Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.
GOHEBYDD GWIBIOL Y DE. Un diwrnod o'r wythnos aeth lieibio aethum yn nghwmni Mr Richards, athraw > Ysgol Genedlaethol Machen, a Mr Martin arwib-daithddeutroed, acynystodein hynt ymwelasom ag amryw leoedd enwog mewn hanesyddiaeth Gymreig, yn Ngwent a Morganwg. lludri.—Plwyf gwladaidd yw hwn, ac Eglwys fechan heb ddim addurnwaith ar- ni. Nid pell o'r llan hwn y saif Ehuppera Castle, anneddle y Milwriad Morgan, A.S. Y mae y castell hwn yn perthyn i deulu Tredegar. Llettyodd y bremn anffodus Siarls y cyntaf yma un noswaith ar ei ffordd o Gaerdydd. Yr oedd Morganiaid Tredegar yr amser hwnw fel yn awr yn deyrngarwyr o'r bon i'r brig. C) Cejen Mably.—Palas y Milwriad Kemys Tynte, boneddwr ag sydd yn disgyn o 10 welielyth enwog. Y mae gan bawb air da i'w roddi iddo. Ceir gweled hen arlun- iau heirddion yn y palas hwn yn mhlith ereill darlun o Nell Gwynne, un o fonedd- igesau Siarls yr ail, menyw lan odiaeth, a darluniau o'r Kemysiaid. Lladdwyd Syr C. Kemys wrth amddifiyn Castell Casgwent dros ei frenin. Yr oedd Syr Nicolas Kemys yn godymwr heb ei fath. Clywodd cod. ymwr mawr yn Nghernyw son am ei wr- hydri, a phenderfynodd ei dreio. Aeth yr holl ffordd o Gernyw ar gefn et ful i Cein Mably, a'r dyn cyntaf a gyfarfu oedd Syr Nicolas Kemys yn y pare. A ydyw Syr Nicolas gartref mectdai y gwr o Gernyw. Tyma fe," ebai Syr Nicolas, "beth sydd ,-fynochI''A mi." Yr wyf wedi dylod yma i ymafiyd codwm a chwi." "Cerddwcb i gael bwyd a diod." "Na," ebai y dyn dy- eithr, "yn awr amdani." Ehoadodd Syr Nicolas ef ar wastad ei gefn dair gwaith. "A ydych chwi yn foddlawn yn awr," ineddai Syr Nicolas. "Nac wyf," oedd yr atteb y mae yn rhaid i chwi fy nhatlu dros y wal eto," athrosy wal allan o'r pare y cafodd ef fyned. Gotynodd Syr Nicolas iddo a oedd ef wedi cael ei foddioni. "Byddaf yn foddlawn ond i chwi daflu y mui ar fy ol." Cododd Syr Nicolas yr asyn yn ei grynswth dros y wal, ac aeth y dyn i'w ffordd wedi ei focidloni. Y mae darlun o Syr Nicolas a'r codymwr i'w weled yn awr yn y palas. Syr Nicolas ddysgodd Sior y cyntaf i yfed ac ysmoccio, yn Hanofer. Pan ddaeth ef yn frenin Lloegr, dywedodd fod awydd arno weled ei hen gyfaill o Gein Mably. Dywedodd un o'l swyddogion fod byr Nicoiao N-ra pleidio y Pretender. Pw pw," meddai y brenin, anionwch am dano." Dycii- welodd Syr Nicolas yr atteb canlynol;- « Yr wyf yn barod i yfed glasiad ac ysmoc- cio pibell gydag ef fel Elector Ranofer, ond dim byth fel brenin Lloegr." Yr oedd hen gan ar lafar gwlad yn Morganwg a'r geiriau canlynol ynddi:— Tri dawnsiwr penria'n Nghymru, Syr Charles Kemys o Cefumabiy, Ysgwier Lewis gwycb or Van A Nicol Carne Eweuny." Pan oedd ef yn -teithio mewn gwledydd iramor, clywodd ferch o Gymraes yn eu ,canu, a gwnaeth ymholiad yn ei chylch, a .chafodd ar ddeall iddi gael ei chario o Gymru fel caethferch. Dygodd hi yn ol i Forganwg. Y mae hyn yn wirionedd. Yr oedd boneddigion y parthau hyn oil yn Jacobites, hyny yw, yn bleidwyr i deulu y Stuarts. Their last hoof and horn and hide, They