Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
.,,Y SEREN UNIG.,
Y SEREN UNIG. f. Seren unig, seren anwyl! r • Gwelaf moswyl lon'd dy wedd, Hyd orielau anfeidroledd, Nofi nefoledig hedd. Oiamneidibobmunudyn Fawredd gallu Ior di-bell'- Cfcriad calon Duw yw ymsdn Siwrnai ots fy seren wen. n Yn y gwegni mawr tragwyddol, Ji "a- Enaid wyfc ar ben dy hnn, Yn areithio bythol heniaith,— •„ Camp ar iaith-campwri Un f I) fi: Ymfalcbio mae fy nghalon Fod ei churiad ynot ti ( Er y pelledd a'r unigedd, t Duw a wnaeth ein henaid ni. 1 Yn dy gadair fendigedig, • Liweni'n iirig a di-gur; Rhan o Dduwdod yw dy hanfod,- rj Darn disglaerdod—dwyfol bur! Efo 'nghalon curi'n union, lJ- ■' • Yn y nefoledig wlad; j; Yno pefriwn, ymddisgleiriwn, r Diemynt fm o wdn y Tad. FFERYLLFARDD. NODIAD.—Ysgrifenwyd yr uchod wedi gwrando dat ganiad rhagorol o ginig boblogaidd Isalaw yn Llan- dudno.- Fr.
ENGLYNION
ENGLYNION A wnaethpwyd wedi colli gwobr yn Eisteddfod Bangor I A wen ddiwerth mewn trafferthion —fu genyf I ganu englynion Colli y wobr, sobr y sdh,— Rhaid celu toriad calon iF l. M Gwan yw ceisio gwenau cysur—genyf Wrth ganu'n rhy brysur Ni feddai'a deg Ifin eglur, r •; T Ewin bach o'r awen bur! } ;J. Clywch hyn yn mhob bryn a bro,- Nid wyf fardd wedi f'urddo." OWAIST ARFOS. i I r —* -—
v ". CYNGOR I OGWENYDD.
v CYNGOR I OGWENYDD. ir/d Mynsiarad â menyw eiriol-gyrinee, Ivl: 0 Ogwenydd ddoniol; Mawrha 'i pharch, paid bod mor ffol A'i siomi, bydd resymoL • IOAN MADOG.
MORFYDD AC IORWERTH, PLANT…
MORFYDD AC IORWERTH, PLANT FFESTIN. FAB. — MORFTDD. •fM r lach wyneb ferch aweyaydd,-a deilen Nadolig yw Morfydd f A n6d mawl arhoBawl rydd J Ar lenor fel darlunydd.
v. FL", IORWERTH.
v. FL", IORWERTH. _,[iV Peniog fel cadno cydnerth—yn mryniau „ Meirionydd yw Iorwerth Uwchlaw aur ac uchel werth 1,- ii Yr hoffaf fab fy nhrafferth. CYFFDY. hv\r! • i
1 , YR ENETH AMDDIFAD.
