Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

FFARWELIO A CHEN-HADON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFARWELIO A CHEN- HADON. CYFARFOD YN LERPWL. Ddydd Gwener diweddaf, Hydref 13eg, cynhal- iwyd cyfarfod yn Stanley Road, Bootle, i ltarwelio a. Miss Aranwen Evans, a Miss J. Helen Rowlands, B.A., ar eu mynediad allan i'r India. Cynhaiiwyd cyfarfod i'r chwiorydd yn y pryd- nawn. Oherwydd absenoldeb Mrs. James Ven- more, llywydd cangen y chwiorydd, dewiswyd Mrs. James Leggate, merch y diweddar Barch. J. Thom- as, B.A., Catharine Street, i lywyddu y gweithred- iadau. Wedi i'r llywydd alw sylw at gynydd cyflym y gwaith, ac angen y Genhadaeth ar hyn o bryd, rhoddodd Mrs. (,). F. Evans gyfrif o gasgliad y chwiorydd y flwyddyn ddiweddaf, yn dangos cynydd o 68p.. ary casgliad blaenorol, a phasiwyd pleidlais o daiolchgarwch i Mrs. W. Owen (yn awr o Gon- wy), am ei gwasanaeth ffyddlawn a gwerthfawr fel ysgrifenydd Cangen y Chwiorydd am amryw flyn- yddoedd. Ar gynygiad Miss, Williams, Grove St., pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r cenhadon sydd mewn trallod mawr oherwydd colli brodyr yn y rhyfel:-Mrs. T. W. Reese, Silchar; Miss D. G. Edmunds, B.A., Silchar; Miss A. Reid, Karimganj, a Miss M. J. Francis, B.A., Shillong. Traddodwyd anerchiadau gan Miss Aranwen Evans, Miss J. Helen Rowlands, B.A., Miss Lilian Jones, a Mrs. 0. -iii: Jones, a? Mrs. OL 'Owens, Llanelwy, a diolchwyd yn wresog i chwior- ydd Bootle am eu darpariadau a'u croesaw. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan lywyddiaeth y Parch. John Owen, llywydd y Cyfeisteddfod Gweithiol. Wedi i'r Parch. H. Harris Hughes, B.A., B.D., ddechreu trwy ddarllen a gweddio, galwodd y llywydd sylw at wasanaeth mawr eglwys Stanley Road, .sydd wedi bod ar y blaen o ran ei hysbryd cenhadol a'i haelioni tuag at y gwaith. Hysbysodd yr Ysgrifenydd fod. Miss Aranwen Evans yn dychwelyd i'w hen orsaf yn Silchar, i gyd- weithio a, Miss E. M. Lloyd, B.A., yn ysgol uwch- raddol y merched yno. Buasai Miss Evans cyn dychwelyd adref, mewn gwaeledd a gwendid mawr. yn "wir yn agos i angeu, ond Duw a, drugarhaodd wrthi, ac nid wrthi hi yn unig ond wrthym ninau hefyd fel Cyundeb a Chenhadaeth, oblegid yr oedd Miss Evans yn un o'r gweithwyr mwyaf ymroddgar a llwyddianus a fedde.. Yr oedd Miss Rowlands yn mynd allan am y waith gyntaf, a disgwvliwn bethau mawr oddiwrthi. Yr oedd wedi derbyn yr addysg oreu, a'r diwylliant meddyliol uchaf a allai ei gwlad ei roddi iddo, ac yn ystod y deuddeng mis diweddaf. wedi bod mewn sefydliad yn parotoi ei hun yn arbenig ar gyfer' ei gwaith yn y maes cenhadol. Apeliodd hefyd at y gynuJleidfa am gymorth yn ystod y mis hwn i symud ymaith ddyled y Genhadaeth. Yr oedd dwy eg- lwys, sef Anfield Road a David Street, wedi cych- wyn o ddifrif pyda'r Casgliad Arbenig, a thybiai y byddai iddynt hwy rhyngddynt gasglu o leiaf 900p., ac rid ormoda fydda; dÜgwyl i'r gweddill o'r eg- lwysi wneud y swm hwnnw i fyny i ddwy fil o bunnau. Hysbvsai hefyd fod chwaer ieuanc wedi bod y diwrnod hwnw o flaen y Cyfeisteddfod, sef Miss Olwen Rees, merch y Parch. D. M. Rees. Tredegar. Byddai i'r Cyfeisteddfod ei chyflwyno i sylw a chymeradwyaeth y Gymanfa Gyffredinol nesaf i'w hanfon allan yn genhades. MISS ROWLANDS. Mi?.s J. Helen Rowlands a ddywedai nas gallai ar hyn o bryd lai na sylwi ar y modd yr oedd dynion ieuainc y devrnas wedi ateb i alwad y brenin, a'r modd yr oedd dynion a merched ieuainc yn ystod yr un flwyddyn wedi ateb galwad yr Arglwydd lesu Cr,st.