Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
YR ADRAN GYMREIG.
YR ADRAN GYMREIG. Y Gwir yn erbyn y Byd." Gwahoddir cynnyrchion i'r Adran hon. Pob gohebiaeth i'w anfon i Swyddfa'r II Leader," Aberdar.
BONA-FIDES GORSAF ABERCYNON.
BONA-FIDES GORSAF ABERCYNON. Cwynir yn Abercynon-oherwydd Dyhirwch y meddwon, A geisiant gwrw'n gyson, 0 boeth wane, ar Sabbath Ion. Anrhaith y Gwirf sy gynrwg-ag erioed, A gras Duw mor amlwg Wylwn! mae'r dyn o'r golwg 0 dan draed ysbrydion drwg Aberdar. AB HEVIN.
BWTHYN Y BARDD,
BWTHYN Y BARDD, < leuan Glan Teifi," Llan. bedr-pont-Stephan, Ceredigion, lle y treuliais i a fy nghyfaill barddol Glan Cynon, Aberdar, lawer i orig felus yn nghanol swynion natur ar ddyddiau melyn yr haf diweddaf. Yn murmur y Teifi, mewn bwth yn yr ardd, Mor ddifyr yw'r oriau yn nghwmni y bardd; Melusach na breuddwyd, yn llawn o fwyn- had, Dydd gwyn ydyw bywyd yn nghanol y wlad. Mae'r bwth yn naturiol, yn swynol a thlws, A rhosyn barddonol sy'n ymyl y drws. A gwen ar ei wyneb, gwen gynes, ddifrad, Yn llawn o foddineb yn nghanol y wlad. t, Fel geneth yn dawnsio yn ysgafn a rhydd Yn nghanol y blodau mae'r awel trwy'r dydd, A chanu alawon o hyd mewn mwynhad 0 amgylch y bwthyn yn nghanol y wlad. Yn ymyl y bwthyn henafol a chlyd Mae'r deryn pig-felyn yn canu o hyd Ei oriel yw cangau y berllan iach, werdd, Anghofir gofidiau yn swynion ei gerdd. Bob bore canfyddir y lili dlos, wen, Yn syllu yn siriol, a'r dail am ei phen, I fewn i ystafell yr hen fwthyn mad, A'i bron yn ddiddichell yn nghanol y wlad. 'Rwy'n caru hoff symlrwydd y bwthyn bach, glan, Mae hen gadair dderw yn ymyl y tan Os yw yn anghelfydd, mae'n esmwyth, pwy wad ? Naturiol a dedwydd yw bywyd y wlad. Mae nant fechan loew yn ngwaelod yr ardd Yn dangos ei ddelw i'r rhosyn teg, hardd, A chwerthin mae yntau yn ol mewn mwyn- had, A gwrid ar ei ruddiau yn nghanol y wlad. Ar aelwyd y bwthyn mae rhinwedd yn byw, Fawrygir gan ddynion, anwylir gan Dduw; Yn nghanol helbulon nos dywell pruddhad Bydd melus adgofio am fywyd y wlad. Aberaman. EURFAB.
TRANSLATION.
TRANSLATION. By the ripplings of the Teify, in a cottage by the sea, How bewitching pass the hours with the bard and poesy Sweeter than sweet dreams are they, and brimming with delight- Fairy days are those I spend with Nature pure and bright. The homestead old is pretty, and cosy too, and hoar, A pensive little rose-tree betwines about the door; A smile is on its countenance-a smile so undefiled, So full of sweet contentment—Arcadia's simple child. As a damsel fair and bright doth skip quite joyously, So the zephyrs and the flowers dance their prettv symphony, "While around the pleasant scene that ever shall be dear- They tune their joyful ditties on Nature's ancient lyre. Hard by the rustic cottage, so neat and so sedate, 0 The golden-breasted linnet doth sing to her true mate; The bowers of the orchard her lush and green retreat, "What cares can ever linger with her har- monious beat ? At dawn when I awaken I see a lily gay, Its sweet pale countenance reflects the smile of opening day; To me it is the emblem of a soul that's pure and true, The mind and mien of Nature I lovingly imbue. I love the old, old cottage—its clean sim- plicity Besides the ancient fireplace there stands an old settee. If it is not so artistic 'tis cosy I am sure. The sacred joys of hearth and home are here ever pure. Around the luscious garden, a crystal stream I doth run, That mocks the roses' brilliant hue, then rip- ples o'er with fun, And the rose doth smite him back, with lovingness and glee So coyful shy her form doth take, she droops most blushingly. On the hearth of this old homestead, high virtue doth abide, Not in a gorgeous raiment, but God i. on its side. In times of tribulation and melancholy days How sweet the recollection of life in rustic ways! Aberystwyth. IVONFAB,
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Y mae llywodraethwyr ysgolion Abertawe wedi teimlo awel yr adfywiad—hyny yw yr adfywiad gwladgarol ac ieithyddol. Y maent o blaid dysgu Cymraeg yn yr vs^olion dyddiol. Hefyd y maent o blaid cael enwau a lluniau enwogion Cymreig i'w rhoddi ar y murlau.