would gie for bonnie Charlie." Yr oedd y ffermwyr yn ei bleidio. Yr oedd hen ffermwr yn byw yn mhlwyf Gelligaer, aeth teiliwr a to un diwrnod i ofyn am fenthyg punt; ond bu yn hir cyn ei thalu. Cyfarfyddodd un diwrnod a'r Ifermwr ac annerchodd ef: Tri plieth 'rwyf jn eierchi Cael echwyn am y gini A chael Pretendwr ar y faingc A chael bath Ffraingo i dalu." arian. Maddeuodd y ffermwr iddo yn y fan. Yn mlwyf Llanedarn, gerllaw i Gefnmably, y mae hen balas o'r enw Coed-y-gorras, anneddle y Morganiaid, hen deulu cyfrifol. Mab i Coed-y-gorras oedd Datyrid Morgan, bar-gyfreithiwr, Counselar y Pretender, fel yr oedd yn cael ei alw. Ymunodd Dafydd Morgan a byddin y Pretender yn Manceinion, ac yr oedd yn un o'i gyfeillion ffyddlonaf, ar ol i fyddm y Pretender en- cilio. Cymmerwyd Dafydd Morgan ac amryw ereill yn garcharorion am deyrn fradwriaeth, a chawsant oil eu condemuio i farw. Cawsant eu crogi a'u chwarteru ar gommin Kensington. Cyn iddynt gael eu dienyddio, taflodd Dalydd Morgan sypynau o bapurau i blith y dorf. Bu amryw o brif deuluoedd y De a'r Gogledd mewn helbul yn nghylch y Pretender. Llaneurwg.—Pentref hardd a tl-llws, yn sefyll mewn man hyfryd a dymunol ar ben boncyn gyferbyn a'r mor. Y mae yr Eglwys yn setyll fel dinas ar fryn a'i thwr uchel yn sefyll fel yr oedd ganrifoedd yn ol yn dangos i'r plwyfolion fod "gwlad i'w chael uwch ser y nef, sydd well na'n daear ni." Y mae Llaneurwg yn cadw ei hagwedd cyntefig-nid oes yma ddim math o weithfeydd, dim peiriannau yn mygu ac yn chwythu tan. Dal a wnaut rhwng ddl. a papt Y boreuaf 0 beiriant," Sef yr aradr. Eu galw yn arwydd y Bell y mae pobl y parthau hyn yn hoffi galw y gwestai wrth enwau clychau, &c. Yn Bedwas gelwir y brif dafarn "Tafarn yr Eglwys;" ac un arall yn Risca." Tra yr oeddem yn cymmeryd lluniaeth, yr oedd nifer o ddynion yn siarad am y llofruddiaeth, a phob un yn arllwys ei anathema ar ben y llofrudd James Henry Gibbs. Condemnient y ferch anffodus Mari Jones hefyd. Yr oedd dyeithriaid yn heidio yma o bob cwr i weled y fan He y cyflawnwyd un o'r llofruddiaeth au gwaeth- af a gyflawnwyd o fewn cof—llofruddiaeth a yrodd aeth trwy fferau trigolion y wiad. Yr unig gasgliad a allem dynu oddiwrth deimlad y lie ydoedd, pe buasai i James Gibbs gael ei ryddhau, na fuasai yn wiw iddo ymweled a Llaneurwg. Galw yn nesaf yn yr ysgoldy, cael tippyn o ymgom ^'r athraw, Mr Porter, yr liwn oedd fel r 1 1i arieroi yn iiawn caredigrwydd. Y mae yma ysgol ragorol, plant bochgoch, glan- waith, a thrwsiadus, yn deilwngo bentref glanwaith Llaneurwg. I'r gorllewin o'r pentref y saif Glanrumney Hall, palas George Williams, Ysw., lie yr oedd James Gibbs yn fwtler dangoswyd y fan i ni, lie y llofruddiwyd Susan Gibbs, druan o honi. Nis gallem lai na theimlo wrth feddwl i greadur ffyddlon a diniwed gael ei denu i'r llannerch dawel hwn i gael ei chigyddio fel dafad. Nid oedd neb ger- llaw ond dau ddyn yn rhwymo gwenith. Bydd enw fferm Glanrumney mwyach ar gof a cliadw am bir amser. 0 Rumriey Caerdydd, neu Dei yr Eleirch.