Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

HELBULOK ANEURIN HYWEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELBULOK ANEURIN HYWEL. [Gan Ap CYFFIN.] PENNOD IX.-PROFEDIGAETH ARALL. YR oedd Aneurin erbyn hyn yn dyfod yn mlaen yn gampus yn y masnachdy-wedi cael dyrchafiad gam yn uwch mewn satie, a chael rhagor o gyflog, a chanddo ragolygon gobeithiol oli flaen. Nid oedd yr iaith erbyn hyn o un rhwystr iddo—cynyddai yn ei Saesneg yn ddyddiol, fel yn mhob peth arall. Ni bu yn fwy diolchgar am ddim erioed nag am ei fod wedi dianc megys o ddanedd y brofedigaeth o'r bitten yn ddianaf. Gwelodd ynddi fod yn rhaid iddo fod yn barod yn ami i wynebu amgylchiadau a phrofedigaethau cioesion mewn bywyd nad allai wrthynt, ac nad oedd iddo ond gwneud y goreu o'r gwaethaf yn fynych. Ond er i'r cwmwl hwn ddifrifoli llawer arno ar y pryd, nid hir y bu heb ymsirioli eilwaith i'w ddireidi arferol, fel y cawn weled. Yr oedd erbyn hyn wedi bod yn Manceinion ychydig dros ddwy flynedd o amser ac un diwrnod, pan yn cerdded un o heolydd y ddinas, y mae'n ddamweiniol yn cyfarfod a. chyfaill iddo nad oedd wedi ei weled er pan oedd gydag ef yn yr ysgol ddyddiol. Mab tyddyn heb fod yn mhell o gartref Aneurin oedd hwn, o'r enw Gwilym Prydderch. Bachgen ieuanc oedd Gwilym o dueddfryd hollol wahanol i Aneurin. Llefnyn teneu, gwyneblwyd, difarf, a diniwed yr olwg arno. Bu y ddau yn cydchwareu llawer y dyddiau gynt ar lethrau Hiraethog ac fel y mae'n hawdd cyneu tan ar hen aelwyd, hawdd iawn oedd ail gyneu tan cyfeillgarwch cydrhwng y ddau hyn Buan y daethant yn hyfion ar eu gilydd fel cynt. Yr oedd y ddau yn meddu chwaeth at efrydu, ac yn hoff iawn o lyfrau. Anfynych y cydwelent ar unrhyw bwnc. Yr oedd Gwilym yn fwy hen ffasiwn yn ei syniadao ar bobpeth na'i gyfaiil, a dadlu y byddent fyth a hefyd ar wahanol bynciau. Yr oedd Gwilym o duedd drymllyd a phrudd- glwyfus, ond meddai lawer iawn o ddewrder a beiddgarweh wedi iddo gael ei gynhyrfu. Yr oedd Aneurin wed'yn, fel y sylwyd, o duedd nwyfus a direidus, ac eto heb fod yn ol i Gwilym mewn gwroldeb. Bardd oedd Aneurin, a duwinydd oedd Gwilym, ond gwyddai agos gymaint ag yntau am farddoniaeth hefyd felly hefyd am y llall yn nglyn a duwinyddiaeth. Nid oedd dim a hoffai y ddau yn fwy na chystadlu yn erbyn eu gilydd. Bryd bynag y byddai areithio difyfyr i gymeryd lie yn un o gyfarfodydd llenyddol Cymreig y ddinas, byddai y ddau broo yn sicr o fod yno, yn cystadlu yn erbyn eu gilydd. Os curai Aneurin un tro byddai Gwilym yn debyg iawn o guro y tro wed'yn ac ni chyfyngent eu hymrysonfa i'r maes llenyddol yn unig ychwaith-heriertt eu gilydd yn nglyn a. phobpeth bron-" They agreed to differ," fel dywed y Sais. Peth cyffredin yn eu hanes hwy oedd ceisio rhedeg" eu gilydd gyda merched ieuainc er dangos pwy oedd y dyn goreu