Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CAN Y GWYLIAU.

LARGE NUMBER OF NEEDY PEOPLE,

[No title]

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

—Saethodd Seth Clark, masnachwr cyf- rifol yn Buffalo, ei hun drwy ei ben yr wythnos ddiweddaf, fel y bu farw yn y fan. Colledion masnachol, ac anghydfod teuluaidd a achosasant y trychineb. Yr oedd yn aelod parchus gyda'r Presbyter- iaid. —Dechreuodd un o'r dynion cyfoethocaf yn New York ei fasnach drwy brynu hen farilau peillied; ac wedi hyny dechreuodd brynu hen farilau olew. Bu ganddo ar un adeg 1,000,000 o farilau ar law. Collodd yn ystod y panic diweddar$250,000; ond er hyny y mae yn gyfoethog eto. —Cododd pobl New Orleans $50,000 i dalu costau dirprwywyr i fyned i Wash- ington i anog y Gydgyngorfa i wneyd darpariadau priodol i gadw yr afon Missis- sippi yn eigwely, rhag gorlifo yr holl wlad, a dinystrio bywydau a meddianau. Bernir y bydd yn ofynol cael $9,000,000 i dalu am wneyd y dwfr gloddiau yn Louisiana, Mis- sissippi ae Arkansas.

CENADWRI YR ARLYWYDD.