Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BETH YDYW ? Y FEDDYGINIAETH OREU AT Y DROPSY sydd wedi ei ddarganfod ydyw, sef, HUGHES'S DROPSY PILLS. AM y rhai y tyatiolaetha miloedd o bob parth o'r byd nad oes eu cyffelyb fel meddyginiaeth effeithiol at y ciefyd blin ag y maent yn dwyn ei enw, sef y DROPSY. Wele rai o'r nodau wrth ba rai y gellwch adnabod y clefyd os bydd wedi gafaelyd ynoch- Diffyg Dwfr, Grafel; Chwydd yn y Traed, Clinian, Ymysg-aroedd, &c.; Gwynt a Llawnder yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Darllener a ganlyn:- LLAI8 0 ORORAU Y LLYN HALEN. SYB,—Gwelwch yn dda ddanfon i mi werth Dcler o'ch HUGHES' DROPSY PILLS byd enwog gyda throad y Post. Yr wyf yn ymwybodol o'u daioni er's llawer o flynyddoedd- er pan oeddwn yn byw yn Merthyr Tydfil. Yr eiddoch, EDWARD EDWARDS. Spanish Fork City, Utah Territory, America, U.S. WEDI BOD DAN DRINIAETH MEDDYGOL AM 9 MI SYR,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich darganfyddipd gwerthfawr, sef HUGHES' DROPSY PILLS, y rhai a. wnaethant ddaioni mawr i mi wrth i mi gymeryd dim ond dau ilychaid. Yr wyf yn awr yn berffaith iach, ac yn dilyn fy ngwaith, wedi bod naw mis o dan driniaeth meddygol, ond heb gael dim llesad hyd nes i mi dreio HUGHES' DROPSY PILLS. Gwnewch hyn yn hysbys i bawb. Yr eiddoch, Collier's row, Treorci. JOHN PHILLIPS. IS* EH YBUDD Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mark (sef Uun Diamond) a'r geiriau DROPSY PILLS' oddi- fewn ar bob blwch, a'r enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn, twyll ydyw. Ar wevth trwy yr hoil Deyrnas am Is. lie., 2s. 9c., a 4s. 9c., trwy y Post, Is. 3c„ 2s. 11c., a 4s. 9c oddiwrth y Perfihenog— 0\A. COB HUGHES, Manufacturing Chemist, PEN ARTH, CARDIFF AGENT IN AMERICA- Mr. R. D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymouth, Pa.
.Cyfarfodydd, &e. -------------_----------------
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfodydd, &e. TRECELYN, MYNWY. Dydd Snl, Medi 4ydd, cynaliodd eglwys Seion, Trecelyn, ei chyfarfod blyn- yddol. Pregethwyd gan y Parch Levi Rees, Blaen- afon, yn y boren yn Gymraesr, prydnawn a'r hwyr yn Saesoneg. Cafwyd pregeth Gymraeg gan y Parch T. J. Hughes, Maesycwmwr, yn y prydnawn. Cafwyd oedfaon hwyliog a hyfryd—y brodyr yn traddodi yn eglurhad yr Ysbryd, gyda nerth a dylanwad mawr; a'r gynulleidfa wrth ei bodd yn gwrando Yr hen, hen hanos am letlu a'i farwol glwy' Deallwn fod y casgl- iadau trwy y cyfarfodydd wedi cyrhaedd swm anrhyd- eddus yn wyneb hin anffafriol a marweidd-dra masnach. TABERNACL, YNYSYBWL. Cynaliwyd cyfar- fodydd agoriad y capel uchod Sul a Linn, Medi yr lleg a'r 12fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn J. T. Evans, Bodringallt; R. Thomas, Penrhiwceibr J. Daries, Abercwmboy Morris, Pontypridd R. S. Williams, Dowlais; a R. Rowlands, Aberaman. Caf- wyd cyfarfodydd ardderchog. Bendith fawr i'r eglwys yw fod Mr Bevan yma, yn hen filwr profiadol sydd wedi arfer ymladd a gorchfygu dyled capelau mewn manaa ereill, ac y mae ef a'i briod hawddgar mor llawn o ysbryd gweithio ag erioed, ac y maent wedi anadlu llawer o'r un ysbryd i ereill, fel y mae lie i obeithio y gwelir eglwys fywiog a gweithgar yma.