a phan fuasai un yn myned i ddanfon merch ieuanc adref heno, buasai y llall bron yn sicr o fyned i'w danfon nos yforu os caffai gyfle, a hyny i ddim ond rhyw ddireidi gwag, ac i herian ar eu gilydd. Yr oedd y naill mor euog yn hyn o beth a'r Hall, ac nid oedd- ynt ddicach wrth eu gilydd yn y diwedd—fel pe buasai rhyw gyd-ddeallwriaeth rhyngddynt i gyd- ymgystadlu yn mhob dim heb eiddigeddu y naill wrth y llall. Parhasant yn gyfeillion selog drwy bobpeth. Cyn pen hir aeth Aneurin i lettya i'r un ty a Gwilym, a llawer o hwyl a difyrwch a gawsant gyda'u gilydd, Byddai teulu'r ty yn fanwl iawn am iddynt gadw oriau da y nos-yr oedd gorchymyn caeth ar i'r ddau fod i mewn cyn deg o'r gloch, a buont dda yn hyn. Ond un noson yr oedd Gwilym yn hwyrach nag arfer yn dod i mewn, ac Aneurin yn aros ar ei draed am dano, a phan ddaeth y mae'n dweyd pa le y bu-ei fod wedi taro ar lodes ieuanc yn Piccadilly, ac wedi bod yn ei danfon adref yn Fallowfield, a desgrifia Èti hawdd- garwch mewn gwisg a gwedd, gan roi math o her i Aneurin gael hyd i'w thebyg, yna dengys ei Haw. ysgrif. Yr oedd wedi ysgrifenu ei chyfeiriad iddo, sef Miss Edith Pugh, 10, Yew Terrace, Fallowfield. Cofiodd Aneurin y cyfeiriad, a gwelodd fod gan Gwilym gryn feddwl o'r lodes. Yr oedd yr her gafodd ganddo wedi codi ysbryd ymryson ynddo yma eto, a phenderfyna, o ran tipyn o ddifyrwch, ysgrifenu llythyr ati hi o'r masnachdy heb ddweyd un gair wrth Gwilym, ac nid oedd odid neb allai ei guro ar lythyr serch. I gychwyn, y mae'n addef nad oedd erioed wedi gweled Miss Pugh, ond ei fod wedi clywed llawer o son am ei hawddgarwch a'i doniau, &o., gan un a'i hadwaenai yn dda. Dy- munid ar iddi hi ymohebu ag ef, ac y caent weled eu gilydd rywbryd pan y byddai hyny yn hwylus iddi hi. Cafodd yntau lythyr yn ol oddiwrthi yn cydnabod derbyniad yr eiddo ef-ond nid yw yn rhwymo ei hunan i ddim, nac yn penderfynu ar unrhyw adeg iddynt weled eu gilydd. Derbyniodd Gwilym hefvd lytbyr oddiwrthi oddeutu yr un adeg, yn ei hysbysu ei bod yn bwriadu talu ymwel- iad ag ef wythnos i'r dydd Sadwrn canlynol, oddeutu tri o'r gloch y prydnawn. Cadwodd Gw.ilym hyny iddo ei hunan, gan feddwl y buasai yn rhoi tipyn o surprise i Aneurin. Yn y cvfamser yr oedd te parti yn cael ei gynal yn ysgoldy y Bedyddwyr, ac aeth Aneurin yno gyda rhyw fachgen ieuanc a adwaenai, a phwy oedd yn eistedd agosaf ato, a'r ddau yn hollol ddyeithr i'w gilydd, ond Miss Pugh Yr oedd y ddau yn eu hwyliau goreu uwchben y te, ac wedi mwynhau eu hunain yo nghwmni eu gilydd, er fod y ddau yo ddyeithr i'w gilydd, ac i bawb yn y lie. Y mae Miss Pugh wedi cael Ile i feddwl mai efe oedd yr Aneurin a ysgrifenodd ati hi, am fod ei gyfaill wedi ei alw wrth yr enw, ac Aneurin yn enw lied annghyffredin, ond tybiodd y lodes mai doeth fuasai iddi beidio datguddio ei