Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cyfarfod Can'mlwyddiant Wesleyaeth…
Cyfarfod Can'mlwyddiant Wesleyaeth 1 Cymreig. TRA y mae Wesleyaid Cymru yn hwylio i gynal y dathliad mawr yn Ratbin, barnwyd mat priodol fuaaai i Wesleyaid Cymreig y ddinas hon wnend rhywbeth eu hunain yn ngtya &'r Can'mlwyddiant. NOB Lua diweddaf, yn addoldy Shaw Street, cynaliwyd cyfarfod i'r pwrpas hwnw, pryd y daeth cynuileidfa fawr at eu gilydi o wahanol gapalau y ddwy gylchdaith, a nifer dda o blant o'r Ysgollon Sabbothol. Cymerwyd y gadair gan Mr. Peter Davies, Smithdown Road, a chafwyd ginddo anerchiad dyddorol, yn yr hon y cynaarai sefyilfa bres- enolyr enwad ya y ddinas gyda'r byn ydoedd pan ddaeth ef i Lerpwl gyntaf. Un ffaith a ddangosai ea cynydd oedd fod gwerth eu capel- au er yr adeg hono wedi cynyddu dros wyth mil ar bngain o bunau. Gwerth yr eiddo cyf undebol yr adeg hono oedd 26, 000 erbyn byn, yr oedd capalau y ddwy gylohdaith yn werth £ 34,350, ac nid oedd ond ychydig o ddyled yn arcs arnynt. Nid oedd efe yn Wesleyad o waed ond o ewyllys, a theimlai yn falch o fod yn parthyn iddynt. Fel Wesleyaid Cymreig yr oedd ganddynt hanes gwerth ymffrostio ynddo. Galwai yn gyntaf ar Mr J. Jones, London Grove, i siarad ar "Bin Lleygwyr a'u Gwaith." Dywedodd Mr. Jones mai ar Dy y Cyffredin ac nid Ty yr Arglwyddi yr oedd ef i siarad. Y blaenoriaid a'r swyddogion lleygol yn mhlith y Wesleyaidd oedd yn dyogolu sefydlogrwydd yn yr eglwysi a'u gwaith. Gan fod y gweinidogion yn syraad bob tair blynedd, yr oedd galwad arbenig am i'w blaenoriaid fod ya ffyddlon. Nid oedd unrhyw eglwys yn dibynu mwy ar ei blaenoriaid na hwy. Er nad yn amlwg iawn yn hanes y ganrif, gwnaethant wasanaeth an- mhriaiadwy i'r achos. Elfen o wendid yn eu heglwysi oedd fod y gwaith yn cael ei gyflawni gan yr ychydig tra y boddlonai y lluaws ar dderbyn yn unig. Galwai ar bob aelod i ym aflyd mewn gwaith. Swydd nen beidio yr oedd pob lleygwr i fod yu weithlwr Cristionogol. Y Parch R Lloyd Jones a alwyd ya nesaf i siarad ar "Ein Pwlpud." Teimlai Mr. Lloyd Jones nad oedd bosibl dathlu y can'mlwyddiant yn brlodo), heb alw sylw at y pwlpud, oblegyd bwn dan Diuw a roes f6d i'r enwad, a gwaith effeithiol y :pwJpnd a ddyogela ei barhad a'i Iwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd pob enwad Cymreig wedi magu cewri pregethwrol o dro i dro, a da oedd ganddo feddwl na bu yr enwad Wesleyaidd ar ol. Rhoddwyd iddynt y fath bregethwvr a Thomas Aubrey, Rowland Hughes, William Davies, John Hugh Evans, a John Evans (Eglwysbctch), a phwv allai