— Y mae yma Eglwys anferth o fawr i bobl- ogaeth mor lechan. Nid oes llawer o amser er pan gafodd ei hail adeiladu. Adeilad Normanaidd yw, a chlochdy mawr ar y pen gorllewinol. Y mae yn debyg fod pobl Rumney yn byw oes batriarchaida. Y mae un gareg yn y gangell yn cofnodi am ddyn a fu byw nes oedd yn agos i ddau cant oed. Y mae yn amlwg mai camsynied wnaeth y cerf- iwr, fel ei frawd yn St. Andreas, yr hwn a gerfiodd ar gareg bedd rhyw ddyn ei fod yn 34 yards."—Galw yn y ficerdy ar y Parch. Morgan Morgan, brawd ficer Ysceifiog, a chael croesaw mawr, ac ym- gom hir am yr hen amser gynt, pan yn blant difatter. Y mae rhywbeth yn anwyl cael gweled hen wynebau a adwaenem pan yn blant, a myned dros hen ddigwyddiadau, &c. Y mae dyddiau ieuengctyd yn piccio o flaen ein Ilygaid OUQ ayna.'i.- gTr^tl^f, nirl Fm v cwbl riciirn ond megys breuddwyd. Dywedir mai! gerllaw Rumney y safodd Harri yr Ail a'i ganlynwyr pan ar ei ffordd o'r Iwerddon ar ddydd Sul y Pasg. Y boreu hwnw aeth Harri i gapel St Padrig yn Heol y Cryddion, Caerdydd a phan oedd ef yn dyfod allan aetii Meudwy i'w gyfarfod i'w rybuddio am ddiwygio, ond ni wnaeth un sylw o hono nes oedd ef ar Bont Rumney. Anfonodd un o'i swyddogion yn ol i chwilio am dano; ac arhosodd yntau yma; ond diflanodd y Meudwy. Dyma ben ar y mwdwl heddyw. Y GOHEBYDD GWIBIOL. O.Y.-Rhagor yi wythnos nesaf.
LLITH DAFYDD EPPYNT.
LLITH DAFYDD EPPYNT. MARWOLAETHY PARCH DAFYDD WIL- LIAMS, TROEDRHIWDALAR, oed 96.-Ac y mae y gwr da, hawddgar, tangnefeddus, mawr hwn o hono ynte o'r diwedd gwedi gorfod plygu dan deyrnwialen brenin braw. Gwnaeth y newydd gyrfro fel ysgydwad taran trwy Gantrei Bualit, a gwna hyny ond odid trw/'Gymru oil, canys yr ydoedd enw Dafydd Williams, Llanwrtyd, yn household word, ac wedi bod felly trwy gydol oes bywyd y rhan fwyaf o honom ag sydd fyw yn awr, canys ei seren ef, yn yr ystyr bregethwrol a welsom gyntaf yn nyddiau ein maboed, ac yr ydoedd y pryd hwnw gwedi cyrhaedd ei perihelion. Yr ydoedd ef yn weinidog ordeiniedig yn t, y ganrif diweddaf, gwedi ei eni yn y flwyddyn 1778, sef pan oedd Sior III. yn teyrnasu, fel yn ei amser ef y gwnaed America yn annibynol; y cymmerodd chwyldroad mawr Ffraingc le pan ddaeth Napoleon cyntaf i'r chwareufwrdd. Gwel- odd ef haul y teulu hwnw yn codi a machlud. Yr ydoedd ef yn cofio am frwydr Trafalgar, the Battle of the Nile, a holl wihydri Wellington trwy India, y Pen- insular IVar, hyd Waterloo, &c., fel yr oedd y gwron dan sylw yn hynod o ran hyd y daith, ond nid ei hyd ydoedd ei phrif hynod rwydd, ond yn hytrach ei lied, a gweithgarwch diwrthgii. Ymgyfododd gyda'r dydd, ymgynnaliodd dan bwys a gwres y dydd, parhaodd hyd fachlud haul gan farw yn yr harnais, er yn tynu yn mlaen ar gant oed. Rhyw Etna bregeth- wrol ydoedd, yn dyfod i lawr a gwedi ei adael ar ol yn engraifft i ni o wres brwd- aniwch, hwyl a dawn oes Griffith Jones a Daniel Rowlands, canys gwelaf ei fod ef gwedi cydfyw A, Daniel Rowlands, John Vi eley, yn nghyd a chadrodau cedyrn yr oes danllyd hono. II Chwith i Gymru gladdu 'i gwron, Un o'i chewri enwog iawa Cofiai