hunan hyd nes y deuai i ryw becderfyniad yn nglyn a Gwilym, ac y caffai fantais wedi iddi ei weled y Sadwrn can, lynol i wneud ei meddwl i fynu pa. un o'r ddau i lynu wrtho. Gwelir wrth hyn fod y ferch yn 'I gymaint o lwynoges ag oedd Aneurin o Iwynog. Yr oedd am gadw y ddau yn ei gafael am ryw hyd, a charu'r ddau heb garu 'run Dydd Sadwrn a ddaeth pryd vr oedd Miss Pugh i al w gyda Gwilym yn ei letty. Cyrhaeddodd yno erbyn tri o'r gloch carodd wrth y drws, a phwy ddaeth i'w agor yn Ilewys ei grys ar ganol ymolchi ond Aneurin Yr oedd hi ac yntau, fel y gellir tybio, wedi eu taro a mudandod, a Gwilym o'r ochr arall yn tnethu yn deg a deall pethau. Gwelodd fod Aneurin a Miss Pugh rywfodd yn adnabod eu gilydd, ond methai'n la,n a deall euogrwvdd a ffwdanrwydd ) Aneurin, a methai hefyd ddarllen gwynebpryd Miss Pugh; gwelai ei bod wedi cynhyrfu yn ddirfawr pan welodd Aneurin, a bod gwg ar ei gwedd. Nid oedd dadi nad oedd Miss Pugb wedi ei tharo i syn- dod mawr pan welodd fod y ddau ymgeisydd yn byw yn yr un ty, a naturiol oedd iddi hi dybio fod y ddau wedi gwneud S'u gilydd i chwareu tric hi. Ond ni bu hi yn hir heb ddeall na wyddai Gwilym ddim am lythyrau Aneurin, na'i heiddo hithau ato yntau. Croesaw syml a siriol a gai ar wedd Gwilym, ac euogrwydd dyn yn dianc heb ei erlid ar wedd y llall. Nid arosodd funyd yn y ty, ac ni chaed nemawr o hwyl ar Miss Pugh y dydd hwnw. Methai Gwilym ddeall o gwbl y gwahaniaeth dirfawr oedd ynddi rhagor yr adeg y bu yn ei ehwmni o'r blaen, oblegyd nid oedd neb mwy ffraeth na phert na hi pan yn ei hwyliau ac wrth ei bodd. Ond pan allan o'i thymher, meddai ar gyflawnder o chwerwedd a digofaint, a gwae y neb a'i tramgwyddai. Ni raid dweyd ei bod wedi digio yn enbyd wrth Aneurin. Credai mai ei unig amcan oedd gwneud sport ohoni. ° Ar ol cyrhaedd adref y noson hono, ysgrifenodd ato lythyr chwerw annghyffredin, yn ei gyhuddo o'r brad mwyaf yn erbyn Gwilym a hithau, ac yn ei hysbysu, os oedd yn meddwl ei fod yn alluog i wneud ffolog ohoni hi, ei fod wedi methu ei dderyn. Yna mae n bygwth galw neu anfon ei hanes at ei feistr I r masnachdy. Bu hyn yn brofedigaeth fawr i Aneurin. Gwy- dd&i yn eithaf da na fuasai raid i Miss Pugh ond awgrymu rhywbeth felly i'w feistr na fuasai yn colli ei le. Gwyddai y buasai ei hymddangosiad yn ddigon-geneth dA], luniaidd, cyn sythed a brwynen, gwallt crych, llygaid ac aeliau duon fel y fran, gosodiad boneddigaidd, a thynerweh yn dawnaio ar ei phryd a'i gwedd. Yr oedd hefyd yn Saesnes dda, a chanddi iaith dlos a chwaethus, a gaUu i osod cais neu gwyn gerbron un yn y drefn a'r arddull oreu, ac yn bynod effeithiol mewn gait neu lythyr Gwyddai Aneurin hefyd am achosion tebyg yn y ty a u canlyniadau. Heb golli moment o amser, mae n eistedd i lt-wr ac yn ysgrifenu ati hi, gan ddangos ei ofid, ac yn