Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y NEWYDDIADUR,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y NEWYDDIADUR, GLWEIDYDDOL. CYFABFU y Senedd ar ol gwyliau y Sulgwyn, Mehefin 7fed. Pleidleisio arian at elw y Fyddin a wnaeth gyntaf. Nos Lun diweddaf yr ail- gydiodd yn ei gwaith penaf-dwyn y Mesur Addysg yn mlaen trwy y Pwyllgor. Adran y gyntaf oedd eisoes wedi ei mabwysiadu. Adran yr ail gaffai sylw nos Lun. Ceir hono yn gynwysedig o nifer o is-adranau, a'r oil yn ngtyn a thelerau i ddwyn yr ysgolion enwadol at wasanafth y cyhoedd. Ceir fod 47 0 dudal- enau o welliantau i'w cynyg i'r Mesur Addysg fel y saif. Bydd yn rhaid wrth drefniadau ar- benig i'w ddwyn drwodd yn ddiangot. Yn ystod Gwyliau y Pasg, croesawyd tua mil 6'r etholwyr gan Mr J. Chamberlain, i wledda yn ei gartref, Highbury, Birmingham. Dy- wedodd wrthynt nad oedd yr un ddinas yu y byd mor deyrngarol i'w hen gyfeillion a'i hen weision a Birmingham. Safai y ddinas yn uwch yn y wlad heddyw nag erioed. Gwawdiai fwy- afrif presenol Ty y Cyffredin. Mynai nad oedd ond dwy ffordd i derfyn yr Achos Cref- yddol yn nglyn ag Addysg-trwy naill a'i cyf- yngu y Wladwriaeth i Addysg fydol, neu trwy ddwyn yr holl enwadau dan waddoliad y Wladwriaeth. Ni fynai y Llywodraeth y naill na'r llall, o ganlyniad, bydd y Mesur Addysg presenol yn fethiant, ac Etholiad eto tua'r Gwanwyn nesaf. Melus cofio cynifer 0 broff- wydoliaethau gau gyhoeddwyd yn flaenorol gan i fawrhydi o Birmingham. GWNAED twrw mawr gan bapyrau Ceidwadol Deheudir Cymru, oherwydd y fath lwyddiant yn ngtyn a'r cyfarfod mawr, tua 11,000- yn Mountain Ash, yn erbyn y Mesur Addysg. Gellid lluosogu cyfarfodydd 0 fath hwnw i bleidio y Mesur, lawer gwaith drosodd, pe ceid trwy Forganwg gweinidogion ac eglwysi yn mabwysiadu cynlluniall tebygi eiddo Esgobion, clerigwyr o bob math, ac Eglwyswyr. Y mae barn Cymru wedi ei rhoddi yn glir a diamwys yn yr Etholiad-dim un cynrychiolydd Toriaidd dros unrhyw gwr o'r wlad. CYNALIWTD Cynadledd dra Iwyddianus i bleidio y Mesur, yn NghMpel Wood-street, Caerdydd, dan lywyddiaeth Mr D. A. Thomas, A.S. Cynrychiolwvr yn unig geid yma o'r rhan ddwyreiniol o Forganwg, a phob cenad yn cynrychioli 50 0 bersonau. Yr oedd y oapel eang yn dra llawn, yn arbenig y prydnawn, ac ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd eilwaith yr hwyr.—Cynwysa y capel eisteddleoedd i 2,500 o bersonau. Gwnaeth y Parch H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, wasanaeth tra gwerthfawr yn nghyfarfod y prydnawn. Cyfarfod ardderchog ydoedd ar ei hyd, ac Ymneillduaeth yn fyw drwyddo. Traddodwyd areithiau oedd yn llosgi, ond bu un adeg ar y dybyn heb fod yn gweled lygad yn llyg-ad. Ond ar ol eglurhad cyflawn gan y Parch H. M. Hughes, rhwyfwyd trwy yr anhawsderau yn nodedig 0 Iwyddianus. Pleidiwyd y mesur yn unfrydol yn ei brif egwyddorion. Ffynai teimlad cryf yn erbyn Adran 4, ac os oes, gelwir am ei ddilead, ac yn arbenig peidio myned yn mhellach yn yr un cyfeiriad. Cynaliwyd cyfarfod brwdfrydig ar yr un Uinellau yn Llundain, a Dr Clifford yn brif siaradwr ynddo. HEB ymraniad, cyn tori i fyny, darfu i'r Senedd fabwysiadu penderfyniad o bwys yn nglyn a'r fasnach mewn opium a, China. Tra- ddododd Mr John Morley araeth lawn 0 gyd- ymdeimlad a'r penderfyniad. Ni cheisiodd neb amddiffyn y fasnach. Galwyd ar y Llywodr- aeth i roi terfyn ar y fasnach anfoesol y cyfleus- dra cyntaf. Be Cynadledd Genedlaethol bwysig yn Llan- dtindod yn cyd-ystyried adranau sylfaenoi Cynghor Cenedlaethol i Gymru, i'w gosod yn y Ddeddf Addysg bresenol. Yr oedd adaryw o aelodau Seneddol yn breseno', ac yn eu plith Mri Lloyd George a Brynmor Jones. Yr Anrhydeddus Pennant, Ceidwadwr mawr sir Fflint, a lywyddai. M r Brynmor Jones ddyg- odd yr adranau bwriadedig ger bron, ae a'u heglurodd. Llwyddwyd i sicrhau unoliaeth pur dda, etc nis gellir llfti na theiiplo fod cryn lawer wedi ei roi i fewn yn ffafr yr Wrthblaid. Tybed y gwneir mwy yn y cyfeiriad hwn eto yn y Senedd P Wei, gwnawn ein goreu i ddal yr hyn sydd genym.

GWEITHFAOL.

AMRYWIOL.

j PREGETHWR 0 SCRANTON, !…

RHYMNI. I -

REHOBOTH, PENFRO.

LLANELLI.

SOAR, MACHYNLLETH.

Advertising