1 YR ENETH AMDDIFAD. •r ■■ f. Y rhewynt fel milwr awchlymai ei gledd, Gan ddifa prydferthion y llwyn, D. t J Tra plygai genethig. abadclifad ar feacl Ysbeiliodd ei bywyd o'i swyn: Fy rhiaint!" dolefai dan gangau yr Yw— Fy rhiaint, ai trymed eich hAn Fel nas gellwch glywed galarlef y byw,— Ai nid yw eich teimlad yr un ?" Na, hyn yw marwolaeth ni rwygir ei len Gan ddwysaf ochenaid fy serch Gwâg adlais gwatworllyd fy nghri uwch eich pen Sy'n rhwygo teimladau eich merch Os troaf i'r byd, fy nghroesawiad yw'r gwawd Sy'n brathu fy ngbalon fel cledd Gwrandawed y nefoedd fy ngweddi dylawd Am gyfran o heddwch eich bedd." "Darllenaf fy nhynged yn ymdaith y lloer •{i'r Ymlwybra mor unig drwy'r nen Ond nid yw hi'n teimlo yr awel sydd oer, Na chwmmwl unigedd uwch ben Fy ngrudd a fu unwaith yn oraedd y rhos, Ond adfyd edwinodd fy mhryd Ow, oer ydyw'r eira'n orweddfan y nos, Ond oerach yw teimlad y byd Paham y pryderaf ymadael a baich Fy mywyd adfydig me wn hedd ?— Tyr'd, angau trugarog, na attal dy fraich, Fy ngofid anwylodd dy wedd Na sylled yr haul drwy amrantau y wawr Ond ar fy ngweddillion yn oer Gofleidiad marwolaeth, a deimlaf yn awr Cyn gorpben tejrnasiad y lloer." f; Pan hunodd, breuddwydiodd fod angel o'r nef ',4. Yn disgyn i'w hannerch :—"list! ust, Awelon," sibrydai, rwy'n elywed ei lef Yn sivrwd ei genad i'm clust I"- Hi deimlodd ei hysbryd yn esgyn uwch ben 0 rwymyn marwoldeb yn rhydd, Ac edyn yr angel ddyrwygent y lien r I'w ebartref cyn toriad y dydd. Yr heulwen ddadebrai hen natur o'i hftn A'r gwlithyn groesawai ei wedd Ond nid ei belydrau ddibunent y fun >. Orweddai ar ddaear ei bedd Na hunodd yn angeu dan gysgod yr Yw Mor bur a dihalog a'r rhos, A'r eira'q.arwyddlun o deimlad y byw Ddewiaai'n orweddfan y nos! T. TUDNO JONES.
-: LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. CASTELLNEDD.—Dydd Sadwrn, cyn y diweddaf, cyflavvnwyd un o'r ysbeiliadau mwyaf beiddgar ac ar yr un pryd dirgel- aidd a mwyaf didwrw y clywsom son am dano ers llawer o amser, a hyny oddi ar berson, y Parch. John Griffith, periglor parchus y plwyf, yn ngorsaf y ffordd hai- arn. Ymddengys iddo dynu ei bwrs allan o'i logell yn y booking office, i dalu am docyn cludiad gyda'r tren oedd ar gych- wyn. Cymmerodd benadur allan o hono, ac yna dododd y pwrs yn ol yn ei logell. Derbyniodd y tocyn a'r gweddill arian oedd yn ddyledus iddo fel cyfnewid, yna, dododd ei law yn ei logell gyda'r bwriad o roddi yr arian gweddill yn y pwrs ond er ei ddirfawr syndod yr oedd wedi ei lad- ratta. Yr oedd yn ben pryd i'r tren gych- wyn ymaith, fel yr awgrymwyd, ac am ysbaid ni ddrwgdybiwyd neb fel lleidr. Wedi hyny pa fodd bynag, gwnaed yn hysbys fod dyn a dynes o ymddangosiad trwsiadus wedi ymddwyn dipyn yn amheus tra y codai y boneddwr ei docyn. Ni x chymmerwyd dim sylw o honynt ar y pryd oblegid cymmerodd pawb yn ganiattaol mai par ieuangc newydd briodi oeddynt. Gwisgai y ddynes orchudd gwyn dros ei gwyneb, ac yr oedd ei chydymaith hefyd wedi ei wisgo fel boneddwr. Tra yr oedd y periglor yn aros am ei docyn, gwasuodd y ddau tuag ato, a gwelwyd y ddynes yn estyn pwrs i law y dyn ac yn uniongyrchol yn cilio oddiwrtho, ofnir fod y ddau wedi diangc erbyn hyn yn ddigon pell ac na ddygir hwy i afael cospedigaeth haeddianol y gyfraith am gymmeryd mor hyf ar eiddo y periglor parchus. CASNEWYDD.