Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
;,--CYMDEITHASFA CROESOSWALLT,…
CYMDEITHASFA CROESOSWALLT, E BRILL 25, 26. ;I AT OLY, GYDD Y G OLELUAD). II Dymunaf hysbysu ein bod wedi gwneud y trefn- iadau angenrlieidio(, gyda'r Local Food Control Com- mittee i graesawu y Gymdeithasfad'n plith. Golyga, hyn ddarparia,eth yn unig ar gyfer swyddogion 0 a chynryehiolwyr ac eraill sydd wedi ateb, y gwa- boddiad, a bydd yn angenrheidiol iddynt hwy ofalu am ddau "Meat Ration Coupon." Yr eiddoch yn bur. W. L. WILLIAMS, Ysg.
—-——.0 CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH
—-—— .0 CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH (AT OLYGYDD Y GOLEUAD). Syr,—-Yn y gorffenol yr ydych wedi rhoddi petli o'ch gofod prin i eraill i ddweyd gair ar y testyn. uchod. A gaf tinan ofyn am y fath garedigrwydd am y tro? Y mae y ffaitih. fod cynhaKaeth y weinidoga.eth -wedi bod belach am amser maith o flaen y Gym- deithasfa a'r Qyfarfod Mi sol yn profi ei fod yn bwysig. Yr oedd lluaws ohonom wedi ein hargy- hoeddi nacl oeddym yn cydnabod y rhai sydd yn pceni yn y Gair a'r Athrawiasth. fed y dylasem hyd yn oed cyn i'r rhyfel ofnadwy yma dorri allan. Ond beth erbyn heddyw, pan y mae angenrheidiau byw- yd wi yohwamegu igymaint yn eu gwerth, o-, threuliau teithio wedi i y-ited mor uchel? Ac yn wyneb pefthau fel y maent, pan y mae. nifer yi-i :f dioddef yn ddistaw mewn prinder a" phryder, mor irerthiawr i'n Cyfundeb ydyw dynion fel Mr. Jon- athan Davies, yr hwn sydd wedi gwneud cymaint o fewn cylch Cyfarfod Misdl Lleyn ac Eifionydd, a chylohoedd eangach, mewn tretfn i ddwyn pethau yn nes i'w lie, a diau fod pawb ohonom sydd yn r caru yr Achos Mawr yn Uawenhau fod ei yntdrech- ion i fesur wedi eu coroni a ihvyddiant, ond eto, his gellir dweyd fod y Ihvyddiant hyd yma yn gyfatebol i angen ein pregethwyr a'n gweinidogion. Da. fyddai i ni y bla.enoriaid sy,weddoli y ffaiih fod y cyfrifold-eb am gyrthaldaeth y weinidogaeth yn -J gorffwys yn bennaf arnom Iii" ac mai nid digori i ni fod yn oddefol yn yr argyfwng presenol, ond yri hytrach ein dyledswydd yw rhoddi ein holl ddylan. wad i ddeffroi ein lieifwvsi i'w'cyfrifoldeb a'u braint hwythau. Y mae y Gair yn bendant ar y mater. "Fel.y ibefyd yr oi'demiodd yr Arglwydd L i'r rhai sydd yn pregethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl/'I. Cor., 9. 14, Onid ydynv yn llawn bryd i ni roddi'r ystyriaeth VTiwyaf. difrifol i'r Saith, ein bod yn derbyn cymaint d.'Wy B:n Mawr yr Eglwys a.c mor ychydig ydym ,vn oi roddi yn ol' tuag at gynal Ei achos ar y ddaear? Gadewch i ni ym- ddedfroi i'n cyfrifoldebgan ihynny, fel y gallom roddi ein cyfrif i fyny yn llawen, ac nid ,Tn dnist. Tr eiddoch, &c.. THOMAS OWEN.
AR OL Y RHYFEL.I.