Advertising
DRINK HORNIMAN'S PURE TEA. In packets only. Sold by T. LLOYD, Wholesale and Retail Grocer, Xh mom lienh, Aberdare
-----------...---iCyfarfodydd…
Cyfarfodydd Pnegethu Catfarsa, Aberdar. Y Parch E. T. Jones fel Pnegethws* Y Sul a'r Llun diweddaf cynhaliwyd cyrddau mawr eglwys Fedyddiol Calfaria, Aberdar. Pregethwyr yr wyl ydoedd y Parch E. T. Jones, Llanelli, gynt o Lwynypia, a'r Parch W. Saunders, Pontycymer. Bore Llun cawsom gyfleusdra i glywed y blaenaf. Dyn cymharol ieuanc ydyw Mr Jones, o bryd tywyll; dyn heinyf a bywiog dros ben. Hawdd deall ar ei acen mai Gogleddwr ydyw, ond nid goslef drom Gwynedd sydd ganddo, ond goslef ysgafn gwladRhys Lewis. Y mae yn ffraeth hyd at fod yn ysgafn bron. Gog- leisia y gynulleidfa gyda'i arabedd nes y mae gwen boddhad ar bob gwyneb, a gall cynulleidfa Gymreig fawrhau arabedd ys- gafn yn ogystal a difrifoldeb dwys. Gwelir yn fynych dyrfa o Gymry un foment dan gawod o ddagrau, tra y foment nesaf wele heulwen yn ymlid y gwlaw oddiar gyfandir o wynebau astud a deallgar. Yn y cyfarfod dan sylw pregethai Mr Jones ar eiriau Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid ei gyfeiriad at y saint yn gor- foleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch a diocldefgarwch brofiad, a phrofiad obaith. Dywedai mai pwnc mawr athrawiaeth Paul yn y llythyr hwn ydoedd na ellid bod yn gadwedig trwy weithredoedd, ond drwy ras. Camgymeriad ydoedd tybio fod rhybudd Paul yn gyfyngedig i eglwys Rhufain, Y mae Paul yn cwrdd y meddwl Cymreig yn Aberdar yn ogystal a'r meddwl Iuddewig yn Rhufain, Y mae y crefyddau paganaidd i gyd yn dysgu cadwedigaeth drwy weith- redoedd, ond gwirionedd sylfaenol Cristion- ogaeth ydyw cadwedigaeth drwy ftydd. Ofer i wrandawyr moesol ydyw taeru eu bod hwy gystal ag aelodau crefyddol. Y dyn gwaethaf yn yr universe ydyw yr hwn sydd yn gwrthod Mab Duw. Bydd cad- wedigion yn dod o'r dwyrain ac o'r gor- llewin, a'r bobl respectable ond anghrediniol yn cael eu gwrthod. Y mae cyfiawnhad, meddai y pregethwr, yn cau hunan allan- hunan, yr hwn sydd yn rhwygo gwledydd, yn davnnio dyn ac yn herio Duw. Y mae deddf gweithredoedd yn taflu allan y pechadur a'i bechod, ond y mae deddf gras vn taflu allan y pechsd ac yn derbyn y pechadur, Trwm ydoedd collfarn y pregethwr ar yr hen syniad annheihvng fod anffodion pobl dda yn gosb am eu pechod. Dyna, meddai, athrawiaeth cysurwyr gofidus Job. Pwy ac efe yn ddiniwed a go I teclwyd meddynt. Yr oedd y ddiareb, Fel yr aderyn wrth grwydro a'r