feddwl am y cewri byn heb deimlo fod gogoniant yn perthyn i'w pwlpnd. Neillduolion y weinidog- aeth y Wesleyaidd, yn ei farn ef, oedd amryw. iaeth, b-wdfrydodd, ei nodwedd brofiadol, ei chymesuredd, a'i tbuedd ymarferol. Cafwyd sylwadau da ar bob un o'r pwyntiau hyn. Yna ymddlriedwyd i'r Parch W. O. Evans, y gorchwyl dyddorol o holl y plant yn hanes cychwynlad yr enwad yn Nghymru. Atebasant ei holiadau gyda pharodrwydd a chywirdeb rhalyorol er boddhad amlwg y gynulleidfa. Wedii Mr Job Jones, Bootle, siarad ar Gyfaddasder Wealeyaeth i feithrin crefydd ysbrydol," gan roddi sylw arbenig i'w hathraw- iaefchau a'i rhestrau crefyddol, cafwyd anerch- iad gan y Parch J P Roberts ar "Ein Rhag. olygon." Nid oedd efe am brophwydo ond yn unig ar sail ffaithiau a gogwyddiadaa presenol. Yn ngoleu y rhai byn, dywedai y byddai Wea- leyaeth Gymreig y ganrif nesaf yn fwy Cymro- aidd ei hantan nag y bu erioed. Efallai fod eu cysylltiad a'r Gynadleid Gyfundebol wedi rhoi arliw rby Seisnigaidd ar ddall ac ysbryd rhai o'u tadau, ond yr oedd pobpeth yn dangos fod vr ysbryd Cymreig yn gafael yn ddwfn ynddynt yn awr. Yr oedd y deffroad cenedlaethol i w wel'd yn amlwg yn eu mysg. Cynyrch y deff road hwn oedd y Gymanfa Wesleyaidd, yr hon a unai Wesleyaid Cymru yn un corph. Credai hefyd foi rhagolygon disglaer i'r pwlpud. Casglai hyny oddiwrth gymeriad a gallu y pregethwyr ieuainc a godent yn eu mysg Ni fu erioed well dosbarth o bregethwyr nag oedd ganddynt yn awr, a llawenych- ai wrth weled ymgeiswyr mor obeithiol am y weini- dogaeth ag a gafwyd yr wythnos ddiweddaf yn y Cyfarfod Talaethol yn Ninbych. Edrychai yn mlaen Cyfarfod Talaethol yn Ninbych. Edrychai yn mlaen I at eu gweled yn cyflawni mwy 0 waith cenadol. Pwac y Parch D. O. Jones oedd Einhangenion I presenol yn Lerpwl." Dywedodd mai eu prif waith hwy oedd darparu ar gyfer y bobl a ddeuent o Gym- ru. Yr oedd yn bwysig felly iddynt gadw y nod- weddion Cymreig yn eu haddeliad. Yr oedd angen perffeithio ymoddion presenol,ac hefyd am eangiad y gwaith yn gyffredinol. Gallesid gwneud llawer i berffeitbio y moddion presenol. Gofidiai nad oedd y set fawr i'w chael yn eu prif gapelau. Yr oedd hyn yn golled ac yn anfantais i'r pregethwr ac i'r bobl. Dylai y blaenoriaid fod o gwmpas y pwlpud, ac nid wedi eu gwasgaru yma a thraw yn y gynull- eidfa. Nid oedd yn deg a'r pregethwr i'w adael mewn unigrwydd oer. Heblaw hyny, yr oedd efe am i'r dyeithriaid gael adnabod eu blaenoriaid fel yn Nghymru, ond yn awr nid oedd yn hawdd iddynt wybod pwy oeddynt. Teimlai yn gryf ar y mater