AR OL Y RHYFEL. i(AT 0LYOYDD Y GOLEtTAD). Syr,-Y mae awyddfryd cyffredia pobl y wlad arm bregethu y gallant ei ddeall, ar destynau y gallant eu bamgyffred, a chan ddynion a. allant eu cyfleu at eu hamgylchiadau dyddiol. WrLh ddweyd hyn ni fynnwn ddibrisio pregethu Qniru.. CVedaf ei fod mor ddysgedig, mor goetb, ae mor uchel ei safon ag y bu erioed. tOnd cwyno glywir nadyw yn ddydd- prol, ac am hynny na.d yw yn gafael yn y bobl fel y dylai pregethu yn iaith y bobl wneud. Rhoddaf esiampl o'r hyn a. glywais fy hun, mewn capel lie yr arferai gweithwyr a man-siopwyr ymgynull i addoli. Pwnc y bregeth ar foreu (Sul oedd "Cyn-fodolaeth Crist." Yr. oedd y bregeth honno yn esiampl o ddosparth lied luosog, er, efallai, yr enillasai hi y gamp am ddieithrwch i angen ac amgylchiadau y gynulleidfa. Yr cedd yn esiampl o bregethau ar bynciau di-les ac mewn iaith ddi-ystyr i'r gynull eidfa. Pa ryfedd fod dynion wedi gwsando ar bre- gethau fel hyn yn dweyd nad' ydynt yn 'cael dim' yn yr oedfaon, ac oherwydd hyny yncilio, oddi- wrthynt ? Cyn y gall pregeth afael yn y gynulleid- fa rhaid iddi,ddw yn rhyw bsithynas ag amgylch J. iadau neu gyffwrdd ag ymwybyddiaeth dynion rhaid iddi fod yn iaitih y werin. Ymddengys i mi y gellir crynhoi y. rlian fwyaf or cwynion a wneir yn erbyn pregethau yngN ghymru i dri dosparth, sef cwynion fod y pregethau yn am- iherthynasol i fywyd cyffredin, mewn iaith ddieithr i'r cyffredin, ac yn cymeryd yn ganiataol fwy o m wybodaeth. nag a. fedd y cyffredin, a'u bod, oher- wydd hyny, yn anyddorol, yn anymarferpl, yn dy- wyll a. di-flas. Cwvnir hefyd am bregethau pwl- pudau Lloegr, ond nid yn hollol am yr un rhesymau ag yng K flymrn.Cwynir yno oherwydd teneu- rwydd mater y pregethau, oherwydd amlder geiriau a broddegau ysbrydol a, duwiol, a'u bod heb" sylwedd i apelio -bt y ac heb enaid i apelio at y gyd- wybod. Ryw fath o glebar crefyddol yw llaweroedd ohonynt. Y mae gymaint islaw sylw dynion medd-* ylga.r -ag-yw y lleill uwchlaw amgyffred dynion difrifol. Dirmygir y rhai hyn, megis ag y dibrisir y lleill. Dichon mai un rheswm am yr eiddilwch hwn yw fod y pregethwyr yn pregeth ddwy waith y Saboth ac weithiau yn amlach na hynny i'r un gynulleidfa, ac hefyd fod lie mor ddisbwys yn cael ei roi i bre- gethu yn yr Eglwys Sefydledig, O'r ochr arall clywir, yng Nghymru ac yn Lloegr, bregetha,u dyddorol, adeiladol, ac argyhoeddiadol, yn iijynnu sylw y gynulleidfa o'r -dechreu i'r diwedd- piegethau a gofir. A pha brawf gwell ellid gael o fod pregeth, yn atebei phwrpas na, bod y bobl yn ei clvofio? Nid wyf yn haeru fod pob pregeth a gofir yn werth ei chofin, nen fod pob un felly yn dda ei dylanwad. Ond fel rheol gyffredin i faniu dylaiiwad pregethau ar y gwratidawyr gellir dweyd mai'r brogeth, a, gofir yw yr uri wnja fwyaf o les. iRhodded y neb a fynno brawf ar hyn a chaiff weled leied yw nifer y rhai a gefiant ddim o'r pregethau a. glywsatt. Paham? Onid am nad ydynt yn iaith y bobl, ac y soniant am bethau dieithr iddynt, gwit. iorieddau nas gallant eu hamgyfTred? Nid yw y broddegau a'r. termau divvinyddol a d'defnyddir yn cyfleu un ystyr iddynt. Pe buasai pawb yn y gyn- ulleidfa yn arfer mynychu yr Ysgol Sabothol, ac wedi cynefino ag adnodau a dysgeidiaeth yr Ys- grythyr lan, buasai yn hawdd iddynt ddeall yr hyn a ddywedidl wrtiliynt, ond, ysywaeth, nid yno y mae corff mawr ein gwrandawyr wedi cyfoethogi en meddwl a thrysori eu cof. Pa ryfedd fod iaith y pwlpud mor ddieithr iddynt a Hadin neu Roeg? Etc ni bu pregethau Cymru erioed cystal ag ydyw heddyw, a'u cymerydat ei gilydd. Yr wyf yn credu fod ein pregethwyr yn rhoi mwy o lafur yn eu pregethau nag a roddai llawer o'r to dan, a llawer mwy o ffrwyth astudiaetha gwybodaeth. Eto y gwir yw y tii chwyn a nodais eisoes, ac y mae yn anhawdd rhoi bys ar y dolur i'w wella. Os caf hamdden i ysgrifennu eto, ceisiaf nodi ym mha gyf- eiriad y dylid ceisio y feddyginiaeth, wedi'r elo'r rhyfel heibio. Yr eiddoch, &c., PHILIP HENRY.