wenol wrth ehedeg, felly y felldith ddiachos ni ddaw," yn cael ei hes- bonio yn ,yffelyb. Yr oedd adnod debyg i'r ddiweddaf yn cael ei mynych adrodd yn mysg mwnwyr sir Fflint pan yr oedd ef (y pregethwr) yn fachgen, 11 Nid a y felldith i'r gareg" meddynt. Hysbyswyd ef un tro fod hen gymydog iddo wedi marw. Meddai ei hysbysydd, Yr oedd pawb yn dweyd na chawsai farw fel dyn arall." Hen syniadau paganaidd ydoedd y cyfryw, a gresyn eu bod yn cael eu coledd gan Gristionogion. Yr oedd y pregethwr yn lied hallt ar feddalgarwch i-latur oy Cvmro. Rhyfedd, meddai, ein bod ni, wyrybryniau a'r creigiau, alleied o wroniaefch yn ein natur. Leied o honom sydd yn barod i ddioddef dros ein eydweithwyrGynifer o honom sydd yn barod i enill swllfc ar gefn gofid oes cymydog! Natur wlanenaidd iawn sydd genli M. Nid ydym wedi dysgu dioddefgarweh. Dar- ganfyddiad mwyaf y dyn crefyddol ydyw darganfod ei fod yn abl i ddioddef. Ychydig o gydymdeimlad a fedd Mr Jones gyda chwareuon yr oes. Difyrwch mwn- ciod, medd efe, ydyw difyrwch gwyr y bel droed. Y ddau beth tebycaf yn yr universe ydyw scrum y pel-droedwyr a mwnci ar bren. Arwynebol ydyw llawenydd gwyr y campau anifeilaidd. Pe cloddient i lawr yn ddyfnach i'w natur canfyddent deml Duw yno. Y mae ami i ddyn yn ymfoddloni ar redeg a neidio fel cwningen, tra y mae Duw wedi claddu teml yn ei galon. Sylw tarawiadol a wnaeth y pregethwr pan yn son am galedi bywyd yn dwyn rhin- wedd dioddefgarwch i'r golwg. Dywedir, meddai, nad oes un genedl yn magu glew os na bydd eira ar gorynau ei mynyddau. Bechgyn meddai ydyw bechgyn y tropics. Ni raid iddynt lafurio i gael bwyd—dim ond goglais tipyn ar natur. Ond pa fath ddynion ydynt? Y maent mor sal a'r bwyd a fwyt- ant heb ei enill. Gerwinder sydd yn magu cewri. Diau fod Mr E. T. Jones yn un o bregeth- wyr mwyaf poblogaidd ei enwad heddyw. Medd ddull deniadol, parabl llithrig a dawn grymus. Nid yw yn rhoddi bwyd rhy gryf i'w wrandawyr. Y mae y dognau yn gyfryw ag y gall y plentyn gwanaf mewn gras eu treulio, a'u troi yn faeth cynydd. Cafodd ef a Mr Saunders oedfaon grymus ac enein- iedig iawn-tyrfa mewn llawn hwyl yn mhob oedfa; ac nid oedd prinder amenau a diolch iddo y diwygiad mewn un cyfar- fod o fore Sul hyd yn hwyr nos Lun. Y mae cydgord perffaith cydrhwng yr eglwys gref a ymgyferfydd yn Nghalfaria a'i gweinidog llafurus, y Parch J. Griffiths. Y mae tan y diwygiad wedi bod yn llosgi yn loyw ar aelwyd yr eglwys, a llawer wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd.
