Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

---"'---Y DEHEUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEDYDD.) Yr wyf yn barnu fod yn ddyledswydd ar y Llywodraeth orfodi cwmni rheilffyrdd i fod yn fwy gofalus o fywydau y teithwyr. Nos Sadwrn cymmerodd damwain le a allasai fod yn angeuol i dyrfa o bobl. Gadawodd y tren Sirhowy, Casnewydd, am saith o'r gloch nos Sadwrn, ac aeth yn hwylus mor bell a Pontymeistr, Risca. Yn ddisymmwth daeth i wrthdarawiad a gwageni treit arall oedd yn sefyll yn groes i'r heol yn shuntio. Gyrodd y peiriant y trucks o'i flaen fel us; taflwyd y goods van yn gyfan ar ben peiriant y Monmouth- shire Railway. Niweidwyd y rhan fwyaf o'r teithwyr ond yn ffodus ni laddwyd neb. Yr oedd ysgrechfeydd a chyffro y teithwyr yn ddychrynllyd. Cymmerwyd hwy allan yn ddioed, a thrinwyd eu clwyf- au gan y Doctoriaid Robathan a Richard Instance. Anfonwyd i Gasnewydd am help, a dygodd y swyddogion y Monmouth- shire Railway eu gweithwyr i glirio y ffordd. Anfonwyd special train i lawr i Dredegar, lie yr oedd cyffro mawr. Agor- wyd y ffordd cyn haner nos, fel y gallodd tren Sirhowy fyned. Cyrhaeddodd y lie olaf am haner awr wedi dau yn y boreu. Y mae yn ddirgelwcli i'r cyhoedd paham darfu i weision y Monmouthshire Railway shuntio tren trum yn groes i'r ffordd pan oeddynt yn gwybod fod amser tren Sir- howy i fynu. Dywedir fod y signal yn erbyn tren Sirhowy; ond nid oedd yn bosslbl ei weled o ddim pellder. Fe gyst yr esgeulusdra hwn swm ddychrynllyd o y arian naill ai i'r Sirhowy Company neu y Monmouthshire. Tua'r un amser rhedodd tren yn llawn o deithwyr i luggage train yn Llantrisant, pan oedd yr olaf yn shuntio, a lladdwyd Edward Hughes, y guard. Y mae yn ymddangos fod pobl yn gallu siarad yn fwy llithrig a hyawdl ar ol cin- iaw nag un amser arall. Dichon fod a fyno'r gwin a'r moethau a'r hyawdledd yma ar ol ciniaw. Yr oedd yn debyg yn y wiedd Radicalaidd yn Colston Hall, yn Mryste, pwy nos ? Yr oeddynt yn siarad fel pe buasai cliciedi eu geneuau yn cael eu gweithio gan ager-beiriant. law iaw oedd y cwbl. Os gallai un dyn byw bedyddiol neu anfedyddiol gael yr amynedd i ddarllen yr oil a ymddangos- odd yn y papurau, mae yn rhyfedd genyf fi-pob un yn chwareu ar yr un tant—can cric-grec yn y gwair. Awgrymir yn awr, ar ol yr arllwysfa o hyawdledd a draddod- wyd yn Mryste, y dylem newid yr arferiad —cael yr areithiau cyn ciniaw, yn lie ar ol ciniaw. Bydd yn foddion i dalfyru areith- iau hir-wyntog canys ni fydd i'r gwran- dawyr wrando yn hir pan bydd eisiau ciniaw arnynt, fel y person hwnw. Yr oedd dau berson yn byw unwaith yn yr un ardal, un yn enwog am bregethu yn hir a'r Hall yn fyr. Un boreu Sui cyfnewidiasant ddau bwlpud. Daetb chwant bwyd ar gynnulleidia y pregethwr hirwyntog, ac allan a hwy o un i un. Pan welodd y clochydd hyn, aeth i fyny y grisiau a dywedodd, "Hwdiwch yr agoriad, syr, a gadewch ef yn y ty wrth fyned heibio. Yr wyf fi yn myned; y mae eisieu fy nghinio arnaf." Y mae