fecbgya y diwygiad, Pull eu hoos$gryra eu dawn i Marwor tanllyd eu hallorau Danient ei bregethau ef, Nes bai V tyrfoedd a'i gwrandawenfc Y u ilesmeirio 'n ngwres y nef. Seren fawr, gyi ff.mog, oleu Weiwyd yn yr Eglwys )fm Yn goleuo a gwreichioni, Taubaid fel rhyw uefol din HOD fachJudodd i dir ungeu, Cii-,o,d o ff,,Yfferi oeL,- Colled fawr i blmt y tonau Oyniiiweiriant at y groes. Wrth wrando y gwr hynod yn pregethu teimlech yn gyntaf eich bod yn mhresen- noldeb yr hen ddawrn Cymreig pwipudol gwedi hyn, a mwy na hyny, fod sylwedd yn y swn, yr hylif gweiibiddiol yn y ddawn ond yn benaf oil tarewid fi a'r syniad mai gwr o ddilrif ydoedd efe, gan ddarluniad o'r pregethwr gonest, sef y gwr o ddifnf, ac nid gwedi cymmeryd swydd proffvvyd arno er mwyn tamaid o fara Fel hyn y dywed y bardd uchod Tlie man whose heart is warm, Whose bands are pure, whose doctrine and whose life Coincident, exhibit lucid proof That he is honest in the sacred cause. Mae dyddgylch y pregethwyr mawr, hwyliog, ymcldengys, wedi myned heibio, a'r hen batriarch anwyl, tangnefeddus, diddrwg, a'i gymmeriad trwy gydol siwrnai bywyd fel cloch arian. Ymddengys mai efe ydoedd yr olaf o'r cyfnod hwnw. Nid oedd mo'r cyfnod hwnw heb fod yn achlysur i beth drwg aeth y bobl yn ddwl, feddw-ddwl ar bregethwriaeth dyr- chafwyd y pwlpud ar draul darostwng y cklarllenfa pregeth yn lie gwasanaeth, gwrando yn lie addoli fel yn ol trefn- iadau sectyddol llawer capel ac enwad y dydd heddyw. Mae'r rhanau addoliadol wedi marw, chant, &c., yn beth nesaf i ddim, y bregeth ydyw y cwbl; ac i hyn yn benaf y mae i ni gyfrif am absennoldeb y devotional feeling allan o'r wlad,- crefydd y glust yn lie crefydd y galon. IL LANGA MARCH.- Cyn n aliwyd vestry yma yr wythnos ddiweddaf ar bwngc yr ysgoldai. Cyttunwyd yn unfrydol ar helaethu yr ysgoldai presennol, ac i wneud hyny ar draul rhoddion gwirfodd- oi. Mae pobloedd Cantref Buallt wedi bod yn gall yn eu cenhedlaeth ar les eu pocedi ar fater yr ysgolion canys ni cheir yma yn teyrnasu o Lanfair-yn- Muallt i Lanwrtyd, ac o Abergwesin i Tir Abad, ond yr hen system wirfoddol. 0 dan ddylanwad y dwymyn bwrdd' ysgol rhyw ddwy a thair blynedd yn ol aeth llawer plwyfyn bach i ddyryswch yn roar r'iJiTlrai\np £ dreth arnvnt yn y byd fel rheol), ac nas gallant ymuma,S\n-u am eu hoes. Nid oes dim fel logic, nid of speech ond of figitres; ac yn ol y last Report of the Council of Education, dengys pan mae y building schools dan y voluntary system yn costio ond 5p. 14s. 5c., per child, ceir fod y building schools dan y school boards bendigedig yn costio, per child, i'r trethdalwyr y swm o up. 14s. lie. Digon hawdd pengamu 11 a chlebran, a'r sten wag wna fwyaf o swn, ond nid gwiw ymresymu a dynion yn y brain fever, amgen na rhoddi iddynt ar- gument y tax gatherer, a chan drethu eu trethu hwynt i'r asgwrn. A pha beth a enniilir gan nad gan bwy a pha fodd y codir ysgoldai ? Os ydys i dderbyn cyn- northwy gan y Llywodraeth rhaid iddynt oil gael eu cario yn mlaen dan yr un egwyddorion eang, rhydd, ansectyddol, &c., bid siwr hyny. Mae trigolion Buallt, ac yn wir y sir hon yn gyffredin, yn haeddu canmoliaeth am eu pwyll a'u doethineb, a boed felly y bo. TYGAM, LLANWENOG.