynd yn hy arna'i." Mi ddof i mewn yrwan ac yn y man," ebe Jones, megis i edrych ydi pobpeth yn myn'd yn mlaen yn iawn, a mi cadwiff hyny hi danodd." Pan oedd Jones yn llefaru y geiriau oltif gwelai Enoc forwyn Tynyrardd yn croesi'r beol at ei ddrws a nodyn yn ei 11aw, ac wedi gofyn i Jones ei esgusodi am foment rbedodd Enoc i'r drws, gan gnddio ei lygaid a'i law rhag i Kit weled y cleisiau, i dderbyn y nodyn, a dychwel- odd yn y fynud. Wedi agor y nodyn a'i ddarllen iddo ef ei hun, ebe Enoc— Wel, dyma hi eto Beth sydd yrwan, Mr Huws 1 ychwaneg o brofedigaethau ? ebe Jones. "Ie," ebe Jones yn alaethus, "gwaboddiad oddiwrth Mrs Trefor i fynd yno i swper heno i gyfarfod ein gweinidog, a sut y iredra i fyn'd A dau lygaddii gen i ? Yr ydw i'n alilwcus--fu neb erioed mor anlwcus "Fe ellwch fyn'd yno yn reit hawdd," ebe Jones, A oes genoch chi biff heb ei gwcio yn tý 1 Oes, 'rwyf yn meddwl," ebe Enoc. O'r gore," ebe Jones, Mi wn na ddaru chi gysgu fawr neithiwr, ac wedi i chi gael eich brecwest torwch ddau sleis o biff cul, ac ewch i'ch gwely—mi fedr y llanciau yn siop neud heboch yn burion-a rhowch sleis un ar bob llygad, ac aroswch yn eich gwely dan ganol dydd—ie hyd ddau o'r gloch-ac oo-medrwch chi gysgu gore oil. Erbyn un neu ddau o'r gloch, mi ffeindiwch y bydd y cleisiau duon dan eich llygad wedi diflanu'n lân, ac erbyn yr amser y bydd eisieu i chi fyn'd i Dynyrarddmi fydd weh yn all right. Rhag gwastraffu fe neiff y ddau sleis burion ciuio i'r gath wed'yn." Chwarddodd Enoc at gynildeb Jones, ac ebe fe— Wel, yn wir un garw ydach chi, Mr Jones, weles i rioed eich sort chi. Mi treiaf o beth bynag." "Mae o'n siwr o ateb y diben," ebe Jones, "a rwan mae'n rhaid i mi fyn'd, Mr Huws, achos mae hi'n review day." Hoswch, wn i ddim pryd y do'i allan o'ch dyled chi-cymerwcb hon rwan," ;ebe Enoc gan roddi sofren vn Haw Jones. Edrychodd Jones ar y sofren ar gledr ei law, a throdd lygad cellweirus ar Enoe ac ebe fe- 'Rydach chi'n rhy haelfrydig, Mr Huws. Ydach chi am i mi reteirio o'r force ar unwaith ? Wel, 'does gen i ond diolch yn fawr i chi, a chofiwch fy mod at eich gwasanaeth, Mr Huws." "Peidiwch a son, fe gawn siarad eto, good morningebe Enoc. (l'w barhau yn ein nsaf.)
-—o. .CAERLLEON.
—o CAERLLEON. COR UNDEBOL CYMKEIG. FFURFIWYD y cor hwn o Gymry o wahanol gapeli ac Eglwys Gymreig y ddinas hon ychydig fisoedd yn ol. Penodwyd Mr Arvon Parry yn arweinydd. Nos lau diweddaf cynhaliwyd cyngherdd yn y Neuadd Ddirwestol er budd y cor, o dan lywyddiaeth Mr H. Jones,trysorydd, a Dr J. Roberts, M.D.,llywydd y gymdeithas. Yr oedd yno gynulliad da a phurion canu hefyd. Cawsom ddiolchgarwch doniol i'r llywyddion, ac esboniad newydd ar hen adnod—y cadeirydd tra tawo a gyfrifir yn ddoeth." Nis gwn pa un a geisid cyfleu mai ffol y cyfrifid y llyw- yddion. Fodd bynag, cafwyd noson eithaf ddifyrus. CYFARFOD ADLONIADOL. Cynhaliwyd hwn nos Wener, yn Ysgoldy Capel Albion Park. Llanwyd y gadair gan Mr D. Thomas, Exton Park. Aeth drwy ei waith yn ddeheuig- Cafwyd datganiadau, adroddiadau, &c., gwir dda. Aethat a, gormod o'ch gofod i enwi pob un a odd ran yn y cyfarfod, heiblaw fod perygl digio rhai drwy annghofio eu henwi. LLN.