hwn, a hyderai yr adferid y set fawr yn fuan i'w lie. Ofnai iddynt roddi argraph ar feddwl dyeithriaid fod crefyddwyr y ddinas yn grefyddwyr oer Yn wir, clywsai gwynion i'r cyfeiriad yna. Nid oeddynt yn oer hyd yr oedd efe yn eu hadnabod, ond byddai yn dda ganddo pe buasent yn rhoddi mynegiant i'w gwresogrwydd Yr oedd rhai o'r siarad wyr blaen- orol wedi awgrymu fod y lleygwyr yn rhagori ar y gweinidogion 'mewn gofalu am amgylchiadau yr achos. Efallai eu bod, ond gadawent iddo ef ddweyd fod gan y blaenoriaid le i wella. A oeddynt yn fyw i'w dyledswydd i edrych ar ol y dyeithriaid ac i roddi croesaw cynes iddynt ? Yr oeddynt fel pe yn ofni rhoddi cyhoeddusrwydd i'w hachos. Ei ddadl ef gyda hwynt o hyd oedd y dylent ddefnyddio' moddion mwy business-like gyda'r achos. Yr oedd ganddynt ofn defcyddio gormod o inc yr argraph- ydd. Nis gellid disgwyl cael sylw yn y dyddiau hyn heb advertisio. Yr oedd Cymry y ddinas yn dar- llen y Cymro, ac yn eu plith lawer o Wesleyaid. Bydded iddynt felly wneud defnydd ohono i hys- bysu eu cyfarfodydd, yn gystal ag o hysbysleni amlwg, nid yn mhorth y capel, ond ar y parwydydd a'r byrddau o'r tuallan. Efallai y dywedid mai pethau bychain oedd y pethau hyn, ond yr oeddynt yn bethau a berffeithient eu moddion o gyrhaedd Cymry Wesleyaidd y ddinas. At y cwbl, yr oedd gal wad arnynt i eangu y gwaith. Nid digon iddynt ddal yr hyn oedd ganddynt. Yr oedd Duw yn galw arnynt ar ddiwedd canrif gyntaf eu hanes i gerdded rhagddynt, oblegyd yr oedd tir lawer eto i'w fedd- ianu. Er fod yr,adeg wedi rhedeg yn mhell, cafodd Mr Jones wrandawiad astud i'w anerchiad gonest a br-ydfrydig, a theimlad pawb ar y terfyn oedd fod y cyfarfod wedi profi yn llesol a llwyddianus. Ym- wahanwyd yn ysbryd yr emyn canmlwyddol a gan- wyd ar y terfyn, un penill o'r hwn sydd fel y canlyn:— Am waith ei ras yn Nghymru Fu, Dyrchafwn fawl i Dduw Yn Nghymru Fydd cawn Ef o'n tu I gadw'n gwlad yn fyw.
--()-Cynghor Eglwysi Rhyddlon…
--()- Cynghor Eglwysi Rhyddlon Cymreig Lerpwl. CYNALIWYD cyfarfod o'r Cynghor ya y Common Hall, Hackins Hey, nos Fawrth, Mai 22ain, dan lywyddiaeth y Parch David Powell. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, adroddodd y Cadeirydd yr hyn oedd y Pwyllgor Gweithiol wedi ei wneud mewn perthynas i'r sedd sydd i fyned yn wag ar Fwrdd Ysgol y ddinas. Wedi clywed am fwriad Dr Lloyd i ym- neillduo o'r Bwrdd y mis nesaf, tybiai y pwyllgor fod y cyfle wedi dyfod i'r Cymry gael cynrychiolwr i mewn, yn lie yr un y gomeddwyd iddynt adeg marwolaeth Miss A J Davies. Penderfynasant gynyg y