gwell manteision gan ddynion ienaingc sydd yn codi nag oedd gan eu teidiau. Nid oedd dim son am lyfrgell- oedd rhad i'r gweithwyr ddeng mlynedd ar hugain yn ol; ond, mae y Free Library Act wedi gwneud lies mawr. Sefydlwyd Llyfrgell Rydd yn Nghaerdydd ers blyn- yddoedd. Gall pob un o'r trigolion, ond cael enwau dau fel meichniafon, gael benthyg y llyfr a fyner; ac mae y read- ing rooms yn llawn o foreu glas hyd y nos. Ysgrifenydd y llinellau hyn ddarfu 0 wneud y catalogue cyntaf i'r sefydliad hwn. Yn ddiweddar sefydlwyd un yn Nghas- newydd. Y mae yn dda genyf ddeall fod llyfrgell gyhoeddus wedi ei hagor yn Aberystwyth. Rhoddodd G. E. Powell, Ysw., Nanteos, y rhan fwyaf o'r llyfrau yn anrheg i'r sefydliad hwn. Siarad am Aberystwyth, y mae yn flin genyf weled y fath gymmeriad yn cael ei roddi yn un o'r papurau lleol i dref oedd yn cael ei hystyried yn enwog am ei Radicaliaeth, ei chrefydd, a'i moesau, ei Phrifysgol, a maes y gad yn y flwvddyn 1868, pan ferthyrodd y tirfedd- y ianwyr Toryaidd eu deiliaid. Y cyhudd- wr yw un Mr Edwards, yn hwylio allan o Lewis Terrace, Llanbadarn Fawr. Dy- wed fod plant yn fwy anwybodus o'r Ysgrythyrau yn awr nag y maent wedi bod er dechreuad Methodistiaeth—nid ydynt yn clywed y Beibl yn cael ei ddar- llen ar yr aelwyd fel cynt. Y mae ef yn barnu fod y rhieni yn gadael i'w plant gael eu haddysgu yn yr ysgol Sul a'r ysgol ddyddiol yn lie ar yr aelwyd. Com- pliment sal ofnadwy i'r ysgol Sul. Yn ol parabl y bydolwyr yma, y mae yr ysgol Sul yn ddigon i ddysgu crefydd i'r plant, ond, yn ol tystiolaeth Mr Edwards, y mae yn fethiant. Yr wyf yn credu fed a fyno politiciaeth wyllt, benrydd yr oes a'r mater-politiciaeth yn lie crefydd—lec- siwnydda yn lie ffydd. Y mae pobl yn awr yn achwyn mewn lluaws o blwyfydd gwladaidd oherwydd y corph o farwolaeth a osodasant ar eu cefnau eu hunain, sef y Bwrdd Ysgol. Nid oedd dim o'i eisieu o gwbl; ond pan oedd y dwymyn fyrddol yn ffynu, buasai yr un peth i ddyn geisio eu troi a llusgo bwch i odyn ond nid oes dim at amser, ac y mae amser wedi dat- guddio i lawer eu ffoIineb yn gwaeddi am Fwrdd Ysgol. Y mae fy ngwallt bron a sefyll yn syth, fel y ewils ar gefn j porcupine cynddeiriog, wrth feddwl am fygythion Dafydd Eppynt am fallgorn Llanddewi-Brefi. Esmwyth cwsg potes maip, fel yr oedd gwraig Sion Ifan yn dywedyd pan oedd cymmydog y drws nesaf yn lladd llwdn oedd ef wedi ys- peilio oddiar y mynydd yn ymyl Pont- newydd. Gallaf atteb dros Cwmbrefier nad wyf yn ei adnabod, ei fod ef a. minnau yn rbydd oddiwrth y mallgorn. Yr wyf yn haner credu mai rhyw Jack, yn amser y Reform fawr a'i cariodd ymaith i wneud corn olew o hono, ac anghofiodd ei ddwyn yn ol. Yr oedd Creiriau Eglwysyddol yr amser hwnw i gael eu gwerthu a'u rhanu. Cofion caredig at yr hen frawd, a diolch iddo am dippyn o gymmorth i chwerthin yn y dyddiau pendrymaidd hyn. CRAIG Y FOELALLT.

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

[No title]

--MR. GLADSTONE AR EGLWYS…

[No title]