Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
^laiiirggr A WEEKLY NEWSPAPER, ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning, T. J. GRIFFITHS, PROPRIETOR. UTICA, N. Y. I Important to Advertisers !—The attention of business men in general is called to Y DRYOR as a superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication; AND HAVING A CIRCULATION EX- CEEDING THAT OF ALL THE WELSH WEEKLIES AND MONTHLIES PUBLISHED IN THE UNITED STATES COMBINED.
--MACHLUDIAD YR HAUL.
MACHLUDIAD YR HAUL. GAN W. JONES (GWYNIONAWB), BBYNAMAN, D. O. I. Urddasol deyrn, mae dwyfol ardderchawgrwydd Yn amgylchynu ei f^hludl&d ef; Mae'r Defoe i d fry yn gwrido mewn hawddgarwch Wrth dremio 'ngwyneb yr hudollaeth gref; A hithau'r Hoer, fel teg arglwyddes brydferth, A'i theulu siriol yn arlanu'r nen, Ar lanlawr nef sy'n gwneyd el hymddangosiad, 0 barch teyrngarol l'w goruchel ben. n. Y dydd yn trengu, bywyd a'i helyntion Yn araf Uthro 1 anghofrwydd syn; Dychwela'r liaethferch, dan follanus ganu, Trwy'r gwe.unydd tonog 1 amaethdy'r glyn; Ac yntau'r gwych lafurwr tangnefeddus, Mewn Chwys a lludded tua'i gartref ddaw, Wrth wel'd yr haul mewn mawredd yn dlflanu Dros bell ororau y terfyngylch draw. IU. Dystawrwydd belch us, fel y bu el hunan, By'n lleddfu'r awel, yn llonyddu'r.don, Ac uwch y drych, fe ymollynga natur I wisgo prudd-der ar el gwyneb lion; Ac wyla'r nos ei dagrau gloew, perlog, Am ymadawlad y gogonlaat sydd, Yn cynwys rhlaiau bywyd a phrydferthwch, A'l wenau tlrion yn hanfodlon dydd. IV. Ar amcald lor, mi welat ddydd yn gwawrio, Yn nghaddug tywyll y dyfodol cUdj" Pan fflamla'r haul el hunan o fololaeth, A'l degwch dysgla,er droir yn d'wyHwcb prudd; Haul bywyd dyn 'run fath ag heulwen natur, By'n machlud yn ngororau'r hwyr-ddydd pell, Ond gwelir boreu yr esgyna eilwaith Mewn rhwysg gogonlant "adgyfodlad gwell." 1
FFURFIAD Y GENEDL GYMREIG.
FFURFIAD Y GENEDL GYMREIG. Oyfres o Erthyglau ar Hanes y Cymry o'r Bumed l'r Ddeuddegfed Ganrif. GAN J. E. LLOYD 0 GOLEG ABERYSTWYTH. II Gydag ymadawiad y Rhufeiniaid yr ydym yn croesi trothwy y oyfood a ddewiswyd genym i draothu arno-sef y cyfnod yn yr hwn y ffarfir, y dygir i fodolaeth ac i lawn addfedrwydd, y genedl Gymreig. A'n gorch- wyl blaenaf fydd dweyd yohydig am ddefn- ydd y genedl—yr elfeuau y bu owrs rhag-! luniaethol o amgylchiadau. yn en troi ao yn eu trosi nes cyraedd o genr/H y Cymry ei fturf bresenol. Gadewch i ni felly adael y darlun cyffredinol, a cbyflwr y wlad fel cyf- angorff, a thrci golwg at y darn tir sydd yn rhedeg allan o ystlys Lloegr i wyneb yr Iwerddon—y llecyn a anwylir genym yn awr dan yr enw Cymru. Dvma Iwyfan ein han- es; hwn sydd i foci yn chwareufwrdd i'n gwroniaid ddangos en gwrhydri arno. Nid oes eto ddim yu ei wahanu oddiwrth wedd- ill y dalaeth Rafeini^; nid yw y trigolion yn meddu unrhyw enw arbenig iddynt eu hun- ain-Brytaniaid ydynt fel y lleill; en wan ydyw Cymry a Chymraeg sydd yn huno yn dawel yn mynwes yr Hyn Fyd. Ond hyd yn nod mor foreu a hyn, nid anhawdd f aasai casgin oddiwrth nodwedd allanol y wlad ei chreigiau esgyrnog, eidolydd main, gwyxdd- las, yn rhedeg i fyny i fynwes y mynydd- oedd -mor wahanol i wastadeddau Lloegr- fod hanes arbenig iddi ei hnn yn ei haros yn y dyfodol, pan ddygai