Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

------ -LLITH 0 LANGEFNI.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH 0 LANGEFNI. 1 MRI. GOLYGWYR,—Dyma yr eisteddfod wedi myned heibio, ac yr wyf yn dymuno datgan fy llawenydd am ei bod wedi troi allan yn llwyddiant perffaith mewn ystyr arianol a Ilenyddol hefyd. Gyda hynvna o ragymadrodd, yr wyf yn bwriadu gwneud ychydig o sylwadau ar rai pethau mewn cyssylltiad a hi. 1. Y mae y llywyddion yn haeddu diolchgarwch am dd'od yno bob un, ac nid rhoddi eaniattad i'r pwyllgor ddefnyddio eu henwau felllywyddlon, ac absenoli eu hunain ddydd yr eisteddfod. Diolch calon i'r pedwar gwr urddasol am dd'od yma, ac am eu hannercbiadau gwerthfawr. 2. Llongyfarcbwn y pwyllgor am y dull anrhydeddus a gymmerasant gyda'r orsedd a'r urddo, &c. Bu yr arholiad, yn ddi- amheu, yn foddion effeithiol i gadw draw lawer o'r giwaid ymbongar, nad ydynt yn enwog am ddim ond gwyneb-galedwch; bu yn foddion hefyd i godi yr orsedd i fwy o fri yn ngolwg y cyhoedd, ac i osod bri ac anrhydedd ar yr urddedigion, yn lie eu gwneud yn destyn gwawd a dirmyg, fel mewn rhai gorseddau yn yr amser a aeth heibio. 8. Rbag myned yn rhy faith, terfynaf gyda sylw byr ar y "llenladrad" beiddgar a gyflawnodd H. Gwynedd Hughes. Yr oeddwn wedi naeddwl nad oedd dim llen- ladron yn mblith y beirdd ers talm bell- ach, ond fod Ceridwen wedi trosglwyddo yr anian felidi^edig hono i alarchod ac eryrod ysglyfaethus. Ond ow! cefais fy siomi. Dyma H. Gwynedd Hughes yn "llenleidr beiddgar," ie, y gwaethaf o'r n cwbl i gyd. Oddiar ereill y byddai pawb o'i flaen-ya lladratta; ond dyma efe yn ddigon beiddgar i ladratta oddiarno ei hun. Maddened Ceridwen i ti am yfath dro, gyfaill anwyl, neu bydd yn druenus ofnadwy arnat ryw ddiwrnod. Gan fod fy Uith wedi myned yn faith, rhaid gadael rhai sylwadau hyd dro arail. EDNYFED FYCHAN.

HELYNTION PRIODASOL YR OES.

Advertising

IGAIR 0 WRECSAM,-----

NODION 0 FRO ALED A 'R CYFFINIAU.

IBODDIAD DAU BERSON YN ABERFFRAW.

[No title]

Advertising

Y BENEDD,'

Family Notices

Y PRIF FARCHNADOEDD SEISKIG.…

PRIF FAltCHNADOEDD CYMREIG.j