Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

ER COFFA ANWYL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ER COFFA ANWYL Am Mrs. Owen, priod Mr. David Owen, Ia-arolygwr No. 1 Colliery, Bwllfa, yr hon a fu farw yn 50 oed, ac a gladdwyd yn Mynwent Gyhoeddus Aberdar, Hydref 3ydd, 1916. Prudd yw'm testyn, yn anffodus— Angeu gipiodd chwaer i'r bedd, Ond mae'i henaid yn mharadwys, Yn y wlad ceir bythol hedd; Gwraig a mam rinweddol gollwyd, Un oedd ffvddlon a dinam, Galar sydd yn mro ac aelwyd Ar ol priod, tyner fam. Carodd yr Efengyl ddwyfol, Ffyddlon fu yn moddion gras, Salodd. dr08 yr lawn tragwyddol, Ac addolodd gyda bias; Dros ei Cheidwad ymddatblygodct Aiddgar gariad diymwad, Heddyw cana mewn gorfoledd Gyda chor y nefol wlad. Haelionusrwydd oedd ei nodwedd, Helpu'r gwan, y trist, a'r tlawd, Gwneud daioni oedd yn rhinwedd Ynddi yma is y rhawd; Ni anghofir ei serchogrwydd A'i thiriondeb yn mhob man, 'Roedd ei sel yn Ilawn tanbeidrwydd, Sel y Cristion oedd ei rhan. Mrs. Owen anwyl, bellach, Huno wna mewn tawel fedd, Hyd nes seinia'r udgorn olaf- Sain gorfoledd dwyfol hedd; Pan y cwyd eneidiau'n dystion 0 anfeidrol rym y Groes, Byth i drigo'n mhlith angylion Mwyach heb un cur na loes. JOHN DAVIES (Cawr). 10 Whitcombe St., Aberdar.

DEIGRYN HIRAETH

Nodion.

Advertising

Cymrodorion Aberdar.

I Bethesda, Abernant.

Scraps.

Trecynon and Llwydcoed Notes.

Aberdare Tribunal.1

Conscientious Objector and…

;Cwmbach Co-op. Cases.

Advertising

Nodion.