amser yr amgylchiad- au ffafriol i hyny oidi amgylch. Yr ydym eisoes wedi son am y cyferbyniad byw oedd yn bod rhwng y ddau ddosbarth o ddynion a'u gilydd oeldent yn byw y pryd yma rhwng Mor Germani a Mor yr Iwerddon. Yma y dinasyddion Rhufeinig, a'a diwvll. iant nohel; acw y llwythau Brytanaidd, yn eu dillad cartref a'u aymlrwydi cyntafig. Yn awr geHir bod yn llod sior, oddiar fwy nag un. ystyriaetb, mai y dogbarth olaf oedd yn Y mwyafrif yn Nghymrn, ao fod yma agwedd Wahanol iawn ar bethau i'r hyn a welid ar lanan y Taf wys ao yn nghymydogaeth Oaar- efrog. Oyn y gallwn synied yn gywir am gyflwr Cymra yn y flwyddyn 409, rhaid ys- gubo ymaith oddi ar wyneb y wlad bron yr o'l sydd yn ei nodweddu yn awr-yr adeil- adau gwyoh-yn dai, yn eglwysydd, ac yu gapeli-y ffyrdd, y caean, y gwrychoedd, y ohwareli, y gweitbfeydd, y trefydd, y ffsrm- yddilawrhyd at y dasau a'r ydlanan. Y path cyntaf a'n tarawai wrth dremio ar Gymrn yn y bumed ganrif a fyddai ei hag- wedd wyllt ac anial. 0 Leyn i Faelor, ao o Fon i Went, yr oedd coedwig ar goedwig yn ei gorohuddio fel mantell, a dim ond pen moel rhyw fynydd uwch na'i gilydd yma ac aew yn ymwthio drwodd, neu ryw afon yn tori ar yr unffnrfiaeth gyda'i llwybr dolenog tua'r mor. Fel y gallesid dysgwyl mewn gwlad o'r fatb nodweddion, yr oedd yr hin- siwdd yn oer ac yn annhymerns i'r pen draw; gwlawiai yn ddibaid, ysgnbai ystorm- ydd gwyllt dros drumiatt y mynyddoedd, ao yr oedd tawch a niwl yn ymgodi yn wastad o wely pob afon ao o wyneb pob llyn. Llech- ai myrdd o greadnriaid gwyllt yn nyrys- lwybrau dyfnion y coed-llwynogod, ceirw, bleiddiaid, aa ychain gwyllt, heb son am adar o bob lliw A llnn. Ond atolwg, ebe rhywun, ai nid desgrifio gwlad gyfaneddol yr ydych, a pha le yr ydych am osod y tri- golion ? os mai dyma oedd ansawdd Cymru yr adeg hon, beth a wnewch o'r llwytbau Cymreig? Rhown hwynt yn y conglau a'r oilfachan: o herwydd yn oesau boren y byd, pan nad yw'r boblogaeth ond taneu, ac ang- enion dyn ond ychydig, y mae digon o le i'r ddynoliaeth ao i wylltineb Natar ochr yn ochr a'u gilydd; cawn yn wir engreifftiau o'r un peth, hyd yn nod yn y dyddiau hyn, yn ardaloedd newydd America ac Awstralia. Yr oedd ar lethrau y mynyddoedd ac yn nghil- fachan y fforestydd lwythau Oymreig yn trigo: ond nid oeddent yn llwythau cryfion a lluosog. Nid oedd ganddynt na threfydd na heolydd; yr oedd masnach, morwriaeth, a garddwriaeth, yn bethau dyeithr iddynt; nid rhyw lawer y byddent yn trin hyd yn nod ar y tir; eu prif gynaliaeth ydoadd y defaid, yr ychain, a'r moch a borent y myn- yddoedd dan eu gofal. Meddent ddigonedd o'r rhai hyn, a llaeth, ymenyn, caws, a chig, oedd eu bwyd a'u diod gyffredin. Ea hunig orohwyl o'r bron oedd gofalu am eu hanif- eiliaid; arweinient hwy yr haf i'r porfeydd ar benau y bryniau, lie yr arferent godi eu hafodydd; y gauaf dychwelent yn ol gyda'n da i'r dolydd cysgodol ar lanau yr afonydd. Bron nad eu gwartheg a'u defaid oedd y cyfan ar eu helw— yr unig ffurf ar gyfoeth .Y yn eu mysg; hyd yn nod mor ddiweddar a chyfreithiau Hywel Dda, dirwyid y sawl fyddai yn enog o dros ad du yn erbyn deddf- au y wlad-nid mewn hyn a hyn o arian, ond mewn hyn a hyn o ychain. Pa fath dai oedd ganddynt, ynte, a pha beth oedd en dull o ranu y tir? Syml