-E. CASLLWCHWR.—Sabbath, Medi 18fed, a'r Llun canlynol, cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol Horeb. Pregethwyd yn efengylaidd, nerthol, a hyawdl, gan y Parchn David Lewis, Dock, Llanelli, a J. Foulkes, Aberafon. Cafwyd' hin o'r fath hyfrydaf, cynulliadau lluosog, ugeiniau yn methn dyfod i mewn, casgliadan boddhaol. Yr oedd y pregethau yn tra rhagori, y cenadon wedi eu gwisgo k nerth o'r uchelder, drws ymadrodd yn agored, a'r ymadrodd yn disgyn fel gwlithwlaw ar irwellt, ac fel cafodydd ar laswellt, a chalonau y bobl megys eiddo Cleopas a'i gyfaill wrth fyned i Emmaus. Byddwn yn dysgwyl ffrwyth lawer.— Gynyr o Gaercawch. WERN, ABERAFON. Cynaliodd yr eglwys hon ei cb\firfodydd blynyddol ar ddyddiau Sul a Llun, Medi 4ydd a'r 5ed. Pregethwyd y Sul yn rhagorol iawn gan y Parchn R. Trefor Jones, Panteg Jenkins, Ferndale a D. W Evans, Britonferry. Decbreuwyd y gwahanol oodfaon gan y Mri Thomas, Taibach Ffonlkes, Aberafon W. Hughes, D. A. Dayies, a D. Griffith (B.), Aberafon. CawBom bregethau grymus ac effeithiol, a chynalleidfaoedd mawrion i -,vrandaw.- W. S.
YR EFENGYLAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR EFENGYLAU. PAHAM PEDAIR EFENGYL ? BETH YW AMCAN POB UN ? GAN Y PARCH R. G. JONES, D.D., UTICA. YMDDENGYS ar yr olwg gyntaf yn rhyfedd fod yr Ysbryd Glan wedi cyfarwyddo pedwar o ddynion i ysgrifenu hanes bywyd y Gwaredwr, a phob un ohonynt mor fyr. Paham na buasai yn rhoddi y gorchwyl yn llaw rhyw un, ac yn cyfarwyddo hwnw i roddi darluniad cyflawn a chywir obono mewn un gyfrol weddol helaeth ? Mae amryw bethau wedi eu gadael allan gan y pedwar y buasem yn hoffi eu gwybod. Heblaw hyny, mae y pedwar yn ein harwain i gryn ddyryswch pan yn ceisio eu beirniadu a'u cysoni. Weithiau ymddangosant mor debyg, yn enwedig y tri chyntaf, fel y gall un dybied fod y naill wedi benthyca oddiar y llall, ac yr ydym mewn penbleth i geisio cael allan pa un ysgrifenodd flaenaf, ac felly sydd fwyaf gwreiddiol. Ond cyn y caffwn hyny allan, can- fyddwn eu bod yn amrywio mor fawr oddiwrth eu gilydd nes ein gwneyd bron yn sicr na wyddent ddim am ysgrifeniadau eu gilydd. Gosodwyd pedwar i ysgrifenu am fod yn an- mhosibl cael un digon mawr i wneyd chwareu teg a'r Gwrthddrych. Yr ydym wrth ddarllen yn teimlo fod Iesu Grist yn fwy na'r hyn a ddy- wedir am dano gan y pedwar Efengylwr. Dywed loan hyny yn onest, pan y cyfaddefa na wnaeth efe ond ysgrifenu rhyw bigion o'r peth- au a wnaeth ac a lefarodd yr Iesu (pen. xxi. 25). Gan hyny, ymddengys fod yr Ysbryd Glan wedi cyfarwyddo pob un o'r pedwar i ysgrifenu yn benaf er egluro rhyw linell neillduol yn ei gymeriad. Cymerai i mewn bob peth oedd yn tueddu i egluro y mater hwnw, a gadawai bethau ereill yn ddisylw. Yr wyf yn meddwl mai fel hyn y gallwn gyfrif am y tebygrwydd neillduol a ganfyddir ynddynt weithiau, a'r gwahaniaeth rhyfeddol sydd rhyngddynt bryd arall. Ond yr anhawsder yw cael beirniaid craffus ac esbonwyr medrus i gyduoo ar brif amcan pob