Parch G Ellis, ond am nas gallai Mr Ellis weled ei ffordd yn glir i gydsynio, penderfynwnd ar Mr Wm Evans, Elm Bank, fel un cymhwys a theilwng i eistedd ar y Bwrdd, oherwydd ei brofiad a'i wasanaeth gyda materion addysg. Cydsyniodd Cymdeithas Amddiffynol y Bwrdd Ysgol i fabwys- iadu Mr Evans fel eu hymgeisydd pan ddawyradeg. Cymeradwyodd y cyfarfod waith y pwyllgor yn galonog, a diolchodd Mr Evans am yr ymddiried a ddangosent ynddo a'r anrhydedd a osodent arno, ac os dewisir ef yn aelod, ei brif nod fydd cynrychioli eu hegwyddorion ar y Bwrdd. Cafwyd buddugol- iaeth lwyr ar bwnc y Catechism, ond rhaid gwylio eu symudiadau eto, gan fod perygl pellach, ac efall- ai gwaeth na'r Catechism, yn y Text Books a fab- wysiadir, a'r athrawon yn dysgu credoau neillduol allan o'r adnodau sydd wedi eu tynu oddi- wrth eu cysylltiadau. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y diweddar Barch J K Nuttall oherwydd ei farwolaeth sydyn, yr hyn a achosodd fwlch mawr yn nglyn a'r Eglwysi Rhyddion. Hysbyswyd fod y Cynghor wedi ymuno am y flwyddyn hon a ChynghrAir Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, ond barnai y ddau frawd fu yn nghyfarfodydd y Cynghrair yn Ngwrecsam na fydd- ai o un dyben i gadw'r undeb ar ol eleni. Pasiwyd fod y Cynghor yn ymuno a'r Cynghor Cenedlaethol i gynal cyfres o gyfarfodydd diwyg- iadol Chwefror 16-26 nesaf cael pedwar o weini- dogion dyeithr i anerch y cyfarfodydd; ac i'r gweinidogion lleol newid pwlpudau Sabboth, Chwef 24, neu os yn fwy cyfleus, y Sabboth cyn hyny. Hefyd eu bod yn ymuno a'r Cynghor Seisnig i ganfasio yr holl ddinas tua'r un adeg. Galwyd sylw y cyfarfod at dri mater neillduol yn nglyn a chadwraeth y Sabboth—(1) Y nifer lluosog o siopau sydd yn agored ar y Sabboth (2) fod nifer mwy nag sydd yn angenrheidiol o'r cerbydau tryd- anol, &c., yn rhedeg ar y Sabboth; (3) dosbarthu Ilythyrau ar y Sul, a bod y llythyr-gludwyr yn gorfod dosbarthu mwy o gylchlythyrau, &c., yn nglyn a'r capeli ar y Sabboth nag ar un dydd arall. Siaradodd amryw ar y cwynion hyn, a chredent y byddai'n bosibl gwneud rhywbeth i wella pethau yn y cyfeiriad hwn. Penderfynwyd gohebu a'r Undeb Seisnig er cael ei gydweithrediad yn y mater. Wedi hyn darllenodd y Cadeirydd bapur maith a galluog ar A ydyw yr hen ffydd mewn egwyddor- ion cyfiawn wedi myned ? Yr oedd yn bapyr ar- dderchog, a gresyn na fuasai llawer rhagor yn ei wrandaw. Wrth basio diolchgarwch i Mr Powell, taer anogwyd ef i'w gyhoeddi mewn rhyw ffurf neu gilydd ar unwaith; ac addawodd yntau wneud hyny.
0-Newyddion Cymreig.