nodedig oedd y trefniadau hyn i gyd; ymgysgodent y nos, a phan y byddai y tywydd yn flin, mewn peth- au nid annhebyg i gyohod gwenyn, ond eu bod yn feinion yn y brig 80 yn breiffi jn yn ybon; gosodid brigau hirion o'r coed at eu gilydd i wasanaethu fel ffram, ao yna gorcb- uddid hwynt a phridd, mwsogl a daii. Am eu dull o ranu y wlad rhyngddynt, fe welir yn rhwydd nad oedd Pwnc y Tir yn aflon. yddu nemawr arnynt. Y cyfan a geisiai Llewelyn (galwer ef) gan gydaelodau y llwyth oedd rhyddid i'w anifeiliaid bori dan amddiffyn y llwyth; a chan mai ychydig iawn o dir oedd yn cael ei neillduo at hllU-dim ond rhyw glwt bychan o aasgylch pob caban -nid oodd unrhyw anhawsder i ddgrparo porfa ar gyfer pawb oedd yn berchen da a defaid. Ond os nad oedd Pwnc y Tir yn un pwysig iawn cydrhwng aelodau y llwyth au giiydd, y? oodd yn gyfrifol am beth wm- bread o gynen rhwng y naill lwyth a'r llall. Ar y cyntaf, geliii meddwl, daeth y gwahan- 01 Iwythau i gyd-ddealltwriaeth a'u gilydd gyda golwg ar yr ardaloedd i fod yn feddiant y naill a'r Hall o honynt. Gymerwn Di y [dyn ffrwythlon yma, meddai ua llwyth; o'r goreu, meddai'r llall, gwnawn ni ein cartref wrth droed y mynydd acw, ac felly am ys- baid cafwyd heddwch. Ond bob yn dipyn y mae y llwyth yma yn oynyddu, a'r llwyttl ae-w, o herwydd rhyw amgylehiadau neilldu- ol yn ei hanes, yn lleihau; y mae dyffryn y bobl yma yn myned yn ormod iddynt, tra y mae cilfach y lleill bron yn rhy gyfyng i'w dai—y m'te eisiau ad-drefniad i gyfarfod a chyfnewidiadau amser. Ond, ysywaeth, nid oes unrhyw awdurdod goruchel i wneyd trefniadau, nac i'w gweinyddu ar ol eu gwneyd; y mae pob llwyth yn annibynol ar ei gymydogion; ao nid oes unrhyw fodd i derfynu y ddadl, ond yn unig drwy y cledd- yf. Gallwn deimlo yn sier i'r Rhufeiniaid, tra buont yn arglwyddiaethu yma, gadwoys- tal beddwch ag y medrent rhwng eu deiliaid afreolus: ond eu hanian oedd ffraeo a'u gil. ydd; a phan symudwyd y Ilaw gref oedd yn eu cadw mewn trefn, diau iddynt dori allan mor derfysglyd ag erioed. Ffaith y mae amryw wedi ei nodi ydyw fod cenedloedd yn y cyflwr ceillduol ymB o wareiddiad—y eyflwr bugeiliol—yn ymroddgar iawn i ryf- el; rbyfel ydyw eu hoff ddifyrwoh, prif or- chwyl eu pendefigion, a phrif destyn oan- iadau eu beirdd. Ac yn hyn nid oedd dim yn eithriadol yn y llwythau Cymreig; medd- ai pob gwr ei arfau, ao nid oedd arno ofn eu defnyddio. Yr oedd i bob llwytb., ao hyd yn nod i bob ardal, ei Dinas, fel y gelwid hi; amddiffynfa gadarn, yn sefyll yn gyffredin ar ben bryn nohel, lie y oesgiid holl eiddo y llwyth i ddiogelwch mewn adeg o berygl, Saif olion y dinasoedd hyn hyd y dydd hedd- yw yo wasgaredig dros wyneb 6in gwlad; cymerer Pendinas, ger Aberystwyth, a Dines Dinlle, yn mhlwyf Llandwrog, Arfon, yn engreifftiau. Orug anferth wedi ei gynull gan lafur dyn ydyw Dinas Dinlle; ond fel rheol, arbadai ein tidtu y drafferth yma drwy ddewis copa rbyw fryn mwy serth na'i gilydd i godi dinas arno. Yna cloddient ffofc o'i hamgylch, a chlawdi uihn!, i fod yn nerth yohwanogol yn erbyn y gelyn; ac uwchben y olawdd yn gyffredin iawn byddai mur o geryg man diforter ynjei adgyfnerthu, I neu efallai goed preiffion wedi eu llusgo o'r goedwig gerllaw. 