Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

30 erthygl ar y dudalen hon

Cybi SantoI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cybi Santo I (Parhad.) ) Yn ystod y canrifoedd hyny, sef o'r chweched ganrif hyd adeg Gruffvdd ap Cvnar, yn y flwyduvn 1137, cawn fod haneshieth yn fud ar ddim a gry- bwyllir yn n?hylch Eglwys Cybi Sant na dim YGh- waith$berthvnas i'r sant enwog ei hunan. Ar farwolaeth Gruffvdd ab Cynan yn y fiwyddv n 1137 fe'n hysbysir iddo ad&el ar ol yrj ei ewyllys y swm o ddeg swllt. :;<v £ oymaint a hyny o bunau yn cin dyddiau ni, tuag at waddoli Plglwys St. Cybi, Eg- lwys Penmon, a Chlynog Fawr yn Arfon. Trvry y cynorthwy arianol hyn y mae yr eglwys yn y lie yn caol ei gosod ar safle mwy eang ac helaeth, ac o hyny allar, y mae yn dyfod yn eglwys golegawl. id ydwyf ar hyn o bryd yn bwriadu dweyd dim am y gyiundrefn Iwvthaidd (tribal system) ag oedd yn ffynu mown cysylltiad a'r Eglwys yr adeg bono, ond gadawaf y pwnc i eraill wneiuhur eglurhad ar- DO Yn y flwyddyn 1535 cawn fod yna driarddeg o gsnoniaid yr perthyn i Eg lwys Cybi Sant, enwau pa rai oeddynt Dr. William Glyn, John Bulkeley, John Hughes. John Robyns, Rowland Monk, Hugh Morgan, Lewia ap John Llwyd, Edmund Lewis, Lewis ap Madoc, William E-wen, Lewis ap John ap Jenkin. a Richard Gybcns—oil o'r bion yn Gymry. Tybiwn mai yr un ydoedd Dr. Wil- liam Glyn. Esgob Bangor, yn amser y FrenLmes Mari yn 1555. Yr oedd yr yn enedigol o'r Glyn, yn mhlwyf Heneglwys, yn lon. Profodd ei hun yn esgob rhagorol, a. dywedir y hyddai. yn aiferol o alw yn nghyd ei glerigwyr ddwywaith yn y flwyddyn gyda'r dyben o osod ger eu bron y pwysigrwydd o gyflawni eu dyledswyddaa gweini- dogaethol yn addas a phriodol. O'r eyfnod hwn hyd y flwyddyn 1737 ni cliawn yr un ffaith o. nn- rhyw ddyddordeb pi uglya ag Eglwys Cybi. Cyn y Divrygiad yr oadd yn perthyn i Eglwys Sant Cybi o leiaf bump o gapela-u yma. ac aew yn y phvyf, a gweinyddid yr.ddynt gan. offciricid o'r' Farn" Eg- lwys. Yr oedd enwau y capelau fel y caiilyn — Oapel Orchlwyd (neu Golychwyd), sef gweddi ■Capel St. Ffraid, sef Towyn y Capel; Capel v Gor- las Coerist; a Chapel Givyngenau. Yr oedd EgJ-svya St. Cybi megis eanolfan i'r holl gapolau hyn. Gwelwn fod darpairiaclau Eghvysig yn y plwyf ar radd mwy eang cyn y Diwygid nag ydyw yn bresenol. Yn ymarferol felly dirywio a wi «aeth yr Eglwys o'r adeg hono hyd yn awr. Yn y flwyddyn 1737 cawn mai offeiiiad y plwyf ydocdd y Paxch Thomas Ellis. Geilw ei hun yn gurad ac a,r ol liyny yn ddarlithydd. Yn ol pob hanes offeiiiad gvreithgaa: ydoedd, ac yn teimlo i'r hyw o I achoa c%"flwr moesol anfoddhaol y pIwyf. Cwyna. o achos diffyg addysg to y plwyf; mewn llytii-v-i- o l^eithyryis i hyn ysgrifena at ^Madame Own, o llen- rhos, chwaer y Canghellydd Wynne o iien+Tordd, yr h^vn oedd yn enedigol o Bodcwryd, Mon: *'Nid oes dim," meddai, "ag y mae fy nghnlon v.-edi rhoddi cymaint o arno na gweled fod y Chan- cellor TTodi dwyn yr ygol (gwaddolodd y Canghell- ydd Wynne ysgol yn N ghaergyhi, Hog yr ariar- a reddwyd ganddo a. geir yn bresenol) i herffeith- rwydd, eanys byddai y gwaith mwyaf pwysig a wvaethpwyd y tii chan' mlynedd diweddaf.