0 Newyddion Cymreig. Yn nghyfarfod Bwrdd Ysgol Gwrecsam, ddydd Gwener, dewiswyd y Parch J Bickerton Jones, offeiriad Pabaidd, yn aelod o'r Bwrdd yn lie y Parch Monsignor Slaughter, yr hwn oedd newydd symud i Rufain. Y mae Undeb y Bywydfadau Brenhinol Cenedl- aethol wedi penderfynu sefydlu bywydfadvn Nghol- wyn Bay. Yr unig amodau yn nglyn a hyn ydoedd fod yno ddigon o wirfoddolwyr i ffurfio dwy fintai o fadwyr. Y mae 50 o ddynion eisoes wedi cynyg eu hunain. Yn llys ynadon Caernarfon ddydd Llun, ded- frydwyd dyn ieuanc o'r enw Bertram J Woodgate, Porthaethwy, clerc yn ngwasanaeth Mr C H Rees, cyfreithiwr, Caernarfon, i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf ar y cyhuddiad o ffugio cheque am 12p. Yn ddiweddar, addawyd lOOp. tuag at ddyled capel Methodistiaid Park Hill, Bangor, ar yr amod fod yr aelodau eu hunain yn casglu 50p. Cyflawn- wyd yr amod yr wythnos ddiweddaf, ac y mae'r capel yn awr yn ddiddyled. Gan fod y capel wedi myned yn rhy fychan, sonir yn awr am godi capel mwy. Yn ddiweddar traddodai yr hybarch Lawdden ei ddarlith boblogaidd ar Emynau Cymreig" yn Mhontypridd, ac yn ei wrando yr oedd nifer mawr o offeiriaid a phregethwyr y cylch. Ebe'r Deon ar y dechreu, Nid oes yr un gwaith mor ddiflas genyf a phregethu wrth nifer o bregethwyr. Nid yw y rheiny byth yn gwrando fel pechaduriaid eithr fel beirniaid." Cynaliodd y Bedyddwyr eu Cymanfa Ganu flyn- yddol ddydd Llun yn Mhafilion Llandudno. Rhed- wyd trenau arbenig o amryw leoedd yn Ngogledd Cymru, a rhifai y cantorion 2,500 o leisiau. Yn ab- senoldeb Mr Lloyd George, A.S., cymerwyd y gadair yn y prydnawn gan Mr John Lewis, Llan- llibio ac yn yr hwyr gan y Parch Abel J. Parry. Yr arweinydd ydoedd Mr W. T. Samuel, Aber- tawe. Cynorthwyid y cantorion gan ad ran o Gerddorfa y Piar, a chyfeiliwyd ar y berdoneg yn eu tro gan Miss M Roberts, Miss Edwards, a Miss Roberts, Amlwch; a Miss Davies, Caernarfon. Yn ychwanegol at y tonau a'r anthemau a ganwyd gan y corau unedig, datganwyd tair can yn rhagorol gan Mr Emlya Davies, A.R.C.M. Trodd y gy- manfa eleni allan yn llwyddiant anarferol.
Cyrddau y Dyfodol. &o.
Cyrddau y Dyfodol. &o. Mai 26-Gosod Ceryg Coffa Capel Annibynol Liscard. Meheftn 21-Eisteddfed Gadeiriol Cerygydrudion. Medi 18, &c-Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Rhag 26-Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl.
-0. Cystadleuaeth y "Cymro."
-0. Cystadleuaeth y "Cymro." Y BDDDUGOII am gyfieithu darn o waith Raskin yn y Oymro, sef Min Afon, ydoedd Huwco Penmaen, Rhyl, ac yr ydym wedi anfon iddo gyfrol hardd gwerth 8s 60, sef yr argraphiad goreu o "Gofiant a Phregethaa y Parch J Hughes, D.D."
Lleol -
Lleol GOBEITHLW ANNIBYNWYR GROVE STREBT.-Nos lau, cynaliwyd cyngherdd perthynol i'r uchod, pryd y cafwyd noson ddyddorol iawn, yr hyn oedd yn dangos llafur diflino y rhai fu yn nhymor y gauaf gyda'r Gobeithlu, sef Mr J R Jones a Miss Wini- fred Evans. Cymerwyd y gadair gan Mr John Evans. Cyfeiliwyd gan Miss A Roberts. Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd anrhegion o lyfrau i'r plant gan un na fynai i'w enw ymddangos. Cyflwynwyd hefyd i Mr J R Jones anrheg o gwpan arian, gan Miss Davies, Upper Parliament Street, fel cydnab- yddiaeth o'i lafur gwastadol gyda'r plant. Diolch- wyd yn galonog i bawb a gymerasant ran yn y cyfar fod.-P. SOUTHPOST.—Y mae eglwys Gymraeg Portland Street wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch Robert Davies, Crewe, i'w bugeilio, ac yntau wedi ei derbyn.
--0--Barddoniaeth.