0 fewn ei ddinas gallai y Brytaniad herio am y tro holl gynddarsdd ei elynion; gallai ea oanfod o ba gyfeiriad byn- ag y delent, gillai gyneu tan i ff iglu rhy- budd i gyfeiUion idio mown dinasoadd or- aill, gillai yn rhwydd wrthsefyll unrhyw ymosodiad ar ei gaerau odli allan; as os byddai ffynon yn dygwydd bod o fawn cyloh ei furiau, gallai aros yn dawel mewn diogel- wch, ef a'r cyfan a feddai, nes yr elai y dymestl heibio. Hyn oedd eyflwr y llwythau Cymraig oddeutu dechreu y bumed ganrif. Ao hyd HENRY M. STANLEY. yn hyn Ilwythau gwasgaredig oeddent ao nid oened]; nid oedd dim yn en rhwymo gyda'u gilydd; yr oeddent heb undeb, ac fally heb nerth. Gwir fod yma ddefnydd oenedl ragorol; ond def"dd ydyw, heb ei drafod gan law amser, fel y pridd yn Haw y crochenydd, neu y mwn yn llaw matalwr. Y gorchwyl nosaf ydyw caisio dyfod o hyd i ryw wybodaeth yn nghylch cnwan y llwyth. au hyn a'r ardaloedd a breswylient; eu han- iad, on hiaith, 'n cyaylltlad a llwythaa er aill yr ynys. Ond rhyfedd mor faaa yr eir i ddyryswch yn y cyfairiad yma; y mae oMon a thraddodiadiu y llwythau Cymreig ya rhoi peth goleuni i ni ar y bywyd iI. arweinid ganddynt; ond pan eir i chwilio am enwau a chyffiniau ac achau cenadlaethol, gedy prin- der pob cofnodion hanesyddol ni yn y tv wyllwch mwyaf. Ond ar y cyfan, arweinir ni at y casgliad fo 1 Cymru yn rhanedig y pryd yma, fel mewn oesau diwaddiraeh, rhwng pedwar o brif Iwythau—y Gwyndod wyr, y Powysiaid, y Deheuwyr, a'r Gwen- hwyson. 1. Perthynai y Gwenhwyscn i ar- daloedd Gwent a Morganwg, nei y wlai o'r tu dwyrain i'r afon Dawe; dyma Siluras y oofnodion Rhufeinig, y dewraf a'r gwydaif o holl fan bobloedd yr ynya. 2 Ycn^stynai y Deheuwyr dros y gweddill o'r Deheubirth, ssf Siroadd Iberteifi, Peafro, C jerfyrddin, Maosyfed, a Brycheiniog; hwynt-hwy, ond odid, ydynt Demette (h. y. Dyfedwyr) y Rhufeiniaid, na cheir ond ychydig iawn o hanes am danynt heblaw eu henw. 3 Yn drydvdd daw y Powysiaid, trigolion Mald- wyn a chymydogaeth Oaerlleon a'r Amwyth- ig. 4dnabyddir v rhai hyn f jl yr Ordovices, a roisant y fath drafferth i'r Rhufeiniaid oyn eu darostwng. 4. Yn olaf i gyd rhaid rhestru y Owyndodiaid, preswylwyr Uwyn- edd nen Ogledd-orllewin Cymrir, oryfdwr y rhai oerld mynyddoell anhygyroh Eryri a ohoedwigoedd dyfnion Mon. Nid ymddeng- ys fod gan y Rhnfeiniaid unrhyw enw ar y llwyth yma, ao efallai nad oeddynt ya gwa haniaethu rhyngddi o'r Ordovices. Nid oes dadl nad oedd y pedwar llwyth yma yn perthyn i'r cyff Oeltaidd o ran iaith a tharddiad; dywe iwn hyny gyda golwg ar gangenau eraill y teulu nnwr Inio-Ewropa- aidd, ac heb godi ar hyn o bryd y cwestiwn ai nid oedl y Caltiaid hyn weli tafla aien, naill ai fel oaethfeistriaid neu mewn rhyw ddull arall, dros Iwythau hynafol oeddent yma o'n blaen, ac hob fod yn Aryaid o gwbl. Credwn yn sicr y gelii i profi hyn—'o^l al- fen gyn Galtaidd wedi ymgymysgu a gwaad y Oymry, ao yn pirhau eto i ddingos ei huti yn y dynion byr, tywyll eu pryd, a dn eu gwallt, a welir mor fynyoh ya ein mysg. Ond gadawer y rhai hyn yn bresenol allan o'r cyfrif; geilir edryah ar y llwythau Oym- reig yn ea crynswth yr adeg yma fel Oelt. iaid dianae iol. GoEi awn, yute, i ba ddos- barth o'r taalu Oeltaidd y psrthynent? ai i'r dosbarth Brythonig ai i'r Gwyddalij ? ai Brytaniaid Lloagr ai