Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--0,---Cyfarfyddiad y Senedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0, Cyfarfyddiad y Senedd. ARAITH x FRENHINES. DDYDD Mawrth agorwyd chweched tymhor pedwer- ydd Senedd ar ddeg ei Mawrhydi. Darllenodd yr Arglwydd Ganghellydd Araith y Frenhines fel y eanlyn Fy AKGLWYDDJ A BONEDOIGION, Mewn cyfnod byr iawn wedi'r oediad diweddar, fe'n gorfodir gan amgylchiadau perthynol i'm hym- erodraeth i ail ymgynghori a. chwi a gofyn eich cyn- orthwv. Y mae sefvllfa pethau yn Neheudir Affrica wedi ei wneud vn'angenrheidiol i'm Llywodraeth fod yn alluog i gryfhau nerthoedd milwrol y wlad hon trwy 11 alw allan y gwyr wrth gefn. I'r dyben hwn mae darpariadau y gyfraith yn peri fod rhaid galw'r Senedd yn nghyd. Ac eithrio'r anhawsderau a achoswyd gan ym- ddygiad Gweriniaeth Deheudir Affrica, y mae sef- yllfa'r bvd yu parhau yn heddychol. PoXEDDIGION Ty Y C VITREI)IN, Gosodir mesurau ger eich bron i'r pwrpas o ddar- paru ar gyfer y treuliau fu, neu a ddichon fod, weiieu lachosi gan amgylchiadau yn Neheubarth Affrica. Gyflwynir yr Amcangyfrifon am y flwvdd- vn ddyfodol i chwi maes o law. 'Fy ARGLWYDDI A BONEDDIGIOK, Y mae amryw faterion o ddyddordeb cartrefol y gwahoddir eich sylw atynt mewn adeg ddiweddarach, pan y cyrhaeddir tymhor arferol y gwaith Seneddol. Ar hyn 0 bryd, gwahoddais eich presenoldeb mewn trefn i ofyn i chwi ymwneud a chyfwng arbenig, ac yr wvf yn gweddio am i chwi gael arweiniad a ben- dith y Duw Hollalluog yn nghyflawniad y dyled- swyddau sydd yn hawlio eich sylw. Yn Nhy'r Arglwyddi, siaradodd larll Kimberley ac Argl. Salisbury ar yr Araith ac yn Nhy'r Cyff- redin, Mr Balfour, Syr H C Bannerman, ac eraill. Cynygiodd Mr Dillon welliant, a chefnogodd Mr Labouchere, yn bwrw'r bai am y sefyllfa. bresenol ar ymyriad diachos v Llywodraeth Brydeinig yn mat- erion mewnol v Transvaal. Gwrthodwyd y gwell- iant gyda 322 yn erbyn 54. Gohiriwyd y ddadl hyd heddyw (ddydd Mercher). Mewn cyfarfod o'r Blaid Ryddfrydol Gymreig, yn unol a'u harferiad ar Agoriad y Senedd, etholasant yn unfrrdol Mr Alfred Thomas yn gadeirydd, Ychjdig o'r Aelodau Cymreigsy'ndebyg.o ddilyn Jingovddiaeth Mri Ellis Griffith a Brynmor Jones, tra y gall Mr Bryn Robeits ddybynu ar gydolygiad Mri Lloyd George, Herbert Roberts, Herbert Lewis, S Smith, S Evans, W Jones, ac un neu ddau eraill.

- Lleol

i ! Marwolaeth Charles Ashton.

Newyddion Diweddaraf.

Advertising

Cyrddau y Dyfodol, &o.

Advertising

Family Notices

Advertising

Y Transvaal.