—Ymwelwyd a thref Cas- newydd dydd Llun, cyn y diweddaf, gan filoedd o bleidwyr yr hen sefydliad Cym- reig, sef yr Eisteddfod. Yr oedd pabell ysblenydd wedi ei chodi yn agos i farch- nadfa yr anifeiliad. Cynnwysai y babell rhwng saith ac wyth mil o bobl, ac yr oedd yn llawn hyd yr ymylon. Mr T. Cordes, ydoedd y llywydd, a chymmerwyd y gadair ganddo am 12 o'r gloch. Yr arweinydd ydoedd Bryttonfryn, a Miss Pritchard a chwareuai ar y berdoneg. Gwasanaethai seindorf yr 103 regiment ar yr acblysur. Ana y wobr o gant punt, ymgystadleuodd chwech o goreu, am y dadganiad o Thanks be to God." Y corau oeddynt yn cystadlu oeddynt y rhai canlynol:- Aberdar, dan arweiniad Gwilym Cynon Ebbw Vale, dan arweiniad Mr Daniel Bowen; Casnewydd, dan arweiniad J. F. Groves; Rhymni, Mr T. Jones, arweinydd; Pontypool, Mr T. B. Smith, arweinydd; Tongwynlas, dan arweiniad Mr J. Samue. Rhanwyd y wobr rhwng cdr Aberdai- a ch6r Ebbw Vale. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyngherdd mawreddog, ac ymddengys fod e yr eisteddfod wedi troi allan yn llwyddiant berffaith. ABERTEIFI-Prin y mae mis yn myned heibio heb fod rhai o anffodusion glanau Teifi yn dyfod i'r rhwyd gyfreithiol am y trosedd o bysgota. Yn heddlys misol diweddaf Troedyraur, cyhuddwyd amryw o bysgotwyr Llechryd a'r cylchoedd o ddal pysg yn groes i'r gyfraith. Y cyhuddwr oedd yr heddgeidwad Jones. Dirwywyd WY hwy oil i bunt yr un a'r costiau, a choron. yn ychwanegol i feddianydd y pysgod. ABERTAWE.—Dydd Gwener, dygwyd cymmeriad pur adnabyddus yn y dref hon o flaen ei well, sef Gwyddel, o'r enw Michael Sweeny. Y cyhuddiad difrifol a roddid yn ei erbyn ydoedd, ei fod wedi ceisio rhoi terfyn ar ei fywyd trwy foddi yn y gamlas y noson flaenoroL Ym- ddengys fod y cais yn un o'r fath fwyaf penderfynol. Y tebygolrwydd ydyw y buasai wedi eyflawni ei fwriad anfad, oni bai i ddyn o'r enw J. Griffith, neidio i mewn atto a llwyddo i'w dynu o'r dwfr, er mwyn profi iddo nad oedd hawl ganddo i ddinystrio ei hun, gorchymynodd yr ynadon iddo gael ei garcharu am ddeng niwrnod, a gobeithio pan y dawaJlan y bydd ei einioes yn fwy gwerthfawr yn ei olwg. CAERDYDD.Dydd Gwener cyn y diweddaf cyfarfyddodd dyn o'r enw J. Ford, labrWr, a'i farwolaeth yn y dref hon mewn modd hynod o boenus ac annisgwyliadwy. Yr 0 WY oedd y trangcedig ers tua dwy flynedd bellach yn ngwasanaeth cwmni y tram- ffyrdd, ac yn arfer gweithio gyda pheiriant tori bwyd i'r ceffylau. Dyn ieuangc ydoedd, ac yn nodedig am ei neorth corph- orol. Ar hyd y boreu gweithiai fel arferol gyda'r peiriant, a thua hanner awr wedi un o'r gloch yn y prydnawn, efe a eistedd- odd i lawr yn y peiriandy, heb neb yno gydag ef, i fwyta ei giniaw o fara a chaws a choffi. Sylwodd un o'r llafurwyr yn yr yard arno yn cwyinpo i lawr ar ei gefn ar y gwair, a galwodd ar un o'i gymdeithiqn, yr hwn wrth edrych amo a welai fod rhywbeth annghyffredin wedi digwydd. Rhedodd allan, a chan gyfarfod Dr. Wallace, gofynodd a fyddai efmor garedig a dyfod i mewn. Cydsyniodd y meddyg, ond yr oedd y dyn anffodus wedi marw cyn iddo gyrhaedd y lie. Gwnaeth archwiliad ar ei enau, a dywedodd yn y fan ei fod yn credu mai dernyn o fara a aeth i lawr ei bibell wynt gan ei fygu i farwolaeth. Yr oedd y trangcedig yn wr priod, a thrigianai yn Canton fel dyn o arferion sobr a diwyd. Perchid ef gan bawb oedd yn ei adnabod. Dydd Sadwrn bu Mr R. L. Rees, yn cynnal trengholiad ar ei gorph, pryd y dychwelwyd rheithfarn yn unol a'r ffeithiau uchod. LLANCRWYS.