-II.. CAEATHRAW.
CAEATHRAW. Brynawn Mawrth, yr 2il cyfisol, bu claddedigaeth Mrs.. Ellen Morris, Ty Gwyn (Oaerhydau gynt). Yr oedd hi iyn ferch i'r diweddar William Jones, Caerlxydati, yr hwn fu yn flaenor am dymor maith yn Nazareth, ac yn chwaer d Mr. W. W. Jones, sydd yn awr yn fia-enor yng Nghaeatthro, ac i'r diweddal Earch. J. W. Jones, fu weinidog yn Llanfairtalhai- arn. Yr oedd yn wraig o ddeall cryf, gwybodaeth eang, ac yn arfer darllen 'llawer drwy'r blynyddoedd. Bu yn gorwedd am yspaid maith, ac yn dioddet llawer. Drwy yr oil cryfhai ac angerddolai ei phroi- iad nes ihiraethu am ei hvir.ddat-oditd. Gwc-dci,,v ydoedd er's rhai blynyddoedd. Gaclawodd dair mcrch fach, am y rhai y bu ei phryder yn fawt ond gallodd eu cyflwyno yn dawel i Dad yr Am- ddifad. Rhoed ei gweddillion i orpliwys ym myn went Caeathro Btynawn Merchier, drachefn, bu cladde-digaeth Wi7lic Morris 'Roberts, Lletty, yn 16eg mlwydd oed. Yr oedd yn faohgen o lrawddgarwcb prydfertb a. di- mweidrwydd llednais. Ynei fisoedd cystudd daeth ilxaen ddofn o dduwioldeb yn ei grym i'r golwg. G^naeth ei ystafeil yn ystafell weddi ddibaid am wytihnosau, a bu raid i'r ty fod felly lawer awr. 01 du ei fam yr oedd yn wyr i'r diweddar Barch. D1. Mori is, Bwlan, ac o du ei dad yn wyr i'r diweddar Barch. J. Roberts, Ynys, Bowtlyfni. Rhoed ei weddillion i orphwys gydag,eiddo ei fam a'i dad, nc o dan golofn Daivid Morris, yng Nghaeathro. C'yd'- yrndcimlir yn fawr 'a. brawd a, dwy chwaer Mrs. Morris, ac a dau frawd Willie Morris, a'r teulu- oedd. Gweinyddwyd yng nghladdedigseth. Mrs. Morris gan y gweimdog, ac yng ngbkddedigaf-th Willie ganddc- ef a'r Parch. 'William Hobley, Waeti- fawr.
[No title]
Yng nghapel Bethesda (A.), Ton Pentre, ddydd Mawrth, Ebiil 2, uuwyd mewn priodas, Miss E. Ada Thomas (naerch hynaf Mr. a Mrs. D. Thomas, -Canning St., Ton "Pentre), athrawes yn Ysgol y Cyiigor, Bodringallt, & Mr. David Jenkins (ail fab Mrs. Wm. Evans, Bryn Terrace, Ystrad Rliondda, a. nai i'r Parchn. J. Morgan, Bryn Seion, Aberdar, a David Morgan, Aberteifi), cashier, Bodiingallt Col- liery Offices, gm y Parchn. J. Morgan, Aberdar, a J. OldfLld Davies, B.A., Bethesda, Ton. Gwein- yddwyd ar y biiodasferch gan Miss Tilly Thomas .(ei chwaer), a Miss Mary Eivans ;(chwaer y priod- fab), ac ar y priodfab gan Mr. Trevor Evans (ffer- yllydd), a Mr. John Jenkins (ysgolfeistr, a brawd y priodfab). Cyflwynwyd y briodasfereh gan ei thad, Mr. David Thomas. Canwyd y "Wedding' March" gan Mr. Thomas. Dareth tyrfa fawr i'r Impel, yr hyn a ddengys fod Mr. a Mrs. Thomas yn 4ra phoblogaidd. Bu Mrs. Jenkins yn organyddes vn Bethesda am 14 mlynedd heb golli ond un Saboth yn ystod yr holl amser. Mae Mr. Jenkins yntau yi-i flwiior yn eglwys Bethel, M.C., Ystrad, ac yn WIeithgar iawn. Darbyniwyd lluaws o anrhegion costfawr. Tua. banner dydd gadawodd y cyfieiliion • ieuainc Gwm <Rhondda a'u hwynebau tua Baib, lie y treuliant eu mis onel. Eiddunwn i'r ddau hir oes dan nawdd y Nef i weithio yn Ei winllan Ef fel y maent wediarfer gwneud.