preswylwyr yr Iwerdd- on oedd eu psrthynasaa agosaf? Diau y d/wed y cyftrwydd mswn ieithyddiaeth fod iaith y Cymry, fel y mae wedi ei tbrog- glwydlo i ni, yn profi mai Brythoniaid, fel trigolion Oarnyw a Llydaw, ydoedd oyn-dri- golion ein gwlad, ao mai pall iawn oedd y gyf-i.thTSO'i rhyagdiyn't a'r Gwyddalod. At- 8ebwn ninau nad yw iaith bob amser yn fyn- egiad cywir o darddiad cenedl; gall unrhyw bobl ollwng ea gafael o iaith eu hynafiaid, a thToi at unestronol; nid yw y Ffrancaeg ond ffarf ddiweddar ar y Lladin, ao et.) nid Llad- iiwyr mo'r Fcranod. Y gwir ydyw y cred ir gin amryw, a hyny ar seiliau gweddol gedyrn, fod yn mysg y llwythau y buom yn eu darlunio rai Gwyddelig yn ogystal a B/ythonig—-i'r Brythoniaid, ychydig ar ol dachreu ein oyfaod, oresgyn y Gwy Idelod, a gwthio arnynt en hiaith a'a harferion. Dieth Cymraeg, felly, yn iaith yr holl wlad, pryd nad oedd o'r blaen ond tifodiaith yoh- ydig o'r llwythau yn unig. Dysgwylir, ef- allai, i ni nadi pa Iwythau oedd yn perthyn i'r nmll gangen ao i'r llall; ond nid yw y p'ç"nc eto yn agos yn glir o'r niwl sydd yn ycnwau c smgylch pob damcaniaeth newydd, cyn y clelo ya wirionedd addefedig. Y cyfan aantariwnei dlweyd ydyw fod y Powys- iiid, yn ol pob tebyg, yn Frythoniaid; a g vyr G^vynedd—na ddigied y darllenydd hynaws o Fan neu Arfon—yn Wyddelod.
[No title]
YMDDENGYS nad ydyw y Seneddwr WADE HAMPTON, o South Carolina, yn heliwr o'r fath gedarnaf, canys ar yr 22ain cynflsol, pan oedd yn chwilio am geirw ar ei blanig- fa yn Mississippi, collodd ei gyd-helwyr, ao yn ddamweiniol saethodd ei geffyl, yr hwn a syrthiodd arno, gan anafu yr unig goes sydd ganddo, yn bur ddrwg. Wedi pum' awr o chwilio dyfal am dano, cafwyd ef yn ymlusgo tuag adref mewn oyflwr gresynus. Ni hysbjsir ei fod ef na neb yn ei barti wedi l'.addcarw na dim arall, ag eithrio y ceffyl anffodus.
[No title]
—Tarawyd tad a'i dri baohgen gan fellten pan oedd yn dadgibo corn mewn cae ger Edina, Mo., tuag wythnos yn ol. LJadd- wyd dau o'r bechgyn yn y fan, syfrdanwyd y llall, a obafodd y tad ysgytiad go ohwyrn. {
ADNODDAU MWNAWL SCHUYLKILL,…
ADNODDAU MWNAWL SCHUYLKILL, PA. Y Rhan a Gymerodd y Cymry yn eu Dadblyg- iad, a'u Rhagolygon yn y Dyfodol. TSABTHAWD BUDDUGOL: GAN DEWI CWMTWBCH. Llongyfarchwn bwyllgor Eisteddfod Shen- andoah (1885) ar ei ddewisiad o'r tastyn hwn, gan mai mwnyddiaeth yw prif ddi- wydrwydd y sir, eydd wedi bad yn aohos i ddenu cynifer o "blant Gwalia" i'r lie myn- yddig hwn. Yn ol ein barn ni, testynau o natur hanesyddol a gwyddonol fel hwn yw y goreu i gystadlu arnynt mewn Eisteddfod. I ni mae y testyn yn rhanu ei hun yn natur- iol i bed war rhaniad: 1. Swydd Schuylkill. 2. Ei hadnoddau mwnawl. 3. Y rhan gym- erodd y Cymry yn eu dadblygiad. 4, Ei rhagolygon dyfodol. I. SWYDD SCHUYLKILL. -Cafodd y swydd hon ei henw oddiwrth yr afon sydd a'i tharddle o'i bryniau ar lanau yr hon y bn William Penn yn cyfarfod a'r Indiaid, ao y oynlluniodd ei ddinas ardderchog-Philek- delphia. Tardda yr enw o Schuyl a kill, geiriau yn lied debyg o darddiad EUmynaidd; en hystyr ydyw y "Gornant Guddiedig." Ceir kill yn fynych yn terfynu enwau yn New York, megys Catskill, &o., a'i ystyr yw cornant; ac ystyr Schuyl yw cuddiedig. Wrth ddechreu yn y gogledd orllewin, ter- fynir