--0-- Barddoniaeth. Y DYHIRYN. Y DYHIEYN ynfyd haera-nad oes Un Duw ymfodola; A hwn o hyd bloeddio wna, Damwain yw y byd yma HWFA MON. RHYDDHAD MAFEKING. AB lanw mawr lawenydd-yn rhedeg Fel trydan mae'r newydd; Eco rwyga y creigydd— Angeu'n rhwym Mafeking yn rhydd ABON.
Marchttadoedd.
Marchttadoedd. Q-wreosam. Mai 21 Biff, Oc i Oe; molltgig, 80 i 9JC; lloi, Oc i Oc; pore, Os Oc i Os 00 y seor cig oen, Oe i Oc ieir, Os 00 03 Oe; hwyaid, 08 Oc; gwartheg hespion, i fyno i 12p 10s; blithion eto, i 21p; pyre, 9s 6J i 10s Oc y scor. Birmingham, Mai 22 Biff, 53 i 7ko y pwys; molltgig, 6^0 i LOJC; oig oen, 90 i 10ic OIG lloi, Oo i Oo. Moot baown, Os Oo i Os 00 y scor perohyll, Oa 00 i 10s Oc hychod, 6:1 10c 1 7A 0C y seor. Salford, Mai 22. Prisiau :-Biff, 5io i 7ic molltgig, 7o i 9io oi oen, 9!0 i 11C; eig lloi, 50 i 80 y pwys. Mooh, 10s 00 i 10s 4c y scor. Bangor, "Mai 18 Ymenyn ffres, Os 00 i Is Oc y pwys; wyau, 19 i 0 am Is; biff, 7c i 100 y pwys; molltgig, 80 i 10C; cig oen, Is i Is lo y pwys eig lloi, 80 i 10o pore, 70 i 10c moch tewion, Oc i 40 y pwys. Cywion, 5s Oe i 5s 60 y owpl; ieir, 4s Oc i 4s 6c yr un hwyaid, Os 00 i 3s 00 yr un. Amlwch, Mai 18 Ymenyn ffres, OsOe i Is 10 y pwys wyau ffres, 0 i 20 am Is biff, 7e i 90 y pwys; molltgig, 7c i 10c cig oen, Is y pwys; cig lloi, 00 i Oc pore, 6c i 8c cywion, Os 00 i 3s 9c y cwpl; ieir, Os 00 i Os 00 yr un hwyaid, Os Oc yr un. Caernarfon, Mai 19 Ymenyn, LA Oo i la lc y pwys wyau, 20 i 22 am 8WUT' „BL?» 2%° 1 9O Y PWY8; molltgig, 7C i 9O; cig oen, Os Oc i Is Oc y pwys; cig lloi, 50 i 8c pore, 5c i 8c cywion, Os Oc i 0a Oe y cwpl ieir, 4s 6c i 5s Oc y cwpl bwyaid, Os Oc i Os Oc yr un gwyddau, Os 0c i Os 00 yr un. Llangefni, Mai 17 Ymenyn ffres, 11C y pwys; wyau, 22 am awllt; ieir, la 9O i 28 30 yr un; hwyaid, 2a Oe i 2s 6c yr un moch tewion, 3fc i 40 Y pwya pyro, 16A 1 20s Oc yr un biff, 6c i 8c y pwya molltgig, 7c i 9c; cig oen, Oe i la cig- lloi, 7c i 9c; pore, 60 i 8C Ithath-in, Mai 21* Gwemth, 9s Oc i 9s 6c yr hob; haidd, 7s 6c i 9s 6c ceirch, 5s 2C i 6s Oe yr bob; ymenyn ffres, Is 2c i Is 3c y pwya ieir, 3s 0C 1 4s y cwpl; hwyaid, 0A 0c i 0S 0C y cwpl; wyau, 18 1 20 am Is. lerpwl, Mai 22 Gwenith yn gwerthu'n sefydlog heddyw am bris y farchnad gynt. Y Gwenith Califfornaidd, 6s 2c i 6s 3c y canpwys. Ceirch, a blawd ceirch yn sefydl- og. Indrawn America, 4s Oo i 4s 4C; Plate NS A 1 4A °dessa, 0s 0C i 0A 0C Galatz, 2S M 1 • 2s rPG Cmquantina, 5s 60 J 5a 7c PY3, 5s 8ic 1 5S 9C y canpwys; ffa Saidi, 25s 60 i 26a 9A y chwarter. -0- CynaUodd yr Annibynwyr Gymanfa Ganu lwydd- ianus yn y Wyddgrug ddydd Llun diweddaf, dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts, Tanygrisiau.