un o'r Efengylwyr, neu, pa linell yn nghymeriad y Gwaredwr mae pob un yn gynyg ddarlunio. Yn gymaint a bod yr elfen ddynol yr un mor amlwg a'r elfen Ddwyfol yn yr Ysgrythyrau hyny yw, gan fod yr Ysbryd Glan wedi defn- yddio pob dyn fel yr oedd, a chaniatau iddo ddangos ei alluoedd a'i nodweddion neillduol ei hun yn ei ysgrifeniadau, dichon y gallwn wrth ystyried amgylchiadau pob un o'r Efengylwyr gael allan i raddau beth oedd ei brif amcan wrth ysgrifenu. Er engraifft: Ni allasai Amos byth ysgrifenu llyfr Esaiah, na Micah lyfr Zechariah. Yr oedd eu meddyliau a'u gwyl- iadaeth mor wahanol. Felly ni allasai un o'r tri Efengylwr cyntaf ysgrifenu Efengyl loan, neu lyfr y Datguddiad. Am hyny caniatawyd i bob un wneyd yr hyn a fedrai. Defnyddiodd yr Ysbryd GlAn bob un i wneyd yr hyn a allai, gan roddi i bob un waith yn ol ei allu ei hun. Gwn fod rhai dynion galluog o'r farn fod ysbrydoliaeth yn difuddio dyn o'i alluoedd naturiol, ac yn eu defnyddio fel peiriant yn unig; ond yr wyf fiyn cyduno a'r rhai a dyb- iant fod pob dyn ysbrydoledig pan yn ysgrifenu mewn cyflawn feddiant o'i synwyr ei hun, tra yn cael ei gyfarwyddo gan Ysbryd Duw. Dyn- ion sanctaidd Duw a lefarasant yr Ysgrythyrau megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glan. Ymddengys fod dylanwad yr Ysbryd Glan ar ysgrifenwyr yr Ysgrythyrau yn ateb dau ddyben, sef datguddio ac ysbrydoli. Weithiau galluogid hwy i ysgrifenu ffeithiau newyddion, neu wirioneddau na wyddent yn flaenorol, ac nas gallai y meddwl dynol byth eu cael allan drwy unrhyw ymdrech neu ymchwiliad. Dyna ddatguddiad. Brydiau ereill, ac yn ami, cyn. hyrfid a chynorthwyid hwy i ysgrifenu yn bwr- pasol a digamsynied, ffeithiau adnabyddus o'r blaen iddynt hwy ac ereill. Dyna ysbrydol- iaeth. Methu cadw y gwahaniaeth rhwng dat- guddiad ac ysbrydoliaeth mewn golwg yw yr achos o lawer o'r cwynion yn erbyn y Beibl. Y mae yr oil wedi ei ysgrifenu dan Ddwyfol ys- brydoliaeth. Rhan sydd yn ddatguddiad. Os ydwyf yn gywir yn fy syniad am broff- wydoliaeth, yna hawdd credu fod amgylchiadau yn dylanwadu neu dueddu dynion i ysgrifenu ar ryw fater neu mewn rhyw ddull neillduol. Gallwn gan hyny dybied, heb sicrhau hyny, fod ei amgylchiadau neu ei brofiad ef ei hun wedi tueddu pob un o'r Efengylwyr i ysgrifenu yn y modd y gwnaeth, yn gystal a'i addasu i raddau i fod yn offeryn pwrpasol i osod i lawr yr hyn a fynai yr Ysbryd Glan iddo wneyd er adeilad- aeth yr Eglwys. Yr oedd MATTHEW wedi bod am flynyddau yn bublican, yngasglwr trethi, ac felly wedi gweled cymaint o dwyll, a chlywed cynifer o ddynion yn dyweyd celwydd nes peri iddo weithiau ddyweyd, Pob dyn sydd gelwyddog.' Nid yw dynion yn hollol onest a geirwir gyda golwg ar drethi yn America, lie mae y IIywodraeth o'r bobl ac er mwyn y bobl. Pa faint llai y maent yn ngwledydd y dwyrain, lie mae y treth-gasglwr yn ceisio cymaint fedro ddyfod o hyd iddo, a'r treth-dalwr yn cuddio cymaint ag a fedro o'i eiddo P Yr oedd y brof- edigaeth i wneyd hyn yn gref iawn yn Judea y dyddiau hyny, pan gredai pob Iuddew mai anghyfreithlon oedd talu teyrnged i Cesar. Am