—Ar ddydd Mawrth, y 29ain cynfisol, am y tro cyntaf yn nghof neb sydd yn fyw yn bresennol, cynnaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cyn- hauaf. Yr oedd y cynnulliadau yn bur liosog trwy y dydd, ond yn yr hwyr yr oedd yr hen adeilad yn orlawn o wran- dawyr. Am ddeg yn y boreu darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. C. Davies, cuiad Pembrey, a phregethwyd gan y Parch. T. Jones, ficer Silian, a'r Parch. E. Williams, Nantcwnlle. Am ddau, dar- llenwyd y Litani gan y Parch W. G. Hughes, a phregethwyd gan y Parch. Evan Allan, cuxad Llanybydder, a ficer Caio. Am saith yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parch. W. C. Davies, a'r Parch. J. Cantley Thorny. MERTHYR.Y mae achos hynod wedi cael ei ddwyn yn erbyn bwrdd gwarch- eidwaid y lie hwn o flaen crwner y gylch- daith. Ychydig wythnosau yn ol esgorodd gwraig un o'r dynion sydd yn cymmerydi gofal ceffylau gweithfaoedd Cyfarthfa at efeilliaid, ac yn mhen ychydig amser cymmerwyd y wraig yn glaf, a gwelwyd ar u unwaith fod elfenau yr afiechyd twyllodrus a elwir darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei chyfansoddiad. Rhoddodd y swyddog meddygol orchymyn i awdurdodau y -tlotty roddi i'r wraig beint o win a chig ar gost y plwyf, ond wedi cyflenwi y wraig am unwaith gyda'r pethau. uchod gwrthodai y gwarcheidwaid gyfranu yr hyn a dybiaiy, meddyg yn anhebgorol anghenrheidiol er cynnal bywyd y wraig. Dydd Mercher, cyn y diweddaf, bu farw y dioddefydd, a, dywed y meddyg yn ei dystiolaeth fod ei marwolaeth wedi cael ei achosi gan ddiffyg ymborth priodol. Gohiriwyd yr ymchwiliad i'r achos hyd y 13eg o'r mis hwn. « ABERNANT, GER MERTHYR.—Nols Sadwrn diweddaf, fel ag yr oedd un o breswylyddion y lie hwn yn cychwyn tuag adref ó Aberdar, ac oherwydd ei fod wedi ymgyfeillachu yn ormodol a Syr John, syrthiodd i drwmgwsg ar odhr y ffordd., Daeth rhyw gyfaill anadnabyddus heibio, a chymmerodd eioriawr allan o'i logell, er mwyn ei chadw yn fwy diogel maen debyg, ond hyd yn hyn nid yw wedi ei dychwelyd. LLANELLi.-Prydnawn y dydd Jail olaf yn Medi cyfarfyddodd bachgenyp bychan, rhwng tair a phedair blwydd oed, a'i iarwolaeth mewn modd tra dychryi)- llyd. Ymddengys fod y bychan wedi ceisio rhedeg ar draws y dramffordd yjn St. David's Row, yn agos i waith copr y Meistri Nevill a'u Cyf., pryd yr aeth jy peiriant ar tiyciau drosto, gan ei ladd yjn y fan. Nid oedd yn y fan y digwyddodjd y ddamwain un math o glawdd i attil plant i fyned ar y llinell, a'r hyn sydd yn ryfedd ydyw fad eyn lleied o ddamwei^- iau yn digwydd yno. Dydd Sadwrn eytâ-. naliwyd trengholiad ar ei gorph, pryd jy dychwelwyd dedfryd yn unol a'r ffeithiau uchod. DoWLAlS.—Dydd Gwener diweddaf cyfarfyddodd dyn o'r enw Charles Dix, guard ar dren mwnawl y Rhymni ar gangen Dowlais, a damwain ddifrifdl. Tra yn y weithred o wasgu brake ar un o'r gwageni, pryd y llithrodd ei droed ac y c wympodd i lawr, ac aeth y gwageni dros ei ddwy goes. Torwyd un o honynt ymaith yn llwyr, a maluriwyd y llafll mewn modd arswydus. Cymmerwyd í .1 y i'r meddygdy i Caerdydd gyda phob brys, ond y mae y niwed a gafodd mor fawr fel y teimla ei gyfeillion y pryder mwyaf yn nghylch ei adferiad. Mae ganddo wraig ac amryw blant yn hollol ddi- ymgeledd yn ymddibynu arno. IEUAN AWST.