Swydd Schuylkill gan swyddi North- umberland. Columbia, Luzerne, Carbon, Berks, Lebanon, a Dauphin. Mesura oddeutu 30 milltir o hyd a 24J o led, yn cynwys 745 o filltiroedd petryal. Mynydd- oedd serth, a dyffrynoedd culion yw prif nodwedd y swydd. Ei phrif fynyddoedd ydynt y Blue Mountain, Sharp Mountain, Broad Mountain, a'r Mahanoy Mountain. Amrywia y mynyddau hyn yn an huchder, o bump i saith cant o droedfeddi o'r oornent- ydd a lifant wrth eu traed, neu o un oant-ar- bymtheg i ddeunav canto droedfeddi uwch- law llanw y mor. Y Broad Mountain yw y mwyaf, yr hwn eydd yn wastadedd uchel o bedwar-ugain o filltiroedd petryal yn y swydd hon, ac yn arllwys ei ffrydiau i'r Suequehanna, y Swatara, a'r Mahanoy. Mae yma alia dyfrol a ellid ei gymwyso at lawer cangen o ddiwydrwydd, ond hyd yn hyn ni wneir dim o hono rhagor na diwallu ein trefydd a dwfr glan, digoni y camlesydd ar dywydd sych, a chodi ager at y gweithfeydd. Sefydlwyd y parth hwn yn y sir, gan y Llywodraethwr Simon Snyder, Mawrth 18, 1811. Cymerwyd ef o ranau gogleddol Swydd Berks, a dwy drefgordd o Swydd Northampton. Cynaliwyd y llys cyntaf yn nhrefgordd Brunswick ar y trydydd Llun o Rhagfyr, 1811. Yn mysg enwau y cyfreith- wyr a beccdwyd y pryd hwnw cawn un Charles Evans. Tebyg iawn ei fod o dardd- iad Cymroaidi. Poblogaeth y sir newydd ar ei sefydHad oedd rhwng 6,000 a 7,000. Dangosir ei chynydd trwy y ffigyrau can- lynol: 1820 11.331 1860 89.510 1830 20,744 1870 116 428 1840 29053 11880 128*784 1850 60,713 Wrth yr ystadegau hyn gwelir mai yn y degiad o 1840 i 1850, y bu y cynyfai mwyaf yn y swydd. Dylifai pobloedd yma yr adeg hono fel y maent wecli gwneyd i California, Colorado, neu, y parthau olewaidd. Yn fnan ar ol sefydliad y sir, cymwyswyd yr afon at nofio coed; yn 1825, agorwyd y gamlas er oludo glo, &o.; yn 1842, estynwyd rheilffordd y Philadelphia and Reading i Pottsville, ac erbyn heddyw mae rheilffyrdd- y Lehigh Valley a'r Jersey Central yn dyfod i'r sir, a gweithir yn brysur yn awr ar reil- ffordd y Pennsylvania Central trwy y sir. Gwelir fod yma gynydd aruthrol mewn 74 o flynyddau mewn poblogaeth a chyfleusder- au masnachol. Ar ol sylwadau arweiniol fel hyn, rhaid i ni frysio at brif benodau ein traethawd. II. ADNODDAU MWNAWL —Nis gall y sir hon ymffrostio mewn llawer o wahanol fwnau; nid oes yn ei chreigiau fwnau aur, arian, na phlwm; mae ynddi fwn haiarn o ddefnydd da, ond nid yn y fath gyflawnder ag y gellir ei weithio gydag elw. Glo yw brenin y mwnau yn y swydd hon, a'i phrif adnodd fasnaohol,fel nad yw yn werth treul- io amser gyda yr adnoddau eraill. Oyn syrthio ar bwnc y glo, dylem nodi fod llu- aws o amaethwyr yn nyffrynoedd byohain y sir, y rhai sydd braidd yn gwbl o darddiad Ellmynaidd, gydag ambell Gymro a Sais yn eu mysg, yn cynyrchu llawer o nwyddau am- aethyddol, a thrwy hyny maent yn gynorth- wy mawr i ddadblygu yr adnoddau mwnawl. Yn y oyfnod daearegol a adnabyddir wrth yr enw "cyfnod carbonaidd," yr oedd y sir hon yn un gwastadedd eang,yn cael ei gudd- io gan y llysiau, a'r coedydd anferth sydd yn ffurfio y glo, ao yr oedd hwnw yn pwyso ar wely trwchus o ryw chwech neu saith mil o droedfeddi odrwch o'r gymysg-graig, ar tywolfaen cooh. Gosodwyd glo fesurau o dair mil o droedfeddi o drwch ar y llawr cymysg greigiol hwn, ao yn y oynyrfiadau daearegol, fe syrthiodd rhanau o hono i ffurfio dyffrynoedd y swydd, a hyrddiwyd rhanau eraill o hono i fyny i ffnrfio y myn- yddoedd, nes rhoddi bodolaeth i'r oafnau glo gyda eu codiadau gogleddol a deheuol. Mae Rogers a Lasley, daearegwyr y Dalaeth, ABhburner a P. W. Sheafer, prif ddaeareg-