--------------__-IY Diweddar…
Y Diweddar Mr William Jones, Aberdar. Pnegeth Angladdol yn Naza-eth. Meddyliwch am eich blaenoriaid y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymar- weddiad hwy." Dyna ydoedd testyn pre- geth y gweinidog, y Parch R. Williams, yn nghapel Methodistaidd, Aberdar, nos Sul diweddaf. Pregeth angladdol ydoedd i M: W. Jones, blaenor hynaf eglwys Nazareth, marwolacth a chladdedigaeth yr hwn a gof- nodwyd genym yr wythnos ddiweddaf. Y mae llawer, meddai y pregethwr, yn barod i barchu y marw ar draul diystyru y byw, yn taro y byw ag esgyrn y marw." Y mae eraill yn myned i eifchafion arall. Nid oes dim swyn iddynt hwy yn y byw. Yn mysg y meirw, yn ol eu syniad hwy, y mae y beirdd, y pregethwyr, a'r athrawon goreu. Y ffordd oreu ydvw gochel eithafion n y naill begwn a'r llall a chadw at linell y cyhydedd. Yn adnod y testyn y mae yr ysgrifenydd yn anog ei ddarllenwyr i barchu y marw yn yr un bennod y mae yn eu cymhell i roddi cyfryw deyrnged i'r byw— Ufuddhewch i'ch blaenoriaid ac ymddaros- tyngwch." Nid codi dyn fel dyn oedd am- can yr awdwr, ond dangos gras Duw yn ymddelweddu yn nghymeriad dyn da, dangos athrawiaeth y Testament Newydd yn brigo yn mywyel dilynwyr Crist. Yr oedd y diweddar frawd William Jones yn grefyddwr oedd yn cyfuno yn ei gymeriad ddoniau gwrthgyferbyniol. Yr oedd yn meddu sefydlogrwydd yn ogystal a gos- tyngeiddrwydd crefyddol. Yr oedd yn gadarn fel y graig, ac unwaith y ffurfiai ei farn, md hawdd ydoedd ei gael i newid ei feddwl. Yr oedd yn ddiysgog yn ei ym- ddygiad yn nglyn a dirwest. Yr oedd y brodyr yn y cwrdd dirwestol yn cyfeirio ato fel un oedd yn glynu wrth egwyddor hyd y diwedd. Mewn cysylltiad a Themlyddiaeth Dda, y Sons of Temperance, a chymdeith- asau dirwestol ereill, yr oedd efe fyth yr un, tra yr ydoedd amryw yn yr eglwys yn cyf- newid. Nid oedd wahaniaeth ganddo beth oedd ffurf y gymdeithas cyhyd ag yr oedd Ihvyrymwrthodiad ar y faner. Eto yr oedd gostyngeiddrwydd yn nod- wedd amI wg yn ei gymeriad. Er ei fod yn gyndyn yn ei olygiadau, hoff'ai ymgilio i'r cysgodion yn hytrach na gwthio i'r amlwg. c 11 1. Yr oedd yn eithaf boddlon i ereill gael y clychau wrth eu godreu. Ni charai efe glywed ei swn yn yr heolydd. Meddai un brawd un tro wrth geisio ei ysgogi i siarad mewn cynhadledd, Dyma ni a'n symbalau a'n tympanau yn ceisio gwneyd swn, a chwithau William Jones yn ddystaw. Codwch a siaradwch!" Ond gwell gan y brawd diymhongar ydoedd gadael i ereill siarad yn y cynhadledclau a chael eu gweled gan ddynion. Meddai grefydd lydan, eto yr oedd cryn dipyn o geidwadaeth ynddo. Nid oedd yn gyfyng yn ei olygiadau. Yr oedd wedi darllen llawer. ac yr oedd ym- gydnabyddu a gwirioneddau aml-ochrog bywyd yn ei wneyd yn ddyn llydan. Eto yr oedd yn geidwadol ac yn sefydlog hyd at fod yn ystyfnig, amhell waith. Yr oedd yn geidwadaeth naturiol; ni ellid ei arwain fel yr arweinir dyn arwynebol a bas. Yr oedd yn erwin ac hefyd yn hynaws. Gwelwyd ef droion yn tywallt deigryn dan y weinidog- aeth Ffyddlondeb ydoedd nodwedd fawr William Jones— ffyddlondeb mewn cylchoedd amrywiol. Cyfranai yn haelionus. Yr oedd hefyd yn deyrngarol i'r pwlpud, ac yn foneddigaidd tuagat weinidogion y Gair. Pan yn manv canai yr ymadawedig fel alarch nes synu aelodau y ty. Yr emyn ganai ydoedd Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy." Nid oedd wedi canu felly yn flaenorol am ysbaid tair blynedd. Darfu iddo fyw crefydd Iesu Grist yn ddirodres a diledryw, ac hedclyw y mae ei goffa melus yn perarogli cymdeithas. Wrth derfynu dymunai Mr Williams am i nodded y nefoedd gael ei estyn i blant ac wyrion y diweddar frawd, ac am i eglwys Nazareth godi dynion cyffelyb iddo. Canwyd emynau pwrpasol yn ystod y gwasanaeth. Yr oedd y pwlpud y llusernau, &c., wedi cael eu gwisgo a du o barch i'r diweddar "William Jones. Heddweh i'w lwch.