LLITH LLYGADOG.
LLITH LLYGADOG. FONEDDIGION, Ymwelais yn ddi- weddar iawn a Chwm Penmachno, ac fel pob cwm a chantref arall, y mae y cvym mynyddig a chwibiog hwn yn myned rhagddo gyda chyflymdra yr olwyft" sydd yn dwyn llwyddiant a gwelliantau oddiamgylch. Un gwelliant pwysig iawn yn y lie, ydyw yr Ysgol-Gapel a adeilad- wyd yno yn ddiweddar, trwy ymdrech y Parch. Mr Price, rhagflaenydd y Parch. Moses Thomas. Defnyddir yr adeilad i gynnal ysgol ddyddiol a gwasanaetHau dwyfol ar y Sul. Yr oedd y naill a'r Hall yn wir angenrheidiol, y naill i ymgeleddu cyflwr gwyllt a barbaraidd y plant, ar llall i ymborthi angenrheidiau ysprydol y trigolion. Y mae'r ysgol yn llwyddo yn effeithiol, dan arolygiaeth Mr L. Richards, a'r achos Eglwysig yn cynnyddu yn gyflym, o dan weinidogaeth Mr Thomas. Gadawaf ar hyn yn bresennol rhag rhoddi tramgwydd i "rhywun" na "neb," na "nhw" ychwaith, o ran hyny. Y mae nhw yn dyweud i mi mai selog a blaen- llaw iawn yw trigolion y Cwm Mawr gyda phob symmudiad neu ysgogiad newydd; a'r ysgogiad diweddaraf a fu yn wrthrych eu serch ydoedd Temlyddiaeth Dda. Yr. oedd eucariad yn wresog,a'u set yn danbaid dros ac yn mhlaid gwisg newydd yr hen foneddiges ddirwestol. Ac yn wir yr oedd y teganau a, pha rai yr amgylchynid; hi yn sicrhau y gwirion hen a'r gwirion ieuangc, o bob rhyw ac oedran, i ymgod- ymu am y. cyntaf i'w chofleidio. Blaen- orid yr hen foneddiges oedranus gan y corph hwnw a elwir hunanoldeb," a thra y cadwodd o fewn i'w derfynau, ym- ddangosai ef a'i hoff bwngc dirwest" yn bur foneddigaidd, a bu yn wrthrych cyd- ymdeimlad, ac ymrestrodd nifer mawr o filwyr o dan ei faner. Ond cofied ef a'i gynffonwyr Phariseaidd fod y gyfraith wladol yn gofalu am swyddogion cyflog- edig i edrych am gau tafarndai y gym- mydogaeth, a phob cymmydogaeth arall o ran hyny, mewn amser priodol, ac nad oes eisieu eu gwasanaeth y ffordd yna beth bynag; ond am eu gwasanaeth er sobr- eiddio y bodau afresymmol a dilywodraeth hyny sydd yn y terfynau cymmydogaethol, byddis yn hynod ddiolchgar. Cymmerwch yr awgrym, gyfeillion, ac na ddiys- tyrweh y cerydd ysgafn hwn, rhag digwydd rhywbeth a fyddo gwaeth. DÂ- wedir mai gwir yw y stori fod Teml- yddiaeth yn llwyddo yn gyflym yn nghymmydogaeth Dolyddelen, oblegid dy- wedir, gyda sicrwydd hefyd, fod nifer yr hotels wedi cynyddu er pan aeth yr hen foneddiges enwog i ymweled a, hwy. Wel, yn wir, byddwn mewn dyled mawr i roddi iddi gladdedigaeth barchus ac urddasoI; os llwydda yn gyffelyb yn mhob man, onr fyddwn ? Clywais iddi alw am dda swyddog, y cyfreithiwr cyffredinol, a'i glerc cynnorthwyol, y diwrnod o'r blaen, oherwydd fod y blaned hon yn digwydd bod yn wleb iawn, er gwneuthur ei hew- yllus, gan ei bod yn benderfynol nad oes yma ddinas barhaus." Galwyd arnaf i'w llawnodi, a bydd i mi gyda'r cyfleus- dra cyntaf ddatguddio ei chynnwyaiad. Maddeuwch fy meithder y tro hwn. LLYGADOG. Bryngolwg, 'nawn Sadwrn..