hyderu y buasai yn maddeu tddo, gan mai direidi diniwed yn unig fu'r achos iddo anfon ati, ac nid brad at Gwilym o gwbl, ond yn hytrach rhyw asbri gwirion a di- ddichell; gobeithiai gael dangos hyny iddiy nos Fer- cher dilynol, gan ei fod wedi penderfynu dyfod i'w gweled y noson hono os na chatfai air oddiwrthi yn ei atal. Mae'n amlwg i lythyr Aneurin liniaru tipyn ar ddigofaint Mjss Pugh, onide buasai'n gyru ato na fynai ei weled pan y deuai. A phan ddaeth y ,.U noson cymerodd Aneurin y tram i Fallowfield. Noson bur dyweU ydoedd ac agos i'r Nadolig acr wedi cyrhaedd Fallowfield, mae'n holi yno am Yew Terrace, a thrwy ryw amryfusedd y mae'n cael ei gyfarwyddo i New Terrace. Wedi cyrhaedd, y mae'n cerdded ol a blaen ar hyd y Terraca nes dod o hyd i ffigyr 10, ac yna aeth i gefn y ty, a golwrf lied lechwraidd arno, fel y gellir tybio. Yr oedd y busnes oedd ganddo mewn Ilaw yn peti iddo deimlo'n lied wylaidd. Fel y digwyddai, yr oedd yr ardal hon wedi cael ei pboeni yn fawr yn ystod y ddau fis blaenorol gan ladron, ac amryw dai wedi tori mewn iddynt bron yn mhob heol, ac amryw heddgeidwaid mewn dillad cyffredin wedi eu gosod i wylio oddiamgylch i geisio dwyn y lladron i'r ddalfa. Beth bynag, yr oedd un o'r cyfryw wedi canfod Aneurin yn dod i'r Terrace, ac wedi ei wylio yn gwag-rodio oddiamgylch, a golwg lied amheus arno a phan oedd ar gyrhaedd rhif 10 yn y cefn y mae'r heddgeidwaid yn taro ei law ar ei ys- gwydd ac yn ei gyhuddo fel hyn I charge you with loitering with bad intent." Fel y gellir meddwl, dychrynwyd Aneurin i'r fath raddau fel nad allai yngan gair am beth am- ser. O'r diwedd, gwnaeth g:iis i auiddiffyn ei hun, gan ddweyd ei neges ond choeliai yr heddgeid- waid mohono o gwbl am fod golwg mor lladradaidd arno. Beth ydyw enw'r lodes ?" ebe'r swyddog. Msss Pugh," atebai Aneurin. Aeth y swyddog i mewn i wneud ymchwiliad, ac nid oedd yno lodes o'r enw o gwbl, na'r un Miss Pugh wedi bod yno erioed. Gan ei bod mor agos i'r Nadolig, gwelai'r hedd- was le da i ddisgwyl calenig gan wr y ty am ei ofal dros y lie ar hyd y flwyddyn. A gwnaeth ei oreu i osod arbenigrwydd ar y peth. Beth yw enw gwr y ty ?" meddai. Wyddai Anenrin ddim. Wei, rhaid i chwi ddod efo fi." Ac felly, wedi tori ei galon yn lan, cymerwyd Aneurin i'r lockup. Wedi cael ei hun yno, natur- iol oedd iddo droi ei olygon tua'r He yr oedd de- bycaf o dderbyn ymwared. Yr oedd y gwyn yn ei erbyn yn un rhy ddifrifol iddo gael ei ollwng allan hyd foreu dranoeth dan law meichiafon a 'doedd ganddo ddim i'w wneud ond anfon at Gwilym am gvmhorth, ac addef ei holl gastiau yn ei gefn wrtho, erfyn ei faddeuant, a gofyn iddo wneud ei oreu i'w gael allan o'i drybini. (I barhau.) -0-- Mae Due Westminster wedi rhoddi tir a 200p at sefydlu darllenfa a neuadd adloniant yn Helygain.

PEIRIANT CYWRAIN.