Advertising
BO R WICK'S POWDER in the "World- » ■■ ■ » Makes the Sweetest Bread, Cakes & Pastry
Winding Accident at ,Penrhiwceiber.
Winding Accident at ,Penrhiwceiber. On Saturday morning about a quarter past six o'clock—a short time after the winding engineman had commenced to let the men down the Penrhiwceiber Pit-a double-decked bond containing 28 men was being lowered when the engineman by some means failed to slacken speed in time, and as a result the cage bumped with some force against the bottom, George Hall, of Park-st., and Oliver Brown, Springfield, Misldn, Mountain Ash, received some in- juries and were taken home in conveyances. The others, who escaped with a shaking, were Thomas Beard, Springfield; James Long, Springfield J. Breen, Springfield James Christopher, Park-street; Fred Hall, Park-street; H. Morris, Glassbrook Wil- liam Jones, Walsh-street; Alfred Pritchard, Woodfield D. Williams; Thomas Long; D. Christopher David Charles Robinson William Davies, Woodfield • D. Parry and Edward Hall. There were only some 100 men gone below, and as the rest, numbering nearly 2,000, refused to go down, the man- agement brought those below to the surface and work was suspended for the day. In the evening a mass meeting of t e men was held. It was decided not to go down to the pit while the engineman was winding, it being alleged that a like mistake had been made by him about a twelvemonth ago. This resolution was communicated to the manager. It was pointed out to the men that the engineman would not be on duty during the period the men were let down nor brought up on Monday. The officials state that the engine- man is a man of great experience having been winding engineman for over 30 years and is very careful, and it would therefore be hard to punish him to the extent of depriving him of his employment for an accident. The drum was overwound to a very slight extent.
Advertising
^ALLDAYS .SEy"l Contrju't.ors to the War Cfln Buy. 1 Office, Post Office, and other v j-m or I Government Departments. m 11/ A H £ 4 8 Write for terms and Agents' S. @ B H j)tJ% 8 Address. ■ Alldays& Onions Pneumatic Engineering: Co. Ltd, g ) London Showrooms:- BIRMINGHAM. d JO, Bucklersbury, Mansion House, E.C. Notices. MR W. THOMAS, (late of Earl Wind- sor, Trecynon), begs to inform the Public that he has taken over that old- established Double Licensed House known as the Beehive Inn, Hirwain. ABSOLUTELY FREE HOUSE. WORTHINGTON AND ALLSOPPS' Burton Beers all drawn from the Wood. Also best Wines, Spirits, Cigars, &c. Commercial Travellers catered for. Sole Proprietor, W. THOMAS. Re Howell Evans, Deceased. NOTICE is hereby given that all per- .1. sons having claims or demands against the Estate of Howell Evans, for- merly of Cloth Hall, Mountain Ash, in the County of Glamorgan, but late of Penybank House, Newcastle Emlyn, in the County of Carmarthen, Gentleman, deceased, who died at Penybank House aforesaid, on the 13th day of March instant, are requested to send in to us, the undersigned, full particu- lars of such claims or demands on or be- fore the 24th day of April next. Dated this 27th day of March, 1905. W. EVAXS; GEORGE AND SONS, Newcastle Emlyn, South Wales, Solicitors for the Executors. THE GREAT SKIN CURE. BUDDEN'S S.R. SKIN OINTMENT will cure Itching after one application destroys every form of Eczema; heals old Wounds and Sores, Chilblains; acts like a charm on bad legs is infallible for Piles; pre- vents cuts from festering will cure Ringworm in a few days removes the most obstinate Eruptions and Scurvy. Boxes, 7jd. and I/I. Agents: Aberdare, W. H. JONES, 3. Victoria- square, and Emrys Evans, chemists Hir- wain, W. A. George, chemist. For posters, handbills and cards in connec- tion with concerts and all kinds of meetings, go to the LEADER Office, Market-street, Aber- dare. New Seeds. New Seeds In introducing to my customers my seeds for the coming season, I beg to thank them most heartily for their past favours, and the many proofs of their confidence in me and my goods. I beg to solicit a continuance of their kind support and patronage, and