—Pan yn edrych i lawr y dydd a) all oddiar fane Llan- wenog ar hen walciau neu olion milwrol ar gae yn perthyn i'r ffermdy hwn, Ty- cam, daeth i'm cof y cofnod a ganlyn o eiddo y Brut: "Oed Crist 890, y daeth Hywel ab Ieuan a llu mawr ganddo o Saeson i gyfoethau Einion ab Owen ab Hywel Dda, a bu ymladd tost rhyngddynt yn mrwydr Llanwenawc. A Godffrid ab Harallt yn gweled hyny a ddaeth a'i lu hyd Dyfed, ac a'i diffaethasant ac a dor- asant Eglwys Ty Dddewi." Mae y crug (tomulus) lie y claddwyd y lladdedigion i'w gweled etto ar lan afon Catbal, hefyd hen grug yr udon. Ar ben draw y rhiw, ar yr un tyddyn, sef lie byddisyn dyfod i olwg pen clochdy L'anwenog, mae lie a elwir Pant-y-penlinio, a elwid felly am yr arferai yr hen bobl ddefosiynol syrthio ar eu gliniau mewn gweddi, sef oedd hyny cyn i sectyddiaeth lwyddo i yru y ddynoliaeth i gyd i'r pen, sef lie bydd pen. Mae hanes Llanwenog yn rhyw 50 o dudalenau, yr hwn a eimillodd y wobr eisteddfodol a fu yma rhyw flynyddoedd yn ol, wedi ei ymddiried i mi er ei ddwyn allan mewn rhyw newyddiadur neufisolyn. Efallai nad ydyw yn taro Y Dywysogaeth neu Llais y JVlad, Y TYWYSOG LLEWELYN.—Wrth g-rybwyll am gwymp y gwr hwn, adroddais hen ramant ddwy fraich ar lais gwlad, sef am y lie ei claddwyd, fel hyn Yma mae e gwedi ei gladdu Yn mda y roaei), yu ngwauo Eli." Cefais wedi hyny fod gwaun yn dwyn yr enw hwn i'w chael etto, ac ei bod yn cyffinio a Cefn y bedd. Pa un a oes yno faen neu draddodiad am fa en, gwneir ym- chwiliad pellach. DAFYDD EPPYNT.
O'R DEHEUDIR.
O'R DEHEUDIR. TREHAFOD.—Dydd lau wythnos i'r di- weddaf cyffrowyd trigolion y lie uchod trwy y waedd fod dyn o'r en-w id Highs wedi syrthio i'r afon Rhondda, trót yn ceisio dal pren oedd yn cael ei giudo ymaith gyda'r llif. Mewn canlyniad j'r cawodydd trymion yr ydym wedi gael oddeutu haner y mis hwn cododd yr afon i'w cheulanau, a chan fod coedydd anferth yn cael eu eludo ar adegau o'r fath y mae yn arferiad gan rai dynion fyned i geisio eu dal, a chyda y gorchwyl hwn yr oedd y tluan crybwylledig, pan y tynodd pren nodedig o anferth ef i mewn 0 dan y dwfr, fel nas gwelwyd ef mwyach yn fyw. Y mae ganddo briod, ond dim plant, yn dwys alaru ar ei ol. Yr oedd yn 30 mlwydd oed. ABERTAWE.-Da,iiiit-(ttit ar fwrdd Ager- tojig.-Dydd Llun wythnus i'r diweddaf, digwyddodd damwain echryslawn i ddyn o'r enw Henry Gobbet, yr hwn a hwyliodd allan o borthladd Abertawe yn yr ager- long Balmoral am Ilfracombe, gyda llwyth 0 ymbleserwyr y rhai a riient oddeutu pedwar ugain o wyr, gwragedd, a phlant. Cawsant fordaith hynod o airywiog ac en- byd, ond c^rhaeddasant ben eu taith yn ddiangol, er holl ffyrnigrwydd y tonau i'w berbyn. Y mae yn ddrwg genyf hysbysu fod y ddamwain wedi digwydd'yn mhen ychydig fynydau wedi i'r llestr gyrhaedd Ilfracombe. Jftbywfodd neu gilydd, cwymp- odd Cobbet, tanwr yr agerlong, i ganol y peirianwaith tra yr ydoedd yn cyflym ysgogi. Gyda phob brys ag oedd yn bos- sibl gwrtbdrowyd y peiriant, a thynwyd ef allan, ond yr oedd ei aelodau, yn en- wedig ei goesau, wedi eu malurio yn y modd mwyaf aiswydus, a'r hyn sydd yn syndod ydyw ei fod yn fyw. Symudwyd ef i'r meddygdy yn uniongyrchol, ond bu farw mewn poenau anaele yn nihen byr amser ar ol cyrhaedd yuo. CASNEWYDD.