Advertising
Eisteddfod Gadeiriol CERYGYDRUDION, MEHEFIN 21 ain1 1900. Beirniad y Gerddoriaeth- D. EMLYN EVANS, Ysw. CYSTADLEETON I GORAU CYMYSG, CORAU MEIBION, A CHORAU PLANT, DEJAWDAU, UNAWDAU, —HER-UNAWDAU.— Rhaid i'r holl gyfansoddiadau, yn nghyd ag enwau yr Ymgeiswyr ar y canu, adrodd, ac areithio, gyrhaedd yr ysgrifenyddion ar neu cyn Mehefin laf. J WILLIAM D. JONES, ) v DAVID J. HUGHES, | Y*9- YN EISIAU.—Amryw leisiau Tenor a Bass i ymuno a Chor y Meibion Cerddgar," yn ysgoldy yr Annibynwyr University Road, allan o Balliol Road, Bootle, lie y ceir manylion ac y rhestrir aelodau unrhyw nos Fawrth, am haner awr wedi wyth. Cyfarfod cyntaf nos Fawrth nesaf, Mai 29ain. tT YR YSBYTTY CYMREIG AR Y MAES YN NEHEUDIR AFFRICA. PWYLLGOR LERPWL: THOMAS DAVIES, Y.H., Cadeirydd. Tryeoryddion Mygedol: Y MILWRIAD THOMAS GEE. T. ROWLAND HUGHES. Ysgrifenydd Mygedol: HUGH R. JONES, M.D.. 58a Grove Street. Y mae'r Pwyllgor yn awr yn gwneud apel der- fynol am danysgrifiadau. Dymunol fyddai cau y Gronfa ddiwedd Mai, ac felly taer erfynir am i'r" holl danysgrifiadau sydd heb eu fcalu gael eu hanfon yn ddioed i unrhyw ganghen o Ariandy Gogledd a Deheu Cymru. Cyhoeddir rhestr gyflawn o'r tan- ysgrifiadau gynted ag y bo modd. £ S. Cr Capel Annibynol Cymreig Park Road- s. c, Trwy Miss Madge Williams 2 11 2 Miss Pritchards 2 6 0 Mr Christmas Davies 1 12 0 Mr Salmon Evans 1 2 0 Mr H. H. Roberts 0 9 6 Mrs Christmas Davies 0 8 6 Mr John Williams 0 6 0' Cyngherdd Mr Foster, ar ol adroddiad o "The Absent-Minded Beggar," gan Miss Sarah Chalmers 1 1 7 Trwy Mr Robert Owens 0 17 0 10 13 9* Miss Webb, Edge Vale 1 1 ol Trwy Misses Evans a Harris- Capel M.C Walton Park 4 5 0" J R Jones, Esq. 2 2 0 Cronfa Stanley Road- Ychwanegiad trwy Mr E A Griffith. Elw Cyngherdd yn York Hall 9 0 0 THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD will be held in Liverpool on the 18th, 19th, 20th, & 21st, SEPTEMBER NEXT, Aboutgl,50 is offered as Prizes in MUSIC, LITERAL TUItE, and ART. LLEW WYNNE, Hon General Secretary, Eisteddfod Offices, 1 Crosshall Street, Liverpool. ft °YAL NATIONAL EISTEDDFOD, LIVERPOOL, Executive require the Services of a CLERK (for a few months); good correspondent in Ene- lish and Welsh essential; shorthand will be considered a qualification; salary £ 2 per week.—Applications to be made by letter only, before Saturday, the 26th inst, en- closing copies of recent testimonials, addressed to W. E. Parry, 67 Lord Street, Liverpool. To be Sold by Auction by MR. HENRY JONES, On Thursday, June 14th, at 2-30 p.m., in the Law Associa- tion Rooms, 14 Cook Street, Liverpool. Loti. ¥°- 65, UPPER FREDERICK. STREET, and 3 in 11 Court. Corporation' Leasehold, about 17 years unexpired. Gross rent 223 8s. Messrs Masters and Rogers, 25, Lord Street. 