[No title]
LERPWL. — Undeb Ysgolion Sabbothol Lerpwl a'r Cyginiau.-Mae yma symmud- iad gwerthfawr ar droed y dyddiau hyn mewn cyssylltiad a'r undeb uchod, sef "ymofyniad cyffredinol" (general canvass). Yr amcan mewn golwg ydyw cael gwybod- aeth gyflawn o nifer Cymry y dref hon a'r cyffiniau, a'r Heoedd o addoliad yr arfer- ant eu mynychu; ac os ceir rhai nad ydynt yn myned i unrhyw le o addoliad, fe erfynir ar i'r ymofynwyr eu hannog i wneud hyny. Mae yn dda genym allu hysbysu fod y symmudiad yn cael cefnog- aeth yr holl enwadau Cymreig, ac y m-ae yma fil wedi ymgymmeryd 4'r gwaith o fod yn ymofynwyr.-Nos Fawrth, y 6ed cyfisol, cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Tabernacl, Netherfield Road, pryd y cymmerwyd y gadair am saith o'r gloch gan David Hughes, Ysw. Ar ol annerchiad pwrpasol gan y cadeir- ydd, eglurwyd y cynllun mewn modd medrus a galluog gan Mr Josiah Thomas yn Saesneg, ac yna cafwyd annerchiadau dyddorol, medrus, a hyawdl gan y Parch- edigion John Evans, Everton Village; Thomas Morris (M.W.), Owen Jones (M.C.), yn nghyda Meistri Griffith Evan Owen, David Davies, ac Edward Griffiths. Cynnygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd gan y Parch. Owen Owen (M.C.), a chefn- ogwyd gan Mr Isaac Jones. Diweddwyd trwy weddi gan Mr William Bridge. Caed cynnulliad lliosog, ac yr oedd y cyfarfod yn mhob ystyr yn un rhagorol. Mae y symmudiad hwn wedi ac yn creu cynnwrf annghyffredin yn mhlith Cymry y dref hon; dyma ydyw pwngc y dydd, ac y mae agos yr oil o bapyrau y dref wedi gwneud sylw o hono, ac yn ddieithriad yn cym* meradwyo yr amcan. Mae yn ddiam- mheuol mai dyma'r symmudiad pwysicaf a mwyaf o'i natur a ymgymmerwyd erioed ag ef genym fel cenedl, a gobeithio y bydd i'r Arglwydd ei fendithio er cael llawer o'n cydwladwyr, sydd wedi myned ar gyfeiliorn ac yn esgeuluso pob moddion o ras, i fod byth yn gadwedig.—Cynnaliwyd cyfarfod o'r un natur yn nghapel Prince's Road, o dan lywyddiaeth Edward Lloyd, Ysw. Cafwyd annerchiadau gwerthfawr gan y Parchedigion Qwen Jones (M.C.), John Evans (M.W.), a J. R. Jones (B.), yl nghyda Meistri William Lloyd, David Jones, Peter Williams, a John Jones.- Capel Wesleyaidd Shaw Street. Y Sab- both diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod preg- ethu yn y capel uchod. Pregethwyd yn y boreu a'r hwyr gan y Parch. Hugh Jones (Dinbych), ac yn y prydnawn gafl y Parch. Edward Humphreys, Birkenhead. Caed cynnulliadau lliosog a phregethan meistrolgar a dylanwadol.—Liverpudlian1'
Y PR IF FARCHNADOEDD CYMREIG.