—Dydd Llun diweddaf dig- wyddodd ffrwydriad arswydus a thra thrychinebus ar fwrdd agerlong yn y porth- ladd uchod o'r enw Rescue. Ymddengys fod y llestr anffodus yn llusgo Hong allan i'r mor, a phan gyferbyn a'r lie a elwir Rock Wharf, ffrwydrodd ei berwedydd, a bron yn uniongyrchol aeth i lawr a'i plien .yn mlaenaf. Lladdwyd y tanwr a morwr Perthynai y llestr i Mr William Jones oY* lie yma, yr hwn oedd newydd ei phrynu am dcleuiiaw cant o bunnau. Yn anffod- us nid oedd wedi ei hyswirio. BLAENLLECHAU.—Am geisio myned i mewn i'r tren pan ydoedd mewn ysgogiad, dirwyodd ynadon y lIe uchod ddyn o'r enw William Huggleston, o'r Ystrad, i ddeg swllt a'r costau. PENIBONT-AR-OGWY.—Yn Ilys yr heddgeid- geidwaid yn y lie uchod, gwnaed cybudd- iad pur hynod yn erbyn dyn o'r enw David Howells, nid amgen creu cynnwiI mewn addoldy perthynoi i'r Annibyn^yr yn Brynmenyn. Dywedai y Parcn. William Morris, y gweinidog, fod y cyhuddedig wedi ei ddiarddel o'r eglwys oherwydd rhyw beth neu gilydd, oLd ei fod Sabbath diweddaf wedi aros ar ol yn y gyliciliach, a chodi gwrthwynebiad yn eruyn rhyw beth a ddywedid gan un o'r aelodau, yr hyn a barodd i gynnwrf a ehyftro mawr eymmeryd lie. Bavnodd yr ynadon nad oeddyr achos yn deilwng o sylw, ganddy- weud yn gymmaint ag nad oedd neb wedi gwrtlrwynebu i Howells fod yn bresennol pan y daeth i mewn, fod ganddo hawl i ddadgan ei farn ar yr hyn oedd dan sylw, a thrwy hyn fe ollyngasant y brawd i fyned i'w ffordd yn liawen. CILCENNIN.—Prydnhawn dydd Gwener, wythnos i'r diweddaf, rhoddodd y Parch. J. Evans, ticer parchus y plwyf, de a bara brith i aelodau'r Eglwys a'r ysgol Sul, a'r plant perthynoi i'r Eglwys. Ar ol i bawb gael eu gwala a'u gweddill, ym- ddifyrwyd mewn chwareuon diniwed o wahanoi faihau. Yn yr hwyr cafwyd cyngherdd ardderchog, prydy cymmerwyd rhan ynddo gan y personau canlynol:— Miss Pughsley, Misses Shorin, Ty-mawr; 0 Thomas Evans, D. Jenkins, J. Williams, Ty'n y Gwndwn, yn nghyd a J. W. Rees, o Goleg Llanbedr. GWENT A MORGAN mae y sibrwcl ar daen yn y gweithfeydd yma, ond pa mor wir ydyw nis gallaf sicrhau, fod strike arall yn gwgu yn y dyfodiant, oherwydd y mae perchenogion y gweithfeydd glo a haiarn newydd l'oi rhyhudd o drydydd gostyngiad ar y c:.ulogau, sef eu bod wedi penderfynu tynu pob punt o gyflog i lawr i bedwar-swllt-ar-ddeg yn mht-n betliefnos i DOS Sadwrn nesaf, Ii chan y credir eu bud yn debyg o wasgu gostyngiad pellach i ddeuddeg swllt, ofmr y cymmer strike arall le, a bod amser caled yn bygwth dod ar y Deheudir o flaen y gauaf agos- haol.—IEUAN AWST.
Advertising
II KAVS C'OJIPOT;^D ESSENCE OF LIKSSBED, for Colds and CoughF, Astfcmatac, Consuicptive or Bioacbial) eves 9 cases out of 10.- Sold by most Chemists,