Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

COSTAU'R GYFLAFAN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COSTAU'R GYFLAFAN Ddydd Gwener da-thlwyd canmlwyddiant brwydr Waterloo. Nid yw y frwydr hono fu yn destyn cymaint o syndod i'n henafiaid ond megys brycheuyn yn ymyl yr alanas ofnadwy ar fywydau ac eiddo a gymer le yn y dyddiau diweddaf hyn. Nid oedd Hinell yr ymladd y pryd hwnw ond taij milldir, o'i gymharu a thri chan' milldir yn y frwydr bresenol. Nid oedd yno ond tri ugain mil o filwyr yn y frwydr hono yn cynwys pedair mil a'r hugain 0 filwyr Prydeinig o'u cymharu a'r miliynau sydd yn cymeryd rhan yn y gvflalan ofnadwy bresenol. Nid oedd y colledion Prydeinig ond tua saith mil ac yr oedd hyny yn ddigon i beri i Wellington wylo. Ond bu i ni golli gymaint ddwywaith a hyny yn mrwydr fawr y Neuve Chapelle yn unig. Yr ydym yn gyn- efiu a chlywed am golledion rhyfe! y Crimea er yn bant, ond nid oedd yr holl golledion yn y rhyfel hono ond tua thair mil, a chollir y nifer hwnw o fywydau mewn un dydd yn ami yn y rhyfel bresenol. Credir ein bod eisoes wedi co li mwy o fy- wydau yn y rhyfel hon nag a gullwyd yn ys- tod pymtheng mlynedd o ryfel gyda Napoleon. Yn ystod Rhyfel Gartrefol yn yr America, yr hon barhaodd am bedair blynedd o amser, collwyd chwe' chan' mil o fywydau. Dyna. y rhyfel y dinystriwyd fwyaf o fywydau yndd; hyd yn hyn, ond y mae y rhyfel yr ydym yn awr ynddi wedi dyblu a tiireblu y nifer hwnw. Ond er mor fawr yw ein colledion ni, nid yd- ynt ond bychan o'u cymharu ag eiddo y Gallu- oedd eraill sydd yn ymladd. Mae yn awr fwy o garcharorion rhyfel yn Rwsia nag oedd o filwyr yn myddin fawr Napoleon yn erbyn Rwsia. C'ydnabyddir yn Berlin fod y Ger- maniaid wedi colli eu mil%vsyr yn oj y raddfa o ddwy fil y dydd. Mae rhai o'r brwydrau wedi costio 30,000 y dydd o fywydau. Yn ol yr adroddiadau diweddar y mae Germani I wedi colli tair miliwn a haner'er toriad allan y rhyfe'. (yn cynwys dros filiwn o laddedigion) rsef haner y nifer a alwyd allan ar y cychwyn. Os y bydd iddi golli ei dynion yn ol y radidia bresenol mae'n amlwg y bydd wedi colli grym ei nerth cyn bo hir iawn. Cydnabyddir fod y Galluoedd sydd yn ymladd yn eil herbyn yn coli llawn cymaint. Ond y mae ganddynt hwy fwy o adnoddau i ddibynu amynt, ac ni bydd iddynt gael eu hysbyddu mor fuan. Er hyny y mae y ffigyrau uchod yn arsw^dus, yn enwedig pan feddylir cymaint o ddioddef, ochain, gaiar, hiraeth, a phryder a gynrych- iolir gauddynt. Gwelir mor arswydus yr aberth a deifl yr Almaen falch o dan olwyn- ion y duw "diwylliant" a anwylir ac a add- olir mor angerddol ganddynt. Cwynir nad yw y newyddiaduron yn cael rhyddid i ddat- guddio haner y digwyddiadau arswydus sydd yn cymeryd lie. Ond faint ohonom fel dinae- yddion sydd yn ystyried yn ddwys a difrifol y ffeithiau alaethus a ddatguddir i.ni,o ddydd i ddydd yn ngholofnau y "coiledion" yn y newyddiaduron ? Mae yr ochr arianol i'r rhyfel lawn mor syfrdanol ac annirnadwy ni ag ydyw y di- frod ar fywydau. Wrth ofyn am hawl i wario 250 o filiynau yn rhagor ar y, rhyfel dywed- odd y Prif Weinidoa: yn y Senedd yr wythnos o'r blaen y byddai costau y rbyfel yn fuan dros dair miliwn o bunau y dydd i'r wlad hon yn unig. Bu y wlad yn ochain yn hir o dan ddyled rhyfeloedd Napoleon. Nid oedd y ddy.'ed hono ond 622 o filiynau mewn 23 mlynedd o amser. Ond bydd i un flwyddyn o'r rhyfel bresenol gostio i ni 1,500 o filiynau o bunau, sef tua haner ein gwerth cenedlaeth- ol. Mae y difrod a wneir a'r ffrwydron a phylor yn arswydus. Dywedid eu bod yn }r hen amser yn defnyddio swm o ffiwydrrtti n phylor cyfartail i bwysau pob rnilwr a leddrl. Sicrhai un o awduidodau milwrol Ffialiu' bod heddyw yn defnyddio tair tunell o Q'r v. dron am bob niilwr a "eddir ar faes y gwaed. Ond i ni gadw mewn cof nifer y bywyaau a gollir ge"ir yu hawdd ddychmygu iia-It y gorchwyl ,ydd gan Mr. Lloyd Go" f-aw i ddarparu ar gyfer ein bydJin an llynges yn y cyfwug presenol. Mae yr uti peth yn wir am ein gelynion. i maent hwy yn defnyddio ffrwydron yn Rawer mwy Intel na ni. Ond dywedir fod trigolion cyffredin yr Almaen yn sylweddoli eu cyflwr yn llawer mwy trwyadl na dinasyddion Prydain. Mae llawer o aristoeratiaid Prydain yn galiu gwledda a gloddesta yn eu gwestai mawriol1, a gwario eu harian ar wychder a ftasiyiiau tra y mae y gvfiafan hon yn myned yn mlaen. Mae trigolion yr A-niaen yn gosod eu hys- gwyddau fel un gwr dan arch yr Ymherodr- aeth yn awr ei chyfyngder. Iae ein gwladweinwyr ninau wedi sicr- hau fod yr ymgyrch hon yn myned i gost- io i ninau bob mymryn o nerth a feddwn mewn milwyr, mewn llaiur, mewn cyfoeth, ac yn uchaf peth mewn aiddgarivelt, gwladgar. Er hyny y mae genym filoedd o ddynion sydd yn ymlawenhau yn swn y magnelau am eu bod yn dod ag e"w mawr iddynt hwy. Hyderwn y bydd i'r Llywodraeth benderfynu ti-ethu yr elw a wna cwmniau mawrion, a phersonau unigol o ran hyny i'w lawn wertli. Elfen ber- yglus iawn ydyw caniatau'i un ran o'r deil- iaid i ymgyfoethogi ar waed a nerth eu meib- ion dtw r.

Advertising

IY LLAWR DYRNU."I

PERSONAU A PHETHAU.