also hope they will, as they have done in the past, re- commend my Stock of Seeds to the notice of their friends. Cheaper than any other House in the Trade. Genuine only at D. Tudor Williams Fellow of the Royal Horticultural Society, London, Wholesale & Retail Seed IVlerchant, Medical Hall, Aberdare. The following excellent show varieties of Seed Potatoes to hand in fine condition. -Up-to- date, Scotch Triumph, Sir John Llewellyn, Evergood, Jenne Deane, Myatts Ashleaf (kidney), Empress Queen (kidney), Carters Royal (kidney). Edge Coat Purple (kidney), British Queen (kidney), Scotch Bruce, Ci- garette, White Hebron. Testimonials. Rheola House. Mr J CROFT, head gardener to the Right Hon. Lord Aberdare, states :-You have the largest and best stock of garden seeds I have ever come across, and of the most excellent quality. Those supplied to me last year have succeeded remarkably well. I took first prize at the Aberdare Flower Show for Giant Marrow Pea from seed sold by you. Also first prize for Cucumber. Abermellte House, Glyn Neath, August 3rd, 1904. Sir,—Having inspected your large and varied stock of garden and other seeds of every de- scription, I have much pleasure in testifying that they all have an exceedingly healthy and satisfactory appearance. Those which you supplied me with I have carefully tested, and I can bear the highest testimony to their fruit- fulness Your selections are exceed ingly good, and very suitable for these districts, and are not only suitable for large gardens, but also for the gardens of working men in general.—I am, yours sincerely, G. BULLOCK, gardener to Col. Thomas Phillips, Abermellte House, Glyn Neath. WHAT A PRACTICAL GROWER AND JUDGE SAYS :—I desire to state that your farm and garden seeds supplied to me for several years have given every satisfaction. Your "Up-to- date seed potatoes truly maintained their name in all points. It is a grand potato for the workman's plot and cottage garden, with unsurpassed quality for the gentleman's table. Under very trying circumstances last year, owing to the long drought, your peas did first class, especially the" Duke of Albany robust habit of medium height, excellent flavour, and a beautiful green colour when cooked.—E. H. BATTRAM, Parknewydd, Aber- cynon. DRINK HORNIIRTIIIANIS PURE TE In Packets only and Full Weight without +' i Wrapper. Always good alike. PRICES—1/6 TO 3/8 PER LB. Wholesale agent for Aberdare and district, T. Lloyd, 14 to 17, Commercial-street, Aberdare, and retailed by ABERDARE :—Evans, 10, Victoria-square; Harris, 12, Cardiff-street; Jones, 3, Victoria- square; Phillips, 7, Victoria-square; Evans, Royal Stores, Gadlys-road; Phillips, 15, Canon-street; Watkins, 10, Cross-street; Hiley's Cash Stores, 22, Canon-street; Davies, 82, Gadlys Road; Tom Evans, grocer, Wliit- combe-stret. TRECYNON :-Smith, 70, Mill-street. ABERAMAN: Maddy, grocer; Bees, grocer; Roberts, Provision Merchant, Lewis-street. GODREAMAN Thomas' Stores. CWMDARE Edwards, grocer, &c., and at Trecynon and Aberdare. TEETHING MADE EASY. Jones and Sorts' RED DROPS Rob teething of its terrors. They cure the fever, correct the stomach and bowel disor- ders, reduce the inflammation and relieve the irritation; they mae baby Wealthier, happier and more comfortable Jones and Sons' RED DROPS Give baby freedom from paiq. Tkey stop his fretfulrjess at qigfyt and allow pother to get uninterrupted steep. Sold in bottles lilt and 2/9 from the fol 2 lowing agents:— Aberdare—Mr Harries, chemist. Mr Emrys Evans, M.P.S., chemist, Victoria Pharmacy. Hirwain—Mr W. A. George, chemist. Mountain Ash—Mr. Williams, chemist. Mr. W. A. George, chemist. Penrhiwceiber—Mr. A, M. Jones, chemist. Abercynon-Afr, W. G, Williams, chemise. Pontypridd—Mr. Arnott, chemist Llwynypia—Mr. Richards, chemist Tonvpandy—Mr. Emrys Richards, chemist Mr. Davies, chemist. Or direct from the manufacturers on receipt of 15 stamps (1/3) post free. JQJJES & SOflS, Ghenjists, Llanidloes For posters, handbills and cards in connec- tion with concerts and all kinds of meetings, go to the LEADER Office, Market-street, Aber- dare.