-iin y llynedd ac un elcni, a dim ond un at y flwyddyn nesaf. Credai fod llawer o'i chwiorydd yn caru yr Arglwydd Tesu yn fwy na hi. ac mai yr unig reswm dros eu bod hwy yn aros gartref (t hithau yn myn'd i'r India i ddweyd am dano oedd eu bod hwy heb wybod am angen y byd, ac efallai heb syl- weddoh* fod yr holl fanfceision sydd ganddynt wedi dyfod iddynt trwy Iesu Grist. Wedi i Miss Rowlands arwyddo y datganiad arfer- ol ,rhoddwyd cyngor iddi can y Parch. R. Aethwy Jones, M.A. ,yr hwn a ddy,vedodd mai un cyngor mewn gwirionedd oedd rranddo i'w roddi, sef am iddi gadw o flaen ei llvgaid yn barb an s amcan Duw yn ei galw, ac yn ei hanfon. Tybiai fod pobpeth a  \T; d y C?vfeisteddfod fvdda-i a.rni eisieu yn hyn. Nid y Cyfeisteddfod Gweithiol, ac nid v Cyfundeb oedd wedi ei galw. ac nid hwy oedd yn ei hanfon cyfrvngau yn unig oedd- ynt hwy vn llaw Duw i rwvddhau y ffordd iddi fynerl. Gofynodd beth oedd amcan y Duw mawr yn ei galw "c yn ot hanfon. Aiebodd mai y ffordd oreu i wybod hyn oedd myned yn ol at eiriau y Cen- hadwr mwyaf a welodd Eglwys Crist. a dymunodd ar Miss Rowlands ddarllen llawer o'r noson honno ymlaen ar y pedair penod cvntaf yn y Llythyr at yr Enhesipid. yn y rhai y ceid siarter pob cenhadwr a phregethwr. Gofvnodd paham vr oedd cenhadon yn myned i'r JnrJi, 1 Nid o°dd dwevd eu bod yn myned oher- -Vd(i -,i, ca.riad at eneidiau yn ddigon o ateb dros tvyiod i'r India. Y mae yn y wlad hon ddigon o enteidiaii ag angen ein cariad a'n gwasanaeth, ond India am eu bod yn credu fod India mot hanfodol i lesu Grist ag yw Cymru, ac fod yna ag- weddau ar gymeriad yr Arglwydd Iesu na weiir mo- honynt liyu nes y aaw Japan ac lnaia ato. Wedi i'r Dwyrain ddyiod at Grist y gelnr gobeithio cael gwr a iedr esbon.o Efengyl loan. Ei neges fawr hi a fyddai, nid ceisio gwneud yr Indiaid yn Fethodist- iaid Calhnaidd, oud eu dwyn at Grist. Ymhellacii galwodd ei sylw at y ftaith ei bod nid yn unig yn cyciweithio Lt ijuw, ond hefyd a, dynion ac a. merched. Ni bydd pawb ohonynt yr un tarn a chwi bob amser am bob peth. Oedwch rhag gwneutiiur unrhyw ragfarn o'ch eiddo yn tater cyd- wybod. Dymunodd bob bendith iddi a llwyddiant mawr ar ei Ilafur. Yna, cafwyd ychydig sylwadau gan Miss Aran- wen Evans, yr hon a ddiolchai o galon am yr holl garedigrwydd oedd wedi ei dderbyn yn mhob man yr oead wedi bod ar ran y Genhadaeth. Wedi i'r Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., gynyg, a Mr. W. Venmore gefnogi, penderfynwyd ein bod yn dymuno Duw yn rhwydd i'r chwiorydd ieuainc anwyl hyn, a bendith y net arnynt, a'u sicr- hau y byddent yn eu cofio gerbron gorsedd gras, terfynwyd cyfarfod rhagorol gan y Parch. John Hughes, M.A.

"EI ' FAM."';'

,.CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.

CARTREF KINGSWOOD-TREBORTH…

lEWN MYFVR HIRAETHLON AM THOMAS…

[No title]

I.POLISI DIRWESTOL. fv'