* Xid I yn unig yr oedd gweithgarweh yr offeiriad rhagorol hwn yn cael ei gyfyngu i'w ymdrechion clochviw yn ceisio darparu moddion addysgawl gogyfer ag «mgerrheidia.u ieueneiyd yn y plv.yf, ond ymdrech- odd hefyd i ledasnu gwybodaeth ysgrythyrol yn eu mysg, a gwelwn oddiwrth y eanlynol pa btth oedd llafur offeiriad o Fon yr adeg heno. Fel hyn y mae yn traethu —'I have sent the Chancellor here- with a present of two London discourses. I'm em- ployed by the Society for Promoting Christian Knowledge to procure subscriptions towards prid- ing the 15,000 Welsh Bibles which are now in the pregi. As Anglesey ia called of old 'Mon, mala Cymru,' or Mother of Ylal, she'll set her daugh- ters. viz., the other counties, a good example on the excellent occasion, which will otherwise? be a great reproach to the Welsh, who, but for the charity of the English, would in a. few years have scarce any Sliehthing as a Welsh Bible. amor g them.' Yna y mae yn darbyn y swm o lOp tuag at ddwyn traul yr argraphiad o'r Beibl yr adeg hono gan y Cang- hellydd dysgedig. Yn ystod yr adeg yr oedd y Parch Thorns Ellis yn offeiriad Cacrgybi y mae y lleygwr enwog hwnw Lewis Morris o Fon yn swyddog tolldy, Custom House, Caergybi. Yr oedd yma oddeutu 1730. a phriododd Miss Elizabeth Griffith, etifeddes Ty Wridir, Rhoscolyn. Dilynwyd ef yn y swydd gan ei fra.wd, Mr William Morris. Yr oedd yntau yn Gymro enwog a dysgedig, fel ei frawd Lewis. Yn y flwyddyn 1734 yr ydym yn darllen yn nghof- lyfr y plwyf iddo ef, sef Mr William Morris, briodi torjeddiges o'r enw Jane Hughes, o'r phvyf hwn. Fel hyn y darllenodd: —Mr William Morris, sin- gle man, and comptroller of this port, and Miss Janet Hughes, spinster, both of this parish, were married with a licence.—Thomas Ellis, lecturer." Ganwyd iddynt dri o feibion-Robert yn 1746, William yn 1747, a John yn 1748. Bu farw Mrs Morris yn y flwyddyn 1750, yn mhen chwe blynedd ar ol iddyrrt briodi. Bu farw Mr William Morris yn y flwyddyn 1764. Yr oedd Mr Williaim Morris yn gyfaill mvnwescl i'r Parch Goronwy Owain, ein prif fardd enwog. Y mae y lluaws o lythyrau a anfonodd y bardd at Mr William Morris yn rhoddi goleuni i ni ar ei fywyd, ac ystyrir hwynt o ran coethder, ^urdeb, ac arddull yr iaith yri mysg gemau llenyddiaeth yr iaith Gymraeg. Hefyd, cyfaill mawr ydoedd y bardd i Mr Ellis, person Caergybi y pryd hyny. Yn ei lythyr dyddiedig o Domington yn y flwyddyn 1753 at Mr William Morris, dywed y Parch Goron- wy Owain fel y canlyn :—"Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minau gaiel geiriau i adrodd mo: rwymedig wyf i Mr Ellis a chwitha-u. Diau mai o wir serch at ddaioni, ao nid oddiar gydnabvddiaeth nag un achos asrall o'r cyfryw, y mae Mr Ellis gy- mairit ei garedigrwydd, a Duw—Awdwr pob daicni dato iddo." Dichon fod Mr Ellis, person St. Cybi, yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, neu ynte ei fod yn athraw (tutor) yn Ngholeg