hyny, pur debyg fod Matthew wedi twyllo a chael ei dwyllo lawer gwaith. Ond yn awr mae wedi cael gafael ar un hollol eirwir a chywir, yr Hwn yr oedd pob dywediad o'i eiddo yn Ie, ac Amen.' Dechreua Matthew trwy ddangos cyflawniad o'r Hen Destament yn Nghrist, fel prawf o wir- ionedd y rhagfynegiadau am dano. Gofala yn mhob engraifft alw sylw neillduol at y broffwyd. oliaeth a'i chyflawniad. Ni chaniata gofod i ddyfynu pob adnod, ond rhoddwn ychydig fel engraifft :-Matt. i. 23-Isaiah vii. 14; Matt. ii. 6-Micah v. 2; Matt. ii. 15-Ilosea xi. 1. Ceir tua deg-ar-hugain o gyfeiriadau cyttelyb at rag- fynegiadau yn yr Hen Destament, pa rai a gyf- lawnwyd yn amlwg iawn yn Nghrist. Y mae hefyd wedi cofnodi amryw o ddamegion Crist, pa rai a ddysgant fod llwyddiant ei deyrnas Ef yn sicr, er y gallai gymeryd cryn amser i ddwyn ei gwaith yn mlaen. Yn Nameg yr Hauwr cawn beth o'r had yn syrthio ar fanau anffafriol i'w dyfiant, ond y mae y rhan fwyaf yn cael tir da ac yn dwyn ffrwyth lawer. Yn Nameg yr Efrau ceir cryn siomedigaeth ar y cyntaf, am fod drwg yn y deyrnas, ond yn y diwedd cesglir llawer o wenith i'r ysgubor. Rhydd hefyd amryw engreifftiau o gyflawniad rhagfynegiad- au o eiddo Crist ei hun. Yn y benod xvi. 28, dywedodd y cai rhai o'i ddysgyblion weled teyrnas Dduw cyn gweled angeu, neu weled Crist yn ei wisgoedd breninol. Cawn hanes y gweddnewidiad yn y benod ddilynol fel cyf. lawniad. Yn penod xxiv. cawn broffwydoliaeth pur helaeth o eiddo Crist, llawer o ba un oedd wedi ei chyflawni yn yr amser yr oedd Matthew yn ysgrifenu. Mae wedi ei hysgrifenu gyda sicrwydd hollol y eyflawnid y cwbl fel yr oedd proffwydoliaethau ereill wedi eu cyflawni. Yn nglyn a'r broffwydoliaetb yma, o'i blaen ac ar ei hoi, cawn amryw ddamegion yn dangos y gallai cryn oediad gymeryd lie cyn cyrhaedd at y cyflawniad, ond nid oeddynt yn llai sier er hyny. Yn y benod xxvi. dywedodd y byddai iddo gael ei fradychu i ddwylaw ei elynion, a'i roddi i farwolaeth trwy groeshoeliad, yr hyn a gyflawnwyd yn fuan iawn wedi hyny. Fel hyn cawn fod pob peth a ddywedodd y proffwydi am Grist wedi eu gwirio yn ei fywyd, ac fod pob peth a ddywedodd Efe wedi profi hefyd yn wirionedd. Felly tybiwyf nad gormod dyweyd mai prif amcan Matthew oedd gosod allan ddi- dwylledd Iesu Grist. Ceir gonestrwydd a di- dwylledd yn elfen amlwg iawn yn y Bregeth ar y Mynydd, yn gystal ag yn ei atebion i ddynion oeddynt am ei ganlyn. Nid oedd yn addaw dim manteision bydol i neb (penod viii. 19, 20). Wrth derfynu dywedaf, os nad gosod allan y linell hon yn nghymeriad y Gwaredwr oedd prif amcan Matthew, mae yn amlwg ei fod wedi cadw hyn mewn golwg yn barhaus, a thaflu llawer iawn o oleu arno. Ymddengys i mi fel ei brif nod. (I'w barkau.) i-
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTH, RHONDDA. Cynaliodd eglwys Anni- bynol Saesoneg y lie hwn ei chyfarfod blynyddol Sul a LIon, Medi 4ydd a'r 5ed, pryd y pregethwyd gan y Parchn G. B. Williams, Ynyshir; Powell, Llwynpia; Skyrme, Ton; a Edmonds, Hirwann. Cafwyd preg- ethau rhagorol, cynulleidfaoedd llnosog, a chasgliadau da.—H. W.