Newyddion Cyffredinol.
Melldith uffern fyddo ar fy holl ber- thynasau, (Arwyddwyd) Edwin Perriman. Dyn cloff, digartref." Ysgrifenodd Perriman y geiriau hyn ar bapyr, dododd ef y tu fewn i'w het, dododd yr het ar fur sydd yn am- amgylchu glo-bwll gwag yn Abercanaid, a neidiodd i lawr y pwll. Cafwyd ei gorph yn y gwaelod wedl ei falurio yn ofnadwy. Gwada perthynasau y dyn anffodus fod dim anghydfod rhyngddynt. Bernir nad oedd yn gyfrifol am ei weithredoedd. 000 Meiriadog, yn ddiau, ydyw y bardd Cym- reig hynaf yn fyw. Y mae Meiriadog, yr hwn sydd yn cadw tafarn yn Llanfair Caereinion, yn 92 mlwydd oed. Ceidw ei dy mor dawel bron a mynachdy. Nid yw ei awen gyda'r oed wedi rhydu," Nydda gan neu gywydd yn fynych, ac ysgrifena nid ychydig i'r wasg Gymreig. Y mae yn Geidwadwr tyn mewn gwleidyddiaeth. o o o Nis gellir disgwyl i weinidogaeth Evan Roberts fod mor boblogaidd yn Lerpwl ag yn y Deheudir. Cymry y Gogledd ydyw Cymry Llynlleifiad gan mwyaf. Y mae y gogleddwr mor grefyddol a'i frawd yr Hwntwj ond nid yr un dylanwadau sydd yn apelio at y ddau. Cyrhaeddir y blaenaf drwy y deall yn benaf, y diweddaf drwy y teimlad. Nid yw y gogleddwr o natur mor gerddorol, ac nid rhwydd iawn y cludir ef ymaith ar gefn llanw miwsig-miwsig pre- gethwr na miwsig cynulleidfa. O'r ochr arall y mae yn dduwinydd cryf, a char bregethau sylweddol. Y mae ganddo ben I- pur wych, a hoffa bregethau a phenau iddynt. 0 0 0 Wedi gwasanaethu ei eglwys, ei gen- hedlaeth, a'i Dduw yn ffyddlon am 44 o flynyddau, bu farw y Parch Jonah Roberts, gweinidog eglwys Annibynol Maesyrhaf, Castellnedd, ddydd Gwener diweddaf. Yr oedd yn 78 mlvydd oed. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn. 000 Hysbysir marwolaeth Duces Abercorn, wedi cyvhaedd yr oedran teg o 92. Ar ach- lysur ei phen blwydd ddwy flynedd yn ol, galwodd yn nghyd i wledd ei holl ddisgyn- yddion y rhai a rifent 145. Yr oedd wedi bod yn ddeiliad i bum teyrn. 0 0 0 Cofus gan lawer am y Parch Henry Kennedy, ficer Plumpton, Cumberland, yr hwn a wnaeth ei hun yn enwog drwy areithio o blaid Rhyddfrydiaeth ar hyd a lied y wlad. Yr Offeiriad Radicalaidd y gelwid ef. Hunodd yn yr angeu nos Iau diweddaf. Yr oedd y gwr parchedig wedi bod yn gurad yn y Werddon ac yn genhadwr yn Zealand Newydd. 