G WERSL YFR NEWYDD.*
G WERSL YFR NEWYDD.* ADOLYGIAD GAN YR HENADUR J. M. HOWELL. Pwy ddydd yr oeddwn yn. ymson, "Carwn ys grifennu Ilyfr, pe b'ai ond LyÜ' ceiniog, cyn yr ailt yn rhy ddiweddar." Pe buaswn wedi ysgiifenu y Lbwlyfr hwn, dywedwn y "Nunc Dimittis." Y mae rliywxaa o hyd yn baruu mai gwrtlfwyneb- ydd, neu elyn, yw yr unig feirniad teg. Y mae hwnw yn cyteiliorni yn llawer pellaeh i'r aswy nag y mae cyfaill i'r dde. Fel mewn engradffb amuwg wci- wyd yn ddiweddar, cyfaill yw y gwr fedr ysgrifcmui hyotlaf a thecfTit ar didyn neu ei waith. Y mae yn ainheus a fedr neb ond cyfaill fod yn kirn:ad ey t- iawn. Us feUy, y mae gennyf y cymhwysder han- fodol i alvv sylw at y Hyir bychan gwerthfawr hwn, 60 tudalen; pris 5c. Yr wyf yn adnabod yr awdur er yn llane. Gwr yr encilion ydyw; gochelgar, arafaidd, petrusgar. Un, er hynny, a fu yn wydn, difrif, ymroddgar a llwyddianus fel efrydydd. Yr oedd eisiau pender- fyndad ac uchelgais i lygadu ar, ac i fynnti .eni 1 y gradd o M.A. ym Mhrif Ysgol Llundain. Dengys yr un nodweddion fel Goruchwyliwr Addysg Sir Aberteifi. Pell ac oer y tybiai pobl ei fod; yn trigo fel y trum unig, mewn niwfl ac ia. Yn y llyfr hwn, y mae'r haul yn cynhesu. Y mae yr ei: a a'r gwlilh a#Hermon, o'r herwydd, ac oblegid fod yr awel o'r de, ac yn chwythu dros fynyddoedd Seion, wedi dadmer i fod yn ddyfroedd byw, rhedegog. Gan gofio, yr oedd yr ias ynddo erioed, ond ei fod wedi credu mai pefch i'w gadw i mewi-iyw ager, ac nid peth i'w yru ymlaen. Cofus geiiyf iddo ysgrif- ennu penillion coffa am yr Eisgob Lloyd o Bangor oedd yn ddigon o brawf fod ynddo wefr bardd. Prawf o'r un peth yw ei fod wedi cynull cynyrchion prydyddol beirdd Ceradigion (dau lyfr; at wasan- aeth ysgolion y sir. Ac er dywedyd hyn, y ma: rhin y Lyfr hwn yn peri i mi ryfeddu. Da o beth i blant plwyf neu bentrof yw fod en- wogion wcdi codi yno. Y mae Llinarth wedi rnagn dynion amlwg a gwasanaiethgar iawn mewn llawer cjlch,—Daniel Sylvan Evans, Ifan Tomos Rhys, Daniel Lwi,; Lloyd, esgob Bangor, Abram Garrod Thomas, Sion Gymro, J. T. Lewis, Yr wyf yn foddlon ychwanegu enw Jenkyn James at y rhestr. Y mae y li.yfr hwn yn rhoddi hawlfraint iddo i gylch awdwyr gwych. S:lwa. iIDwi dwyn i'r amhvg sivyii, grym, a mawr- edd persono(i:i,3th yr lesu oedd ei a mean. Cyr- haedda yr amcan, a phabeth mwy a eliir ei ddweyd ? A dywed ymhellaoh, "Gwaith pennaf yr Ysgol Sui ydyw gwneud yr Jesn'n berson byw, 'real,' i'r medd- wl ieuanc." Y mas rhoi'r cywair hwn i waith yr Ysgol Su1, nnwaith yn rhagor, yn beth i ddiolcli am dano. tStit y gwna? Fel hyn, "Bywyd gwledig oe.dd