HENRY M. STANLEY. .----
HENRY M. STANLEY. JOHN BOWLAND3, TYWYSOG DARGANFYDDWYR A SSFrDHDB TALAETH BYDD Y CONGO. Yr wythnos ddiweddaf glaniodd y dargan- fyddwr enwog HENRY M. STANLEY yn New York, gyda'r bwriad o draddodi deugain o ddarlithiau yn y Talaethau Unedig, ar ei ymchwiliadau yn Affrica, a hanes sefydliad Talaeth Rydd y Congo; ac yniddengys y ea Cymry Hyde Park, Pa., a'r cylchoedd, gyfle i'w wrando nos Feroher, yr wythnos hon. F dl tgithiwr, ysgrifenwr a gwladweinydd, y mae y gwr hwn wedi dyfod yn fyd-enwog; a chofnodir ei enw ar ddalenau hanesiaeth fel un o ddynion mawr y ganrif bresenol. Yohydig ydyw nifer y rhai sydd wedi ym godi i gyffelyb enwogrwydd a Stanley, o saf. le mor ddinod, ao o gynifer o dan anfanteis- ion. Ganwyd ef yn Ninbyoh, yn y flwydd- yn 1841, a'i enw bodydd ydoedd John Row- lands. Ei dad John Rowlands, ydoedd fab i aaaaethwr bychaa ger y dref hono; a'i fam, Elizabeth Parry, ydoedd ferch i gigydd yn Ninbyoh. Ar fuwoJaetb ei dad anfonwydy baohgen i dlotdy Llanelwy, lie y bu dan addysg am ddeng mlynedd, ao yr enillo id brofiad a fu o werth a gwaBanaeth iddo mewn blynyddau diweddarach. Yn 1856 ymadawodd John Rowlands o Lanelwy, ac am amser bu yn cynorthwyo ei gefnder, David Owen, fel fithraw yn Ysgol Genedl- aethol y Wyddgrug. Cymerodd anghydfod Ie rhyngddynt, a, ohyfeiriodd John ei gamrau tua Lerpwl, lie y cyfl->godd fel morwr ar long gotwm berthynol i New Orleans. 0 her- wyd 1 y driniaeth arw a dderbyniodd ar y fordaith, gadawodd y Hong ar ei gyraeddiad i New Orleans, a ohafodd le yn ngwasanaeth naasnachwr mewn cotwm o'r enw Stanley. yr hwn a'i hoffo Id yn fawr ac a'i hanogodd i newid ei enw i Henry M. Stanley, gan add- a* ei gofio yn i ewyllys Pa fodd bynag, bu yr hon lane farw yn sydyn ao yn ddiewyllys, a gadawyd v Cymro ieuano i ymdaro goreu y gallai, Q herwydd yr ydoedd etifeddion ei feistr wedi dyfod i goleddu teimladau ei- ddigeddnstoagato.* Pan dorodd y gwithryfel allan, ymrest- »Qwel «<H. M. Stanley, thr Story of His Life, by 0. Rowlands, London, 1873. rodd yn y fyddin Ddeheuol, a bu mewn am- ryw frwydrau dan y Maeslywydd Johnstone. Y frwydr claf y cymerodd ran ynddi ydoedd eiddo Pittsburg Landing, yr hon a ddechreu- odd dydd Sul, Ebrill 6, 1862. Y dydd cynt- af gorohfygwyd y Fyddin Undebol; ond dranoeth wedi iddynt dderbyn adgyfnerth- ion dan y Cadfridoz Buell, syrthiodd budd- ugoiiaeth i ran yr Undebwyr, ac yr oedd y Cad. Johnstone yn mysg y lladdedigion gwrthryfelgar. Cymerwyd llawer o'r De- heuwyr yn garcharorion, ao yn eu mysg yr oedd Stanley-yr hwn, pa fodd bynag, trwy ei feiddgarweh, a lwyddodd i ddiane dros yr afon, ac yn fURn wedi hyny a ymunodd fel morwr a Llynges yr Undeb. Cymerodd ran mewn amryw frwydrau ar fwrdd y Ticonde- roga, a therfynodd ei yrfa filwrol yn yr ail ymosodiad ar Gaarfa Fisher, Ionawr 13, 1865. Yn 1866, aeth gyda'r Ticonderoga i Caercystenyn, a thra yno cafodd ganiatad i ymweled