000 Nos Sadwrn diweddaf yr oeddis wedi trefnu i gael un o gyfarfodydd Evan Roberts ar gyfer esgeuluswyr yn unig. Nid oedd neb i fyned i mewn ond rhai heb fod yn aelodau eglwysig-i ba rai y rhoddid tocynau cochion-ac ychydig gyfarwyddwyr o'r eglwysi. Yn ystod y cyfarfod, pan ofyn- wyd i'r sawl oedd yn aelodau crefyddol sefyll ar eu traed, safodd tair rhan o bedair o'r cynulliad. 000 Yn yr un cyfarfod yr oedd dychweledigion yn dyfod i mewn i rwyd yr efengyl yn llu, a'r gwasanaeth yn hwyliog dros ben, pan yn sydyn y gwelwyd cwmwl ar wedd y diwyg- iwr. Gorchymynodd iddynt beidio canu na gweddio yn rhagor, am y rheswm, meddai, fod rhwystr yn y cyfarfod. Y rhwystr, meddai yn mhellach. ydoedd presenordeb pump o ddynion oedd yn eiddigeddus am fod' cynifer o eneidiau yn cael eu hachub. Ac yr oedd tri o'r pump yn bregethwyr! Sicrhai fod goruchwyliaeth lem yn aros y pump eiddigeddus, a gorchymynai iddynt blygu neu fyned allan. Bygythiai eu henwi, ond ni wnaeth, ac ni ddarganfyddwyd y rhai a wrthodasant blygu. Y mae pobl dda Lerpwl yn para i ddyfalu pwy a allant fod. 000 Un o ragorfreintiau genius ydyw ei fod uwchlaw beirniadaeth. Y mae perchen athrylith—a pherchen ysbrydoliaeth hefyd -yn gwneyd camgymeriadau fel dynion ereill. Ond ni wel eu haddolwyr eu beiau, ac hyd yn nod os gwelant hwy, ystyriant mai rhywbeth yn ymylu ar gabledd ydyw eu pigo allan. 0 0 0 Dyna y rheswm yn ddiau fod dynion mor hwyrfrydig i feirniadu Evan Roberts, waeth pa mor anghvson na pha mor afresymol yr ymddengys ei weithredoedd neu ei eiriau. Ystyriant ei fod yn llestr etholedig arbenig C. r, gan Dduw, ac o ganlyniad yn anffaeledig. Ai nid Pabyddiaeth yw peth fel yna ? A chaniatau fod pump o wyr cenfigenllyd yn y cyfarfod dan sylw, fel y mynai y diwygiwr fod, paham y rhaid i rwystr bychan o'r fath daflu cerbyd achubiaeth oddiar y cledrau pan yr oedd yn myned rhagddo mor hwylus ? A oes awdurdod Ysgrythyrol dros y cyfryw ddamcaniaeth ? Yn mhellach, ar ba awdur- dod yr oedd y diwygiwr yn gallu sicrhau y gynulleidfa fod ffenestri y nefoedd wedi eu cau yn erbyn eu gweddiau ? 000 Yn nglyn a'r cyhuddiad o eiddigedd, nis gallwn gredu o gwbl fod tri phregethwr yn cenfigenu am fod yr ysbryd yn gweithio drwy offerynoliaeth neillduol. Tueddu i greu drwgdybiaeth ac anghydfod y mae cyhuddiadauvagllG fel yna. Gwyddom oil ganlyniad indictment o'r fath yn Nowlais. Os ydyw y diwygiwr mewn ffordd i enwi y sawl sydd, yn ol ei haeriad ef, yn rhwystr- wyr. buasai lawer yn well iddo wneyd byny ar unwaith er dwyn pethau i bwynt drwy gael y pechaduriaid i blygu neu fyned J allan," chwedl yntau.