2. Nos. 64 and 6G FIELD STREET, Everton. Freehold. Gross rent £111 4s. Mr It P. Burroughs, 19 Sweeting Street, Liverpool. 3. No 4 HOLYROOD TERRACE, Birchfield Road, EdgeLans. Freehold. Net rent £ 24. 4. No 5 HOLYROOD TERRACE. Similar house. Free- hold. Net rent £ 23. Early possession can be had. Mr W. H. Gregory, 42 Castle Street. For further particutars apply to the auctioneer at his office, 5 Cook Street, Liverpool. Telephone, No 1779. Valuable Property in Kirkdale. BY MR HENRY JONES. On Thursday, 14th June next, at Three o'clock p.m., in the Law Association Rooms, 14 Cook Street, Liverpool. NINE Excellent HOUSES, Nos. 54 to- 68 Fountains Road, and 30 Chancel Street, forming neat compact block. Gross rent X174 4s. Derby lease 75 years from 1882. Ground rent £ 26. For further particulars apply to auctioneer at his office, 5 Cook Street, Liverpool; or to Messrs Ayrton, Radcliffe, and Wright, solicitors, 9 Cook Street, Liverpool.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. Jones—Mai 21, yn 167 Northbrook Street, priod R E Jones, ar fab. Jones—Mai 15, yn 55 Belmont Drive, Newsham Park, priod Joshua Jones ar fab. Pritchard—Mai 14, yn 35 Cairns Street, priod T Pritchard ar fab. g>rtodaeau. Davies -Botting--Mai 16, yn nghapel Bedyddwyr Calfaria," Aberdar, gan y Parchn J Griffiths, H Cernyw Williams, Corwen, a T Jones, y Parch R W Davies, Cemmaes, Mon, a Bessie, unig ferch Charles Botting, Monk Street, Aber- dar. Robe i-ts-Griifftlis -M:ti 15, yn nghapel Tegid, Bala, H Roberts, Hafod, Cwmtirmynacli, ac Ellen Griffiths, Haf- odyresgob isa. Edwards-Mai 17, yn 87 Seacome Street, Lerpwl, yn SOoedi Evan Edwards. Claddwyd ef yn mynwent Kirkdale, Mai 21, 1900. Hughes-Mai 15, yn Shop Yard, Cemaes, Mon, yn 15 oed, Isaac Owen Hughes. Harris -Mai 12. yn Mhorthmadog, Stanley, plentyn Thos. a F. A. Harris (Bootle gynt). Jones-Mai 13, yn 85 oed, Robert Jones, Wern Cottage, Bryneglwys. Jones—Mai 19, yn 22 Blantyre Road, Sefton Park, yn if oed, gweddw Joseph Jones.
Advertising
W, JONES) Dental Surged 29, High St., WAVERTREE SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery. 2 PERSONAL attention to each client. 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gas at low rates, when necessary' in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY 1EETH, to suit every Variety of Face and Beauty » BETTER and PRETTIER than those supjplied at double the price- by Dentists in West end of London. 6 W" Siaredir Cymraeg neu Saesneg. -i- Telephone 25 Wavertree- Printed and Published by ISAAC FOULKES at his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lancster Telephone 7426 (Central)