y bywyd a dreuliai?r Iesu yn nhref fechan, Nazareth. Gwladwr, yn hytracn na threfwr, ydoedd Ef. Gwydd,%i'n dda am lwyn. ogod a'u ffauau, am didefaid a'u corlannau, am yr hauwr yn mynled al"an i hau, ac am iar yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Cirai bob blodyn gwyllt, ac iddo Ef yr oedd lild wyllt y meusydd yn brydferthach na'r brenin Solomon yn ei holl ogon- iant. Hoifai adar y to yn chwilio am ymbortn, a chredai fodei Dad nefol yn gofalu am y rhai hyn." Y mae swyn yr thanes, a rhagoriaeth y "Person mwyaf hardd" yn myn'd fwy fwy o ddalen i ddalen. "Onid o-dd ein calon yn Ilosgi ynom," "Tra yr oeddym yn myfyrio, eiinynodd taii, eii-i prof- iad. Dechreua y llyfr gyda, "Oni wyddeOh fod yn rhadd i mi fod ynghylch y pethau a- berthyn i'm Tad" dibenna gyda "Ti yw Crist," a hawdd av ol ei ddarllen yw cytuno a Phedr. Nid gormod yw dweyd ,fod y llyfr yn gychwyn newydd, ac yn drysor amhrisiadwy. Xi bydd eisiell cymcll bechgyn a, merched ein hysgnlion canolradd N i'w ddarllen, oblegid llyfr i blant o 13eg i 16eg oed yd-ywcanys amhosibl iddynt fydd peid'o, os dar- llenant ddwy frawddeg ohono. Y mae yn egluro drwy gynhesu. Y mae yn dysgu drwy ddyddoii. Y mae taribeidrwydd ac addoliad ym mhob Gwors. Y mae yn pllyngdod i yspryd dyn i fyn'd ar ei liniau, bob yn awr ac eilwaith a Slefain, "Fy Ar' glwydd a'm Duw." Nid oes ond canmoliaeth yn bosibl i'w gynllun a'i hyfforddiant, ond y mae ei yspryd yn rhywbeth na ellir ei gynyrchu gan wy- badaeth a medr. Yr oeddwn i holi y plant ar loan xix., 23-42, a'r bob] mewn oed ar loan xxi., mewn capel yng ngwaei'od y sir yn ddiweddar. Hiraethwn am .gyflwr meddwl addas i fyn'd i a-rdd Gethsemane, ac i gwmni yr lesu adgyfodedig wrth lan y llyn. Tyn- nais i lawr o'r si Iff lyfr nad oeddwn wedi ei agor er's tro, un, yn wir, oeddwn wedi ei anghofio, "The Life of Christ" (Farrar). Cofiais yr amser gynt, a pha fodd y medrodd yr awdur hwnw bortreadu golygfeyd(I "El oes," a chyflwyno y dynion a r di. gwyddiad.au, i mi fedru eu gweled, a bod yn en plith. Wel, dyna wna y llyfr .hwn. Y mae ynddo hefyd hol'I dreiddgarweh ysprydol Dods a David Smith ("In lb- d-iys of His flesh"). Nid oes damcaniaeth ar wyrLh a dàmeg ar a, dda.r- Ilenwyd nad yw 'vii ca-I Ile ym. meddwl yr awdur, ac yn cael ei chynihwyso i'w lie priodol yn ymdaith y dehongliad. Yr wyf wedi ifeniiu fel hyn: am fy mod yn dymi-ino i bob aelod o bob Ysgfll ym, mhob man wybod am y cyfoeth newydd hwn sydd o fewn eu cyrhaedd.
Advertising
*Hanes yr Iesu: Gwerslyfr 1918—1919. Gail Mr. Jenkyn1 James, M.A. Cyhoeddedig yn Llyfrfa'r Cyfundeb. Pris, 5c.