yr lesu, Rhvd- ychain, pan oedd Goronwy yn fyfyriwr yno, gan ei fod yn cyfeirio a.t garedigrwydd y Parch Thomas Ellis tuag abo, hwyrach mewn adeg flaenorol. Mewn llythyr arall, dyddiedig o Walton, Lerpwl, Ebrill 30airi. 1753, cyfeiria Goronwy at Mr Tlllis fel hyn:—"Ond drwg iawn genyf glywed fod Mr Ellis" anwyl yn glaf, a chan ddiolch iddo am y Doctor Davies. debJg mai yr hyn a fedd- ylia yn Geiriadur y Dr. Davies.o Falhvyd. Yn mhellach dywed "I beg to hear from you by the return of post, and let me know if Mr Ellis is any- thing better. His death I am sure would be an ir- retrievable loss, not only to Holyhead at <1 Angle- sey, but to all Wales." Yn yr ymadroddion teim- ladwy carJynol cyfeiria v bardd hefyd at farwol- aeth Jane Hughes, sef Mrs Morris, gwraig Mr Wil- liam Morris, yr hyn a ddigfwyddodd yn 1750. Meddai: —"Ond nid. wyf fi yma yn amcanu pro- gethu mewn Jtythyr ac afraid, ysga.tfydd, fua-sai imi ddywedyd dim wrthych chwi ar y rath achos, oblegid eich bod ohwi, yr wyf yn deall, yn cydnM>y<idu8 a Brenin y Dychryniadau na m y'1., ac felly yn llai eich a.rswyd o hono, canys mi glywais o'r blaen iddo fod yn anian agos atoch cyn nesad a dwyn ymaith yr ail ran, ohonoch eich hun, sef asgwm o'ch esgym a chnawd o'ch cnawd chwi. Duw, yr hwn a'i gahvodd i ddedwyddwch, a roddo i chwi oil amynedd a chysur." Ar ol yniadawiad y bardd ei iwog i America y mae yn anfon llythyr at ei hen gyfaill, Mr William Morris, i Gaiergybi, dyddiedig yn y flwyddyn 1767, ond yn ol coflyfr eglwys y plwyf, Caergybi, dysg- 1m i Mr William Morris farw y 29ain o Ragfyr, 1764 sef tair blynedd cyn hyny, ao felly yn ei fedd pan gyrha*ddodd y Eythyr i Gymru. > Wele restr o offeiriaid Eglwys St. Cybi o r flwyddyn 1737 —Y Parchr Thomas Ellis hyd y flwyddyn 1759, Edward Griffith hyd 1760, Richard Lanirford hyd 1761, Richard Griffith. John Thomas, Thomas Watts 1765, Evan Hughes 1767, Richard Jones 1768 hyd 1774. William Williams 1744 hyd 1783. Pearce Owru Mealy 1735 hyd 1788, Hugh Hughes 1790, Robert Pritchard 1792, Williami Llo|d 1797 hyd 1815, Ellis Anwyl Owen 1815 hyd 1827, John Jones (Archddiacon Bangor a pherson Llantrisant, Mon, Cymro dysgedig a chyfieithydd gwaith Thomas a Keinpis i'r Gymraeg) 1827 hyd 1833, John Wynre Jones Archddiacon Bangor.:1 pherson Bodedeom) 1853 hyd 1845, CJlar £ ams, D.D. (Penaeth Ooleg yr Rhvdycham) 1845 hyd 18o7, Thomas Briscoe, D.D., 1857 ny(4 -TSqc 1 ROBERT PRICE, Cur ad Caergybi.

[No title]

Trychineb Anaele. !

Advertising

.GORUCHWYLWYR LLEOL.

[No title]

NODiUN O'R DEHEIDIK. ;

Arddangosfa Pare y Faenol.

I Rheolau Barddoniaeth

Y Diweddar Kicnard M. Pritchard,…

-------Esgob IJanelwy a'i…

Anghyawelc-di'd y Psirianwyr-I

. Mr Gladstone yn 88 mlwydd…

. 7 J. ynion wedi Cyrhaedd…

Marwclaeth y Parch Allan Constable…

. Ei Lladd gan ei Frawd Bach.

Marwolaeth Mr Davies, Llandinam.…

[No title]

----'--_._-------.__-----.--_n-_---Y…

Family Notices

North Wales Fairs

YD. "

ANIFEILIAID.

MOCH TEWION.

cia.

CAWS.

YMENYN.

TATWS.

GWAIll A GWELLT.

Harohnadoedd Cyniraig