Y PR IF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Hydref 10.—Gwenith, o 14s Oci 15s Oe yr hob; haldd, 10s 6c i 12a 6cyr bob; ceirch, 9s Oci 100 6c yr hob; ffa, Os Oc i Ga Oc yr hob; blawd ceirch, 388 00 40s Oc y 240 pwys. ABERYSTWYTH, Hydref 5.—Gwenith, 6s 9c i 7s ød y mesur; haidd, 4s 6c i 5s Oc ceirch, 3s 6c i. 4s 6e ? mesur ymenyn ffres, 16c i 18c y pwys; ymenyn baHt, 15ic i 16c y pwys; ednod, 3s 6c i 4a Oe y ewpl; pytatwo Os 6c i Us Oc y canpwys. BANGOR, Hydref 9.—Gwenith, 428 Co i. 44J. 00 Y chwarter; haidd, 30s Oc i 33s oc; ceirch, 23s Oc i 25s Oo > blawd ceirch, 36s Oc i 37s Oc y 240 pwys; ymenyn" ffreo o 1ge i 20c y pwys eig eidion, o 8c i iOc y pwys; Clg defaid, o 8c i 9c y pwys; cig lloi, o Oc i Oe y pwyB. CAERNARFON, Hydref 10.—Gwenith, o 418 00 1 44s Oc y chwarter haidd, 28s Oc i 32s Oc y chwarter; ceirch, o 22s 6e i 24s 0c y chwarter; bland ceircb, 0 37s Oc i 39s 0c y 240 pwys. DINBYCH, Hydref 7.—Gwenith, 138 Oc i 14a 0401 y hob; haidd, 14s Oc i 15s Oc yr hob ceirch, o 7s 6c 1 9s Dc yr hob; ymenyn ffres, Is 6c i Is 8c y pWj8 > tybiau bycbain, Is 4d i Is 4c y pwys. LLANERCHYMEDD, Hydref 7.—Gwenith, 49a Oo i:51 9 y chwarter haidd, 35s Oc i 36s Oc y chwarter; ceircbt 0 22s Oe i 23s Oc y chwarter blawd ceirch, 34s i 35s Ic y 240 pwys; pytatws, o 4s Oc i Os Oc y 100 pvvys ymenyn fires, Is 4c i Os Oc y pwys; cig eidion, o 8: > 9c y pwya cig defaid, 9c i 10c y pwys bams goreu, o Is i Oc y pwys. LLANRWST, Hydref 6.-Gwenitb, 168 Oc i 188 Of yr hob haidd, lis 0c i 14s 0c yr hob; ceirch, o 8s lOsOcyrhob; blawd ceirch, 22s 0c i 22s 0c yr pytatws, 4s 6c i 5s 0c yr hob; ymenyn ffres, o Is■« 1 Is 8c y pwys; cig eidion, 7c i9c y pwys cig dafa"> 8c i 10c y pwys. LLANGEFNI, Hydref 8.—GweDith, 40s 6c i 438 Oc T chwarter; haidd, 30s Oc i 32s Oc y chwarter ceIre i 22s 6c i 2J8 0c y chwarter blawd ceirch, 36s 0c 38s Oc y 240 pwys pytatws, 4s 6c y 100 pwys y-evin ffres, Is 5c i Is 6c y pwys; cig eidion, o 8c i go y pwys cig dafad, o ge i 10c y pwys. Argrafifwyd a Chyhoeddwyd gan y Perchenog, WHITWORTH DOUGLAS, Argraffydd, &c., Heol Bangor, dydd Gwener, Hydref 16, 1874.