a'i wlad enedigol. Derbyniwyd ef yn llawen gan ei berthynasau a'i gyfeill- ion yn Ninbych; ymwelodd hefyd a'r tlotly yn Llanelwy, a rhoddodd anerchiadi'r plant yno. Yn 1867 dychwelodd i'r Talaethan Unedig,a bn am rai misoeddyn ohebydd i'rN. Y. Tribune a'r Missouri Democrat o'r gorllew- in pell, yn ystod ymgyreh y Cadfridog Han- cock yn erbyn yr Indiaid Kiowa a Cheyenne. Ar ei dd, ohweliad i New York, penodwyd ef yn ohebydd teithiol i'r New York Herald; ac anfonwyd ef i Abyssinia yn adeg y rhyfel rhwng y wlad hono a Lloegr; yna bu yn Spaen a gwledydd eraill. Yn Hydref, 1869, anfonwyd ef gan berchenog yr Herald yn ar- weinydd raintai i Affrica, gyda'r amcan o gael allan dynged Dr. Livingstone, oddiwrth yr hwn nid oeddid wedi clywed un newydd boddhiol er's dwy flynedd. Cyraeddodd Stmley Z \Dz'b,:¡,r Ionawr 6, 1871, a'r Mawrth canlynol cychwynodd am y canolbarth gyd i 192 o wyr. Ar y lOfed o Dachwedd dargan- fyddodd Livingstone ger Llyn Tanganyika, a cbyflanwodd ef a nwyddau angenrheidiol i barhan ei ymohwiliadau. Dychwei-dd i Loegr yn Gorphenaf, 1872, lIe y cafodd dder- byniad tywysogaidd, ao y cyflwynodd y Frenines Victoria iddo flsrch snisin aur, wedi ei addurno a meini drudfawr. Hefyd anrhydeddwyd ef gap y Gymdeithas Ddae- aryddol Freiniol a'i Thlws (Patron's Medal). Pan gyhoeddwyd marwolaeth Livingstone anfonwyd Stinley drachefn i ganolbarth Affrica ar gost y New York Herald a'r Lon- don Telegraph. Cychwynodd o Loegr yn Awst, 1874, a chyraeddodd Lyn Victoria Nyaczi, Ohwefror, 1875, ar ol colli trwy af- iechyd a marwolaeth 194 allan o'r 300 o wyr a gychwyiiasant allan gydag ef. Parhaodd ei ymchwiliadan llafurfawr ar lanau yr afon Congo, gyda gwroideb digyffelyB, a llwydd- odd i gyraedd ei genau yn Awst, 1877. Dvchwelodd i^Ewrop yn fnddugoliaethus, lie y derbyniwyd- ef a breichian agored gan BTiryw Gymdeitbasau Daearyddol. O'r flwyddyn 1879 hyd 1882, dan naw dd y Bren- in Leopold o Belgium, a thanysgrifwyr o wledydd eraill-y rhai a adnabvddir wrth yr enw African International Association, ym- gymerodd ag arwain mintai arall i arohwilio rhanbarth y Congo, yn yr hyn y bll yn llwyddianus tu hwet i'w ddysgwyliad; ao y mae y Ilyfr o hanes ei deithiau y pryd hwn, yn orlawn o ddyddordeb—yr hyn hefyd a ellir ddweyd am ei lyfrau blaenorol-"How I found Livingstone," a "Through the Dark Continent." Y mae y "Congo Free State," enw presen- ol y wlad a ddarganfyddodd Stanley, yn cynwys chwe' mil o filldiroedd o ddyfroedd nofiadwy, a phoblogaeth o tua 43,000,000; a dywedir fod ei hadnoddau yn nodedig o am- rywicl a chyfoethog. A gellir dweyd fod darganfyddiadau y Oymro o Ddinbyoh, wedi dechreu oyfnod newydd yn hanes y Cyfan- dir Affricanaidd. Cyn ei ymadawiad o Loegr y tro presenol am America, amlygodd Mr. Stanley ei bar- odrwydd i ymgymeryd a llywyddiaeth ym- gyrch an-filwrol o Affrica Ddwyreiniol i Uganda, er ceisio dylanwadu ar frenin y wlad hono i estyn ymwared i Emir Bey, Ell- myn sydd gyda 3,000 o Aifftiaid, yn ol y new- yddion diweddaf, yn dal Wadyly yn erbyn penaeth gelynol. Cynygia Mr. Stanley roddi ei wasanaeth at alwad y Llywodraeth Bryd- einig heb ddysgwyl iddi fyned yn gyfrifol am ddiogelwch ei berson. Mae y cynygiad dan ystyriaeth Arglwydd Iddesleigh, yr ysgrifenydd tramor. 111